-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

Bydd Elin Fflur yn ymweld â gerddi rhai o sêr Cymru liw nos ac yn sgwrsio am bopeth dan haul (... neu'r lloer!), ac yn ei ffordd agos-atoch bydd Elin hefyd yn dod i nabod y person 'go iawn'. Mae cyfnod y pandemig wedi newid ein byd am byth, ond yr hyn fydd yn aros yn fytholwyrdd – cwmni gwerth chweil a sgwrsio difyr. Presenter Elin Fflur visits the gardens of some of Wales’ most well-known faces during sunset. Heart-warming, softly revelatory, sometimes humorous but always insightful this simplicity has become the secret of its success. The series has captured a nation’s mood, a gentle escapism, as many of us have had to face difficult lives during this time. The pandemic has changed our lives forever, but one thing that will remain everlasting – a good old chat!

Gwefan: Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

Mwy o bodlediadau Adloniant%20a%20Cherddoriaeth

RSS

Chwarae Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

9: Ian Gwyn Hughes

Yn rhaglen ola’r gyfres fe fydd Elin Fflur yn teithio i’r brifddinas ac i ardd un o leisiau enwoca’ y byd pêl-droed o ddiwedd y 90au ymlaen, y gŵr sydd bellach yn Bennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes. O flaen tanllwyth o dân a goleuadau Caerdydd yn goleuo’r nos cawn glywed am wireddu breuddwyd plentyndod o sylwebu ar Match of The Day, cawn hefyd glywed am y salwch a ddaeth i lorio ei fyd pan yn ei ugeiniau cynnar, ac wrth gwrs fe fyddwn yn ail-fyw holl ramant Pencampwriaeth Ewros 2016. In the very last episode Elin will be heading towards Cardiff and to the garden of one of the most famous voices in the history of Welsh and Premier League football, Ian Gwyn Hughes. In front of a roaring fire and Cardiff’s skyline as a backdrop we’ll hear of his days as a commentator on Match of The Day, we’ll also hear of the illness that floored his world in his youth, and of course we’ll hear of his current role as the FAW’s Head of Public Affairs.

Mon, 12 Apr 2021 21:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

8: Olwen Rees

Heno fe fydd Elin Fflur yn ymweld â’r actores a’r gantores Olwen Rees yng ngardd ei chartref ym mhentref Wenfô ar gyrion Caerdydd. Yn ferch i’r gantores Sassie Rees ac yn briod â’r actor a’r diddanwr Johnny Tudor mae adloniant a pherfformio wedi bod yn ran anferth o’i bywyd ac mae Olwen wedi bod yn serennu ar sgrin ac ar lwyfan ers dros 50 mlynedd. O flaen tanllwyth o dân mae’r atgofion yn llifo o gyfnod ei phlentyndod yng Nghaernarfon, i fwrlwm cyfnod euraidd y byd adloniant yng Nghymru yn y 70au ac fe fydd y ddwy yn trafod dawnsio, teithio, mwynhau bywyd a’r cyfleoedd sydd ar gael i ferched wrth fynd yn hŷn. In this episode Elin visit’s actress and singer Olwen Rees at her home in Wenvoe, Cardiff. Her mother, Sassie Rees, had her own radio and television series, so it is no wonder that Olwen decided to follow in her mother’s footsteps and become a professional singer and actress resulting in a career spanning over fifty years on stage and screen. As the sun goes down, they both settle in front of the fire to reminisce about her upbringing in Caernarfon, the early days of television entertainment in Wales in the 70’s and discuss all sorts from dancing and travelling to the secrets of growing old gracefully.

