Pam dylech chi buddsoddi mewn meicroffon da ar gyfer eich podlediad?.

Meicroffon sydd yn cael y dylanwad mwyaf ar ansawdd eich recordio.

Mae meic da yn gallu costio cannoedd o bunnoedd ond yn lwcus mae ‘na offer da ar gyfer unrhyw gyllid.

Meic rhad

Mae rhain yn meiciau rhad ond peidiwch a phoeni, mae Y Pod ond yn argymell offer ansawdd da!

Mae’r meiciau yma yn rhad ac yn hawdd i osod lan, ac yn addas ar gyfer rheini sydd yn dechrau podlediad.

Samson Q2U

Mae’r meic yma yn addas ar gyfer dechrau recordio podlediad.

Mae’r Samson Q2U yn addas ar gyfer cysylltiad XLR (mewn i desg gymysgu) a USB (ar gyfer cyfrifiadur). Mae’r safon yn well na meic headset neu meic mewnol eich cyfrifiadur neu ffon symudol.

Samson Q2U

Mae’r cysylltiad (XLR & USB) yn golygu eich bod yn gallu cysylltu yn syth mewn i gyfrifiadur yn ystod y dyddiau cynnar ac yna wrth ddatblygu’r offer newid i’r XLR ar gyfer offer cymysgu.

 

FIFINE-MIC

Yn ddiweddar wnaethon ni fynd ati i brynnu meic FIFINE oddi ar Amazon. Mae’r Meic yn rhad iawn ac yn hawdd i osod lan.

Mae’r canlyniadau a safon y sain wedi bod yn wych. Mae’n rhaid troi y gain reit lawr ar gyfer y meic ond byddwn yn awgrymu’r meic yma i unrhywun sydd eisiau recordio podlediad un person neu cyfweliadau ar-lein.

Mae’r pop-filter yn gwneud dipyn o wahaniaeth i’r safon hefyd.


ATR2100

Mae’r ATR2100 yn debyg iawn i’r Samson Q2U. Does dim llawer o wahaniaeth, heblaw am y ffaith bod y Samson bach yn rhatach.

PopFilter

Mae pop filter yn helpu gwella’r ansawdd wrth ddefnyddio’r 2 meic cyntaf yma.

Rode Smartlav+

Mae’r Rode Smartlav+ yn meic tie-clip mic wedi adeiladu ar gyfer ffonau clyfar. – mae’n gweithio’n gret ar gyfer ffon gyda plyg 3.5mm (neu 3.5mm > lightning adapter ar gyfer iPhone newydd). Mae’r meic yma yn dda 

  1. Mae’n fach! Gallwch cael y meic yma yn eich bag offer trwy’r amser “rhag ofn”.
  2. Mae Ansawdd y sain yn dda.
Rode Smartlav+

Mae’r Rode Smartlav+ yn gallu cael ei defnyddio gyda’rSC6 adapter sy’n golygu defnyddio 2 meic mewn i’r un ffon! 

Gyda 2 Smartlav ac un SC6 adapter mae gyda chi offer ar gyfer recordio cyfweliadau sydd yn ffitio yn eich poced.

BOYA BY-M1

Mae’r BOYA BY-M1 yn Meic clip-on arall sydd defnyddiol wrth recordio ar leoliad ac ychydig yn rhatach na’r rode smartlav+.

Meic Ansawdd Uchel

Mae’r meicroffonau yma yn addas ar gyfer podlediadau o safon uchel. Nid yw’r meicroffonau yma rhy gostus ac mae ansawdd y sain yn uchel.

Y lefel uwch na hyn yw’r lefel proffesiynol sydd fel arfer mewn stiwdio recordio – ar y lefel yna mae angen gwario dipyn o arian. 

Mae’r lefel Meic Ansawdd Uchel yn perffaith ar gyfer podlediadau.

Blue Yeti

Mae’r Blue Yeti yn meic USB “condenser” ac yn un o’r meics mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae tua £120 ac ar gael mewn wahannol lliwiau.

Blue Yeti

Mae’r Blue Yeti yn hawdd i ddefnyddio ac yn recordio sain o safon uchel.

Mae’n bosib gosod y Yeti i recordio ar ben eich hun, recordio cyfweliad ac hefyd recordio grwp. Mae’r Blue Yeti yn meic dda ar gyfer podlediad. 

