-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Clic o'r Archif

Clic o

Sgwrs ddychanol am rai o raglenni archif bocs sets S4C Clic. Podlediad newydd yw Clic o’r Archif sy'n trafod hen gyfresi o'r archif. Mae'r rhaglenni yma i gyd ar gael ar S4C Clic. Tanysgrifiwch i'r sianel YouTube i wylio'r podlediad. Mae hefyd yn bosib gwrando ar Apple Music, Google Podcasts, a Spotify. Clic: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=HcRPcXVgKwM

Gwefan: Clic o'r Archif

RSS

Chwarae Clic o

Clic O'r Archif: Ffilmiau Arswyd!

Cuddiwch dan y duvet achos maen nhw nôl. Miriam Isaac a Iestyn Arwel fydd yn tynnu tair ffilm arswyd diweddaraf S4C Clic i ddarnau gyda sêr Merched Parchus, sef Hanna Jarman a Mari Beard. Pam fod Dafydd Iwan gwyrdd yn gorwedd yn noeth mewn ffos? Ydy hi’n iawn i ferch olchi ei gwallt mewn sinc? A wnaeth cân newydd Dewi Pws ladd Hywel Gwynfryn? Ydy’r telyn, wedi torri? Mae’r holl ffilmiau a Merched Parchus ar gael i wylio nawr yn adran bocs sets S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets Special Guests: Hanna Jarman and Mari Beard.

Fri, 16 Oct 2020 00:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clic o

Clic o'r Archif: Tipyn o Stad

Mae Maes Menai yn rhemp. Tydi car neb yn saff ac mae gwerthu cyffuriau ar gongol y stryd yn beth digon cyffredin. Y man perffaith i Miriam a Iestyn holi Heather (yr actores a’r darllenwraig newyddion Jeniffer Jones) o’r gyfres Tipyn o Stâd yn dwll am Ffag y ci, rhinweddau’ kick boxing’ yn erbyn gwerthu rhyw a phapur wal amrywiol y Gurkhas. Bydd hefyd cyfle i ddarganfod gyda beth fyddai ei thad yn y gyfres yn chwarae petai na ‘lockdown’. Dilynwch y linc i weld pob un cyfres Tipyn o Stâd yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/43735779 Special Guest: Jennifer Vaughan Jones.

Fri, 31 Jul 2020 15:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clic o

Clic o'r Archif: Amdani

Yn y bennod ddiweddara o Clic o'r Archif mae Ffion Dafis yn ymuno â Miriam a Iestyn i drafod Amdani, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C a greodd tipyn o gyffro pan y dangoswyd gyntaf ym 1999. Seliwyd y gyfres ar nofel boblogaidd Bethan Gwanas yn sôn am dîm rygbi merched mewn tref fechan yng Ngogledd Cymru. Dilynwch y linc i weld y gyfres yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21677910 Special Guest: Ffion Dafis.

Thu, 30 Jan 2020 10:45:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clic o

Clic o'r Archif: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig

Dewch i’r Samporiwm yn y bennod yma o Clic O’r Archif. Bydd Caryl Parry Jones yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y clasur Nadoligaidd: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am gynnwys annisgwyl diwedd y ffilm, y ffrog roedd pawb yn ei gasáu a chyfrinach llais peraidd un o’r actorion. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref a Caryl Parry Jones yn rhegu! Dilynwch y linc i weld y ffilm yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 Special Guest: Caryl Parry Jones.

Sat, 30 Nov 2019 09:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clic o

Clic o'r Archif: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

Wp a deis! Raslas bach a mawr! Yn y bennod yma o’r podlediad Clic O’r Archif bydd Plwmsan ei hun, Mici Plwm yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y gyfres eiconig: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am ffan annisgwyl y deuawd enwog, beth sy’n gwneud slebjan dda a hanes brawd bach Plwmsan. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a slebjans! Dilynwch y linc i weld y bocs sets: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 Special Guest: Mici Plwm.

Mon, 11 Nov 2019 15:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clic o

Clic o'r Archif: Tydi Bywyd yn Boen & Tydi Coleg yn Grêt

Pwy sy’n cofio hynt a helynt Delyth wrth iddi lywio’i ffordd drwy fywyd ysgol a choleg? Yn y bennod yma o’r podlediad Clic O’r Archif bydd rhai o wynebau cyfarwydd S4C a Hansh yn bwrw’u llygaid dychanol ar ddwy o gyfresi cwlt archif S4C: Tydi Bywyd yn Boen a Tydi Coleg yn Grêt. Ma’ nhw’n trafod bob dim; o ffasiwn, steil gwallt a rhywiaeth i Hywel o Pobol y Cwm mewn speedos! Os y’ch chi’n cofio’r gyfres yn cael ei dangos y tro cyntaf ac am ail-fyw anturiaethau Delyth, neu os nag y’ch chi erioed wedi clywed am y gyfres o’r blaen ac ishe gweld sut oedd bywyd cyn y smart phone, dyma’r podlediad i chi. Wedyn ewch i wefan dal i fyny S4C Clic i wylio’r bocs sets. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref! Dilynwch y linc i weld y bocs sets: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets Special Guests: Non Parry and Sam Rhys.

Mon, 30 Sep 2019 15:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch