-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Ar y Dibyn Podcast

Podlediad Ar y Dibyn Podcast

Podlediad yn trafod dibyniaeth a'r effaith mae sesiynau creadigol Ar y Dibyn yn eu cael ar unigolion sydd wedi neu sydd yn profi dibyniaeth. Trwy sgyrsiau, myfyrdodau ac ymarferion creadigol, mae Mari Elen ac Iola Ynyr yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am brosiect Ar y Dibyn, a lledaenu’r neges bod creadigrwydd yn gallu helpu unigolion ddygymod â phoen a thrawma. Nid gwendid ydy dibyniaeth, ond symptom. Welsh language podcast to raise awareness of the 'Ar y Dibyn' creative project supporting those affected by addiction.

Gwefan: Podlediad Ar y Dibyn Podcast

RSS

Chwarae Podlediad Ar y Dibyn Podcast

Pennod/Episode 4 gyda/with Mari Elen Jones + gwestai/guest Alaw

Ym mhennod olaf y gyfres fer hon, mae Mari'n sgwrsio gydag un o gyfranogwyr y prosiect, Alaw. Yma, mae'n trafod pa mor arwyddocaol oedd cael bod yn rhan o'r prosiect yng nghanol y cyfnod clo, y profiad o wrando a rhannu profiadau gyda chyfranogwyr eraill, a dysgu amdani hi ei hun trwy'r gweithdai. ​

RHYBUDD: Mae’r podlediad yma yn trafod themâu dwys fel dibyniaeth, â all beri gofid i rai gwrandawyr. Nid yw'n addas i blant. Os ydych chi wedi'ch effeithio gan yr hyn sy'n cael ei drafod, mae rhestr o gysylltiadau ar gyfer cymorth pellach ar ein gwefan: https://theatr.cymru/prosiectau/ar-y-dibyn-1/

------------

In the last episode of this short podcast series, Mari talks to Alaw, one of the participants of the project. Here, she tells us about the benefits of participating in the project during the lockdown, the process of listening to others and sharing her own experiences, and learning more about herself through the workshops. 

WARNING This podcast contains strong adult themes such as addiction and depression that may upset some listeners. Not suitable for children. If you have been affected by the content of this podcast, we have information on additional support on our website: Theatr Genedlaethol Cymru | Ar y Dibyn

Mon, 20 Jun 2022 23:00:54 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Podlediad Ar y Dibyn Podcast

Pennod/Episode 3 gyda/with Mari Elen Jones + gwestai/guest Carwyn Jones

Ym mhennod 3, mae Mari Elen yn cael cwmni un o gwnselwyr y prosiect, Carwyn Jones. Yn ystod y sgwrs, mae Carwyn yn trafod yr hyn wnaeth ei ddenu i fod yn rhan o'r prosiect fel cwnselydd, ei brofiad uniongyrchol fel person mewn gwellhad o ddibyniaeth, ac ail-ddarganfod ei greadigrwydd trwy'r sesiynau. 

RHYBUDD: Mae’r podlediad yma yn trafod themâu dwys fel dibyniaeth, â all beri gofid i rai gwrandawyr. Nid yw'n addas i blant. Os ydych chi wedi'ch effeithio gan yr hyn sy'n cael ei drafod, mae rhestr o gysylltiadau ar gyfer cymorth pellach ar ein gwefan: https://theatr.cymru/prosiectau/ar-y-dibyn-1/

---------------------------------------

In Episode 3, one of the counsellors of the project, Carwyn Jones, keeps Mari Elen company. During their conversation, Carwyn discusses what motivated him to become part of the project as a counsellor, his own experience in recovery from addiction, and rediscovering his creativity during the sessions.