I gael y safon gorau phosib mae’n rhaid bod yn agos at y meic – felly mae “pop shield” neu “wind cover” yn gweithio’n dda.

Mae’r Blue Yeti yn dod gyda stondin ei hun felly does dim angen meddwl am brynnu offer ychwanegol.

Rode Procaster

Mae’r meicroffon Rode Procaster (XLR) a fersiwn USB Rode Podcaster yn meicroffon sy’n cael ei defnyddio gan bodledwyr. Mae’r ddau yn meicroffon “dynamic”.

Mae pris y meic ychydig yn uwch enwedig wrth gorfod prynnu offer i dal y meic a shockmount ond mae’r safon yn well na meic rhad.

Mae meic “dynamic” yn well os nad ydych yn stiwdio recordio – mae nhw’n pigo lan llai o swn cefndir.

Os ydych chi angen meic o safon uchel ond yn gwybod byddwch chi byth yn defnyddio offer cymysgu efallai y Rode Podcaster yw’r dewis gorau.

Mae’r Rode Podcaster yn meic “dynamic” tra bod y Blue Yeti yn “Condensor” felly mae’r Podcaster yn well mewn llefydd swnllyd neu ystafelloedd sydd ddim wedi addasu ar gyfer recordio sain.

Meic Safon Proffesiynol 

Ar y lefel yma mae angen dipyn o fuddsoddiant a stiwdio recordio o safon.

Heil PR40

Mae’r Heil PR40 yn cael ei gweld gan nifer o bodledwyr fel y meic ar gyfer recordio podlediadau.

Er y gost… mae’r Procaster neu’r Podcaster gan Rode  neu’r Blue Yeti yn roi canlyniadau tebyg yn dibynnu ar eich llais.

Shure SM7b

Mae’r Shure SM7b yn meic o safon broffesiynol ac yn meic o’r ansawdd gorau. Mae’n meic anhygoel ac yn recordio sain o’r safon uchaf.

 yn meic o safon broffesiynol ac yn meic o’r ansawdd gorau. Mae’n meic anhygoel ac yn recordio sain o’r safon uchaf.

Mae angen stiwdio o safon uchel i gael y gorau allan o’r meic yma.

Rode NT1-A

Mae’r Rode NT1-A yn meic sy’n cael ei defnyddio gan nifer fawr o bodledwyr ac yn recordio sain o safon uchel iawn. Mae’r pris yn resymol iawn (tua £160) ac mae’n bobolgaidd iawn. 

Mae’r NT1-A yn meic XLR – mae angen stondin ac offer cymysgu a recordio ychwanegol.

Os ydych chi eisiau mynd lan i’r lefel profesiynol a gyda offer cymysgu a recordio i gysylltu’r meic bydd yn man cychwyn da i ddefnyddio’r meic yma.

Electro-Voice RE20

Mae’r Electro-Voice RE20 yn meic gyda dilyniant ffyddlon iawn.

Mae’r meic yn un o’r rhai gorau ar gyfer creu podlediadau neu recordio sain.

Meic Dynamic neu Condensor 

Beth yw’r gwahaniaeth?

Mae meic condensor yn pigo lan dipyn o swn cefndir felly mae angen lle recordio tawel.

Mae angen pwer allanol ar meic condensor.

I fod yn hollol onest ar gyfer podlediad mae offer cymysgu bach gormod.

Os ydych chi yn bwriadu recordio podlediad oddi ar eich desg neu bwrdd ac mewn lleoliad tawel, bydd meic condenser yn iawn. Meic rhad USB  yw’r Samson C01u a meic safon uchel yw’r Blue Yeti.

Darllenwch mwy am Dynamic neu Condensor.

Y meic gorau ar gyfer eich podlediad?

Mae pob podlediad yn wahanol ac mae’n rhaid meddwl yn ofalus cyn buddsoddi mewn meic sy’n addas ar gyfer eich podlediad.

Mae Y Pod yn hoff iawn o’r Blue Yeti ar gyfer safon a gwerth eich arian ond mae yna gymaint o offer recordio arall ar gael.

Os ydych chi angen cyngor ar gyfer recordio eich podlediad cysylltwch.

Pa meicroffon ar gyfer eich podlediad?