Dyma bodlediad newydd sbon JOMEC Cymraeg gan dîm Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Yn y gyfres yma fe fydd myfyrwyr a thîm dysgu JOMEC yn edrych ar bob agwedd o newyddiaduraeth a chyfathrebu yng Nghymru. Ym mhob podlediad bydd un o’n myfyrwyr yn sgwrsio gyda rhywun sy’n gweithio yn y maes - o gyngor gyrfa i holi barn am bynciau llosg y dydd.
Gwefan: Pod Jomec Cymraeg
Mwy o bodlediadau Materion Cyfoes
Yn y rhifyn yma, Deio Jones sy’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth sy’n holi Aled Jones o'r Pod.
Tue, 19 Jan 2021 11:00:43 GMT
Ym mhennod 5 yn y gyfres mae Lowri Bellis yn siarad gyda Non Gwilym. Mae Non wedi gweithio yn y sector cyhoeddus am dros bymtheg mlynedd, ac yn arbenigo mewn cyfathrebu. Erbyn hyn mae'n gweithio i Ganolfan Ganser Felindre. Cynhyrchwyd y podlediad gan Rhiannon Jones.
Thu, 07 Jan 2021 11:53:17 GMT
Ym mhennod 4 yn y gyfres, Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru sydd yn siarad gyda Gwern Ab Arwel.
Wed, 16 Dec 2020 10:14:27 GMT
Yn y rhifyn yma, Meleri Williams a Sara Dafydd sy’n holi y newyddiadurwraig Maxine Hughes.
Mon, 07 Dec 2020 19:42:47 GMT
Yn y rhifyn yma, Tirion Davies sy’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth sy’n holi Daniel Glyn, storiwr Amgueddfa Cymru.
Wed, 25 Nov 2020 12:29:18 GMT
Yn y rhifyn cyntaf, Alaw Jones sy’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth sy’n holi un o’n graddedigion, Lleu Bleddyn; prif ohebydd i Golwg 360.
Tue, 17 Nov 2020 12:37:11 GMT