-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Nerth dy Ben

Nerth dy Ben

Mae’r gyfres yma yn rhoi’r cyfle i ni sgwrsio a dod i ‘nabod pobol anhygoel ein cymuned sydd i gyd yn eu tro wedi defnyddio ac adnabod eu cryfderau mewn amryw ffyrdd.
Ymunwch hefo ni mewn sgwrs lle dan ni’n dathlu yr hyn sy’n ein gwneud ni’n unigryw fel unigolion, a’r hyn oll dan ni’n ei gyflawni hefo nerth.

Gwefan: Nerth dy Ben

Mwy o bodlediadau Sioeau Ffeithiol

RSS

Chwarae Nerth dy Ben

Ceridwen a Llywela

Sgwrs bendigedig rhwng dwy efaill, Ceridwen a Llywela, am yrfa ar ôl coleg, dylanwad y cyfryngau cymdeithasol, mwynhâd o lwyddo ym myd y pel-droed a’r pwysa sy’n bodoli ar ddelwedd.

Tue, 18 Oct 2022 06:51:29 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Nerth dy Ben

Ceridwen a Gwern

Tro yma mae Ceridwen yn rhoi’r byd yn ei le hefo Gwern Pierce. Cymeriad a hanner sydd a’i draed ar y ddaear ac sy’n ceisio byw ei fywyd gyda un feddylfryd benodol…!

Sgwrs hamddenol braf a gonest rhwng dau berson Ifanc a doeth.

Fri, 14 Oct 2022 07:38:42 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Nerth dy Ben

Ceridwen ac Elenid

Yn y gyfres fer yma o bodlediadau Nerth yr Ifanc, mae Ceridwen yn sgwrsio, mwydro ac yn rhoi’r byd yn ei le hefo tri ffrind yn ei dro. A’r cyntaf ydy Elenid Alun, sydd yn sgwrsio am ei phenderfyniad hi i beidio dilyn y drefn ‘arferol’ o fynd i’r brifysgol, a chael yr hyder i ddilyn ei trywydd ei hun. Mwynhewch!

Tue, 11 Oct 2022 10:36:14 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Nerth dy Ben

P4 Sgwrs Llior a’r ‘baby lunatic’

** Pennod arbennig **
Ma hon yn sgwrs boncyrs o hyfryd! 
Yn y bennod gonest yma dan ni’n clywed am fywyd Emma, sy’n gweithio fel therapydd plant, ac sydd wedi cael sawl profiad heriol, fel mam ac fel therapydd. Mae Llior ac Emma yn cael sgwrs gonest am bob dim o post natal depression i hiwmor, ac o drio cadw dy hun yn gall ar ol profi genedigaeth trawmatic i deimlo fel Beyonce!! 

(o.n ‘Wolfgang and the baby lunatic gan Charlie C King’ ydy enw’r nofel gyda llaw! Sy’n llawn hiwmor tywyll, gonestrwydd a realiti bywyd yr awdures. Ewch i brynnu copi! 🙂) 

Thu, 12 May 2022 15:00:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Nerth dy Ben

P3 Mari Hughes - byd llawn lliw

Yn y bennod yma dwi’n sgwrsio hefo Mari o Lansannan, sydd wedi dilyn gyrfa ym myd Celf. Dan ni’n sgwrsio am ddylanwad celf ar ei bywyd o ddydd i ddydd, a sut ma' hynny wedi ei galluogi hi i ddelio efo be' bynnag ma bywyd yn ei daflu ati. Ma' hon yn sgwrs llawn lliw, creadigrwydd, pwysigrwydd hunan-werth, a derbyn bod hi’n ocê i wneud camgymeriadau, a defnyddio’r rhwbiwr 'na o dro i dro, ac ail ddechra’ dylunio.
Mwynhewch!

Thu, 05 May 2022 17:14:05 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Nerth dy Ben

P2 Dewi Glyn - Cobiau, chwerthin a chicio pêl

Persbectif, pêl-droed, teulu a hiwmor – sgwrs gynnes a gonest efo’r bridiwr ceffylau llwyddianus, Dewi Glyn.

Wrth i fywyd fynd ar garlam, dan ni’n cael cyfle i isda lawr dros baned a rhoi’r byd yn ei le (efo’r gath!). Dyma sgwrs am bob dim sy’n bwysig i’r tad, ffarmwr, adeiladwr a’r Cymro sydd â’i wreiddiau yn ddwfn ym Mhlas yn Trofarth, Llangernyw. Dan ni’n sgwrsio am bwysigrwydd persbectif, nerth a chryfder cymeriad, y wers o fethiant, a darganfod be sy’n gyffredin rhyngdda fo a’r teulu brenhinol. O ia – a phêl droed!

Wed, 20 Apr 2022 10:53:41 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Nerth dy Ben

P1 Llior Radford – O Lannefydd i Lundain

Magwyd Llior ar Fferm ger Llannefydd, ac ar ôl treulio amser yn gweithio yn myd byrlymus y byd ffasiwn yn Llundain a thu hwnt mae hi wedi dychwelyd yn nôl adre i’w milltir sgwâr, efo perspectif newydd ar fywyd.
Yn y bennod yma, ma Llior yn sgwrsio am sut wnaeth ei magwraeth hi fel merch ffarm olygu iddi fagu’r cryfder i oroesi byd heriol y byd ffasiwn yn Llundain, y gwersi mae hi wedi eu dysgu ar hyd y ffordd, a’r hyn sydd bellach yn bwysig iddi ar ôl gwthio ei ffiniau a chyflawni gyrfa lwyddianus.

Thu, 07 Apr 2022 10:00:03 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Nerth dy Ben

Cyflwyniad

Be' ma' cryfder meddwl yn ei olygu mewn gwahanol sefyllfaoedd? O’r ffarm i’r weinidogaeth, o’r mynyddoedd i’r ‘stafell ddosbarth - stay tuned i ffeindio allan!

Sun, 03 Apr 2022 14:43:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Nerth dy Ben

Nerth dy Ben

Tue, 02 Feb 2021 16:00:15 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch