Dyma bodlediad sy'n holi busnesau lleol Cymraeg. Gwrandewch i gael clywed hanes y brandiau sydd yn ein gwneud ni'n Gymry.
Gwefan: Meindia' dy Fusnes!
Mwy o bodlediadau Sioeau%20Ffeithiol
Ym mhennod rhithiol gyntaf y gyfres, mae'r hogia'n cael cwmni dau o fawrion y byd teledu a radio, Geraint Hardy & Owain Gwynedd Griffith. Gwrandewch i gael clywed am ddechreuad y cwmni, eu profiadau gyda Warren Gatland, Sam Warburton a Ian Gough, a sut mae COVID-19 wedi effeithio'r diwydiant. Cynhyrchiad: STANGAU Cynhyrchydd: Deio Jones Theme: Biscuit (Prod. by Lukrembo)
Fri, 05 Mar 2021 20:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchYn y bennod hon, mae'r hogia'n cael cwmni'r darlunydd o Fôn, Heledd Owen. Mae gwaith Heledd yn adnabyddus drwy Gymru gyfan ac mae'r fenter sydd ganddi yn mynd o nerth i nerth. Gwrandewch i gael clywed ychydig am daith Heledd yn y byd masnachol. Cynhyrchiad: STANGAU Cynhyrchydd: Deio Jones Theme: Biscuit (prod by. Lukrembo)
Tue, 02 Feb 2021 18:37:35 GMT
Chwarae LawrlwythwchYn y bennod hon, mae'r hogia wedi cael gwadd i Fragdy Mona ac yn cael sgwrs gyda un o'r saith o gyfarwyddwyr, sef Huw Gethin Jones. Gwrandewch i gael gwybod sut ddechreuodd y sbardun ar gyfer Bragdy Mona, ac sut mae'r grefft o fragu cwrw'n gweithio.
Cynhyrchiad: STANGAU
Cynhyrchydd: Deio Jones
Theme: Biscuit (Prod. by Lukerembo)
Sat, 16 Jan 2021 20:14:10 GMT
Chwarae LawrlwythwchYn y bennod yma, mae'r hogia'n siarad gyda Tomos Owen, sef perchennog cwmni Smŵddis, Swig. Gwrandewch i wybod sut mae teithio o amgylch America wedi dylanwadu ar strwythr cwmni Tomos ac sut mae Swig wedi datblygu. Cynhyrchiad: STANGAU Cynhyrchydd: Deio Jones Theme: Biscuit (Prod. by Lukrembo)
Tue, 12 Jan 2021 15:07:54 GMT
Chwarae LawrlwythwchCroeso i'r bennod gyntaf o 'Meindia' dy Fusnes'! Heddiw, Siôn Owen sef cyd-gyflwynydd y podlediad a 50% o dîm Dillad Arfordir sydd yn yr 'hot-seat'. Gwrandewch i gael clywed am hanes y cwmni ac sut maent wedi llwyddo i fynd o nerth i nerth.
Cynhyrchiad: STANGAU
Cynhyrchydd: Deio Jones
Theme: Biscuit (Prod. by Lukrembo)
Tue, 05 Jan 2021 15:51:27 GMT
Chwarae Lawrlwythwch