Ifan, Rhodri, Telor a Rhys sy' nôl i drafod hanner cynta'r tymor yn y Cymru Premier, North a South, y penawdau ar draws Ewrop a Kit Corner AFCON
Thu, 27 Jan 2022 12:34:53 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys a Telor sy nôl (o’r diwedd!) i drafod eu uchafbwyntie pêl-droed o’r misoedd dwetha, ac edrych mlan i dymor newydd y Cymru Premier, Bundesliga, La Liga, Ligue 1 a Serie A!
Fri, 20 Aug 2021 18:39:09 GMT
Chwarae LawrlwythwchNick Davies a Jordan Griffiths sy’n ymuno gyda Ligo ar y rhifyn newydd i drafod eu cylchgrawn - Welsh Soccerites - sydd yn dathlu pêl-droed yng Nghymru. Ifan a Rhodri sy’n holi’r ddau am eu atgofion cynnar o ddilyn pêl-droed, eu hoff grysau pêl-droed, ac yn gofyn beth sy’n gwneud pêl-droed Cymreig yn grêt.
Fri, 12 Mar 2021 16:30:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri a Telor sy’n edrych ar brif benawdau pêl-droed o Ffrainc, Yr Almaen a’r Eidal, yn ogystal â Chynghrair y Pencampwyr
Fri, 19 Feb 2021 17:46:40 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n trafod Club World Cup, crysau Mexico, Twrci, a phrif gynghrieiriau Ewrop
Thu, 11 Feb 2021 08:21:04 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri a Telor (a cameo gan Rhys) sy’n edrych ar rownd derfynol y Copa Libertadores, Ligue 1, Bundesliga, a Phencampwriaeth Gwledydd Affrica
Thu, 04 Feb 2021 00:02:48 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n trafod digwyddiadau pêl-droed y cyfandir dros yr wythnos dwetha
Sun, 24 Jan 2021 07:49:54 GMT
Chwarae LawrlwythwchWedi saib dros y Dolig, ma Ligo nôl i edrych ar beth sydd di bod yn digwydd ym myd pêl-droed y cyfandir dros yr wythnose dwetha
Mon, 18 Jan 2021 14:02:06 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n bwrw golwg ar y Cymru Premier a phêl-droed o’r cyfandir
Sun, 06 Dec 2020 19:44:58 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, a Telor yn trafod pêl-droed yr wythnos o’r cyfandir
Sat, 28 Nov 2020 09:57:47 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n edrych nôl ar wythnos dda i Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ac yn trafod pwy arall sydd di cael wythnos i’w gofio (a phwy sydd di cael wythnos i’w anghofio hefyd!)
Sat, 21 Nov 2020 16:18:33 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych ar y sefyllfa yng Nghynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Ewropa.
Sat, 07 Nov 2020 14:32:02 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n edrych ar gynghrieriau ar draws Ewrop heddi, o Gymru i’r Ffindir, o Felarws i’r USA. Ac wrth gwrs, ma wastad amser i drafod y ras am y bencampwriaeth ar Ynysoedd Faro
Thu, 29 Oct 2020 18:36:58 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n edrych nôl dros yr wythnos dwetha yn y Cymru Premier, Cynghrair y Pencampwyr, a phrif chynghreiriau’r cyfandir!
Thu, 22 Oct 2020 14:05:51 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych nôl ar ffenest ryngwladol cymysg i Gymru. Wedi colli’n drwm yn erbyn yr hen elyn (Lloegr), 4 pt o’r ddau gêm UEFA Nations League yn cadw Cymru ar frig eu grŵp. Odd na gêmau yn y Cymru Premier i’w trafod hefyd, yn ogystal ag edeych mlan at bêl-droed y penwythnos sydd i ddod!
Fri, 16 Oct 2020 09:13:01 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys a Telor yn trafod Cymru Premier, Cynghrair y Pencampwyr, gêmau rhyngwladol, a’r ffenest drosglwyddo.
