
Be di'r Hanes... Iwan a Rhys
Be di hanes Be Di'r Hanes? Iwan Pitts a Rhys Iorwerth sy'n trafod y gyfres hanes wedi'w animeiddio - Be di'r Hanes?
Mon, 09 Mar 2020 13:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Actio Ambwyti
Yw bywyd actor yn siampên, carped coch a minglo 'da selebs i gyd? Neu yw e mwy fel tempio, takeaways a chadw’r cyfrif banc mas o’r coch? Yn y podlediad yma mae’r actorion, a dau o wynebau cyfarwydd Hansh, Iestyn Arwel a Geraint Rhys Edwards yn camu bant o’r llwyfan a thu ôl y llen i drafod realiti’r byd actio.
Ma’ nhw’n trafod auditions gwael, bywyd mewn coleg drama a pham dyle Geraint byth drin eich traed.
RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a chynnwys sydd ddim yn addas i blant.
Wed, 05 Feb 2020 12:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

High & Dry gyda Iwan a Sion
Iwan Fon a Sion Gwyn yn trafod syt mae'r her 'High and Dry' yn mynd!
Dros y mis diwethaf mae nhw a grwp o ffrindiau wedi bod yn codi arian i Tim Achub Mynydd Llanberis wrth drio dringo y nifer uchaf o droedfeddi a maent yn medru ei wneud fel grwp dros fis!
Thu, 30 Jan 2020 17:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Gweledigaethau 2020
Blwyddyn Newydd dda a chroeso i bodlediad cyntaf Hansh yn 2020. Be chi’n edrych ‘mlaen ato dros y flwyddyn nesaf? Ymunwch â Miriam, Tom a Sam a’u gweledigaethau am bob dim 2020. Ma’ nhw’n trafod ffilmiau, teledu, Olympics, Euros, Glastonbury a phwy fyddai’n chwarae Miriam mewn ffilm. Ydych chi’n cofio pryd ddaeth yr iPad allan? Neu Pokémon GO? Ma’ nhw hefyd yn edrych nôl ar eu hoff a’u cas bethau o’r ddegawd ddiwethaf a beth i’w ddisgwyl o’r ddegawd newydd sbon. RHYBUDD: YN CYNNWYS IAITH GREF.
Fri, 17 Jan 2020 09:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

HMS Morris yn Japan... Heledd a Rhys yn trafod
Heledd Watkins o HMS Morris a Rhys Gwynfor yn trafod taith ddiweddar HMS Morris i Japan, oedd digwydd bod yn cyd fynd a Chwpan Rygbi'r Byd.
Hefyd yn cael ei drafod, cathod, bwyd, ac ychydig bach am goed Nadolig.
Mon, 25 Nov 2019 17:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Calan Gaeaf Gareth a Rhys
Mae'n wythnos Calan Gaeaf! Dyma Gareth yr Orangutan a Rhys Gwynfor i drafod diwrnod mwya sbwci y flwyddyn!
Cofiwch wylio gig HyWelsh ar Facebook Hansh yn fyw Nos Iau am 7.
Tue, 29 Oct 2019 13:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Dreigiau Digartref (Osian a Geraint)
I gyd fynd efo'n ffilm 'Dreigiau Digartref' dyma podcast diweddara HANSH, lle mae Geraint Iwan yn sharad efo Osian Lloyd, a oedd yn chwarae dros Gymru yng Ngwpan Digartrefedd Y Byd.
Fri, 18 Oct 2019 17:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Iawn Jonis?....Y Podlediad
Iawn Jonis? Meddwl bod chi’n gwbod bob dim am iechyd rhyw? Faint o STIs chi’n gallu enwi? Chi’n mynd am check-up yn rheolaidd? Yn y podledid hwn ma’ Ffraid sôn wrth Sam am ei anturiaethau diweddar i weld faint ma’ bobl ifanc Cymru yn gwbod am iechyd rhyw. Ma’ nhw’n trafod be i ddisgwyl yn y GUM clinig, pam bod e ddim yn embarrassing i gael check-up ac ar ôl i chi gal eich testio pam fod cael STI ddim yn ddiwedd y byd.
RHYBUDD - Mae’r podlediad hwn cynnwys iaith gref a thrafodaeth am ryw allai fod yn anaddas i blant.
