Cyfres o gyfweliadau onest, sgyrsiol a naturiol gyda rai o gymeriadau mwyaf doniol, diddorol, ysbrydoledig a..... boncyrs Cymru. (gydag ambell 'i air anweddus!). Rhif 1......STIFYN PARRI. Mae pawb yn nabod Stifyn Parri ond sut mae'r actor, cyflwynydd, gwr bisnes a siaradwr wedi ymdopi â'r cyfnod diweddar? Sut brofiad oedd hi i ddod allan o'r ''spenj'' (gair Rhôs mae'n debyg)? Sut un yw Shirley Bassey go iawn? Ac oes gan iâr bwrs? 🤔
Gwefan: CYMERIADAU CYMRU
Mwy o bodlediadau Adloniant%20a%20Cherddoriaeth
Y gantores dalentog a hyfryd Gwawr Edwards-Phillips sy'n sgwrsio â fi wythnos hon am ei bywyd, gyrfa, cerddoriaeth, opera a llawer mwy. Gwawr yw un o sopranos mwyaf dawnus Cymru, sydd wedi symud nôl i Geredigion yn ddiweddar i fagu'r plant ac i arall gyfeirio ar fferm ei theulu.
Mae Cymeriadau Cymru yn cymeryd hoe fach am rhai wythnosau. Dwi di sgwrsio â dros 130 o bobl amrywiol, dalentog a diddorol erbyn hyn ar y podlediad a dwi angen hoe fach i ail ystyried, i ail feddwl ac i chwilio am fwy o Gymeriadau!
Sun, 25 Jun 2023 12:04:14 GMT
Chwarae LawrlwythwchFi'n nabod Mari Grug ers rhai blynyddoedd bellach, y ddau ohonom ni ar un tro yn rhan o'r tîm tywydd ar S4C, y tîm gorau yn fy marn i (gydag Erin Roberts). Erbyn hyn wrth gwrs mae Mari yn un o wynebau cyfarwydd y sianel ac yn gyflwynwraig naturiol a thalentog ac roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi am bopeth dan haul.....a choeliwch chi fi, ma hi yn gallu sgwrsio!!!😂
Sun, 18 Jun 2023 08:00:35 GMT
Chwarae LawrlwythwchYn ddiweddar, bu farw cymeriad mawr go iawn. Roedd Phil Wyman yn wreiddiol o Galifornia. Yn athrylith, gweinidog, awdur a bardd, bu Phil yn byw yng Nghaernarfon, yn dysgu Cymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o'i ffydd, Cymru a'r iaith, ac yn bwriadu teithio dros Gymru gyfan o fis Awst eleni, yn siarad Cymraeg yn unig ac yn hyrwyddo'r iaith. Yn anffodus, bu farw Phil yng ngŵyl Y Gelli ac mae pawb yn cydymdeimlo’n fawr gyda'i deulu a'i ffrindiau yng Nghymru ag America. Fe ges i'r cyfle i sgwrsio â Phil rhai misoedd yn ôl am ei fywyd lliwgar a'r holl bethau amrywiol, gan gynnwys dysgu Cymraeg, yn ei fywyd. Fe wnes i ddileu'r cyfweliad ar gyfer y podlediad am gyfnod allan o barch ond mae mab Phil, Elijah, wedi gofyn i fi ei ddefnyddio erbyn hyn. Felly roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd i gael siarad ag un o'r bobl fwyaf diddorol, deallus, cefnogol a hwyl dwi erioed di cael ar y podlediad. Gorffwyswch mewn hedd, Phil Wyman a diolch am bopeth.
Sun, 11 Jun 2023 08:00:02 GMT
Chwarae LawrlwythwchElin Prydderch yw fy ngwraig gwadd wythnos hon. Mae Elin yn gweithio fel maethydd a hyfforddwraig ac yn arbenigo mewn rhoi cymorth a chyngor i fenywod sy'n dioddef o'r peri-menopause a'r menopause. Mae ganddi ei busnes ei hun erbyn hyn ac mae hi'n amlwg yn byw bywyd iach ei hun! Iach yw siarad am y menopause dwi'n meddwl, er gobeithio y gwneith hi faddau i mi am ofyn ambell i gwestiwn ''gwrwaidd'' digon gwirion! Ei safle we yw www.elinprydderch.com
Sun, 04 Jun 2023 08:00:52 GMT
Chwarae LawrlwythwchYn ddiweddar iawn fe ddaeth Millie-Mae Adams o Gaerdydd yn Miss Cymru/Wales 2023! Ond mae 'na tipyn fwy i Millie na hyn. Yn fyfyrwraig yn astudio meddyginiaeth ym Mhrifysgol Exeter, mae Millie yn lysgengadwraig i elusen Calan DVS ac yn gwirfoddoli ac yn cefnogi elusennau amrywiol, yn ogystal â hybu'r iaith Gymraeg! Llongyfarchiadau mawr i'r wraig ddiymhongar, garedig a deallus hon a phob lwc iddi yn ystod ei hamser fel brenhines Cymru!
Sun, 21 May 2023 08:00:04 GMT
Chwarae LawrlwythwchI fyd gwleidyddiaeth wythnos hon ar yn podlediad a sgwrs ddifyr dros ben gydag aelod seneddol Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru, Heledd Fychan. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Heledd yn byw ym Mhontypridd bellach ac yn cynrychioli’r ardal yn y senedd. Sgwrs am ei gyrfa, ei haddysg, dylanwadau, gwleidyddiaeth, y senedd, ei hangerddau a llawer mwy, yn ogystal â chwis am Bonty a 10 cwestiwn chwim . Diolch o galon iddi am ei hamser! Unwaith eto, sgwrs gyda pherson deallus, difyr, a diddorol!
Sun, 14 May 2023 08:00:13 GMT
Chwarae LawrlwythwchPolymath go iawn yw Cefin Roberts. Teledu, radio, cerddoriaeth, theatr, sioeau cerdd, ysgol gerdd, awdur.....mae Cefin 'di bod yn wyneb ac yn ffigwr cyfarwydd, talentog a dylanwadol ers rhai blynyddoedd bellach a fy mhleser i oedd cael sgwrsio â fo ar y podlediad. O ddyddiau cynnar S4C gyda Hapnod, i Ysgol berfformio Glanaethwy, mae Cefin di neud y cyfan ac wrthi'n sgrifennu ei hunangofiant ar hyn o bryd. Mwynhewch !
Sun, 30 Apr 2023 08:00:22 GMT
Chwarae LawrlwythwchCroeso nol i Gymeriadau Cymru ar ôl brêc bach dros gyfnod y Pasg! A dechrau gyda gwraig gwadd ifanc sy'n fam ac yn wraig ac yn gweithio i Fudiad Meithrin, sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn wreiddiol.......o wlad Brunei! Ie, Brunei, ar ynys Borneo yn y Môr Tawel. Ac os nad ydy hynny'n ddigon, ma' hi hefyd wedi cyhoeddu cyfrol o farddoniaeth am gariad, yn y Gymraeg, o'r enw Hen Fanila. Mwynhewch fy sgwrs gyda fy nghymeriad wythnos hon, Ezzati Araffin.
Sun, 23 Apr 2023 08:00:16 GMT
Chwarae LawrlwythwchMaint o actorion, yn enwedig rhai sy'n siarad Cymraeg, sy di bod ar nid yn unig Eastenders, ond Coronation Street hefyd!? Yn ogystal â bod yn wyneb cyfarwydd iawn ar S4C wrth gwrs, ma'r actor Richard Elis, wedi bod yn actio yn y ddwy iaith ers rhai blynyddoedd bellach. Ond maint oedd yn gwybod mai Richard oedd y llais Cymraeg yn Big Brother? Sgwrs wych gyda'r gwr o Sir Gâr am ei fagwraeth, addysg, actio, ei yrfa amrywiol a lliwgar a llawer mwy.
Sun, 02 Apr 2023 08:00:39 GMT
Chwarae LawrlwythwchDim rhyw lawer o bobl sy di gweithio mewn cymaint o feysydd â fy ngwraig arbennig iawn wythnos hon. Teledu, radio, papurau newydd, cylchgronau, dysgu a gwleidyddiaeth. Beca Brown yw un o'r bobl fwyaf amryddawn a deallus dwi di gyfarfod ac mi wnes i fwynhau clywed am ei bywyd, ei magwraeth, ei gyrfaoedd amrywiol a'i newid cyfeiriad i fyd gwleidyddiaeth fel cynghorydd Plaid Cymru yng nghyngor Sir Gwynedd. Lot o sgwrsio diddorol am lot o bynciau.
Sun, 26 Mar 2023 08:00:44 GMT
Chwarae LawrlwythwchUn o ddylanwadau cerddorol mwyaf Cymru sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. Mae Neil Rosser yn ganwr ac yn gyfansoddwr ac yn un o hoelion wyth y sîn gerddorol Gymraeg a phleser odd cael clywed am ei yrfa, ei gerddoriaeth, dylanwadau, chwarae'n fyw a llawer mwy. A chofiwch chwilio am gigs a cherddoriaeth Pwdin Reis!
Sun, 19 Mar 2023 09:00:09 GMT
Chwarae LawrlwythwchDwi wrth fy modd yn siarad â phobl talentog a chreadigol a phobl sy'n dilyn cyfeiriad ei hunan. Mae Llio Millward wedi bod yn actores (cofio 3 chwaer?) ac yn gantores ers cryn dipyn erbyn hyn ac wrthi'n recordio ac yn perfformio yn Llundain. Nes i wir fwynhau ein sgwrs ar y podlediad yn ddiweddar, yn trafod ei gyrfa, cerddoriaeth, byw yn Aberystwyth, Caerdydd a Llundain, ei thad Teddy, ei henw, The Crown, a llawer mwy. Diolch o galon iddi am fod mor onest a chofiwch ar y penodau i gyd ar Spotify. (ac ewch i wrando ar gerddoriaeth Llio ar Spotify hefyd)
Sun, 12 Mar 2023 09:00:11 GMT
Chwarae LawrlwythwchFelly pwy sy'n neud yoga? Pwy sydd wedi meddwl neud yoga ond heb fentro? Athrawes yoga Laura Wyn sy'n siarad â fi ar y bennod nesaf o Cymeriadau Cymru ac i ni'n siarad am ei bywyd diddorol hi, ei dylanwadau, iechyd meddwl a chorfforol, ac wrth gwrs, am yoga! Braf yw cael sgwrsio â phobl neis a braf iawn oedd dod i nabod Laura.
Sun, 05 Mar 2023 09:00:16 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhywun sydd ar frig ei fyd, yw'r telynor Dylan Cernyw a braf oedd cael siarad â fe yn ddiweddar, o'i gartref, am ei yrfa, ei fagwraeth, telynorion a cherddoriaeth, ei ddylanwadau ac wrth gwrs, am y delyn. Pennod newydd o Cymeriadau Cymru gyda thalent byd enwog.
Sun, 26 Feb 2023 09:00:03 GMT
Chwarae LawrlwythwchMerch o Grymych yn wreiddiol yw Mirain Iwerydd ond bellach yn gwneud enw iddi hun ar Radio Cymru (1 a 2) yn cyflwyno sioeau cerddoriaeth ac roedd hi'n braf i gael siarad gyda hi yn ddiweddar am ei magwraeth, clwb ffermwyr ifanc, ei gyrfa, dylanwadau a chyflwyno, yn ogystal â lot o hwyl yn ateb y 10 cwestiwn chwim a'r cwis. Cadwch lygad mas am Mirain. Ma hon yn mynd i fod yn enw i'r dyfodol!