Wed, 07 Oct 2020 13:59:04 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, a Telor sy’n bwrw golwg ar gêmau diweddar y Cymru Premier, Bundesliga, a Serie A
Wed, 30 Sep 2020 14:19:20 GMT
Chwarae LawrlwythwchCriw Ligo yn trafod gêmau agoriadol y Cymru Premier, y Seintiau yn Ewrop, Ligue 1, DFB Pokal a Serie A!
Thu, 17 Sep 2020 15:14:03 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych nôl dros ffenest ryngwladol llwyddianus i Gymru, ac edrych mlan at dymor newydd y Cymru Premier
Thu, 10 Sep 2020 23:01:22 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n trafod diwedd un tymor yn Ewrop, a dechrau tymor newydd. Ma hefyd digon o amser i drafod crys oddi-cartre newydd Nefyn United!
Thu, 20 Aug 2020 14:44:02 GMT
Chwarae LawrlwythwchWrth i dymor 2019/20 ddod i ben o’r diwedd, Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych nôl ar sawl rownd terfynol ac yn edrych mlan i gystadlaethau UEFA barhau. Ma’r sgwrs am byramid pêl-droed Cymru yn parhau hefyd, gyda newid hwyr i haen 3 ar ôl i STM Sports dynnu mas o’r gynghrair!
Wed, 05 Aug 2020 23:01:42 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri a Rhys sy’n trafod popeth Cymru Leagues wythnos ma wedi newidiadau mawr i’r pyramid pêl-droed yn Haen 3 a 4
Thu, 23 Jul 2020 05:38:30 GMT
Chwarae LawrlwythwchMa criw Ligo yn trafod be ma nhw wedi bod yn gwylio dros y pythefnos dwetha, ac yn cal sgwrs am y crysau newydd sydd yn dod mas ar gyfer tymor nesa
Sat, 04 Jul 2020 14:02:07 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n cal catch-up dros Zoom ac yn trafod newyddion y Cymru Premier, gêmau heb dorf yn y Bundesliga, a beth sydd di bod yn digwydd yn y byd pêl-droed yn absenoldeb *actual* pêl-droed!
Tue, 16 Jun 2020 23:01:23 GMT
Chwarae LawrlwythwchMa cyfres nostalgia Ligo nôl, gyda Ifan, Rhodri, Rhys a Telor yn trafod Cwpan y Byd cynta’r ganrif newydd, gan ganolbwyntio ar grysau, gôls, a gwallt!
Fri, 15 May 2020 23:01:28 GMT
Chwarae LawrlwythwchIfan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych ar beth sy’n digwydd i gynghreiriau ar draws Ewrop ar hyn o bryd, ac yn edrych mlan at adeg pan fydd bywyd normal yn dychwelyd!
Wed, 06 May 2020 23:01:32 GMT
Chwarae LawrlwythwchDraw i’r tiroedd isel ma Ligo yn mentro wthnos yma wrth edrych nôl ar dwrnament Ewro 2000 gathe i gynal yng Ngwlad Belg a’r Iseldiroedd
Mon, 27 Apr 2020 23:01:49 GMT
Chwarae LawrlwythwchMae’n fis Mai 1996 yn Stadio Olimpico Rhufain, ac yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ma Juventus yn heiro’r deiliaid Ajax. Ymunwch da Ifan, Rhodri, Rhys a Telor wrth iddyn nhw gyd-wylio’r gêm a thrafod llwyddiant y ddau dîm a’u chwaraewyr yn ystod y 90au
Fri, 17 Apr 2020 23:01:54 GMT
Chwarae LawrlwythwchZizou, Bunny Hops, Boteli Bleach, Iran v USA, Reggae Boyz, Kits Cŵl, a Norwy pan o nhw’n dda!
Sun, 05 Apr 2020 11:21:26 GMT
Chwarae LawrlwythwchDentist Chairs, Cheeky Chips, Golden Goals, Fußball’s Coming Home, Fantasy Football, El Tel, Cŵl Croatia, a Chymru’n colli i Georgia a Moldofa. Ymunwch ‘da Ligo wrth iddyn nhw edrych nôl ar dwrnament nath newid pêl-droed yn Lloegr am byth.