Tue, 15 Oct 2019 00:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Ffanibowan: Amser 'Na O'r Mislif
Ma’ Ffanibowan yn ôl a’r tro hwn maent am drafod y diafol yn dod am de, cyfnod y blodau a mis baner Siapan. Ma’ Heledd a Mari Elin yn trafod pob peth mislifaidd: Pam mae cymaint o dabŵ o amgylch siarad am y mislif? Beth chi’n neud os chi’n ‘Steddfod heb y cynnyrch cywir? Sut mae bod yn wyrdd yn ystod yr amser ‘na o’r mis? Mae’r ddwy yn rhannu profiadau personol, ffeithiau ysgytwol ac yn trafod y cynnyrch ecogyfeillgar diweddaraf i’r rhai ohonom sydd ddim am niweidio’r blaned.
Mon, 09 Sep 2019 15:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Eistwebfod 2019 gyda Aled ac Adam
Yn (beth sy'n debygol o fod) y podlediad eisteddfod llwyr ddigidol gyntaf erioed, ma’ Aled Illtud ac Adam Gilder yn agor gatiau Eistwebfod 2019. Y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol fydd ei maes, pafiliwn a’u horielau; a ma’ nhw’n dathlu’r goreuon yn y byd digidol. Pwy fydd yn ennill y goron? Pam na dyle Garfield gael gwahoddiad i’r pafiliwn? Ac a dyle pwyllgor yr Eistwebfod neud fel Belle Delphine a gwerthu dŵr bath Dewi Llwyd i godi arian? Bydd Aled ac Adam yn rhoi croeso cynnes Cymreig i’r memes mwyaf dank a chynnwys mwyaf fiery y byd digidol.
RHYBUDD - Yn cynnwys iaith gref a themâu sydd yn anaddas i blant.
Is (what's likely to be) the first ever digital eisteddfod podcast, Aled Illtud and Adam Gilder open the gates of Eistwebfod 2019. The internet and social media are their maes, pavilion and galleries; and they’ll be celebrating the best the digital world has to offer. Who will win the crown? Why shouldn’t Garfield get an invite to the pavilion? And should the Eistwebfod take inspiration from Belle Delphine and sell Dewi Llwyd bath water to raise money? Aled and Adam give a warm Welsh welcome to the dankest memes and the most fiery content in the digital world.
WARNING - Contains strong language and themes unsuitable for children.
Mon, 05 Aug 2019 12:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Cymru Wyllt: Mari a Geraint
Geraint Iwan sy'n holi Mari Huws, y ffilmwneuthurwr ifanc, sydd yn trafod y ffilm ddogfen newydd Wythnos Yng Nghymru Wyllt, ffilm sy'n dilyn taith Mari i galon Ceredigion i ddarganfod mwy am y prosiect dadleuol sydd ar gychwyn yno i adael 10,000 hectar o'r tir fynd nôl yn wyllt.
Gwyliwch y ffilm yma - https://youtu.be/-0gXEKlm8FU
Mon, 22 Jul 2019 15:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Clwb 26-30 Mir a Tom: Mooncups, Mêl a Malu Cachu
Croeso i Glwb 26-30 Mir a Tom! Yn y podlediad hwn bydd Tomos Dafydd a Miriam Isaac yn trafod penblwyddi trychinebus, gwyliau cerdd yr haf ac enwau babi rhyfedd. Pam fod Miriam yn cysgu gyda chyfrifiannell? Beth oedd Bryn Terfel yn meddwl o Tomos? A beth sydd yn gyffredin rhwng Love Island a Golden Balls? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi a themâu sydd yn anaddas i blant.
Welcome to Mir and Tom’s Club 26-30! In this podcast, Tomos Dafydd and Miriam Isaac discuss bad birthdays, this summer’s music festivals and weird baby names. Why did Miriam sleep with a calculator? What does Bryn Terfel think of Tomos? And what do Love Island and golden Balls have in common? WARNING: Contains swearing and themes not suitable for children.
Wed, 10 Jul 2019 16:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Genod Gwaedlyd
Croeso i gwrt y Genod Gwaedlyd! Yn y podlediad hwn bydd Hanna Jarman a Mari Beard, ysgrifenwyr Merched Parchus a connoisseurs y byd gwir drosedd, yn trafod sut nath serial killers ysbrydoli nhw i ysgrifennu’r gyfres. Mae’r pynciau eraill yn y doc yn cynnwys: Pa bodlediadau gwir drosedd dyle bod chi’n gwrando arno, pam fod Ted Bundy yn gymaint o sylwhead a pam fod Florida mor weird? *RHYBUDD *- yn cynnwys iaith gref a themâu sydd yn anaddas i blant.
