Ffeil sain a ddarperir dros y rhyngrwyd yw podlediad.

Mae podledu yn eich galluogi i dderbyn pennod ddiweddaraf eich dewis raglen yn awtomatig cyn gynted ag y bo ar gael. Mae angen i chi ’danysgrifio’ er mwyn derbyn podlediad, proses nid annhebyg i danysgrifio i gylchgrawn sydd wedyn yn cael ei anfon atoch yn wythnosol. Medrwch roi’r gorau i dderbyn y ffeiliau ar unrhyw adeg.

Er mwyn tanysgrifio i bodlediad mae angen i chi gael cyswllt rhyngrwyd a meddalwedd podledu sydd fel arfer ar gael yn rhad ac am ddim.

Sut mae Y Pod yn gweithio?

Mae’r prosiect Podlediadau yn dibynnu ar ffrwd RSS eich Podlediad.

Os nad oes yna ffrwd RSS ar gael mae’n anoddach ond nid amhosib i ni ddilyn eich podlediad.

Beth yw RSS?

Ystyr RSS ‘Really Simple Syndication’. Trwy ddefnyddio RSS medrwch weld pa ddeunydd newydd sydd wedi ei osod ar y rhyngrwyd.

Medrwch gael y penawdau newyddion diweddaraf, erthyglau, lluniau ac wrth gwrs podlediadau, cyn gynted ag y maent yn cael eu cyhoeddi heb fod angen i chi fynd ati i edrych bob dydd.

Er mwyn gwneud hyn rhaid i chi danysgrifio i ddogfen RSS, a elwir yn ‘ffrwd’ weithiau, trwy ddefnyddio ’darllenwr ffrwd’. Darn o feddalwedd yw hwn sy’n archwilio’r ffrydiau RSS er mwyn dod o hyd i ddeunydd newydd.

Yn syml iawn i gychwyn y tanysgrifiad dim ond nodi’r ffrwd sydd ei angen arnoch yn y feddalwedd ac fe wnaiff y meddalwedd y gweddill i chi.

Er mwyn derbyn podlediad bydd angen meddalwedd podlediadau arnoch.

Rydych yn tanysgrifio i’r podlediad trwy nodi cyswllt y ffrwd yn eich meddalwedd. Mae hyn yn cychwyn y broses danysgrifio. Mae’r meddalwedd yn chwilio’n gyson wedyn ar ffrydiau yr ydych wedi tanysgrifio iddynt, gan lawrlwytho unrhyw benodau newydd.

Beth yw mp3?

Fformat digidol cerddorol poblogaidd ar gyfer ffeiliau sain yw MP3 sy’n gymharol fach o ran maint ond o safon gymharol uchel.

Mae hyn yn ei wneud yn fformat addas iawn ar gyfer ei lawrlwytho o’r we.

Manylion Tanysgrifio

Bydd angen meddalwedd podledu neu ddarllenwr ffrwd RSS er mwyn Tanysgrifio.

Copïwch a phastiwch y cyswllt o’r enw “Tanysgrifio” i mewn i’ch meddalwedd podledu neu ddarllenwr ffrwd.

A oes rhaid i mi danysgrifio er mwyn gwrando?

Na, os fyddai’n well gennych beidio tanysgrifio, medrwch gwrando ar benodau unigol o bodlediad.

Soundcloud – RSS?

Dyma gyfarwyddiadau gan SoundCloud sut i greu ffrwd RSS ar gyfer eich podlediad.

Creu RSS ar gyfer eich podlediad

Ychwanegu Traciau SoundCloud i’r RSS

Mix Cloud

Yn anffodus, nid yw Mix Cloud yn creu ffrwd RSS.

Mae’n bosib cynnwys eich Podlediad ar ein gwefan – cysylltwch i wybod mwy.

Help a chymorth gan Y Pod

Ewch i’r dudalen Help a Chymorth i wybod mwy am sut i gael eich Podlediad ar wefan Y Pod.

Mae ’na wybodaeth am sut i gynhyrchu a chyhoeddi Podlediad yn ein blog.