-> Eich Ffefrynnau

Malu Cachu, Chwalu Stigma

Malu Cachu, Chwalu Stigma

Malu Cachu, Chwalu Stigma - podlediad Cymraeg sy’n trafod teimlada’ a rhannu profiada’ am iechyd meddwl. Mae Glesni a Siân yn dwy ferch o Fôn sy'n eu deuddega', yn ffrindia gora’ ers blynyddoedd maith, ag efo diddordeb mewn iechyd meddwl, sydd rwan isio rhannu hynny efo chi! Bwriad y podlediad yw i chwalu y stigma o gwmpas iechyd meddwl trwy normaleiddio cael sgyrsia' agored amdano. Y gobeithio yw i ysbrydoli eraill i gwneud run peth a creu cymuned lle gallwch teimlo'n berthyn a uniaethu efo eraill. Am fwy o wybodaeth, dilynwch ni ar Facebook ag Instagram - @malucachuchwalustigma

Gwefan: Malu Cachu, Chwalu Stigma

Mwy o bodlediadau Sioeau Ffeithiol

RSS

Chwarae Malu Cachu, Chwalu Stigma

Ta Ta Adduneda': Trafod heria' mis Ionawr

Wel, mai'n flwyddyn newydd - 2022! Ydi hi rhy hwyr i ddymuno blwyddyn newydd dda?! Beth bynnag... dyma ni'n nol efo ein pennod cynta' o'r flwyddyn - a mae o'n un ddifyr! Gwrandewch arna ni'n trafod hwyl a heria' mis Ionawr, chwalu y syniad o "new year, new me" a pam tyda ni ddim yn licio gosod addunedau. 

Os ddaru chi fwynhau, fedrwch chi hefyd ein dilyn ar Instagram a Facebook - @malucachuchwalustigma - er mwyn cadw golwg ar pryd fydd pob pennod yn cael ei ryddhau!

--------------------------------------------------------------------------------------------------------

Swing Rabbit ! Swing ! by Amarià https://soundcloud.com/amariamusique

Creative Commons — Attribution 3.0 Unported — CC BY 3.0

Free Download / Stream: https://bit.ly/al-swing-rabbit-swing

Music promoted by Audio Library https://youtu.be/lt7fn1NVxQM

Wed, 26 Jan 2022 18:53:52 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Malu Cachu, Chwalu Stigma

Nadolig... Llawen?: Trafod hwyl a heriau'r wyl

Efo just ychydig dros wythnos i fynd tan diwrnod 'Dolig, mae'n syniad i ni drafod sud i ymdopi efo'r wyl a rhannu ein profiada' ni. Yn y bennod yma, dani'n trafod pwysigrwydd gosod boundaries a sut i gyfathrebu yn 'assertive', yn ogystal a cael rant bach amdan pet peeves ni amdan y 'Dolig.

Os ddaru chi fwynhau, fedrwch chi hefyd ein dilyn ar Instagram a Facebook - @malucachuchwalustigma - er mwyn cadw golwg ar pryd fydd pob pennod yn cael ei ryddhau!

--------------------------------------------------------------------------------------------------------

Swing Rabbit ! Swing ! by Amarià https://soundcloud.com/amariamusique

Creative Commons — Attribution 3.0 Unported — CC BY 3.0

Free Download / Stream: https://bit.ly/al-swing-rabbit-swing

Music promoted by Audio Library https://youtu.be/lt7fn1NVxQM

Wed, 15 Dec 2021 20:39:23 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Malu Cachu, Chwalu Stigma

Dysgu yn y distawrwydd: Pwysigrwydd cwsg a chymeryd saib

Wel, wel, wel, dani'n nol! Ar ol chydig o seibiant o recordio, dani'n falch o ddweud bod ni yn barod i ail fynd amdani efo'r podlediad 'ma! Yn y bennod yma, dani'n trafod be ddaru ni ddysgu wrth gymryd saib, pwysigrwydd hunan-ofal a cwsg... a lot o fwydro a chwerthin! 




Os ddaru chi fwynhau, fedrwch chi hefyd ein dilyn ar Instagram a Facebook - @malucachuchwalustigma - er mwyn cadw golwg ar pryd fydd pob pennod yn cael ei ryddhau!

--------------------------------------------------------------------------------------------------------

Swing Rabbit ! Swing ! by Amarià https://soundcloud.com/amariamusique

Creative Commons — Attribution 3.0 Unported — CC BY 3.0

Free Download / Stream: https://bit.ly/al-swing-rabbit-swing

Music promoted by Audio Library https://youtu.be/lt7fn1NVxQM

Mon, 06 Dec 2021 16:26:40 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Malu Cachu, Chwalu Stigma

Rhoi'r hunan yn ol fewn i hunan-ofal: Atal euogrwydd ac ail-wefru'n batris

Yn y bennod yma o Malu Cachu, Chwalu Stigma, mi fydd y ddwy ohonom yn trafod hunan-ofal ("self-care"). 

Cewch glywed ni'n siarad am beth mae hynny yn ei olygu i ni, ein siwrneodd efo hunan-ofal a'i bwysigrwydd. 