Merched Parchus ar S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/800935541
Introducing the Genod Gwaedlyd! In this podcast Hanna Jarman and Mari Beard, writers of Merched Parchus and connoisseurs of the true crime world discuss how serial killers inspired them to write the series. Other subjects in the dock include: Which true crime podcasts should you be listening to, why was Ted Bundy such a sylwhead and why is Florida so weird? WARNING - contains strong language and themes not suitable for children.
Merched Parchus on S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/800935541
Mon, 10 Jun 2019 16:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Elena Cresci: Muay Thai ar y meddwl
Yn y podlediad hwn bydd Miriam Isaac yn sgwrsio gyda’r newyddiadurwr Elena Cresci am ei siwrnai chwyldroadol o’r ystafell newyddion i’r cylch bocsio Muay Thai. Mae Elena yn sôn am beth yrrodd hi i drawsnewid o nofis dibrofiad i ennill yn y cylch; sut mae bob cic a bob dyrniad yn helpu iddi frwydro salwch meddwl; a’u breuddwyd o gerdded allan i’r cylch i gerddoriaeth Dafydd Iwan!
RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi a themâu sydd yn anaddas i blant.
In this podcast Cai Morgan chats to journalist Elena Cresci about stepping out of the newsroom and into the Muay Thai boxing ring. Elena discusses what drove her to transform from an inexperienced novice to winning in the ring; how each punch and kick help Elena battle her mental health issues; and her dream of walking out to the ring to the tune of Dafydd Iwan!
WARNING: Contains swearing and themes unsuitable for children.
Mon, 13 May 2019 12:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Esyllt Ethni-Jones yn cyflwyno: Iwan a Rhianna
Helo! Iwan Pitts sydd yn holi Rhianna Loren am y cymeriad boncyrs Esyllt Ethni-Jones. Pwy, pam, sut?!
Thu, 25 Apr 2019 17:30:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

HIV, PrEP a Fi....Stori Guto
Yn y podlediad hwn bydd Cai Morgan yn sgwrsio gyda Guto Rhun ynglŷn â'i siwrnai o Fachynlleth i Gaerdydd; wrth iddo ddysgu am bwysigrwydd iechyd rhywiol, dod wyneb yn wyneb a HIV a sut mar’ cyffur PrEP wedi newid ei fywyd.
RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi, cyfeiriadau at ryw a themâu sydd yn anaddas i blant.
Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn y podlediad, cliciwch yma: http://www.s4c.cymru/cy/cymorth
In this podcast Cai Morgan chats to Guto Rhun about his journey from rural Machynlleth to the bright lights of Cardiff; as he learns about the importance of sexual health, comes face to face with HIV and talks about how the drug PrEP changed his life.
WARNING: Contains swearing, sexual references and themes unsuitable for children.
For more information about the topics discussed in this podcast, click here: http://www.s4c.cymru/en/help
Tue, 09 Apr 2019 16:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Ffwtbol, Rygbi a Llanrwst: Caryl a Geraint a chwestiynau mawr Cymru
Mae Geraint Iwan yn holi Caryl Angharad am y de a’r gogledd, be di chwaraeon cenedlaethol Cymru, David Beckham a char James Bond. Rhybudd – yn cynnwys rhegi.
Thu, 21 Mar 2019 12:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Aled ac Adam: Memes Gorau 2018
Aled Illtud ac Adam Gilder sy' wrth y llyw y tro yma yn edrych nôl ar memes gorau 2018. Pa memes fydd yn neud y 'cut', pam fydd John Ogwen yn gwneud Thanos da a beth yw'r pwynt neud podlediad ar memes yn y lle cyntaf? Rhybudd – yn cynnwys rhegi a spoilers!
Wed, 27 Feb 2019 16:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

S & M Hansh....Sam a Miriam: Helo 2019
Mae S & M Hansh yn ȏl gyda Sam Rhys a Miriam Isaac yn dweud hwyl fawr i 2018 a helo i 2019 gan edrych ar beth sy’n dod lan y flwyddyn hon. Ar yr agenda mae rholiau sosej vegan, Love Island, addunedau blwyddyn newydd (wrth gwrs) a llawer mwy. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Mon, 28 Jan 2019 17:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Uchafbwyntiau cerddorol Rhys, Garmon ac Elan
Mae di bod yn flwyddyn ANHYGOEL i gerddoriaeth Gymraeg, gyda llwyth o albyms gwych newydd yn cael eu rhyddhau, sylw i fandiau yng Nghymru a thu hwnt, a gigs a gŵyliau dan eu sang. Dyma Rhys Gwynfor, Elan Evans a Garmon ab Ion yn trafod rhai o’u huchafbwyntiau personol ar gyfer Ochr 1.
