Pa amser y dylech chi cyhoeddi Podlediad?

Mae cwmni Megaphone wedi dadansoddi’r data mewn adroddiad ar eu gwefan i weld yr amser gorau i gyhoeddi Podlediad.

Mae’r cwmni yn edrych i weld os oes yna gysylltiad rhwng yr amser cyhoeddi a’r amseroedd mae pobol yn lawrlwytho Podlediad.

Amseroedd Efrog Newydd mae’r cwmni yn defnyddio ond mae’r data yn debyg iawn i’r patrwm ar draws y Deyrnas Unedig.

Wrth ddadansoddi’r data mae Megaphone yn dod i’r casgliad ar fore Mawrth am 5 yw’r amser gorau i gyhoeddi Podliedad ac mae’r mwyafrif yn lawrlwytho Podlediad rhwng 2 a 6 y bore.

Mae Y Pod wedi bod yn arbrofi dipyn gyda’r amseroedd gorau i gyhoeddi ar hyd y blynyddoedd ac wedi gweld patrwm tebyg gyda lawrlwythiadau yn gynnar y bore wrth i bobol troi at eu ffonau ar ol codi.

Mae ’na lwyth o bobol amser cinio yn lawrlwytho rhwng 12 a 1:30 y prynhawn wrth ymateb i gyfryngau cymdeithasol, mae’r patrwm yma yn digwydd eto rhwng 8 a 10 y nos wrth i bobol gwrando cyn troi at y gwely.

Am fwy o wybodaeth – cysylltwch.

Adroddiad Cwmni MegaPhone – What Time Should You Publish Your Podcast?

Yr amser gorau i gyhoeddi Podlediad…