Podcast cymraeg sy’n trafod triathlon, treino, cystadlu, teithio a phopeth inbitwîn gan David Cole a Nia Davies - cwpwl o triathletwyr o Orllewin Cymru.
Gwefan: Nawr yw’r awr
Mwy o bodlediadau Chwaraeon
Ar y rhaglen wythnos yma sgwrsiwn â Gruffudd ab Owain. Bydd nifer ohonoch yn adnabod Gruffudd trwy ei flog seiclo, Y Ddwy Olwyn. Mae Gruffudd hefyd yn adnabyddus ar Twitter fel @cycling_dragon. Mae'n ysgrifennwr talentog a gwybodus iawn a chlywn am ei flog a'i basiwn at seiclo yn y rhaglen yma. Fydd yn syndod i rhai i ddysgu fod Gruffudd ond yn 16 mlwydd oed! Dysgwch fwy am y person tu nôl i'r blog yn y rhaglen yma.
Os oes gennych diddordeb yn ymuno â ni am y seminar maeth (nutrition) sy'n cael ei chynnal gan ein cyn-westai, y dietegydd a triathletwr, Carys Davies, yna ebostiwch ni ar dctriathlon@oulook.com, nawrywrawr@hotmail.com neu danfonwch neges i ni ar Facebook neu Twitter. Fydd y seminar yn wythnosol, pob nos Iau, dros y wê, am bedwar wythnos, yn dechrau ar y 4ydd o Chwefror. Os nad yw'r amser hyn yn gyfleus gallwn ddanfon fideo o'r seminar atoch drwy e-bost. Y gost yw £45 am y 4 seminar.
Fel arfer, os oes gennych unrhyw cwestiynau, syniadau am westeuon hoffech glywed neu syniad am pwnc i'w drafod yna naill ai ebostiwch nawrywrawr@hotmail.com, neu cysylltwch â ni drwy Facebook neu Twitter (@nawrywrawr)
Mon, 18 Jan 2021 06:00:00 GMT
BLWYDDYN NEWYDD DDA!
Croeso nôl i gyfres newydd o Nawr Yw'r Awr.
Wthnos ma ymuna Guto Jones â ni a hola Nia ef a Dai am y sialens rhedeg fe wnaethon cwblhau dros yr adfent.
Os i chi moyn noddi nhw a rhoi arain at yr elusen Mind, dyma'r dudalen Just Giving >
Fel arfer, cysylltwch â ni ar ebost (nawrywrawr@hotmail.com), twitter (@nawrywrawr) neu FB (Nawr Yw'r Awr)
Mon, 04 Jan 2021 06:00:00 GMT
Wthnos ma trafodwn newyddion y byd triathlon, newyddion wrth Nawr Yw'r Awr ag ychydig o newyddion wrth Dai a Nia!
Noddwyd y rhaglen gan CRWST - ymwelwch a'i gwefan crwst.cymru a defnyddiwch y côd CRWST10 am ostygiad o 10% o'r pris.
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth dros y 25 wthnos dwethaf! x
Mon, 30 Nov 2020 06:00:00 GMT
Wthnos ma trafodwn pobeth am caffîn gyda Dr Roger Cole. Esbonia Roger beth yw caffîn cyn trafod y manteision a'r anfanteision. Diolch yn fawr i Roger am ei amser.
Diolch yn fawr hefyd i'n noddwyr - Teifi Coffee. teificoffee.co.uk - cadwch lygad mas am côd ddisgownt ar ei' tudalennau facebook a twitter.
Mon, 23 Nov 2020 06:00:00 GMT
Wthnos ma trafodwn Ironman Cymru. A oeddech chi yn un o'r pobol a gafodd lle yn y râs wthnos dwethaf?
Yn benodol, clywn hanes Nia a'i thaith hi o fod yn rhywun oedd ddim yn gwneud dim ymarfer corff i gwblhau Ironman Cymru yn 2018.
Am rhagor o wybodaeth am gwaith hyfforddi Dai ymwelwch â dctriathlon.co.uk neu ebostiwch dctriathlon@outlook.com
Mon, 16 Nov 2020 06:00:00 GMT
Diolch i bawb a ddanfonodd cwestiynau atom, natho ni reli joio ei ateb nhw. Os chi moyn fwy o wybodaeth am unrhywbeth yna danfonwch ebost (nawrywrawr@hotmail.com) neu danfonwch neges i ni ar Facebook neu Twitter. Diolch!
Mon, 09 Nov 2020 06:00:00 GMT
Wthnos ma sgwrsiwn â Gruffudd Lewis. - Seiclwr professiynol i dîm Ribble Weldtite - Sylwebydd ar rhaglen "Seiclo" yr S4C - Perchennog "Caffi Gruff" - sef caffi, siop beics a enw ar tim seiclo arweinwyd gan Gruff. Am rhagor o wybodaeth ewch i www.caffigruff.cc neu @caffigruff ar Facebook ag Instagram. Diolch i noddwyr ein rhaglen - Llewelyn Davies - cyfrifwyr siartedig o Sir Benfro. Diolch iddynt am pob cymorth tra'n sefydlu "DCTRIATHLON". Ymwelwch a http://www.llewelyndavies.co.uk am fwy o wybodaeth.
Mon, 02 Nov 2020 06:00:00 GMT
Yn y pennod yma trafoda Dai a Nia ei tips nhw am sut i gadw'r cymhelliant yn uchel yn ystod yr ail cyfnod clo a'r Gaeaf sydd o'n blaenau.
Cofiwch ddanfon neges os yr ydych moyn ymuno â ni ar Zwift dydd Sadwrn.
Twitter: @nawrywrawr
Facebook: Nawr Yw'r Awr
Ebost: nawrywrawr@hotmail.com
Am fwy o wybodaeth am ein hyfforddi: dctriathlon.co.uk // dctriathlon@outlook.com
Mon, 26 Oct 2020 06:00:00 GMT
Ar y rhaglen wthnos ma siaradwn gyda dietegydd, triathletwr a chwaer Nia, Carys Davies.
Trafodwn pwnc pwysig iawn .... BWYD! Beth i fwyta cyn, yn ystod ag ar ôl ymarfer neu rasio.
Os oes gwnnych unrhyw cwestiynau danfonwch ebost atom - nawrywrawr@hotmail.com
Mon, 19 Oct 2020 05:00:00 GMT
Ymunodd y rhedwr a physio o Penparc, Andrew Toft gyda ni wthnos ma am sgwrs hynod o ddiddorol am ei brofiadau ef am rhedeg marathons a ultras cyn i ni holi e am ei waith fel physio. Gofynnon iddo am unrhyw tips a trics roedd ganddo i chi so newch yn siwr i wrando! I gysylltu â Andrew ei gyfeiriad yw Feidr Tywod, Penparc, Aberteifi, SA431RE neu ffoniwch 01239 615838. Diolch i ein noddwr wthnos ma sef Be You Yoga, stiwdio yoga a symudiad wedi ei leoli yng Nhanolfan Teifi, Pendre, Aberteifi. Ewch i'w wefan beyouyogawales.co.uk am fwy o fanylion a byddwch yn siwr i'w ddilyn ar facebook (@beyouyoga.wales) ag Instagram (beyouyoga.wales) Maent yn cynnig yoga yn y stiwdio neu dros Zoom. Yn olaf, diolch i chi am yr holl cefnogaeth i ni wedi cael wrth lawnsio www.dctriathlon.co.uk - e-bostiwch am rhagor o wybodaeth neu i archebu kit dctriathlon@outlook.com
Mon, 12 Oct 2020 05:00:09 GMT