Sun, 29 Mar 2020 23:01:44 GMT
Chwarae LawrlwythwchDyw’r Coronavirus ddim am roi stop ar griw Ligo, wrth i Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor recordio dros y ffôn wythnos yma tra’n hunan ynysu! Ar yr agenda, mae’r pêl-droed prin sydd yn digwydd yn Ewrop, a golwg nôl ar hoff gêmau cyfrifiadur ein gwrandawyr, ac yn gofyn p’un sydd orau - FIFA neu Pro-Evo?!
Wed, 18 Mar 2020 00:01:44 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Rhys, Telor, ac Ifan sy’n trafod Joe Allen a’r Cymru Premier, ac yn methu osgoi trafod y Coronavirus wrth iddo fe amharu ar bêl-droed ar draws Ewrop
Wed, 11 Mar 2020 00:01:13 GMT
Chwarae Lawrlwythwch‘Rhybudd: Iaith Anweddus!’ ar y pod wythnos yma wrth i Ifan, Rhodri, Rhys a Telor drafod Nations League, Cwpan Cymru, protests yn y Bundesliga, ac ail-ddechrau’r MLS!
Wed, 04 Mar 2020 00:01:38 GMT
Chwarae LawrlwythwchMa na westai arbennig gyda Ligo wythnos yma wrth i Dylan Ebenezer ymuno da Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor. Odd na ddigonedd o bêl-droed i’w drafod yng Nghymru ac Ewrop dros y penwythnos, a ma’r criw yn atgyfodi Kit Corner er mwyn trafod hoff grysau pêl-droed Dylan! ⚽️ Cymru - 00m31e ⚽️ Ewrop - 18m42e ⚽️ Kit Corner Dylan Ebenezer - 37m35e ⚽️ Amser Ychwanegol- 48m34e
Tue, 25 Feb 2020 00:01:34 GMT
Chwarae LawrlwythwchMond Ifan, Rhodri a Rhys sy’n trafod pêl-droed ar y rhifyn yma - wedi penwythnos stormus nath amharu ar sawl gêm!
Wed, 19 Feb 2020 00:01:09 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Rhys, Telor ac Ifan sy’n trafod wythnos o bêl-droed yng Nghymru ac ar y cyfandir. Tipyn i’w drafod gan gynnwys Cardiau Coch a Chynghrair y Pencampwyr
Thu, 13 Feb 2020 21:44:06 GMT
Chwarae LawrlwythwchCast llawn wythnos yma wrth i Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan drafod Cwpan y Gynghrair, ail-strwythuro cynghreiriau Cymru, a’r ras am y Bundesliga.
Wed, 05 Feb 2020 00:01:31 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, ac Ifan sy’n edrych nôl ar benwythnos Cwpan Cymru. Tra bod dim un sioc ‘di digwydd yn y Gwpan yng Nghymru, mi odd sawl cynghrair ar draws Ewrop lle nath y rhai ar y brig ildio pwyntiau pwysig!
Wed, 29 Jan 2020 00:01:46 GMT
Chwarae LawrlwythwchMa’r criw Ligo nôl ar ôl egwyl dros y Nadolig, ac yn bwrw golwg nôl ar y tymor hyd yn hyn. Siôn Meurig Lewis sy’n ymuno fel cwis feistr i brofi faint ma Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan wedi bod yn talu sylw
Thu, 23 Jan 2020 00:09:21 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n rhannu anrhegion Santa Cudd mewn rhifyn arbennig o Kit Corner, ac yn edrych mlan i’r Nadolig!
Mon, 23 Dec 2019 00:01:25 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhifyn ola Ligo yn 2019, wrth i Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan drafod Cwpan Cymru, cynghreiriau mawr Ewrop, a threfniadau Ewro 2020!!