WARNING This podcast contains strong adult themes such as addiction and depression that may upset some listeners. Not suitable for children. If you have been affected by the content of this podcast, we have information on additional support on our website: Theatr Genedlaethol Cymru | Ar y Dibyn

Mon, 30 May 2022 23:00:14 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Podlediad Ar y Dibyn Podcast

Pennod/Episode 2 gyda/with Mari Elen Jones + gwestai/guest Iola Ynyr

“Creu heb feirniadaeth…”

Yr wythnos hon, mae Mari Elen ac Iola Ynyr yn eich arwain chi trwy rhai o’r gweithgareddau sy’n rhan o sesiynau creadigol Ar y Dibyn. Cewch gyfle i fyfyrio, ysgrifennu a gwrando ar waith creadigol gafodd ei greu trwy’r prosiect.

Oherwydd themau dwys y podlediad, efallai y byddwch yn gweld y gweithgareddau yn anodd i’w cwblhau. Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch, ewch i’n gwefan am restr o gysylltiadau pwysig: https://theatr.cymru/prosiectau/ar-y-dibyn-1/

“Express your creativity without judgement...”

This week, Mari Elen and Iola Ynyr lead you through some of the activities that are part of an Ar y Dibyn creative workshop. You’ll have a chance to meditate, write and listen to some of the work that’s been created through the project.

As the themes of this podcast may be upsetting for some, you may find it difficult to participate in these activities. If you feel you need any additional support, please head to our website for a full list of helpful contacts: https://theatr.cymru/prosiectau/ar-y-dibyn-1/


Gwyliwch/Watch: Gobinday Mukunday - Myfyrio Cychwynnol Sesiynau Ar y Dibyn Opening Meditation - YouTube

Tue, 10 May 2022 11:30:50 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Podlediad Ar y Dibyn Podcast

Pennod/Episode 1 gyda/with Mari Elen Jones + gwestai/guest Iola Ynyr

‘Mae Ar y Dibyn yn gyfle i ti fynd reit at ymyl y clogwyn ‘na, ac ewyllysio dy hun i ddychmygu bod ti’n gallu hedfan.’

Ym mhennod gyntaf y gyfres, mae Mari Elen yn sgwrsio gyda sylfaenydd y prosiect, Iola Ynyr. Mewn sgwrs agored rhwng y ddwy, cawn ddysgu mwy am brofiad Iola, sut cafodd ei sbarduno i ddatblygu’r prosiect a’r effaith mae’r sesiynau creadigol wedi cael ar y ddwy.

RHYBUDD: Mae’r podlediad yma yn trafod themâu dwys fel dibyniaeth, â all beri gofid i rai gwrandawyr. Nid yw'n addas i blant.

------------

‘Ar y Dibyn allows you to stand on the precipice and will yourself to believe that you can fly.’

In the first episode of the series, host Mari Elen talks to the founder of the project Iola Ynyr. In an open and heartfelt conversation, we learn more about Iola’s experiences, what sparked her to start the project and the effect the creative sessions have had on both.

WARNING This podcast contains strong adult themes such as addiction and depression that may upset some listeners. Not suitable for children. 

Tue, 26 Apr 2022 01:30:14 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Podlediad Ar y Dibyn Podcast

Trailer | Podlediad Ar y Dibyn Podcast

Podlediad yn trafod dibyniaeth a'r effaith mae sesiynau creadigol Ar y Dibyn yn eu cael ar unigolion sydd â phrofiad o ddibyniaeth. Trwy sgyrsiau, myfyrdodau ac ymarferion creadigol, mae Mari Elen ac Iola Ynyr yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am brosiect Ar y Dibyn, a lledaenu’r neges bod creadigrwydd yn gallu helpu unigolion i ddygymod â phoen a thrawma. Nid gwendid ydy dibyniaeth, ond symptom.

A Welsh language podcast discussing addiction and the effect of the 'Ar y Dibyn' creative sessions on individuals with experience of addiction. Through conversation, reflection and creative practice, Mari Elen and Iola Ynyr hope to raise awareness of the Ar y Dibyn project, and to spread the word that creativity can help individuals to overcome pain and trauma. Addiction is a symptom, not a weakness. 

Pennod 1 ar gael/Episode 1 available 26 Ebrill/April

Theatr Genedlaethol Cymru | Ar y Dibyn

Tue, 19 Apr 2022 10:17:59 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch