Yn y podlediad mabwysiadu hwn, mae grŵp o fabwysiadwyr yn siarad â'i gilydd am eu profiadau - o'r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu.
Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y recordiad ond o fewn eiliadau bydd fel gwrando ar hen ffrindiau'n siarad. Maen nhw'n chwerthin gyda'i gilydd, maen nhw'n crio gyda'i gilydd.
I ddarganfod mwy am fabwysiadu gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gallwch:
Ddilyn ni @nas_cymru a @nationaladoptionservice
Cysylltwch â ni adoptcymru.com
Gwefan: Dweud y gwir yn blaen: straeon mabwysiadu
Mwy o bodlediadau Sioeau Ffeithiol
Yn y rhifyn hwn, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am y cymorth sydd ar gael ar ôl i'r broses baru gael ei chwblhau, a’r rôl y mae gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau mabwysiadu yn ei chwarae ym mywydau teuluoedd mabwysiedig.
Sat, 12 Dec 2020 23:45:15 +0000
Yn y bennod hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am sut wnaethon nhw ddatblygu perthynas glos gyda’u plant. Sut ydych chi’n sicrhau bod eich plentyn mabwysiedig yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo cariad, a pha mor hir cyn i chi wybod mae beth rydych chi’n neud yn gwneud gwahaniaeth.
Sat, 28 Nov 2020 23:45:19 +0000
4. Yn y bodlen hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am yr wythnos gyntaf treulio’n nhw gyda’u plant a’r realiti eu bod nhw bellach yn rhieni.
Sat, 14 Nov 2020 23:45:18 +0000
3. Mae'r bennod hon yn ymwneud ag un o rannau mwyaf emosiynol dwys y daith: paru plant â'u teuluoedd newydd. A oes y fath beth â'r ffit berffaith?
Sat, 31 Oct 2020 23:45:11 +0000
Yn yr ail bennod, mae ein mabwysiadwyr yn trafod eu profiadau o gael eu hasesu a’r broses gymeradwyo. Maen nhw'n sôn am y pwysigrwydd o sefydlu perthynas gadarn gyda’ch gweithiwr
cymdeithasol- a pheidio mynd mewn panig i lanhau'r tŷ! Bydd y sgwrs hefyd yn troi at rai o’r sialensiau gawson nhw o geisio cyflawni’r broses trwy gyfrwng y Gymraeg.
Sat, 17 Oct 2020 22:45:15 +0000
1. Yn y bennod gyntaf fe ddown i i gwrdd â'n mabwysiadwyr wrth iddyn nhw ddod i nabod ei gilydd dros baned rhithiol! Maen nhw'n sôn am eu rhesymau dros fabwysiadu ac fe fyddwn yn dilyn eu hynt a'u helynt wrth iddyn nhw wynebu rhai o ragdybiaethau mabwysiadu, yn enwedig fel dyn hoyw a mam sengl.
Tue, 13 Oct 2020 22:45:18 +0000