Sun, 19 Feb 2023 09:00:05 GMT
Chwarae LawrlwythwchUn o'r bobl fwyaf ffeind a gweithgar ac un o'r cyflwynwyr mwyaf naturiol ar S4C sy'n wraig gwadd ar y podlediad wythnos hon. Meinir Howells neu i nifer, Meinir Ffermio. Yn ffarmwraig frysur, yn fam ac yn wraig yn ogystal ag un o gyflwynwyr y gyfres Ffermio, mi roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi, a ninnau'n nabod ein gilydd ers blynyddoedd bellach. Sgwrs gwbl naturiol am ei gyrfa, magwraeth, cyflwyno, Brexit, Mudiad y ffermwyr ifanc ac wrth gwrs, ffermio! Hefyd, cwis a 10 cwestiwn a lot o hwyl gydag yffach o gymeriad!
Sun, 12 Feb 2023 09:00:06 GMT
Chwarae LawrlwythwchMerch ifanc o Lanelli sydd yn sgwrsio â fi ar y podlediad wythnos hon. Mae Bethany Davies wedi dod yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar TIK TOK yn arbennig. Mae ei fideos hi yn hybu'r iaith a Chymru yn gyffredinol ac wedi ennill dilyniant anferth a thipyn o sylw yn y wasg. Merch hynod o ffeind ac roedd hi'n bleser i siarad â hi am ei magwraeth, yr iaith Gymraeg, a'i thaith ar Tik Tok! Fel dwi'n dweud pob wythnos, dwi mor lwcus i fedru siarad â phobl neis!
Sun, 05 Feb 2023 09:00:11 GMT
Chwarae LawrlwythwchArtist sydd yn sgwrsio â fi ar y podlediad wythnos hon, sydd wrthi'n creu, yn dylanwadu ac yn gwerthu ers peth amser. Iwan Bala yw un o'r artistiaid mwyaf adnabyddus a llwyddiannus Cymru ac roedd hi mor ddiddorol i siarad efo fo am ei waith, ei broses o greu, ei yrfa gynnar, dylanwadau a llawer mwy.
Sun, 29 Jan 2023 09:00:38 GMT
Chwarae LawrlwythwchTalent a pherson hyfryd arall ar ail bennod 2023 o'r podlediad wythnos hon. Elin Parisa Fouladi o Gaerdydd ac o dras Gymreig a Iranaidd. Mae Elin yn canu ac yn cyfansoddi ei hun ac yn gwneud enw i'w hun ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Sgwrs gwbl naturiol ganddi am ei magwraeth, ei henw, perfformio a chyfansoddu a lot o hwyl gyda'r 10 cwestiwn a'r cwis! Diolch i Elin neu Parisa, am ei hamser.
Sun, 22 Jan 2023 09:00:48 GMT
Chwarae LawrlwythwchBlwyddyn newydd dda i chi gyd a gobeithio bod pawb yn iach ac yn edrych ymlaen at 2023!? A pha well i ddechrau tymor newydd o Cymeriadau Cymru na gyda fy ngŵr gwadd arbennig iawn. Y cerddor, canwr a chyfansoddwr ac un o'r bobl fwyaf clên dwi erioed di siarad efo, Yws Gwynedd! ...ie, go iawn, y lej Yws Gwynedd!!!! Sgwrs wych am ei fagwraeth, ei yrfa, cerddoriaeth, canu a gigio a phêl droed...lot o bêl droed!😁. Ac wrth gwrs, am y gân orau erioed, Sebona fi! Mwynhewch!
Sun, 15 Jan 2023 09:00:39 GMT
Chwarae LawrlwythwchI orffen 2022, mae'n bleser dweud mai'r darlledwr Geraint Lloyd sydd ar y podlediad, ym mhennod ola'r flwyddyn. Wel, fi'n dweud darlledwr, ond wrth gwrs, nid bellach. Ar ôl cael ei ollwng gan Radio Cymru, yn dilyn 25 mlynedd o ddarlledu, sioc enfawr iddo fe a'i ddilynwyr a gwrandawyr oedd y newyddion. Hon yw'r sgwrs go iawn gyntaf iddo ei wneud am yr holl helynt a'r siom a braf oedd cael ei gwmni. I ni'n trafod ralio, mudiad y ffermwyr ifanc, theatr Felinfach, darlledu, gyrru bws ac wrth gwrs, ei yrfa yn darlledu.
Sun, 18 Dec 2022 09:00:13 GMT
Chwarae LawrlwythwchGyda chwpan y byd ar fin dod i ben yn Qatar, dwi di penderfynu ail lwytho cyfweliad â rhywun sy'n byw ac yn gweithio allan yn y wlad honno ac yn frysur ar hyn o bryd gyda'r holl gemau a'r darlledu yno, sef Rhodri Ogwen Williams. Yn wreiddiol o'r Bari, mae Rhodri bellach yn byw yn Doha ers rhai blynyddoedd ac fe ges i'r cyfle i glywed am ei waith a'i yrfa a'i fywyd yn y Dwyrain Canol yn Qatar. Sut wlad yw hi?
Sun, 11 Dec 2022 09:00:55 GMT
Chwarae LawrlwythwchWel, eicon go iawn sy'n sgwrsio â fi wythnos hon. Cerddor, sylfaenydd, gwr busnes, cyflwynydd ac arweinydd teithiau cerdded...neb llai na Rhys Mwyn! Pleser oedd cael clywed am ddyddiau cynnar Rhys fel un o'r 'punks' cyntaf yng Nghymru ac un o ddylanwadau pwysicaf ym myd cerddoriaeth Cymru. Ac oedd hi mor ddiddorol clywed am y band Anrhefn, y sîn gerddoriaeth, teithiau cerdded, archaeoleg, punk rock, teithio gyda'r band a llawer mwy. Diolch o galon am ei amser a'i onestrwydd.
Sun, 04 Dec 2022 09:00:46 GMT
Chwarae LawrlwythwchCynhyrchydd, actifydd, rheolwr a sylfaenydd a gwr dylanwadol dros ben, Berwyn Rowlands, sydd ar y podlediad wythnos hon. Sgwrs hynod o ddifyr ag onest am fywyd Berwyn, ei ddylanwadau, ei waith a'i holl gyflawniadau, The Iris Prize, yr 80'au, Sgrîn, a llawer llawer mwy. Mae'n bleser cael rhywun fel Berwyn ar y podlediad. Gwr dylanwadol iawn ym myd busnes, sefydliadau LGBTQ+, a chwmnïau cyfryngau a ffilmiau........ag un sy'n hoffi siarad! 😂😂
Sun, 27 Nov 2022 09:00:07 GMT
Chwarae LawrlwythwchHyfforddwraig bersonol syn dechrau gwneud enw i'w hun yw Elin Wyn Williams a fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad. Ar ôl astudio a graddio mae Elin wedi dechrau ei busnes, Winning with a Y, sy'n nid yn unig helpu pobl gyda'r ochr gorfforol ond yr ochr feddyliol ag emosiynol hefyd ac mae ganddi angerdd ynglŷn â gwella iechyd meddwl a chorfforol. Mae hi yn 'rising star' yn fy marn i a dwi'n wir gobeithio y gwneith y cyfryngau talu sylw i'r ifanc yma o Sir Gâr.
Sun, 20 Nov 2022 09:00:02 GMT
Chwarae LawrlwythwchActores, cantores a chymeriad unigryw iawn sy'n cadw cwmni i mi wythnos hon....nid mewn stafell dawel ond mewn caffi bach digon swnllyd yng nghanol Llundain! (Felly maddeuwch i fi am y sain amherffaith ar brydiau!) Ond sgwrs hynod o ddiddorol a doniol a diolch o galon i Lowri Ann Richards nid yn unig am ei hamser ond am ei gonestrwydd a'i pharodrwydd i siarad am bopeth am ei bywyd, gyrfa, plentyndod, actio, canu mewn grwpiau mawr y 80'au, cyffuriau a llawer mwy! ''Cymeriad'' go iawn!
Sun, 13 Nov 2022 09:00:22 GMT
Chwarae LawrlwythwchY cyfansoddwr a'r cerddor Robat Arwyn sy'n sgwrsio â fi wythnos hon. Talent go iawn sy di ysgrifennu caneuon ar gyfer corau ac unigolion di-ri! Sgwrs hynod o ddiddorol am ei waith a'i yrfa, ei ddylanwadau, cyfansoddi, corau a llawer mwy, yn ogystal â bach o hwyl efo cwis am gyfansoddwyr ar 10 cwestiwn chwim!
Sun, 06 Nov 2022 09:00:54 GMT
Chwarae LawrlwythwchFi wrth fy modd yn siarad â phob un o'r gwesteion ar Cymeriadau Cymru ond wythnos hon, nes i RILI fwynhau! Sgwrs ddifyr, ddoniol, onest a diddorol gyda'r actor, dramodydd, sgriptiwr a brenhines drag, Alun Saunders aka Connie Orff. Lot o chwerthin a sgwrs am bopeth o theatr a theledu, i drag, i'r iaith Gymraeg a llawer mwy. Joiwch!
Sun, 30 Oct 2022 09:00:48 GMT
Chwarae LawrlwythwchMeilyr Siôn, actor, pypedwr ac awdur sy'n dweud y cyfan wrthai mewn sgwrs gret, am ei blentyndod, ei yrfa a dechreuadau, bod ar lwyfan sioe ''The Lion King'' a'i newid cyfeiriad fel awdur llyfrau i blant. Tipyn o all rounder! Wel.....ysgol Aberaeron ontife!😉
Sun, 23 Oct 2022 08:00:05 GMT
Chwarae LawrlwythwchTalent gerddorol wythnos hon ar Cymeriadau Cymru ac i fyd opera. Sioned Gwen Davies o Fae Colwyn ac yn mezzo soprano uchel ei pharch a phrysur sy'n dweud wrtha i am ei gyrfa ac yn siarad yn gwbl gyffyrddus am opera, eisteddfodau, Glasgow, Canwr y byd, sopranos a llawer mwy. Ac unwaith eto, yn gyfweliad â pherson clên, naturiol, onest a diddorol! Ymunwch â ni ac edrychwch am Cymeriadau Cymru ar Spotify, apple, google, anchor, Ypod ac amryw o lwyfannau eraill.
Sun, 16 Oct 2022 08:00:27 GMT
Chwarae LawrlwythwchYr actor Ifan Huw Dafydd sydd yn sgwrsio â fi tro yma ar Cymeriadau Cymru a bois, na chi actor! O Pobl y Cwm i District Nurse ac o Theatre Clwyd i Radio 4, ma Ifan wedi cael gyrfa a hanner! Cofiwch edrych am y podlediad a phob pennod ohoni ar Spotify a nifer o lwyfannau amrywiol.
Sun, 09 Oct 2022 08:00:21 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae podlediad Cymeriadau Cymru nôl! Tymor newydd o sgyrsiau diddorol a naturiol gyda rhai o wynebau a lleisiau a chymeriadau mwyaf adnabyddus Cymru. Ac i ddechrau tymor newydd, sgwrs gyda'r darlledwr a sylwebydd, a boi neis, Dylan Ebenezer. Cofiwch wrando ar pob pennod o Cymeriadau Cymru ar nifer o lwyfannau gan gynnwys Spotify.
Mon, 03 Oct 2022 16:52:09 GMT
Chwarae Lawrlwythwch''Entertainer'' go iawn sydd ar y podlediad wythnos hon! Actor, dawnsiwr ac ''all round'' diddanwr, Johnny Tudor! Am fywyd!! Roedd hi'n bleser llwyr i sgwrsio â Johnny am ei yrfa, canu a dawnsio, ei ''big break'' ar Opportunity Knocks, ei gyfeillgarwch â Dorothy Squires, ei rhannau yn actio yn Gavin & Stacey, ei lyfr a llawer, llawer mwy! Fasen i wedi gallu siarad am oriau efo'r gwr dawnus a hoffus yma, sydd wedi dysgu Cymraeg mor dda, ac sydd§ dal yn gweithio! Diolch Johnny.
Thu, 23 Jun 2022 08:00:46 GMT
Chwarae LawrlwythwchHeblaw eich bod wedi bod yn byw mewn ogof yn ddiweddar, neu, yn wir, dros y 40 mlynedd a mwy diwethaf, fyddwch chi'n amlwg yn adnabod llais a gwyneb fy ngŵr gwadd wythnos hon. Eicon go iawn, canwr a chyfansoddwr rai o ganeuon mwyaf adnabyddus, pwysig ag eiconig Cymru. Ie, neb llai na Dafydd Iwan! Beth all un ddweud am y gwr yma? Un o gymeriadau pwysicaf ein cenedl ni sy'n sgwrsio am ei fywyd, canu a cherddoriaeth, recordio, yr iaith ac ymgyrchoedd dros yr iaith a Chymru, yn ogystal â phêl droed, tîm Cymru ac wrth gwrs, cân y foment ar hyn o bryd, ''Yma o hyd''. Pleser ac anrhydedd oedd siarad gyda Dafydd a dwi'n wir yn gwerthfawrogi am iddo ymuno â fi wythnos hon.
Thu, 16 Jun 2022 08:00:47 GMT
Chwarae LawrlwythwchYr actores Rebecca Harries yw fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad. I nifer wrth gwrs, Sali Mali, ond ma Rebecca wedi actio yn nifer o bethau gwahanol, yn Y Gymraeg ac yn Saesneg. Dwi di nabod Rebecca ers rhai blynyddoedd ac roedd hi'n bleser dal lan gyda hi a sgwrsio am ei gyrfa, bywyd, pryderon, byw yn Sir Gâr ac wrth gwrs, yr eicon ei hun, Sali Mali!
Thu, 09 Jun 2022 08:00:21 GMT
Chwarae LawrlwythwchActores o fri, adnabyddus a thalentog, SHARON MORGAN, yw fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad, ac anrhydedd oedd cael sgwrsio gyda hi am ei bywyd, gyrfa, actio, ennill 3 Bafta, Grand Slam, Ronnie Barker a llawer mwy!
Thu, 02 Jun 2022 08:00:30 GMT
Chwarae LawrlwythwchStacey? DS Morgan? Neu Shirley Valentine? Ie, yr actores ddawnus o'r Rhondda, Shelley Rees-Owen sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad a gaethon ni lot o hwyl! Tan yn ddiweddar, mi roedd Shelley yn gynghorydd yn ogystal â bod yn actores ac mae hi di cael llwyddiant mawr gyda'r ddrama un person ac addasiad Cymraeg o Shirley Valentine.
Thu, 26 May 2022 10:00:37 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae'n bleser cael siarad gyda nifer o bobl hyfryd ar y podlediad yma yn wythnosol, ac wythnos yma dwi'n cael sgwrsio ag un o'r mwyaf hyfryd! Gwenda Owen y gantores o Gwm Gwendraeth sy'n siarad yn hwylus ac yn agored am ei bywyd. Gyrfa, cerddoriaeth, ei hardal, actio a'i salwch rhai blynyddoedd yn ôl. Cefais y fraint o ganu gyda Gwenda yn 2012 a recordio cân i'w rhyddhau ar gyfer y radio, a braint hefyd oedd cyfweld â hi ar y podlediad. Un o'r bobl neisa' dwi'n nabod!!!
Thu, 19 May 2022 08:01:27 GMT
Chwarae LawrlwythwchO Ffostrasol yng Ngheredigion i Dde Iwerddon yr aeth yr actor, cerddor a boi ffeind Ryland Teifi, ac o'i gartref yn Iwerddon wnaeth Ryland ymuno â fi am sgwrs wych ar gyfer Cymeriadau Cymru wythons hon. Lot o siarad a hwyl am ei yrfa, Y Cnapan, Iwerddon a'r teulu Clancy, canu, actio a'i brofiad yn ennill gyda chân Can i Gymru eleni....o, a chwis a 10 cwestiwn chwim! Gwych o sgwrs.
Thu, 12 May 2022 08:00:21 GMT
Chwarae LawrlwythwchAnrhydedd yw cael croesawi fy hen ffrind Alwyn Humphreys i'r podlediad wythnos hon. Lejynd go iawn arall, yn arweinydd cerddorfeydd a chorau meibion, trefnydd darnau cerddorol a chyflwynydd teledu a radio. Diddorol dros ben oedd cael sgwrsio ag Alwyn am ei yrfa, cerddoriaeth, corau, canu, cyflwyno a llawer, llawer mwy.
Thu, 05 May 2022 08:00:27 GMT
Chwarae LawrlwythwchDim byd llai nag eicon, lejynd a brenhines ar y podlediad wythnos hon. Y gantores hyfryd, hyfryd o Frynsiencyn, Ynys Môn, Margaret Williams!!!! Wrthi'n canu a pherfformio ers rhai blynyddoedd ar ein sgrin ac ar radio (yn ogystal â chanu ar y llongau ''cruise''), mi roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd cael siarad â Margaret am ei gyrfa, bywyd, canu, Sir Fôn a llawer, llawer mwy a dwi'n ddiolchgar iawn iddi am gytuno cael ei chyfweld.
Thu, 28 Apr 2022 08:00:58 GMT
Chwarae LawrlwythwchY gantores a'r gyfansoddwraig Lowri Evans yw fy ngwraig gwadd wythnos hon a thalent go iawn unwaith eto. Sgwrs hyfryd arall am gyrfa, cerddoriaeth a chyfansoddu, ardal Trefdraeth/Tudraeth, cwis, 10 cwestiwn a llawr mwy! Diolch o galon i Lowri a diolch yn fawr hefyd i Hannah Beth am fod ar y podlediad wythnos diwethaf.
Thu, 21 Apr 2022 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchCyflwynwraig, dawnswraig, actores ac ''all-rounder'' go iawn sydd ar y podlediad wythnos hon. Efallai mai i wylwyr ifanc S4C fydd Hannah Beth yn gyfarwydd ond ma'r fam ifanc o Lanelli yn aml-dalentog, yn gyfeillgar, positif ac yn......wel, jyst yn berson neis. Sgwrs hyfryd yn siarad am ei gyrfa, ei phrofiad o fod yn fam ifanc iawn, dawnsio ar y bar yn Sbaen, gwisgo pinc, cyflwyno i blant, actio a hyd yn oed helpu pobl ag anableddau. Merch â gwên pob amser yw Hannah ac roedd hi mor braf cael siarad â hi.
Thu, 14 Apr 2022 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchCymeriad, strab a gwd boi sydd ar y podlediad wythnos yma. Yn ddigrifwr, sgrifennwr a chyflwynydd, mae Gary Slaymaker yn wreiddiol o Geredigion fel fi ac yn wyneb cyfarwydd ers rhai blynyddoedd bellach. Chwerthin???!!! Sgwrs a hanner am ei fywyd, ei yrfa, comedi a dylanwadau, sgrifennu a chyflwyno, deg cwestiwn chwim a chwis am gomediwyr! Yffach o bennod ac mi roedd hi'n bleser cael dal lan gyda Slay.....a chael chwerthin a rhegi!!!😂😂😂😂
Thu, 07 Apr 2022 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchI fyd gwleidyddiaeth wythnos hon, neu o leiaf, i fyd cyn-wleidydd. Bethan Sayed (Jenkins) yw fy ngwraig gwadd hollol ffab ar y podlediad wythnos hon a sgwrs wych gyda hi am ei gyrfa, gwleidyddiaeth, Y Senedd, bod yn fam a gadael gwleidyddiaeth a llawer, llawer mwy. Ma Bethan, yn ogystal â bod yn fam frysur, yn parhau i ddiddori ac i fod yn rhan o weithgareddau pwysig yng Nghymru a cholled fawr y Senedd yw hi'n penderfynu gadael. Mae ganddi ddeallusrwydd siarp a bachog am bethau sy'n bwysig i bobl Cymru, yn ogystal â hiwmor ag agwedd ''down to earth'' a phleser odd ei chyfweld eto.
Thu, 31 Mar 2022 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchO bois bach, dyna chi ŵr gwadd wythnos hon! Y canwr opera a'r cyflwynydd teledu a radio RHYS MEIRION!!! Ie! Mae Rhys wedi canu dros y byd, yn Carnegie Hall a'r Albert Hall.....a llwyfannau Noson Lawen! Fe ges i'r fraint a lot o hwyl yn holi ac yn sgwrsio â Rhys yn ddiweddar, yn siarad am bopeth o opera i karaoke, yn ogystal â'r 10 cwestiwn a chwis bach. Boi clên dros ben yw Rhys ac fe wnes i fwynhau mas draw wrth siarad. Diolch hefyd i'r talentog Miriam Issac am y sgwrs yn y bennod ddiwethaf a chofiwch, mae pob pennod o Cymeriadau Cymru ar gael i wrando arnynt ar Spotify.
Thu, 24 Mar 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchTalent go iawn unwaith eto ar y podlediad wythnos hon....fi mor lwcus i gael siarad gyda'r gantores a'r actores dalentog Miriam Issac. I ni di bod yn gweld wyneb Miriam ar ein sgrin ers rhai blynyddoedd bellach, gan amlaf yn canu gyda'i mam, Caryl, a gyda nifer fawr o gantorion mewn cyngherddau, sioeau a chystadleuaeth Chân i Gymru, ond erbyn hyn, mae hi hefyd yn actio ac yn actores comedi gwych. Pleser oedd cael siarad am ei gyrfa, cerddoriaeth, ei theulu, actio, a'i hymdrechion i roi sylw a chyfle i BAWB ar y sgrin. Diolch o galon i Miriam am ei hamser!
Thu, 17 Mar 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchActor o fri sydd ar y podlediad wythnos hon ac un sydd wedi actio yn y Gymraeg ar Pobl y Cwm, Dinas a nifer o bethau eraill, ac yn y Saesneg ar Eastenders, Casualty a Judge John Deed. A boi clên tu hwnt. Ond maint ohonoch oedd yn gwybod mai fel canwr opera y dechreuodd ei yrfa? Sgwrs ddiddorol a deallus gan un o wynebau mwyaf cyfarwydd a thalentog Cymru.
Thu, 10 Mar 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchWel, person gwadd gwbl wahanol wythnos hon ar Cymeriadau Cymru. Petai chi di gwylio'r gyfres ar BBC3 ''Young , Welsh and bossing it'', mi fysech chi yn cofio stori'r ferch o'r Wyddgrug, Alaw Hâf, sy'n gwneud bywoliaeth fel model, a gyda dilyniant eang ar safle 'Only fans' (ymysg eraill). Ar ôl graddio yn y gyfraith, fe benderfynodd Alaw i wneud rhywbeth gwbl newydd ac unigryw! Sgwrs ddiddorol dros ben gyda merch hynaws a chyfeillgar a hoffus iawn a diolch iddi hi am fod mor naturiol ag onest am ei gyrfa, ei dewisiadau, yr ochr negyddol a dadleuol o'i gwaith a'i chynlluniau i'r dyfodol.