Wed, 11 Dec 2019 00:01:37 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys ac Ifan sy’n trafod gêmau’r Cymru Premier a Cymru South wythnos hyn, yn ogystal â bwrw golwg ar benawdau pêl-droed ar draws Ewrop ac hel atgofion am Championship Manager
Thu, 05 Dec 2019 00:01:04 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys ac Ifan sy’n trafod Cwpan y Gynghrair, Cymru Leagues, a phencampwyr clybiau De America ac Asia.
Thu, 28 Nov 2019 22:16:55 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, ac Ifan sy’n edrych nôl ar lwyddiant Cymru ac edrych mlaen i’r Ewros haf nesa. Ma hefyd penwythnos o gêmau Cymru Premier i drafod a rhagolwg o rownd derfynol y Copa Libertadores!
Thu, 21 Nov 2019 22:13:03 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n edrych mlaen at gêmau Cymru yn erbyn Azerbaijan a Hwngari. Ar yr agenda:
Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Wed, 13 Nov 2019 00:01:52 GMT
Chwarae LawrlwythwchAr noson tân gwyllt, ma Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan yn trafod pêl-droed y penwythnos o Gymru ac Ewrop. Ma’r 4 hefyd yn hel atgofion o’r gêmau cynta iddyn nhw weld yn fyw, ac yn rhannu straeon y gwrandawyr. Mae hefyd digon o amser i drafod crys newydd Cymru!
Wed, 06 Nov 2019 00:01:46 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor ac Ifan sy’n edrych nôl dros gêmau’r penwythnos yng Nghymru ac Ewrop, ac edrych mlaen at y gêm ddarbi Berlin gynta i’w chwarae yn y Bundesliga. Ja!
Wed, 30 Oct 2019 00:01:34 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys ac Ifan sy'n trafod pêl-droed y penwythnos o Gymru ac Ewrop, gan gynnwys bloopers y Cymru Premier, pencampwyr Scandinavia 2019, a edrych nôl ar memorabilia y 90au.
Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Tue, 22 Oct 2019 23:01:16 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor ac Ifan sydd wedi mynd draw i dŷ Rhys i drafod gêmau rhyngwladol, gêmau’r Cymru Leagues, ac esgidiau Cei Connah yn y Tunnock’s Caramel Teacake Irn-Bru Wafer Challenge Cup of Scotland.
Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Wed, 16 Oct 2019 22:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n cael cysgod o’r glaw mewn caffi yng Nghaerdydd ac yn trafod gêmau rhyngwladol Cymru, un o derbys Belffast, y diweddara gyda Bangor 1876, a’r ras agored am y Cymru Premier!
Diolch i Blue Honey Local am fod yn gartref i'r pod am brynhawn!
Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Tue, 08 Oct 2019 23:01:26 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Ifan, Rhys ac Ifan yn trafod y penderfyniad i ohirio gêm Met v Derwyddon, canlyniadau Cwpan Cymru, gêmau Cynghrair y Pencampwyr, a rhifau ar gefn crysau
Tue, 01 Oct 2019 23:01:41 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n trafod gêmau’r penwythnos ar draws Ewrop a Chymru. Ma’ Ligo hefyd yn trafod stafelloedd newid a thrydydd crysau Nike.
Tue, 24 Sep 2019 23:01:42 GMT
Chwarae LawrlwythwchYn y rhifyn newydd ma Siôn Meurig Lewis yn ymuno gyda Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan i drafod gêmau’r wythnos yn Ewrop ac yng Nghymru.
CWESTIWN - ble ma'r stafelloedd newid gwaetha I chi ddefnyddio? Gadewch I ni wybod drwy gysylltu dros twitter @podligo
Wed, 18 Sep 2019 22:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchWythnos hyn mae Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan yn trafod gêmau rhyngwladol y penwythnos, cynghreiriau Cymru, Hamburger derby, a chrysau pêl-droed Ifan.
Wed, 11 Sep 2019 00:00:00 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys ac Ifan sy'n edrych mlaen at ymweliad Azerbaijan i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gem rhagbrofol Ewro 2020. Ma Azerbaijan wedi colli pob gêm rhagbrofol hyd yn hyn, ac ers curo Slofacia mis Mawrth, colli oedd hanes Cymru yn eu dwy gêm nhw yn yr haf hefyd. Beth gall carfan Ryan Giggs ddisgwyl wrth yr Azeris?
Tue, 03 Sep 2019 23:01:32 GMT
Chwarae LawrlwythwchSgwrs byr gyda Rhodri ac Ifan, sy’n trafod grŵpiau Cynghrair y Pencampwyr:
Rhowch eich barn drwy gysylltu ar Twitter @podligo.
Fri, 30 Aug 2019 16:40:15 GMT
Chwarae LawrlwythwchSgwrs byr gyda Rhodri ac Ifan, sy’n trafod Grŵp E Cynghrair y Pencampwyr:
...ac yn cael ymateb cefnogwr Lerpwl - Aled.
Rhowch eich barn drwy gysylltu gyda ni ar Twitter @podligo.
Fri, 30 Aug 2019 16:30:03 GMT
Chwarae LawrlwythwchSgwrs byr gyda Rhodri ac Ifan, sy’n trafod Grŵp B Cynghrair y Pencampwyr:
...ac yn cael ymateb Rhydian, sy’n gefnogwr Spurs.
Rhowch eich barn drwy gysylltu gyda ni ar Twitter @podligo.
Fri, 30 Aug 2019 16:20:44 GMT
Chwarae LawrlwythwchSgwrs byr gyda Rhodri ac Ifan, sy’n trafod Grŵp C Cynghrair y Pencampwyr:
...ac yn cael barn cefnogwyr City - Jamie a Ceri.
Rhowch eich barn drwy gysylltu gyda ni ar Twitter @podligo.
Fri, 30 Aug 2019 16:10:05 GMT
Chwarae LawrlwythwchSgwrs byr gyda Rhodri ac Ifan, sy’n edrych ar Grŵp H Cynghrair y Pencampwyr eleni:
...ac yn cael ymateb Seiriol sy’n gefnogwr Chelsea.
Rhowch eich barn drwy gysylltu gyda ni ar Twitter @podligo.
Fri, 30 Aug 2019 16:00:17 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor a Ifan sy’n trafod gêmau’r Cymru Premier dros benwythnos gwyl y banc, gyrfaoedd cŵl pêl-droedwyr o Gymru, a chasgliad crysau pêl-droed Rhodri.
Wed, 28 Aug 2019 23:01:10 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys ac Ifan sy'n trafod gêmau cynta'r Cymru Leagues, penwythnos gwael i ddeiliad y cynghreiriau mawr yn Ewrop, ac yn trafod crysau pêl-droed Telor.
Hefyd, mae'r Serie A ar fin dechrau, a ma' Ligo yn bwrw golwg ar yr enwau mawr o’r Eidal, tra bod Rhys yn cynnal “cwis"!
Trafodwyd ar y pod:
Cysylltwch gyda ni ar Twitter @podligo
Tue, 20 Aug 2019 23:01:50 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys a Ifan yn trafod tymhorau newydd y Cymru Premier a’r Bundesliga.
Ma’r pedwar hefyd yn trafod dechre’r Uwch-Gynghrair yn Lloegr, Cwpan y Gynghrair yng Nghymru, bathodyn newydd y tîm cenedlaethol, a Gil Vicente yn cywiro anghyfiawnder ym Mhortiwgal!
Cysylltwch ar Twitter @podligo
Tue, 13 Aug 2019 21:18:55 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor a Ifan yn trafod Fantasy Premier League, yr Eredivisie, Cwpan y Gynghrair a’r Homeless World Cup.
Ma' Ligo hefyd yn edrych ar y gorau 'r gwaetha o grysau newydd yr Uwch-gynghrair yn Lloegr, gan gynnwys:
Cysylltwch ar Twitter @podligo
Sun, 04 Aug 2019 15:06:24 GMT
Chwarae LawrlwythwchRhodri, Telor, Rhys a Ifan yn trafod y tymor pêl-droed newydd gan gynnwys
Cysylltwch ar Twitter @podligo
Tue, 30 Jul 2019 21:13:56 GMT
Chwarae LawrlwythwchLigo