Gyda o leiaf un mewn pump o gartrefi Prydain yn defnyddio seinydd clyfar (smart speakers), mae’n dechnoleg sy’n rhan o fywyd dyddiol mwy a mwy ohonom.

Mae S4C ac Y Pod yn falch felly, o lansio sgìl newydd o’r enw Welsh Language Podcasts sy’n caniatáu i ddefnyddwyr Alexa chwilio am gynnwys penodol trwy siarad Cymraeg.

Sgíl Alexa - Welsh language Podcasts

“Fel mae’r enw yn awgrymu, casgliad o bodlediadau Cymraeg eu hiaith yw Welsh Language Podcasts. Ond, y peth mwya arbennig yw, unwaith mae’r sgìl ar agor, gallwch bori trwy’r cynnwys trwy sgwrsio hefo Alexa yn Gymraeg” meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C.

“Dyma’r tro cyntaf erioed i dechnoleg o’r fath gael ei ddatblygu ar system Alexa, felly mae’n rhywbeth mae S4C, Mobilise Cloud Services – sef y cwmni o Abertawe a wnaeth ddatblygu’r technoleg ac Y Pod – sy’n darparu’r cynnwys, yn falch iawn ohono.

“Mae’r sgìl arloesol yma ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd gyda dyfais Alexa, fel Echo neu Dot. Mae’n gweithio mewn ffordd tebyg i Ap, felly yr oll sydd angen gwneud i’w ddefnyddio yw gosod y sgìl ar eich dyfais.”

“Ar ôl misoedd o gynllunio a threialu mae’n wych gweld Welsh Language Podcasts yn fyw” meddai James Carnie o’r cwmni Mobilise.

“Cawsom ambell her wrth geisio gwneud yn siŵr bod Alexa yn deall gorchmynion Cymraeg, ond mae’r holl waith wedi talu ar ei ganfed nawr fod Amazon wedi cymeradwyo Welsh Language Podcasts.

“Gobeithio bydd pobl yn defnyddio’r sgìl i ddangos fod galw am wasanaethau pellach o’r fath ar Alexa. Mae’n gyffrous meddwl gall hyn sbarduno mwy o ddatblygiadau technoleg llais yn y Gymraeg” ychwanegodd James.

“Buodd fy mab a merch sydd yn eu harddegau yn helpu gyda’r profi – dydyn nhw methu aros i’w ffrindiau gael tro. Gan fod fy ngwraig a fy mhlant i gyd yn siarad Cymraeg yn rhugl, mae’r sgwrs gartref yn Saeneg yn aml er fy mudd i. Ond bydd hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud gyda’n gilydd, yn Gymraeg, gan ei fod yn ffordd wych i mi ddysgu ac ymarfer.”

Gwasanaeth sy’n tynnu podlediadau Cymraeg at ei gilydd mewn un lle yw Y Pod. Gyda dros 70 o bodlediadau, mae rhywbeth at ddant pawb.

Dywed Aled Jones o Y Pod “Gyda mwy ohonom yn chwilio am bethau i’n difyru wrth aros gartref, mae Ffit Cymru a Clic o’r Archif yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd, yn ogystal â Phodlediadau sy’n helpu dysgwyr fel Gair Cymraeg y Dydd a Pigion (Highlights for Welsh learners).

“Mae podlediadau cerddoriaeth, chwaraeon, materion cyfoes, comedi a mwy wedi eu casglu ar Y Pod. Gallwch chwilio fesul categori, neu ofyn i Alexa ddewis rhywbeth drosoch chi os ydych chi’n teimlo’n lwcus.”

Mae datblygiad o’r fath yn amserol iawn, gan fod disgwyl y bydd cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sy’n defnyddio technoleg llais oherwydd y coronafeirws. Mae dyfais o’r fath yn cael ei gweld fel rhywbeth sy’n llawer mwy hylaw na dyfais sydd angen ei gyffwrdd.

“Os oes gennych ddyfais Echo neu Dot, dyma gyfle gwych i fod yn rhan o rhywbeth arbennig a siarad Cymraeg gyda Alexa. Gallwch hyd yn oed ei wneud drwy ap Alexa ar eich ffôn clyfar. Ma’n swreal!

“Rhowch gynnig arni, archwiliwch y cynnwys gwych sydd ar gael a gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael sêr neu adolygiad” meddai Aled.

Mae Welsh Language Podcasts ar gael trwy Amazon

Am ragor o wybodaeth ewch i http://ypod.cymru/alexa

Gallwch ddod o hyd i bodlediadau S4C ar http://s4c.cymru/podlediadau