Thu, 03 Mar 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchFfarmwr a chyflwynydd. Neu gyflwynydd a ffarmwr? Y ddau! Alun Elidyr yw fy ngŵr gwadd ar y podlediad wythnos hon a sgwrs ddiddorol, onest, agored a difyr gan foi clên dros ben. Sgwrs am ffermio, actio, cyflwyno, amaethyddiaeth, iselder ysbryd ac iechyd meddwl, 10 cwestiwn chwim a chwis, a hyd yn oed y ''B Word''!!! Diolch o galon iddo am ei amser ac am siarad â fi yn ddiweddar.
Thu, 24 Feb 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchI fyd opera wythnos hon a fy ngwraig gwadd arbennig iawn yw'r gantores fyd enwog o Orllewin Cymru, Leah Marian Jones. Mae Leah wedi bod yn canu ers blynyddoedd, o gwmpas y byd, gan gynnwys Covent Garden, ac wedi cyflwyno ar S4C hefyd a ma hi ymhlith y cantorion opera gorau erioed o Gymru. Yn ogystal â hynny, mae hi yn yffach o gymeriad ac eto, pleser pur oedd siarad â pherson gwadd gwych arall ar y podlediad. Diolch Leah! A diolch o galon i lejynd arall, Gillian Elisa Thomas, am fod ar y bennod ddiwethaf.
Wed, 23 Feb 2022 13:45:48 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae hi'n bleser mawr croesawu'r actores Gillian Elisa Thomas ar Cymeriadau Cymru wythnos hon! Ges i gymaint o hwyl yn sgwrsio â hi am ei bywyd, gyrfa, comedi, Pobl y Cwm, Billy Elliot, a lot mwy! A'r cyfan gyda Cariad y Chihuahua yn cadw llygad ar bethe! Mae Gillian wedi bod yn actio ers rai blynyddoedd ar ein llwyfannau ac ar ein sgrins ac mi roedd hi'n anrhydedd i'w chael ar y podlediad.
Diolch o galon hefyd i Adam ''yn yr ardd'' Jones am fod yn ŵr gwadd a diolch i chi gyd am wrando ac am yr adborth!👍
Thu, 10 Feb 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchDiolch o galon i Morgan Jones am roi ei amser i Cymeriadau Cymru yn y bennod ddiwethaf, ac o un boi clên, i un arall wythnos hon. Gwr ifanc a hoffus a thalentog sydd yn gwneud enw iddo'i hun fel cyflwynydd a siaradwr ac arbenigwr ar arddio. Adam Jones, neu i'w ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar Prynhawn da ar S4C, ''Adam yn yr ardd!'' Nes i fwynhau mâs draw yn siarad â'r gwr o ardal Rhydaman yn ddiweddar ac fe wnes i ddysgu ambell i beth am arddio!!!
Thu, 03 Feb 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchI fyd pêl droed, cyflwyno ar deledu a bandiau pres wythnos yma ar Cymeriadau Cymru a sgwrs gwbl wych gyda Morgan Jones, wedi ei recordio cyn Dolig. Mae Morgan wrthi'n cyflwyno ers rai blynyddoedd bellach ac yn wyneb cyfarwydd iawn ar ein sgrin deledu. Ond maint ohonoch oedd yn gwybod ei fod yn chwarae'r ewffoniwm!? Unwaith eto, dei'n ddiolchgar i fy mherson gwadd am ei hamser a'i gonestrwydd, ac unwaith eto, braint a phleser yw cael sgwrsio â person ffeind a chlên!
Thu, 27 Jan 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae'n dipyn o naid o Tipyn o Stâd a Rownd a Rownd, i rannau yn operâu sebon Coronation Street ac Emmerdale. A phwy sy'n cofio'r grŵp merched Pheena? Wel y gantores ond erbyn hyn, yr actores Ceri Bostock yw fy ngwraig gwadd wythnos hon. Pleser oedd cael clywed am ei bywyd gyda Pheena, ac am ei siwrnai fel actores. Ac yn ogystal â hynny, ei phenderfyniad i actio, ei dewis i ddysgu techneg Makaton a'i phrofiad yn dysgu Cymraeg ar ôl symud i Ogledd Cymru o Firmingham! Diolch i Iwan John am fod ar y bennod ddiwethaf.
Thu, 20 Jan 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchYffach o 'gymeriad' sydd ar y podlediad wythnos hon. Comedïwr, actor ac ysgrifennwr Iwan John, neu basically, Eddie Butler..... a lejynd! Hotel Eddie, Noc noc, Mawr, Hyd y pwrs a nifer o gymeriadau mewn nifer o raglenni ar S4C. Ond yn ogystal â sgwrsio am ei yrfa, ei waith a dylanwadau, comedi, Eddie Butler, fe ges i'r hanes am ei salwch a'i siwrnai anhygoel o dderbyn aren newydd, gan ei ffrind, Steffan Rhys Williams. Cymeriad a hanner, boi ffeind, boi doniol dros ben ac fe ges i'r fraint o weithio gydag Iwan rhai blynyddoedd yn ôl. O, ac mae ei wraig, Non, hefyd yn brilliant!
Diolch hefyd i Wynford Ellis Owen am fod yn ŵr gwadd ar y bennod gyntaf. Mae ei stori a'i hanes wedi cael lot o sylw ac wedi cyffwrdd nifer o wrandawyr.
Thu, 13 Jan 2022 09:00:00 GMT
Chwarae Lawrlwythwch''S'gob''!!! Fy ngŵr gwadd cyntaf yn 2022 yw'r actor a chyfarwyddwr Wynford Ellis Owen, neu i rai, Syr Wynff ap Concord y boss, neu hyd yn oed Donald Parry. (Teliffant? Porc peis bach?) Ar ôl blynyddoedd o gam ddefnyddio ac yn dod yn gaeth i gyffuriau ac yn bennaf alcohol, cafodd driniaeth am ddibyniaeth yng nghanolfan Rhoserchan yn Aberystwyth a bu'n sobr ers 22 Gorffennaf 1992. Graddiodd mewn Cwnsela Dibyniaeth yn 2008 ac ar 1 Hydref 2008 cychwynnodd weithio fel Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill.
Datblygodd canolfan gymunedol Stafell Fyw Caerdydd i gefnogi pobl gyda dibyniaeth ar gyffuriau yn ardal Caerdydd. Agorwyd y ganolfan yn 2011.
Pleser ag anrhydedd yw cael cyfweld â Wynfford am, nid yn unig ei yrfa fel actor a chyfarwyddwr a chynhyrchydd, ond am ei ddibyniaeth, ei siwrnai anhygoel trwy adferiad a'i waith erbyn hyn.
Fel se Syr Wynff ap Concord y boss yn dweud, ''raslas bach a mawr!''
Thu, 06 Jan 2022 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchCyflwynydd a darlledwr, yn wreiddiol o'r Bari, ond erbyn hyn yn gweithio ac yn byw yn Doha, prif ddinas Qatar, yw fy ngŵr gwadd wythnos hon a'r olaf yn 2021. Rhodri Ogwen Williams sy'n trafod ei fywyd, ei yrfa, byw dramor, LiveTV, Al Zazeera, S4C, chwaraeon, Animal Hospital a llawer mwy a'r cyfan o'i fflat yn Qatar! A choeliwch chi fi, mae 'na straeon di-ri a gwerth eu clywed yn y bennod hon! Peidiwch â'i cholli!!!!!!!!!!!!
Diolch o galon i Dot Davies am fod ar y bennod ddiwethaf ac i BAWB sy di roi eu hamser trwy'r flwyddyn. Mae 'na lot fwy o gymeriadau ar y ffordd yn 2022!
Thu, 23 Dec 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchY ddarllenwraig a newyddiadurwraig Dot Davies sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. ''Cymeriad'' go iawn ac sy'n darlledu ac yn cyflwyno yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mewn rhyw gornel bach rhywle yn adeilad crand y BBC odd hi felly mae 'na ''noises off'' weithiau i'w clywed a nam ar y sain hefyd, ond pleser oedd dysgu mwy am fywyd 'Wimble Dot', am ei gyrfa, darlledu yn chwaraeon, y menopause a'i phrofiadau hi, darlledu ar Radio 4, a chwis bach cyflym iddi...... ar Wimbledon! Diolch iddi am ei hamser (Roedd hi newydd orffen ei sioe ar Radio Wales) a diolch o galon i Karen Elli am fod ar y bennod ddiwethaf.
Thu, 16 Dec 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchKaren Elli neu ''Heini'' yw fy ngwraig gwadd wythnos hon a sgwrs yn LLAWN hwyl a chwerthin am ei gyrfa, bywyd, cadw'n heini (wrth gwrs), datblygu tau a llawer mwy! A maint mae hi'n gwybod am Lanelli sgwn i?
Thu, 09 Dec 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchDwi'n hoffi meddwl bod pob un bennod o Cymeriadau Cymru yn ddiddorol neu ddoniol neu'n ddylanwadol. Wythnos yma beth bynnag, dwi wir yn meddwl fod y bennod yma nid yn unig yn ddiddorol, doniol ac 'entertaining' ond yn bwysig a dylanwadol. Mae Non Parry (Williams) yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru ac yn rhan o'r grŵp bytholwyrdd Eden wrth gwrs. Mae hi yn gantores, cyfansoddwraig ac yn sgriptio i deledu a radio ac yn ogystal â hynny, mae hi wedi sgrifennu llyfr am ei bywyd a'i gyrfa a'i brwydr â salwch meddwl ag iselder. Mae hi'n fraint i gael Non ar y podlediad wythnos hon yn trafod y pwnc mor agored, ag onest a dewr!
Thu, 02 Dec 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchO mam fach! Actor a seren ffilm a theledu (yn ogystal â theatr) sydd ar y podlediad wythnos hon. Harry Potter, Wonder woman, Gavin & Stacey, Con Passionata, The Mentalists, Pobl y Cwm a nifer o bethau eraill......neb llai na Steffan Rhodri!!! Dwi'n lwcus iawn i fod wedi cyfarwyddo llais gyda Steffan nifer o weithiau dros y blynyddoedd ac o ni mor lwcus i gael cyfweld â'r actor o Dreforys yn ddiweddar. Sgwrs ddiddorol am ei fagwraeth, ei yrfa, actio, ffilmiau, Gavin & Stacey, 10 cwestiwn chwim a mwy. Ac unwaith eto, diolch yn fawr IAWN i'r gantores a'r gyflwynwraig Elin Fflur am y sgwrs ar y bennod ddiwethaf.
Thu, 25 Nov 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchAr ôl cyfweliad a sgwrs wych gan Lisa Pedrick, cantores a chyflwynwraig arall sydd ar y podlediad tro hwn. Neb llai nag Elin Fflur! Gyrfa, perfformio, Cân i Gymru, Dan y lloer, canu a cherddoriaeth, Ynys Môn, The Voice, Jim Steinman, 10 cwestiwn chwim a chwis, a llawer mwy! Sgwrs wych arall! Pa mor lwcus dwi i!
Thu, 18 Nov 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchPwy sy'n cofio'r gyfres Y Wow Ffactor ar S4C rhai blynyddoedd yn ôl? Enillydd y gyfres oedd fy ngwraig gwadd wythnos hon. Y gantores hyfryd, cyflwynwraig a chyfansoddwraig Lisa Pedrick (Rumble) wnaeth siarad â fi peth amser yn ôl am ei gyrfa, Wow ffactor, canu, dylanwadau, dysgu, teulu, Gwauncaegurwen a llawer mwy ac unwaith eto, pleser pur oedd cael sgwrsio gyda rhywun mor dalentog ac mor hyfryd!
Thu, 11 Nov 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchReit, wel chi'n gwybod pan dewch chi ar draws rhywun arbennig o dalentog? Rhywun sy'n amlwg yn artist neu perfformwr naturiol a greddfol? DYNA'R fath o dalent sydd ar y podlediad wythnos hon. Yr arlunydd tu hwnt o dalentog, sydd hefyd yn ferch hoffus a 'down to earth' go iawn, Lisa Eurgain Taylor wnaeth siarad â fi rhai misoedd yn ôl, am ei gwaith, ysbrydoliaeth, llwyddiant, arddangos, arddull, dylunio caniau cwrw a siocled..... a lot mwy. Dwi yn caru gwaith Lisa ac ewch at ei safle we arbennig hi, https://www.lisaeurgaintaylor.com i weld ei ystod eang o waith.
Thu, 04 Nov 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchUn o'r bobl neisaf dwi erioed di gweithio gyda sydd ar y podlediad wythnos a chyflwynydd naturiol a thalentog. Rhydian Bowen Phillips sy'n trafod ei yrfa a'i waith, bod yn 'pop star' (Mega??) a phêl droed! Fe ges i gyfnod hapus iawn yn cyfarwyddo Planed Plant gyda Rhydian, a Lowri Morgan, Elen Pencwm, Alun Williams a Martyn Geraint ac eraill ac roedd hi'n bleser i siarad â Rhydian yn ystod y tywydd poeth yn yr Haf. Top man!!!!!
Thu, 28 Oct 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchNa, nid camgymeriad yw sillafiad cyfenw fy ngwraig gwadd wythnos hon, Mari Lovgreen. S'nam e!!!😂😂 Un o wynebau cyfarwydd S4C a lleisiau Radio Cymru yw Mari wrth gwrs, merch o Gaernarfon ac erbyn hyn yn byw yng nghanol y wlad. O Uned5 i Gefn Gwlad, mae Mari wedi cyflwyno amryw o bethau ac yn un o'r cyflwynwyr mwyaf naturiol a dawnus ar y sianel. Mae hi hefyd yn laff go iawn a ches i lot o hwyl yn ei chyfweld rhai misoedd yn ôl.
Thu, 21 Oct 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchPwy sy'n cofio gweld Emyn roc a rôl ar S4C? Neu Bob a'i Fam? Actores wych yw Delyth Eirwyn, neu efallai mai 'oedd' sy'n gywir erbyn hyn gan mai athrawes yw hi bellach. Cyfweliad wedi ei recordio yn ystod tywydd poeth iawn eleni ag ambell i hofrennydd neu feic modur yn y cefndir! Ha!! Recordio byw! Sgwrs ddiddorol am ei dyddiau cynnar yn actio a'i rhesymau dros newid gyrfa, 10 cwestiwn cyflym, a chwis bach! Ac os oes rhywun wedi gweld y ffilm sinema 'Arthur's Dyke', wel mae Delyth yn y ffilm honno! Ond i fi, 'Bob a'i fam' odd y gorau!
Thu, 14 Oct 2021 08:00:00 GMT
Chwarae Lawrlwythwch'Entrepreneur' go iawn sydd ar y podlediad wythnos hon. Yn wreiddiol o Aberystwyth, fe ddechreuodd Elinor Davies-Farn ei busnes, Olew ar fwrdd y gegin. Erbyn hyn, mae ei nwyddau ar gyfer gwallt cyrliog i fenywod a dynion yn gwerthu o gwmpas y byd ac ar lein ac yn Nubai roedd Elinor wrth recordio'r cyfweliad yma, a hithau yno yn sefydlu hwb gwerthiant a marchnata Olew......ac yn hynod o lwyddiannus! Merch hyfryd, ddiymhongar a gweithgar yw Elinor, yn angerddol am Gymru, yr iaith Gymraeg ar ei chynnyrch ac am chwifio'r faner dros y byd. Maint o arian oedd chanddi hi i fuddsoddi yn y busnes wrth iddi gychwyn ei thaith? £100 !!!!!!!
Thu, 07 Oct 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchO mam fach! Am wraig gwadd wythnos yma! Seren a seleb go iawn, Jenny Ogwen, brenhines y tywydd ar S4C am flynyddoedd ac un o fy hoff bobl erioed! Anaml iawn mae JO yn rhoi cyfweliadau erbyn hyn a dwi mor ddiolchgar iddi am ddod ar y podlediad a siarad mor agored am ei bywyd a'i gyrfa.....a sôn am storis!! I ddweud y gwir, ma'r bennod yma yn fwy fel sgwrs dros baned na chyfweliad a fi ddim yn meddwl mod i wedi mwynhau na chwerthin gymaint ers tipyn! Parch mawr i Jenny....DYMA beth yw cyflwynwraig!! A diolch o galon hefyd i fy ngwraig gwadd ddiwethaf, Rae Carpenter. Joiwch!
*chi bobl ifanc, cymerwch sylw o'r ddwy yma! Fe alle chi ddysgu lot!!!
Thu, 30 Sep 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae fy mhobl gwadd mor amrywiol ar y podlediad yma. Wythnos diwethaf, prif gwnstabl heddlu. Wythnos hon, cyflwynwraig, hyfforddwraig cadw'n heini a gwraig fusnes, Rae Carpenter, sydd yn siarad mor agored ag onest am ei bywyd. Beth wnaeth iddi benderfynu colli pwysau a chadw'n ffit? Sut mae hi yn medru helpu pobl i newid eu bywydau? Sut beth yw ei gwybodaeth hi am y corff? (cwis bach). Mae Rae yn un o dîm y gyfres deledu Ffit Cymru ar S4C erbyn hyn ond mae ei gyrfa wedi bod yn anhygoel o amrywiol! O ddifri!
Thu, 23 Sep 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchReit, bihafiwch wythnos yma! Diddordeb mewn plismona a bywyd plismon? Prif gwnstabl heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan yw fy ngŵr gwadd wythnos hon ar y podlediad. Gwr o'r gogledd yn wreiddiol, sy di dysgu Cymraeg (er fase chi byth yn dyfalu) ac erbyn hyn yn 'top dog' heddlu'r De. Ond sut fywyd yw bywyd plismon erbyn 2021? A sut mae e a'r heddlu yn gyffredinol wedi ymdopi yn ystod y cyfnod diweddar? Diolch i Jeremy am ei amser ac am fod mor onest a realistig yn ei atebion.
Thu, 16 Sep 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchGwraig arbennig iawn sydd yn sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. Ar ôl colli ei gwr Irfon i gancr y coluddyn, mae hi wedi ail gydio yn ei bywyd ac wedi helpu codi ymwybyddiaeth, pwysigrwydd a lot fawr o bres, trwy Team Irfon ag Awyr Las, tuag at y salwch difrifol. Fel nyrs arbenigol salwch meddwl mae Becky yn gweithio ac mae ei ysbryd, ei ynni, a'i hagwedd tuag at fywyd a marwolaeth yn ysbrydoledig! A choeliwch neu beidio, mae hi wedi dysgu Cymraeg!!! Sgerlsi bilîf!!! Diolch o galon i Becky am sgwrs onest a ddidwyll a diddorol, a diolch yn fawr hefyd i fy ngŵr gwadd wythnos diwethaf, Trystan Ellis Morris. Bois bach, dwi mor lwcus i siarad â'r bobl yma i gyd!
Thu, 09 Sep 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchGwr clên, diddorol, talentog a diymhongar sydd ar y podlediad wythnos yma ac un o'r cyflwynwyr mwyaf naturiol ar y teledu a'r radio. Trystan Ellis Morris sy'n siarad am ei yrfa, ei waith, ei salwch rhai blynyddoedd yn ôl, a byw yn Llundain.... (a wnewch chi sylweddoli pa mor agos i'r helipad mae o'n byw!). Mae Trystan hefyd yn ateb y 10 cwestiwn chwim ac yn trio ei orau i ateb 5 cwestiwn cwis am un o'i hoff bethau. Diolch Trystan a Diolch o galon eto i Gareth Potter am fod yn ŵr gwadd gwych wythnos diwethaf. Cofiwch wrando ar y penodau i gyd ar Spotify.
Thu, 02 Sep 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchDJ, actor, cerddor, cyflwynydd a chyn bo hir, 'tour guide' yng Nghaerdydd. Ie, mae bywyd a gyrfa fy ngŵr gwadd wythnos hon, Gareth Potter, yn un diddorol, lliwgar, dylanwadol a hwyliog. Wnes i fwynhau gymaint yn siarad â Gareth, sy di actio yn Eastenders, DJ'io yn Ibiza a chyflwyno ymhobman, ac sy 'di bod mor ddewr yn ddiweddar yn siarad am ei brofiadau personol. Anrhydedd yw nabod Gareth a phleser yw ei gael ar y podlediad. Diolch eto i bawb am wrando ac am adael adborth gwych a diolch o galon i'r wondyrfwl Nia Parry am fod mor wych ar y bennod ddiwethaf.
Thu, 26 Aug 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchBeth allai ddweud am fy ngwraig gwadd wythnos hon? Chwa o awyr iach ac un o'r bobl fwyaf positif, ffeind, talentog, hapus a brilliant dwi'n nabod. Neb llai na Nia Parry! Cyflwynwraig, cynhyrchydd ac athrawes Gymraeg, sydd â'r wên orau a'r agwedd orau. Ond oeddech chi'n ymwybodol o'i bywyd a'i gyrfa CYN iddi ymddangos ar y sgrin? Sgwrs naturiol yn llawn hwyl a syrpreisys, 10 cwestiwn chwim (atebion gwych) a chwis am Dwrci! (Bydd rhaid i chi wrando😉) Diolch yn fawr i Nia a diolch hefyd i rywun arall ffab, Emma Walford, am fod ar y bennod ddiwethaf.
Thu, 19 Aug 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae gen Emma Walford, sydd yn ôl bob sôn, o Glwyd 😂, y cyfan. Y lwcs, y dalent, y naturioldeb a'r cymeriad hoffus a doniol. Dwi wrth fy modd yn siarad â hi ar y bennod wythnos hon ac roedd hi'n donig go iawn. Sgwrs wych am ei gyrfa, Hotel Eddie, Eden, Priodas pum mil a llawer mwy, yn ogystal â 10 cwestiwn chwim, a chwis, am Glwyd! Sgwn i faint o'i hatebion oedd yn gywir!😉
Thu, 12 Aug 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchRheolwr lleoliad pentref Portmeirion. Dyna i chi job! Ac felly Meurig Rees Jones yw fy ngŵr gwadd ar Cymeriadau Cymru wythnos hon, sy'n sôn am ei swydd ddelfrydol, hanes y pentref, The Prisoner, Gŵyl rhif 6 a'r enwogion sy 'di bod yn ymweld â llawer, llawer mwy. Sgwrs ddiddorol gan ŵr sy'n mwynhau ei fywyd a'i gynefin, ac yn ei eiriau ei hun, ''I am Not a Number.. I'm a music fan!''
Thu, 05 Aug 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchSonia Williams sy'n rhedeg cwmni Hyder mewn lliw/Confidence in colour, sydd ar y podlediad tro yma. Yn ddynes busnes sy'n cynnig cyngor i fenywod ynglŷn â lliwiau i'w gwisgo, a steil, ma hi felly yn cyfrannu at hunan hyder ac yn codi calonnau ac ysbryd. Felly nid swydd o flaen camera neu feicroffon nag ar lwyfan, ond swydd bwysig ag amserol iawn yn ystod y cyfnod hwn. Hyfryd oedd cael clywed am ei gyrfa a'i gwaith ac mi roedd hi'n bleser siarad â hi. Un o 'gymeriadau Cymru' go iawn os chi'n gofyn i fi.
Thu, 29 Jul 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchYch chi wedi prynu neu weld y papur newydd The National Of Wales eto? Neu be am fod yn rhan o Yr Awr Gymraeg? Wel, sylfaenydd y ddau yw Huw Marshall a Huw sy'n trafod ei fywyd a'i yrfa a'i holl bortffolio o waith amrywiol ar y podlediad wythnos hon. Actor oedd Huw rhai blynyddoedd yn ôl ac erbyn hyn wedi ymgartrefi yng Nghwm Garw ac wedi neud gymaint dros yr iaith Gymraeg, ac mae ei yrfa yn amrywiol a lliwgar. Diolch Huw am y sgwrs ddifyr a diolch hefyd i Rhiannon Lewis, yr awdures, am fod ar y bennod ddiwethaf o Cymeriadau Cymru.
Thu, 22 Jul 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchAwdures sydd ar y podlediad wythnos hon. Rhiannon Lewis o Geredigion, sydd wedi ennill gymaint o glôd a sylw yn barod, am ei nofel gyntaf hi, sef My Beautiful Imperial, hanes Cymro Cymraeg o Aberteifi yn mynd yn gapten long ac yn teithio i Chile a De America. Dwi di darllen y llyfr fy hun ac ma hi'n wych!!!!! Os oes gyda chi ddiddordeb mewn llyfrau, sgrifennu a'r broses o sgrifennu, mae'r cyfweliad yma'n berffaith i chi! Diolch o galon i Rhiannon am fod mor onest am ei gyrfa a'i phroses hi o weithio fel awdures.
Thu, 15 Jul 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchY newyddiadurwraig a chyflwynwraig o Gaerdydd, Sara Gibson, sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. Pleser oedd cael ei hanes hi fel newyddiadurwraig gyda'r BBC, er erbyn hyn, mae hi wedi gadael y gorfforaeth ac wedi mentro i fyd y rhydd-gyfranwyr (Croeso Sara!).
Thu, 08 Jul 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchCyflwynydd Radio 1 a Radio Cymru Huw Stephens sydd ar y podlediad wythnos hon. Sgwrs ddiddorol a difyr gan y gwr o Gaerdydd ac ar ôl cyfarfod â Huw ar sin Maggi Noggi rhai blynyddoedd yn ôl, pleser odd cael sgwrsio am gerddoriaeth, y sin Gymraeg, Radio 1, cwis am Gaerdydd, dylanwadau a DJ'io (ie, fi'n gwybod😂). Diolch Huw! A diolch i'r awdures Marlyn Samuel Evans (Roberts) am fod mor ffab ar y bennod ddiwethaf.
Thu, 01 Jul 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchNes i byth feddwl fasen i yn cyfweld ag un o'n ffrindiau coleg ar gyfer y podlediad yma! Ond dwi mor falch i ni drefnu'r sgwrs hwyliog a naturiol yma gan yr awdures boblogaidd Marlyn (dim i-dot cofiwch 😎 ) Samuel Roberts, neu Evans erbyn hyn. Na chi ''gymêr'' go iawn! Yn wraig, mam, ymchwilydd gyda radio Cymru ac yn awdures ddawnus iawn, mae bywyd ar Ynys Môn yn sicr yn frysur ac mi ges i fodd i fyw yn sgwrsio gyda hi ac yn hel atgofion ac yn siarad am ei gwaith a'i dylanwadau. Roeddwn i'n GWYBOD mai awdures fyse hi!
Diolch i bawb eto am wrando ar y podlediad!
Thu, 24 Jun 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchWel, am 'treat' wythnos hon! Pwy sy'n cofio gwylio Sgorio, Pacio, Gwyllt ar Grwydr ar S4C, a Hot Houses ar BBC? A phwy sy'n cofio cyflwynwraig y rhaglenni hynny? Ie, y ffabiwlys Amanda Protheroe-Thomas sy'n sgwrsio â fi wythnos hon! Dyw Amanda ddim wedi bod ar ein sgrins ers rhai blynyddoedd bellach. Felly, beth mae di bod yn neud? Sut ddyddiau oedd ffilmio Pacio a nifer o gyfresi eraill? Beth mae di bod yn neud yn ddiweddar i gadw'n frysur? A beth yn y byd oedd hi'n neud yn gweithio gyda 'stingrays' gwyllt yn ynysoedd y Cayman? Y cyfan ar y bennod nesaf o CYMERIADAU CYMRU ar gael ar Spotify, Anchor, Apple casts, Breaker, Radio cast, Google pods a Y Pod Cymru.
Thu, 17 Jun 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchNa chi foi talentog sydd ar y podlediad wythnos hon! Phil (Phyl with a Y) Harries; actor, cerddor, cyfarwyddwr.....a pantomime dame! Mae Phyl wedi actio ar lwyfan ac ar gamera ar nifer o gynyrchiadau, ffilmiau a rhaglenni..o The Merry wives of Windsor i Pobl y Cwm, ac mae e hefyd yn gerddor gwych, yn chwarae nifer o offerynnau. Sgwrs ddiddorol, onest a difyr unwaith eto gyda 'cymeriad' go iawn. Diolch o galon i Delyth Jewell AS am fod yn wraig gwadd ac am ymateb ac adborth pawb. Chwiliwch am CYMERIADAU CYMRU ar nifer o lwyfannau podlediadau, gan gynnwys Spotify.
Thu, 10 Jun 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchGyda holl helynt yr etholiad tu cefn i ni, mae'n amser i gael croesawi Delyth Jewell, AS i'r podlediad wythnos hon. Recordiwyd y bennod rhai wythnosau cyn yr etholiad gydag Aelod Rhanbarthol Plaid Cymru ar gyfer Dwyrain De Cymru. Dwi wastad yn edmygu unrhyw wleidyddion; eu hangerdd a'u hymroddiad a'u gallu ac mae Delyth yn sicr yn un o sêr mwyaf dawnus y Senedd. Yn ogystal â hynny, mae Delyth yn gymeriad, yn ''haden'', yn berson deallus ac yn berson, wel.........neis! A wnes i wir fwynhau cyfweld â hi a chael bach o ''laff''! Joiwch y bennod!
Thu, 03 Jun 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchBach o 'class' ar y podlediad wythnos hon (er ma PAWB sydd ar Cymeriadau Cymru yn class wrth gwrs! 😉😉)....y gantores hyfryd a ffabiwlys Ellen Williams. Wnes i recordio ein sgwrs rhai misoedd yn ôl ac erbyn hyn, mae Ellen wedi rhyddhau sengl arall, ond hyfryd oedd cael siarad â hi a'i holi am ei dylanwadau, am gerddoriaeth ac am opera, ei gyrfa fel unawdydd ac yn canu gyda Athena...ac eto, mae'r 10 cwestiwn cloi/chwim yn ''revealing'' iawn! Diolch o galon Ellen ac ewch i'w safle we hi, sef www.ellen-williams.co.uk. Bois bach, fi wrth fy modd yn siarad â phobl talentog a gwych pob wythnos!
Thu, 27 May 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae'r artist (neu darlunydd) o Benllyn, Niki Pilkington ar y podlediad wythnos hon. Wedi byw a gweithio yn Los Angeles, Paris ac yn Efrog Newydd, mae Niki, bellach, nôl yn Llundain. Fase chi'n meddwl fod signal wi-fi Llundain yn un da....ond yn anffodus, na, d'oedd e ddim, ac ymddiheuriadau am hynny. Er hynny, gwych a lot o hwyl oedd cael sgwrsio â thalent fel Niki, sy di gwerthu eu gwaith i Top Shop, Ted Baker, Sir Paul McCartney ac ar lein dros y byd. Ewch i www.nikipilkington.com. Edrychwch a phrynwch! Wnes i adael y cyfweliad yn fwy positif ac ysgafn droed, a phleser oedd siarad â hi. Unwaith eto, un o gymeriadau Cymru go iawn!
Thu, 20 May 2021 08:00:00 GMT
Chwarae Lawrlwythwch''Tywysog Tik Tok Cymru'' sydd yn sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. Mae Ellis Lloyd-Jones yn gwneud tipyn o enw iddo'i hun ar y cyfryngau cymdeithasol a rhaglenni teledu ac mae ei gymeriadau a'i gynnwys yn ennill nid cannoedd, ond miloedd ar filoedd o ddilynwyr. Er hynny, mae Ellis yn ddigon dewr ag onest i siarad am ei fagwraeth anodd yn Nhreorci, ynglŷn â'i rhywioldeb ag ati. Felly pob parch iddo a phleser unwaith eto oedd cael siarad â, a chael bach o laff gyda rhywun dewr, doniol, ysbrydoledig a chreadigol. Ac i ni ddim wedi clywed diwedd Ellis Lloyd-Jones o bell ffordd!
Thu, 13 May 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchGyda'r etholiadau ar Fai'r 6ed, addas yw cael sylwebydd gwleidyddol ar y podlediad wythnos hon. Gwr ifanc, deallus, diymhongar o Lanelli â phen gwybodus iawn ar ei ysgwyddau. Theo Davies-Lewis, erbyn hyn, yw prif golofnydd y fenter newydd The National (a sefydlydd y fenter, Huw Marshall, fydd ar y podlediad cyn bo hir), ac yn ogystal â chyfrannu at bapurau a chylchgronau cenedlaethol, mae Theo a'i galon yng Nghymru ac yn cryfhau cysylltiadau Cymreig yn Llundain. Y tro cyntaf i mi gyfarfod â Theo oedd rhai blynyddoedd yn ôl pan ddaeth draw ata i am brofiad gwaith yn yr adran dywydd. Mae e 'di esblygu a datblygu tipyn ers hynny a braf oedd cael sgwrsio â'r gwr ifanc yma am wleidyddiaeth, Cymru, ei yrfa hyd yn hyn, Coleg Rhydychen a phob math o bethau! Wnes i rili fwynhau a gyda'r bennod yn dechrau ar ddiwrnod yr etholiadau, mae hon yn arbennig o ddiddorol.
Thu, 06 May 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchY gyflwynwraig, a'r gantores a pherfformwraig Lisa Angharad sy'n sgwrsio â fi wythnos hon. Cymeriad a hanner a gwd laff! Wrth recordio hwn, roedd Lisa yn feichiog, yn feichiog iawn! Erbyn hyn, ma hi'n fam ac felly llongyfarchiadau enfawr iddi hi!! Nes i wir fwynhau siarad gyda'r dalent yma ac i ni'n trafod ei gyrfa, gwaith, cabaret, musical theatre a beth fase hi yn mynnu mynd gyda hi ar yr ynys golledig! Ac mae'r ffaith fod 'na ambell i reg a 'Wenglish' go iawn yn y sgwrs yn ffantastig!😂 Go Lisa!!!
Thu, 29 Apr 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchAr ôl pennod boblogaidd o'r podlediad gyda'r Welsh Whisperer, dyma gymeriad, na....eicon arall o Gymru. Ie wir, cyflwynydd a dyn yr adar ei hun, Iolo Williams. Ma hon yn werth ei chlywed eto ac mae Iolo yn sgwrsio'n onest ac yn ddidwyll am ei yrfa, teledu a darlledu, cynhesu byd eang, coedwig genedlaethol, adar a natur a nifer o bethau eraill. Ac mae ei atebion i'r 10 cwestiwn chwim yn hynod o ddiddorol! Boi a hanner, a dwi'n ddiolchgar iawn i Iolo am ei amser a'i barodrwydd i siarad yn onest! Cofiwch wrando ar y penodau i gyd ar nifer o lwyfannau, gan gynnwys Anchor a Spotify.