Fri, 28 Dec 2018 06:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Tatŵs: Iwan a Geraint
Mae Geraint Iwan yn holi Iwan Pitts, sydd wedi cytuno i gael ei datŵio yn fyw ar Facebook Hansh. Y gynulleidfa fydd yn dewis pa datŵ (ac yn lle) mae Iwan yn ei gael. Hefyd yn cael ei drafod - Piers Morgan, tatŵs gwyneb, Coronation Street a mwy! Rhybudd – yn cynnwys rhegi.
Wed, 05 Dec 2018 15:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Mynd i Mecca....Stori SGRAMEER
Sam Rhys sy'n holi Ameer 'SGRAMEER' Rana am ei bererindod ddiweddar i Mecca. Mae Ameer yn trafod y rhesymeg tu ôl mynd i Mecca, y broses o baratoi a'i deimladau tuag at Islam nawr ei fod e nôl yng Nghymru. Rhybudd – yn cynnwys rhegi.
Wed, 14 Nov 2018 11:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

S&M Hansh...Sam a Miriam
Sam Rhys a Miriam Isaac sydd yn cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos hon. Ar yr agenda, STIs, llawdriniaeth cosmetig ac...Aquabus? Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Wed, 10 Oct 2018 14:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Hit it, DJ: Welsh, Hywel ac Iwan
Rhybudd – yn cynnwys rhegi! Mae’r Welsh Whisperer a’r Brodyr Pitts yn trafod gigs, hwdis Bryn Fôn, Pobol y Cwm, Rhys Mwyn ac yn ateb eich cwestiynau.
Wed, 03 Oct 2018 12:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Delio gyda Trolls Hansh: Sam Rhys a Cai Morgan
Sam Rhys a Cai Morgan sydd yng ngofal podlediad Hansh yr wythnos hon. Bydd y ddau yn trafod rhai o'u hoff sylwadau...cas....o fideo Cai 'Barn Amhoblogaidd Friends', a bydd Sam yn sôn am ei brofiad o gael ei dderbyn i'r Barry Horns. Hefyd rhai o benawdau papurau newyddion od Cymru....Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Mon, 10 Sep 2018 12:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Arctig: Môr o Blastig? – Mari a Geraint
Yn y bennod arbennig yma, mae Geraint Iwan yn holi Mari Huws, aeth ar fordaith 3,000km o Gymru i’r Arctig i ymchwilio i lefelau’r plastig yno. Gwyliwch y ffilm ar YouTube Hansh: https://www.youtube.com/watch?v=JdiEO0Cla-s
Wed, 05 Sep 2018 20:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Oedolion Gwbl Aeddfed: Aled Illtud ac Adam Gilder
Aled Illtud ac Adam Gilder sy' wrth y llyw y tro yma. Atgofion 'fuzzy' Pride Cymru, sut i beidio edrych ar ôl pysgod a phryd i ddefnyddio rap byrfyfyr i osgoi unrhyw sefyllfa ddiflas. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Wed, 29 Aug 2018 16:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Steddfod Sbeshial: Gareth, Garmon a HyWelsh
Gareth yr Orangutan yn cyflwyno podlediad arbennig gydag uchafbwyntiau o noson A Oes Hansh? yng Nghaffi Maes B, cân gan HyWelsh a sgyrsiau ffôn gyda Garmon ab Ion a Hywel Pitts (Rhybudd! Yn cynnwys rhegi)
Thu, 16 Aug 2018 16:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Cydymdeimlo â Logan Paul?: Cai Morgan a Siân Adler
Cai Morgan a Siân Adler sy’n cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos yma. Maen nhw’n trafod Y Sioe Frenhinol, bod yn Fegan, cyfweliad Logan Paul gyda Casey Neistat a chyfres newydd 'rhyfedd-od' Siân ar Hansh. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Wed, 01 Aug 2018 15:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Trics y trêd: Rhys a Heledd
Rhys Gwynfor a Heledd Watkins yn trafod Pwllfilod, gigs, gwyliau heb gynllun, Steddfod yn y ddinas, a be sy ar y gweill gan HMS Morris.
Wed, 18 Jul 2018 20:30:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch

Torri tir newydd: Ger, Al Parr a DAJ
Al Parr a Geraint Iwan yn trafod taith Mari Huws i fesur plastig yr Arctig, tân mawr Carmel, Rhyl, Sgrameer a sgetshys. Hefyd, cipolwg ar eitem newydd Srprs.me gyda gwestai arbennig, David Aaron Jones (DAJ). Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
Thu, 05 Jul 2018 18:00:00 +0100
Chwarae
Lawrlwythwch