Fri, 09 Apr 2021 17:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

7: Geraint Lloyd

Â’r nos yn cau am Geredigion fe fydd Elin yn cael cwmni un o leisiau enwoca’r ardal, y cyflwynydd radio a’r ‘petrol-head’, Geraint Lloyd. Bydd y sgwrs yn llifo wrth hel atgofion am gyfraniad Theatr Felinfach, Radio Ceredigion a’r Ffermwyr Ifanc ar fywyd y dyn sydd bellach yn gwmni i ni fynd i noswylio bob noson! Gyda’r tân yn cnesu’r nos fe ddown ni nabod y gŵr tu ôl i’r llais a’r teulu sy’n bopeth iddo. As night closes on Ceredigion, Elin is in the company of one the area's most recognisable voices, the radio presenter and petro-head Geraint Lloyd. The conversation flows as they remember fondly the influence of Theatr Felinfach, Radio Ceredigion anf the Young Farmers on the life of the man who accompanies so many as they go to sleep each night.

Mon, 29 Mar 2021 20:30:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

6: Elin Jones

Dan fachlud haul Bae Ceredigion fe gawn ni gwmni un o ferched mwya dylanwadol holl hanes datganoli Cymru, Llywydd y Senedd, Elin Jones. Gyda thonnau’r harbwr yn gwmni a gwres y tân yn llonni’r enaid fe fydd y ddwy yn hel atgofion am fore oes plentyndod yn ardal Llanbedr Pont Steffan, dyddiau cynnar yn gwleidydda i’r Toriaid, a theithio’r wlad fel aelod o un o girl bands cynta Cymru, yr enwog Cwlwm! As the sun sets on Cardigan Bay Elin Fflur will be chatting to one of the most influential women in the history of devolution in Wales, the Presiding Officer, Elin Jones. Who knew that Elin started her political career as a young Tory candidate in Ysgol Tregaron? - And she’ll also be looking back on her days as a member of the first girl band in Wales, the famous Cwlwm! Yes, there is more to Elin Jones than the Senedd!

Mon, 15 Mar 2021 20:15:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

5: Sarra Elgan

Ar noson aeafol oer fe gawn ni gwmni cynnes y gyflwynwraig, Sarra Elgan, draw yng ngardd ei chartref ym Mro Morgannwg. Dros wydriad neu ddau fe gawn ni glywed sut mae’r byd rygbi wedi newid ei bywyd ers yn ifanc iawn – yn ferch i gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, bellach yn briod â Hyfforddwr enwog, ac yn Fam i blant sydd hefyd wrth eu boddau â’r gêm... a hefyd yn gyflwynydd rygbi uchel iawn ei pharch, does ryfedd nad yw’r bêl hirgron fyth ymhell o galon Sarra. Wrth i’r haul fynd lawr bydd Elin a Sarra yn hel atgofion am raglenni cynnar Planed Plant, y grŵp pop Cic ac yn trafod rhai o’r heriau a’r rhwystrau sydd wedi bod ar hyd y daith i ddod yn un o gyflwynwyr rygbi poblogaidd BT Sport. Hynny i gyd gyda dos enfawr o hwyl a chwerthin. On a cold evening in the Vale of Glamorgan, Elin chats to presenter Sarra Elgan. Daughter to former Wales rugby international Elgan Rees and married to Simon Easterby the coach for the Irish national team - rugby is in her blood and so it is perhaps no surprise that it has taken up most of her career in broadcasting. BT Sport presenter Sarra speaks about her experience of working in a male environment and some of the challenges she has faced along the way as well as reminisce about her early days in Children’s Television and being a pop star!