Thu, 22 Apr 2021 08:00:00 GMT
Chwarae Lawrlwythwch''Cymeriad'' go iawn (un arall) sydd ar y podlediad wythnos hon. Ma neb yn gwybod ei enw, ond mae'r Welsh Whisperer wedi dod yn rhan o ddiwylliant Cymreig yn gyflym iawn ac yn apelio at pop oedran gyda'i ganeuon fel 'Ni'n beilo nawr', 'Cadw'r slac yn dynn' a 'Loris Mansel Davies'. Fe nes i gyfweld ag e rhai misoedd yn ôl ac felly pleser yw cael chwarae'r sgwrs ar y podlediad, i gyd-fynd â chyfres Mr Whisperer ar S4C. A gyda llaw, mae e di dod allan â chwrw Cymreig! GWD THING!👍👍🏴
Thu, 15 Apr 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchLowri Morgan yw fy ngwraig gwadd ar y podlediad wythnos hon. Rhedwraig, antur wraig, siaradwraig, awdures a chyflwynwraig! Super-woman Cymru! Dwi di bod yn lwcus iawn i weithio gyda Lowri rhai blynyddoedd yn ôl tra yn Planed Plant a dwi wastad wedi meddwl ei bod hi yn berson cryf, angerddol ac yn bleser i gael ar unrhyw dim. Ond maint ohonom ni oedd yn gwybod mai canu odd cariad cyntaf y ferch o'r Gwŷr? Gwrandewch ar ei stori a'i meddylfryd hi a diolch eto i bawb am wrando!
Thu, 08 Apr 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchPleser pur a lot o hwyl oedd cael cyfweld â Kristopher Hughes o Ynys môn ar gyfer y podlediad wythnos hon. Yn athro, awdur, technegydd clinigol, derwydd a 'drag cwîn' Kristopher yw, wrth gwrs, Maggi Noggi, brenhines drag Cymru, sy di dod yn rhan bwysig o arlwy S4C! Unwaith eto, cyfweliad diddorol, difyr, doniol, onest ac yn llawn syrpresis!!! Mae Kristopher yn ŵr hynod athrylgar a gwybodus ac yn un sy'n jyglo o leiaf 3 swydd wahanol...dwi di bod yn lwcus iawn i fod ar raglen deledu Maggi Noggi ond mi roedd hi mor braf gael siarad â'i chreuawdr hi!
Thu, 01 Apr 2021 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchNid Owain Gwynedd, y brenin hynafol sydd ar y podlediad wythnos hon (obvs) ond Owain Gwynedd, y cyflwynydd teledu ac un o'r bobl fwyaf diymhongar a 'neis' dwi'n i nabod. Dwi mor ddiolchgar i Owain am drafod pob fath o bethau yn ystod ein sgwrs dros zoom. Gyrfa, rygbi, gwaith a mater trist a phersonol o farwolaeth ei dad. Cyfweliad naturiol iawn, yn llawn hwyl ond hefyd yn un dewr iawn. Diolch Owain!👍👍 Ac os oeddech yn meddwl pa fath o 'showreel' odd gan y gwr o Borthmadog.....wel, gwrandewch ar y podlediad! 😂
Thu, 25 Mar 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchPwy wnaeth wylio Cân i Gymru eleni? Wel enillydd y gystadleuaeth sydd ar y podlediad wythnos hon.... Morgan Elwy Williams o Lansannan ac yn athro ffiseg! Job go iawn! Sgwrs am ei gerddoriaeth a'i ddylanwadau a'i brofiad ar lwyfan Canolfan y Mileniwm a hanes yr hogyn ifanc, diymhongar yma yn rhoi ei aren i'w chwaer fach! Parch!!!
Dwi wrth fy modd gyda'i gân fuddugol ''Bach o hwne'' ac mae albwm solo cyntaf Morgan, 'Teimlo'r Awen' allan ar ei label ei hun Bryn Rock Records. Yn ddigon rhyfedd, dyw safon y sain ar y sgwrs ddim yn y gorau weithiau (canlyniadau zoom dros y ffôn) ond nes i rili fwynhau! A dwi jyst methu stopio canu'r gân!!! ''Bach o bach o hwne, bach o bach o hwne......''🎸😎😎
Thu, 18 Mar 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchYn ystod wythnos ryngwladol menywod mae di bod yn fraint cael yn gyntaf, Beti George ar y podlediad, ac wythnos hon, Hanna Hopwood, y ddwy mor ffab a'i gilydd!! Ma Hanna yn fam frysur gyda dau o fechgyn bach ond yn ffeindio'r amser i ddarlledu nid yn unig ar Radio Cymru, ond gyda'i phodlediad a'i chynnwys ar Instagram, gyda 'Gwneud bywyd yn haws'. Ma hi yn cynnig pob MATH o bethau i wneud i ni wenu, i fod yn bositif, i beidio â bod yn rhy galed ar ein hun, ac yn syml, gwneud bywyd yn haws, a ninnau ynghanol y cyfnod clô anodd yma. Felly roedd hi'n hyfryd cael sgwrsio â dwy ''fenyw a hanner'' yn ddiweddar; y 'lejynd' Beti George a'r 'lejynd' Hanna Hopwood. Joiwch a diolch i bawb eto am wrando!
Thu, 11 Mar 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchMa' phob un sy'n dod ar y podlediad yma yn arbennig wrth gwrs, ond mae'r wraig gwadd wythnos hon yn 'spesial'. ''Lejynd'' yw Beti George sy wrthi'n darlledu ac yn cyflwyno ers cryn dipyn ac yn rhan bwysig iawn o fyd darlledu yn y Gymraeg. Mae Beti (a dwi'n cael ei galw hi yn Bet, neu BG 😁 ) yn rhan bwysig iawn o'm mywyd a fy ngyrfa i, ers i fi fynd i weithio i gwmni Merlin gyda hi a David Parry-Jones a Peter Walker yn 1987, ac roedd hi yn anrhydedd cael sgwrsio â hi yn ddiweddar ar gyfer y podlediad hwn. Nerfus? Oeddwn!!!😂😎 Joiwch!
Thu, 04 Mar 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchCyfweliad a hanner wythnos hon! ''Cymraeg, ffeminist a phesimist'' (ei geiriau hi) Elliw Gwawr sy'n darlledu ar y teledu a'r radio am faterion seneddol a gwleidyddol yn San Steffan. Yn ogystal â hynny, mae hi hefyd yn sgrifennu llyfrau coginio ac yn fam frysur i ddau o fechgyn bach. Pleser oedd cael siarad â hi yn ddiweddar, dros zoom wrth gwrs, a fe nes i rili fwynhau ei chwmni (yn rhithiol). Sgwrs am wleidyddiaeth, darlledu, coginio, yr iaith Gymraeg, a chyfle i ddysgu lot fwy amdani drwy ofyn y 10 cwestiwn chwim! Mwynhewch y sgwrs, ac eto, cofiwch i wrando ar y penodau eraill sydd ar gael ar nifer o lwyfannau amrywiol.
Thu, 25 Feb 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchUn o wynebau cyfarwydd arall S4C a'r BBC sydd ar y podlediad wythnos hon. Rhodri Owen, sydd wrthi'n cyflwyno ers cryn dipyn wrth gwrs ac erbyn hyn, yn un o gyflwynwyr Prynhawn Da a Heno. Ond maint ohonom oedd yn gwybod mai actor oedd Rhodri i gychwyn arni, cyn mynd ymlaen i gyflwyno cyfresi fel Holiday a Wish you were here? Wel, sgwrs gwbl hyfryd arall yw hon (er anwybyddwch safon cysylltiad y wi-fi ambell waith!), gydag un o'r bobl fwyaf profesiynnol a medrus ar y bocs, yn y ddwy iaith! Ac unwaith eto, mae atebion y 10 cwestiwn cloi yn adrodd cyfrolau!! Pob hwyl i chi a diolch eto am wrando.
Thu, 18 Feb 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchUn o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C sydd ar y podlediad wythnos hon. Un o'r cyflwynwyr a darlledwyr mwyaf naturiol ac un o'r bobl ''ffeina'' a ''genuine'' fi erioed wedi cwrdd. Siân Thomas, erbyn hyn wrth gwrs, yn gyflwynwraig ar Prynhawn Da ond hi, gyda Robin Jones a Rowena Morgan, oedd un o leisiau ac wynebau cyntaf y sianel, nol yn 1982. A thybed maint ohonoch oedd yn gwybod mai archeolegydd odd Siân am fod tra yn yr ysgol? Sgwrs gwbl, gwbl hyfryd gyda Siân a ches i'r fraint o'i holi, a chael lot o hwyl. Clywch allan am y cwestiynau cyflym ac ambell i gwestiwn bach digon rhyfedd! (er ma Siân yn delio â nhw i gyd yn broffesiynnol fel arfer!). Diolch am wrando!
Thu, 11 Feb 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchBetsan Haf Evans sydd ar y podlediad wythnos hon. Perfformwraig a chyfansoddwraig sydd wedi bod yn sawl band gwahanol ac erbyn hyn, yn canu gyda band Pwdin Reis. Sgwrs hwyliog am gerddoriaeth a bandiau a'r busnes cerdd....ond sgwrs naturiol ag onest iawn yw hon yn trafod diffyg hyder, rhywioldeb, y sin roc Gymraeg, Cân i Gymru.....a thenis! O, a 10 cwestiwn cyflym i Betsan sy'n dweud lot amdani hi! Ffantastig o sgwrs eto gyda 'cymeriad' go iawn a chofiwch chwilio am gerddoriaeth Pwdin Reis ar Spotify (yn syth ar ôl gwrando ar y podlediad yma wrth gwrs 😂😎
Thu, 04 Feb 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchBrenhines y tywydd sydd gyda fi wythnos hon yn wraig gwadd...pwy arall ond Siân Lloyd!? Mae Siân a fi yn mynd nôl flynyddoedd a ma hi yn chwa o awyr iach! Cyflwynwraig, personoliaeth a chefnogwr brwd o Gymru, yr iaith, diwylliant a bwydydd Cymru..ac mae 'na tipyn mwy i Siân na chyflwyno'r tywydd coeliwch chi fi. Dros zoom yn ddiweddar, o'i chartref yn y Canolbarth, (ac mae'r wi-fi bach yn rhyfedd weithiau) roedd hi'n bleser cael sgwrs gyda hi. Mae hi yn dweud ei dweud, yn rhoi ei barn ac yn onest yn y cyfweliad yma a dyna beth sy'n ei gwneud hi mor ffabiwlys!!
Thu, 28 Jan 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae fy ngwraig gwadd wythnos yma yn gymeriad go iawn. Merch hynod dalentog a diymhongar, 'laff' go iawn, o Griccieth, ond yn canu ac yn perfformio nid yn unig yn Gymraeg ac yn English, ond......wait for it, yn ieithoedd Hindi a Punjabi!!!!! Mae Nest neu 'Nesdi' wedi dod yn enw mawr ym myd cerddoriaeth Bhangra yn India ac yn recordio ac yn perfformio'n gyson. Mae ei stori yn anhygoel o feddwl mai canu yn y capel a'r Eisteddfod oedd hi i gychwyn, ac yn sicr, mae 'na ffilm Hollywood yn f'anna yn rhywle! Ta beth, pleser oedd cael cyfweld â hi yn ddiweddar dros zoom. Mwynhewch ei stori a mwynhewch y deg cwestiwn cyflym (quick fire) nes i ofyn iddi...rhywbeth newydd i Cymeriadau Cymru!
Thu, 21 Jan 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchReit, maint ohonoch chi'n gwylio 'Great british bake off'? Cofio 2019 a'r Gymraes o Sir Gâr, Michelle Evans-Fecci? Wel, dyna pwy sydd ar y podlediad wythnos hon! Pleser mawr oedd siarad gyda Michelle, eto dros zoom, tua diwedd 2020, a phleser odd clywed am ei gyrfa, ei angerdd am bobi, coginio a bwyd yn gyffredinol, ac wrth gwrs, am ei hamser ar y gyfres deledu. Mae ei bywyd wedi newid yn sylweddol ers iddi ymddangos ar y gyfres, ac er iddi adel ar ôl 5 wythnos, mae ei hwyneb a'i llais wedi dod yn adnabyddus a'i phroffil wedi codi! Nes i rili fwynhau siarad â Michelle a fi'n meddwl nawn ni glywed lot mwy amdani. Diolch i bawb am wrando eto a chadwch yn ddiogel.
Thu, 14 Jan 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchInvictus, Justice League, Stella a Caerdydd. Beth sydd yn gyffredin i rhain? Yr actor o Sir Fôn, Julian Lewis Jones wrth gwrs, sy'n wr gwadd wythnos hon, i gychwyn tymor newydd o bodlediadau yn y Gymraeg! Sgwrs yn ystod cyfnod clô yn 2020 (chi'n cofio'r flwyddyn honno?) a chyfle i glywed straeon am ei waith fel actor, gyda Matt Damon a Clint Eastwood, ei yrfa a'i Gymreictod, yn ogystal a'i obsesiwn, pysgota. Diolch i Julian am ei amser a diolch iddo am ddod yn lysgenhadwr ar gyfer elusen Prostate Cymru.
Thu, 07 Jan 2021 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchI orffen y flwyddyn ar nodyn bositif (ac mae angen bod yn bositif ar ôl 2020), fy ngwraig gwadd wythnos hon yw'r entrepreneur a ''social butterfly'' Shoned Owen, neu i rai, Tanya Whitebits! Yn llwyddiannus dros ben gyda'i chwmni cynnyrch tan ffug a nifer o bethau eraill, Shoned yw un o'r pobl mwyaf positif, hapus, mentrus a chefnogol allwch chi gyfarfod. 'Cymêr go iawn'! Dwi mor lwcus i nabod Shoned a phleser oedd cyfweld â hi ar gyfer podlediad olaf 2020, yn trafod ei gyrfa, ei chwmni, ei gobeithion ac ambell i dip ar sut i gadw'n bositif. Cofiwch, mae'r podlediadau i gyd ar gael ar nifer o lwyfannau amrywiol a diolch o galon i bawb am wrando ac am yr adborth gwych! Fydd na rhifyn arall yn dechrau ar y 7fed o Ionawr 2021! NADOLIG LLAWEN I CHI GYD AC CHADWCH YN DDIOGEL!
Thu, 24 Dec 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchUn o bois y werin yw'r gwr gwadd ar y podlediad wythons hon. Un o'r pobl ffeina erioed ac un o'r cyflwynwyr mwyaf naturiol ac apelgar ar S4C. Ai ffermio oedd ei freuddwyd yn fachgen? Ai Ifan yw'r ''Dai Jones'' nesaf? Sgwrs hyfryd a diddorol gyda Ifan Jones Evans. A diolch i bawb eto am wrando ar y sgwrs gan Nerys Howell wythnos diwethaf a Carwyn Jones yr wythnos flaenorol.
Thu, 17 Dec 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchPwy sy'n hoffi bwyd a choginio a'r diwydiant fwyd? Fy ngwraig gwadd arbennig wythnos hon yw'r cogydd, awdur, cyflwynydd a gwraig fusnes Nerys Howell. Fel bach o 'nympty' anwybodus am fwyd yn gyffredinol, nes i ddysgu tipyn am yr holl fyd tra'n cyfweld â hi yn ddiweddar a mae Nerys yn engraifft berffaith o rhywun proffesiynnol a phrofiadol a thalentog sy' di' addasu ei sgiliau i'r byd digidol a rhithiol. Er, sdim ots pha mor dda ma hi yn coginio ac yn cyflwyno am fwyd.......bara lawr?????? Dim diolch!!🙄🙈😱 Diolch i bawb eto am wrando yn wythnosol ar y podlediad.
Thu, 10 Dec 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchNôl I wleidyddiaeth wythnos hon a thro'r Blaid Lafur gyda chyn prif weinidog senedd cymru Carwyn Jones. Ar ôl bron i ddeng mlynedd yn y swydd, mae e'n parhau i fod yn aelod o'r senedd ond erbyn hyn, wedi mynd yn ôl at y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi ysgrifennu ei hunan gofiant ac yn ymddiddori yn ngwleidyddiaeth a materion yn ymwneud â Chymru a'r Blaid Lafur. Diddorol yw clywed ei farn am annibynniaeth i Gymru, rôl y Senedd, cyn arweinwyr cenedlaethol y Blaid, ei swydd ddelfrydol ac effeithiolrwydd prif weinidog Cymru ar hyn o bryd. Cofiwch wrando ar y rhif arbennig yma a'r gyfres i gyd ar nifer o lwyfannau amrywiol, gan gynnwys llwyfan @YPOD sy'n rhoi sylw i nifer fawr o bodlediadau yn y Gymraeg.
Thu, 03 Dec 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchNid 'cymeriad' yn unig sydd ar y podlediad wythnos yma, ond eicon, lejynd go iawn. Martyn Geraint, sy' di bod yn diddanu plant ac oedolion Cymru ers 30 blynedd ac wedi ennill ei le yn hanes ac yng nghalonnau miloedd o blant. Yn gerddor, yn gyfansoddwr, yn awdur ac actor yn ogystal â chyflwynyddd teledu wrth gwrs, dwi'n nabod MG ers blynyddoedd bellach ac yn browd iawn i'w alw'n ffrind. Golffio, golygu video a garddio sy 'di bod yn cadw Martyn yn gall ac yn frysur dros yr Haf eleni ac roedd hi'n bleser cael cyfweld â fe unwith eto dros zoom. Ond maint ohono chi oedd yn gwybod ei fod wedi actio gyda Dr Who! 🤔😱 Onest! Afal, oren...banana!!!!!!! Mwynhewch a diolch i bawb am wrando!
Thu, 26 Nov 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchComedïwr, sgriptiwr, athrylyth(!)....ac all round top bloke. Daniel Glyn, fy ngwr gwadd ar Cymeriadau Cymru wythnos hon. Ma nifer o Gymry Cymraeg yn adnabod Dan wrth gwrs a nifer wedi mwynhau ei gomedi ar lwyfan ac ar y sgrin; ond beth yn hollol yw ei ddylanwadau, beth yw ei berthynas â'r iaith Gymraeg, sut brofiad odd rhedeg sianel deledu, a pha jôc ganddo sy di derbyn cwynion? 😂😂 Roedd hi'n bleser cael cyfweld â Daniel dros Zoom yn ddiweddar ac yn chwa o awyr iach. Oes, mae na ambell i rhêg wythnos hon, ond dyna be sy'n dda am effing podlediadau! Mwynhewch, gwenwch a chofiwch fod Cymeriadau Cymru ar gael ar nifer o lwyfannau.
Thu, 12 Nov 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchPleser pur oedd cael cyfweld âg Adam Price, arweinydd Plaid Cymru ag ysgolhaig......a boi 'ffein''. O'i fagwraeth yn Sir Gâr i'r Ty cyffredin, ac o Harvard yn yr UD i'r Senedd ym mae Caerdydd, mae Adam yn un o'r gwleidyddwyr mwyaf adnabyddus ag uchel ei barch. Ond mae na elfen o 'rebel' ynddo hefyd! Yn ddiolchgar iawn iddo, ac i Nia, am ei amser, yn ystod cyfnod prysur a chythryblus. Cofiwch i wrando ar y podlediad ar eich llwyfan arferol a rhowch wybod i fi!
Thu, 05 Nov 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchCarys Eleri, neu duwies Cariad yn ôl hi 😍😂 sydd ar y podlediad wythnos hon. Actores a chantores ac 'all round entertainer', mae sioe unigryw Carys, sef Lovecraft (not the sex shop in Cardiff) wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac wedi cadarnhau mai hi yw un o actoresau mwyaf talentog Cymru! Yng nghanol yr holl gyfnod clo a'r pandemic, sut ma hi 'di ymdopi a sut ddaeth hi i fod yn un o gymeriadau mwyaf 'Parchus' ar y teledu? (jiw, ddylien i neud hyn yn broffessiynnol). Joiwch stori'r ''haden'' yma o Sir Gâr.
Thu, 29 Oct 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae Aled Hall, yn ogystal â bod yn ganwr opera adnabyddus, poblogaidd a thalentog, yn wr bonheddig, ac heb os na onibai, yn 'gymeriad'! ''Strab'' fel ma nhw'n dweud yng ngorllewin Cymru. Mae ei fyd a'i fywyd beth bynnag, wedi newid a thrawsnewid yn gyfangwbl, yn dilyn y pandemic, a'i holl waith fel canwr, wedi dod i ben. Er hynny, ma Aled yn gymeriad sy'n ymdopi ac yn delio â'r sefyllfa yn arbennig o dda, ac odd hi'n fraint cael siarad â fe yn ddiweddar, dros zoom (a falle glywch chi ambell 'i ''glitch'' technegol oherwydd signal gwan), a chael y cyfle i ofyn am ei yrfa, am opera, am ffotograffiaeth ac am sut mae natur a byd gwledig wedi ei helpu. A chi'n gwybod pha amser mae e'n codi'n y bore? 4:30!!!!!!
Thu, 22 Oct 2020 08:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchNid llawer o bobl ac yn sicr nid llawer o ffermwyr sy'n creu gymaint o newyddion ag ymateb â Gareth Wyn Jones. Yn ffermio o gwmpas Llanfairfechan yng Ngogledd Cymru, mae Gareth wedi dod yn gymeriad go iawn; weithiau'n codi gwrychyn, weithiau yn derbyn 'abiws' ac weithiau yn ennill clôd ac edmygedd. Beth bynnag barn pobl am Gareth, mae ei angerdd a'i ymrwymiad tuag at amaethyddiaeth, natur, ffermio, cefn gwlad a Chymru BYTH o dan unrhyw amheuaeth. Mwynhewch ei stori a chofnod ei fywyd yn y drydedd rhaglen yn y podlediad Cymraeg newydd yma.....a chofiwch, be bynnag gwnewch chi, os fyddwch chi yn cerdded ar hyd llwybrau neu try caeau ar dîr Gareth, caewch y f****n giât!!!😂
Thu, 15 Oct 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchBisâr, swreal, clyfar, doniol, deallus. Boneddigion a boneddigesau....Y comediwr, Noel James! Dylanwadau comedi, stâd comedi Cymraeg, Britain's got talent, cerdd fach i Max Boyce (nid i wrandawyr sensitif 😂)......a llawer, llawer mwy! Cyfweliad hilariws gydag un o gomediwyr mwyaf unigryw Cymru, os nad y byd, sydd ag awydd dechrau clwb pobl sy'n dweud ''yli''. 😂😂😂
Thu, 08 Oct 2020 09:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchCYMERIADAU CYMRU