Os ydych chi’n defnyddio iPhone i wrando ar bodlediadau mae’n debyg yr ydych wedi dechrau gwrando trwy App Podlediadau Apple.
Mae’r App yn gweithio yn iawn ond mae ’na gymaint o apiau Podlediadau ar gael ar gyfer iOS ac Android.
Mae ’na apiau ar gael sydd yn galluogi chi i ddarganfod Podlediadau newydd, rhannu podlediadau, a mwy.
Mae’r erthygl yma yn edrych ar yr Apiau mwyaf poblogaidd ar iOS ac Android.
Apiau Podlediadau iOS ac Android
Apiau Podledu sydd ar gael ar ddyfeisiadau iOS ac Android.
RadioPublic
Am ddim ar iOS • Am ddim ar Android
Mae RadioPublic ar gael am ddim ar iOS ac Android. Does dim angen cyfrif neu logio mewn – dechreuwch wrando yn syth!
Fe allwch chi lawrlwytho podlediadau i wrando, ychwanegu ffrydiau RSS eich hun a lot mwy.
Pocket Casts
$3.99 ar iOS • $3.99 ar Android
Mae Pocket Casts yn gret ar gyfer pobol sy’n gwrando ar nifer fawr o bodlediadau gwahannol.
Mae’n bosib rheoli gyda Apple Watch ac mae’n app dda ar gyfer pobol sy’n gwrando ar draws dyfeisadau gwahannol.
Castbox
Am ddim ar iOS • Am ddim ar Android
Mae Castbox yn app newydd ac mae ’na adolygiadau da iawn ar gyfer yr app.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Castbox wedi ennill gwobrau gan Google ac Apple.
Mae’r app ar gael ar iOS ac Android a hefyd mae ’na Sgil ar gyfer Alexa.
Podbean
Am ddim ar iOS • Am ddim ar Android
Mae Podbean yn gwmni podledu sydd hefyd yn cynnwys app podlediadau a sgil Alexa.
Mae’r app yn hawdd defnyddio ac mae ’na chanoedd o adolygiadau 5 seren ar gyfer yr app.
Mae’r app hefyd yn galluogi chi i recordio, creu a llwytho podlediad eich hun.
Stitcher
Am ddim ar iOS • Am ddim ar Android
Mae Stitcher ar gael am ddim ond mae ’na fersiwn uwch ar gael lle mae angen talu i gael gwared ag hysbysebion.
TuneIn Radio
Am ddim ar iOS • Am ddim ar Android
Mae app TuneIn Radio yn gweitio gyda CarPlay, Apple Watch, a Chromecast.
Mae’r app yn gweithio gyda gorsafoedd radio yn ogystal â phodlediadau.
Spotify
Am ddim ar iOS • Am ddim ar Android
Mae Spotify bellach wedi creu adran podlediadau i gydfynd gyda’r gerddoriaeth ar y gwasanaeth.
Os ydych yn creu podlediad eich hun mae’n ddigon hawdd i ofyn i Spotify i restru’r podlediad yn yr app.
Apiau Podledu iOS / Apple
Overcast
Castro 3
Downcast
PodCruncher
iCatcher
Castaway 2
Apple Podcasts
Mae Apple Podcasts yn dod am ddim ar eich iPhone.