Os ddaru chi fwynhau, fedrwch chi hefyd ein dilyn ar Instagram a Facebook - @malucachuchwalustigma - er mwyn cadw golwg ar pryd fydd pob pennod yn cael ei ryddhau!

--------------------------------------------------------------------------------------------------------

Swing Rabbit ! Swing ! by Amarià https://soundcloud.com/amariamusique

Creative Commons — Attribution 3.0 Unported — CC BY 3.0

Free Download / Stream: https://bit.ly/al-swing-rabbit-swing

Music promoted by Audio Library https://youtu.be/lt7fn1NVxQM

Fri, 17 Sep 2021 06:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Malu Cachu, Chwalu Stigma

Herio'r haul ar fryn: Pan mae positifrwydd yn troi yn niweidiol

Yn y bennod yma o Malu Cachu, Chwalu Stigma, mi fyddwn yn trafod y pwnc, positifrwydd niweidiol ('toxic positivity'). Cewch glwad ni yn trafod y iaith mae pobol yn ei ddefnyddio a gwahanol dyfyniada' sydd yn gallu creu niwed, er gwaethaf eu bwriad. Mi fyddwn hefyd yn trafod sud i fynd at i osgoi y iaith 'ma a beth i'w wneud yn ei lle.  Os ddaru chi fwynhau, fedrwch chi hefyd ein dilyn ar Instagram a Facebook - @malucachuchwalustigma - er mwyn cadw golwg ar pryd fydd pob pennod yn cael ei ryddhau! -------------------------------------------------------------------------------------------------------- Swing Rabbit ! Swing ! by Amarià https://soundcloud.com/amariamusique Creative Commons — Attribution 3.0 Unported — CC BY 3.0 Free Download / Stream: https://bit.ly/al-swing-rabbit-swing Music promoted by Audio Library https://youtu.be/lt7fn1NVxQM

Thu, 09 Sep 2021 21:58:43 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Malu Cachu, Chwalu Stigma

Croeso i Malu Cachu, Chwalu Stigma: Cyfarfod eich cyflwynwyr

Croeso i'r pennod cynta o'r podlediad Malu Cachu, Chwalu Stigma, lle dani'n trafod teimlada' a rhannu profiada' am iechyd meddwl. Yn y bennod hon, gewch gyfarfod eich cyflwynwyr - Sian a Glesni, dwy ferch o Fon sydd yn ffrindia' ers blynyddoedd maith, maith ag yn hoffi siarad a falu cachu. Yn geiria Sian, cymysgedd o'r llon a'r lleddf! Gobeithio gewch chi hefyd flas o be i ddisgwyl gan y podlediad a'r hyn dani'n gobeithio ei cyflawni. Dani'n rili diolchgar i chi am wrando ag yn edrych ymlaen i chi ymuno efo ni ar ein taith. 

Os ddaru chi fwynhau, fedrwch chi hefyd ein dilyn ar Instagram a Facebook - @malucachuchwalustigma - er mwyn cadw golwg ar pryd fydd bob pennod yn cael ei ryddhau!







--------------------------------------------------------------------------------------------------------

Swing Rabbit ! Swing ! by Amarià https://soundcloud.com/amariamusique

Creative Commons — Attribution 3.0 Unported — CC BY 3.0

Free Download / Stream: https://bit.ly/al-swing-rabbit-swing

Music promoted by Audio Library https://youtu.be/lt7fn1NVxQM

Mon, 30 Aug 2021 07:50:36 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Malu Cachu, Chwalu Stigma

Malu Cachu, Chwalu Stigma

Helo 'na a croeso i Malu Cachu, Chwalu Stigma - y podlediad sy'n trafod teimlada' a rhannu profiada' am iechyd meddwl. Dyma i chi flas o be i ddisgwyl gan ni'n dwy efo'r podlediad yma, a hefyd chydig o 'disclaimer' - mae'n bwysig bod ni'n pwysleisio mai nid rhywbeth i gymryd lle therapi neu cymhorth proffesiynol yw hwn, a mai dim ond sgyrsia' anffurfiol fydd y pennoda'. Er ein bod ni'n gobeithio fyddwch chi'n cymeryd rhywbeth i ffwrdd o be dani'n ei drafod, ni ddylech cymryd unrhyw beth sy'n cael ei ddweud fel cyngor. Rydym yn wir obeithio wnewch chi fwynhau ein sgyrsia, yn gallu uniaethu efo be sy'n cael ei drafod ag yn teimlo fel bod chi'n ran o'r sgwrs efo ni. Efo'n gilydd, fedrwn weithio ar chwalu stigma trwy falu cachu!

Os ddaru chi fwynhau, fedrwch chi hefyd ein dilyn ar Instagram a Facebook - @malucachuchwalustigma - er mwyn cadw golwg ar pryd fydd bob pennod yn cael ei ryddhau!






--------------------------------------------------------------------------------------------------------

Swing Rabbit ! Swing ! by Amarià https://soundcloud.com/amariamusique

Creative Commons — Attribution 3.0 Unported — CC BY 3.0

Free Download / Stream: https://bit.ly/al-swing-rabbit-swing

Music promoted by Audio Library https://youtu.be/lt7fn1NVxQM

Thu, 26 Aug 2021 12:00:29 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch