Yng nghwmni Ffion Emyr, mae'r podlediad yma yn dathlu lleisiau lleol a llwyddiant lleol yn ardal ARFOR! Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR ac wedi’i hysbrydoli gan y prosiect Llwyddo’n Lleol, rydyn ni yma i ddangos bod cyfleoedd cyffrous a dyfodol bywiog yn aros amdanoch chi – yma yng ngorllewin Cymru. Yn ystod y gyfres, byddwn yn cwrdd â phobl ysbrydoledig sy’n profi bod ffynnu’n bosib heb adael cartref. O entrepreneuriaid i arloeswyr, mae ganddyn nhw i gyd stori i’w rhannu – ac mae’n fraint cael bod yma i’w hadrodd.
Gwefan: Lleisiau Lleol
Yn y bennod yma, rydyn ni’n siarad gyda Hannah a Caryl o Morlais, sef prosiect ynni llif llanw gan Menter Môn.
Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut mae Elfen Gyrfaol Llwyddo'n Lleol wedi caniatau i Caryl weithio gyda Morlais, tra hefyd yn astudio yn y brifysgol. Byddwn hefyd yn dysgu ychydig mwy am waith y prosiect a darganfod yr holl gyfleoedd sydd yn dod ohonno.
Tue, 11 Mar 2025 11:18:00 +0000
Yn y bennod hwn, rydyn ni’n mynd i drafod un o’r syniadau mwyaf dadleuol sy’n wynebu llawer o bobl sy’n gadael eu cymunedau lleol – y gred fod ‘dychwelyd adref’ yn rhyw fath o fethiant.
Rydyn ni’n croesawu dau westai arbennig sydd â phrofiadau uniongyrchol o’r daith hon – Huw Rees a Daniel Thomas. Mae’r ddau yn wreiddiol o ardal ARFOR ond wedi symud i ffwrdd i Gaerdydd a Llundain, cyn dychwelyd adref. Byddan nhw’n rhannu eu straeon, yn archwilio’r rhesymau pam wnaethon nhw benderfynu dychwelyd, ac yn trafod pam nad yw dychwelyd adref o anghenraid yn golygu cymryd cam yn ôl.
Tue, 25 Feb 2025 10:26:00 +0000
Yn y bennod yma rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio ar faes sy’n agos at galon llawer ohonon ni – magu teulu yng Ngorllewin Cymru.
Rydyn ni’n sgwrsio â dwy westai arbennig – Hannah Hughes a Ffion Medi Rees. Mae’r ddwy yn rhannu eu profiadau o fagu plant yn yr ardal, y manteision unigryw sydd gan fywyd yma i’w gynnig, yn ogystal â’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu.
Tue, 18 Feb 2025 10:43:00 +0000
Yn y bennod yma rydyn ni’n mynd i herio’r gred gyffredin bod ‘dim byd i'w wneud’ yn ardal ARFOR.
Rydyn ni’n cael cwmni dau westai arbennig sy’n profi’r gwrthwyneb: Gwen Owen, sy’n rhedeg Môn Girls Run, ac Steff Rees, sy’n trefnu llu o ddigwyddiadau cyffrous yn ardal Ceredigion. Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, byddwn yn clywed sut mae’r ddau ohonyn nhw’n helpu i greu cyfleoedd, cysylltu pobl ifanc â’u cymunedau, a dangos bod y gorllewin yn llawn egni a bywyd i’r genhedlaeth nesaf.
Tue, 11 Feb 2025 10:03:00 +0000
Yn y bennod yma, rydyn ni’n edrych ar sut beth yw rhedeg busnes yn ardal ARFOR a’r gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid lleol.
Yn ymuno gyda ni mae dau westai ysbrydoledig: Daniel Grant, sylfaenydd Pen Wiwar, brand dillad cynaliadwy sy’n dathlu harddwch Cymru, a Tomos Owen, cyd-sylfaenydd Pelly, platfform pwerus sy’n galluogi clybiau pêl-droed i wneud penderfyniadau doethach a chyflymach. Mae’r ddau wedi elwa o gefnogaeth Llwyddo’n Lleol i ddatblygu eu syniadau ac adeiladu busnesau llwyddiannus yn ein hardal wledig.
Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut y dechreuodd eu taith, y ffordd maen nhw’n defnyddio eu busnesau i gysylltu â’u cymunedau, a’r rôl y mae Llwyddo’n Lleol wedi’i chwarae yn eu llwyddiant. Byddwn hefyd yn ystyried eu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol a’r hyn sy’n gwneud ARFOR yn lle arbennig i lansio a thyfu busnes.
Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth neu eisiau gwybod mwy am botensial ein hardaloedd gwledig, rydych chi yn y lle iawn.
Fri, 24 Jan 2025 14:45:00 +0000