Mon, 08 Mar 2021 20:30:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

4: Dewi 'Pws' Morris

Â’r lleuad yn olau uwchben Pen Llŷn, Elin Fflur fydd yn cael cwmni y cerddor, actor, cyflwynydd, diddanwr a’r tynnwr coes Dewi ‘Pws’ Morris. Wrth i’r haul fynd lawr fe fydd y ddau’n swatio am sgwrs o flaen tanllwyth o dân liw nos yn ei ardd yn Nefyn, Pen Llŷn i drafod rhai o atgofion ei yrfa a’i fywyd.Fe fydd yna ddigon o chwerthin wrth i ni ail-fyw dyddiau Edward H, ffilm fawr y Grand Slam a’r cyfan yn hapus dyrfa o atgofion! Byddwn hefyd yn codi gwydriad i hen gyfeillion ar hyd y daith, cyn mwynhau cân fach o amgylch tanllwyth o dân. Elin Fflur’s guest this week is musician, actor, presenter, entertainer and true Welshman Dewi ‘Pws’ Morris. As the sun sets, both settle for a chat in front of a blazing fire under the stars in Dewi’s garden in Nefyn, Llŷn Peninsula to discuss his life and career. Dewi will take us on a trip down memory lane as we reminisce the golden days of the Grand Slam film, Edward H Dafis and we’ll raise a toast to old friends past and present, before enjoying a song around the open fire.

Mon, 01 Mar 2021 20:30:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

3: Leah Owen

Yn y bennod hon mae Elin Fflur yn ymweld â Leah Owen yng ngardd ei chartref ym Mhrion, Sir Ddinbych. Er ei bod wedi hyfforddi cenedlaethau o blant Dinbych a’i gwreiddiau bellach yn nwfn yn yr ardal, mae’n parhau i fod yn “hogan o Fôn” yn ei chalon. O flaen tanllwyth o dân mae’r atgofion yn llifo ac fe ddown ni i nabod Leah, y fam, yr hyfforddwraig a’r gantores sydd wedi dylanwadu ar genedlaethau o blant Sir Ddinbych a Môn. In this episode Elin visits singer, composer, music teacher and choir conductor Leah Owen. Leah, who originates from Anglesey, but nowdays lives in Prion, Denbigh, chats about her upbrining, competing from a young age at the National Eisteddfod. She also discusses how she managed a busy family life and being responsible for training and leading numerous successful choirs and indivdual singers.

Mon, 15 Feb 2021 20:30:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

2: Kristoffer Hughes

Wrth i’r nos gau am Ynys Môn fe fydd Elin yn cael cwmni’r derwydd, y technegydd patholegol a’r Frenhines ddrag, Kristoffer Hughes. Fe fydd nifer fawr yn gwybod yn barod am Maggi Noggi – y cyflwynydd lliwgar gyda’r personoliaeth anferth a’r dawn dweud – ond fe ddaw Elin i adnabod y person go iawn tu ôl i’r wigs, y sodlau uchel a’r holl golur. Yng nghwmni tanllwyth o dân fe fydd y chwerthin yn llenwi’r nos a’r dagrau hefyd yn syrthio wrth i Kristoffer siarad o’r galon. Elin Fflur chats to druid, pathology technician and drag queen Kristoffer Hughes. As the sun sets over Anglesey, they both settle down in front of the fire – and Elin will get to know the person behind the colourful character Maggi Noggi. Be prepared for tears of joy and sorrow as Kristoffer speaks frankly and honest from the heart.

Mon, 08 Feb 2021 20:30:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

1: Mark Lewis Jones

I ddechrau’r ail gyfres fe fydd Elin Fflur yn ymweld â’r actor a’r rhedwr marathon ultra, Mark Lewis Jones yng ngardd ei gartref yng Nghaerdydd. Gyda thanllwyth o dân a’r sêr yn gwmni fe fydd Elin yn cael hanes ei yrfa, o Con Passionate i’r Crown, mae Mark Lewis Jones wedi swyno gwylwyr ar hyd y degawdau. Yn y sgwrs estynedig yma fe gawn wybod mwy am ei fagwraeth yn Rhosllanerchrugog, dylanwad unigiolion allweddol o’i gyn athrawes ysgol i Anthony Hopkins a dod i adnabod Mark y wyneb tu ôl i’r holl gymeriadau. We kick-off the second series as Elin Fflur visits the actor and the ultra marathon runner, Mark Lewis Jones at his home in Cardiff. In this extended chat we’ll learn more about the man who’s been at the forefront of some of the most watched dramas and films of all time, from Netflix’s The Crown to the cult classic, Star Wars.

Mon, 01 Feb 2021 14:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch