Crëwyd Y Pod Cyf. gan yr ymgynghorydd digidol profiadol Aled Jones.

Aled Jones - Cyfarwyddwyr Y Pod Cyf.

Mae Aled yn gallu cyd-weithio gyda chi i recordio, cynhyrchu a hyrwyddo eich podlediadau.

Gyda dros ugain mlynedd o weithio ar brosiectau digidol ar gyfer y BBC, mae Aled yn arweinydd digidol a chynhyrchydd sydd yn frwdfrydig am dechnoleg.

Yn arbenigo yn cynnwys digidol Cymraeg mae Aled wedi gweithio ar brosiectau digidol a gwasanaethau mwyaf y BBC ac sydd wedi siapio’r byd darlledu digidol yn Gymraeg.

Mae ganddo brofiad helaeth o greu cynnwys digidol ar ffurf graffeg, fideo, sain ar gyfer radio a podlediadau.

Fel cynhyrchydd mae Aled wedi cynhyrchu a chreu rhaglenni radio a podlediadau ar gyfer BBC Radio Cymru a BBC Sounds.

Yn wreiddiol o gefndir technegol fel datblygydd gwefannau mae Aled wedi gweithio ar brosiectau digidol mawr i’r BBC mewn amryw swyddi sydd yn cynnwys datblygydd, cynhyrchydd, arweinydd digidol a rheolwr prosiect technegol.

Trwy weithio ar rai o frandiau a gwasanaethau mwyaf y BBC, mae Aled wedi chwarae rhan ganolog mewn twf gynulleidfa BBC Cymru gan gyrraedd miliynau o ddefnyddwyr.

Sgiliau allweddol:

+ Cynhyrchydd Radio / Podlediadau / Fideo.

+ Golygydd / cynhyrchydd fideo ffurf fer.

+ Cynhyrchydd cynnwys cyfryngau cymdeithasol.

+ Strategydd digidol a chyfryngau cymdeithasol.

+ Podledu.

+ Cynhyrchu rhaglenni radio.

+ Defnyddio stiwdio radio.

+ Cynhyrchu fideo a sain.

+ Rheolwr prosiect technegol.

+ Optimeiddio ar gyfer peiriannau chwilio.

+ Profiad y defnyddiwr digidol.

+ Dylunio a datblygu gwefannau.

+ Dadansoddi data.

+ Hyfforddiant digidol.

Linkedin: https://www.linkedin.com/in/aledhjones/