-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Podlediad f8

Podlediad f8

Mwydro a malu awyr am nyrdrwydd a gemau. Yn Gymraeg.

Gwefan: Podlediad f8

Mwy o bodlediadau Sioeau%20Ffeithiol

RSS

Chwarae Podlediad f8

Sdim Byd Gwell Na Cracio Pac ar Agor

Elidir a Daf yn trafod gemau cardiau, rhai corfforol a digidol, y gwahaniaethau rhwng y systemau, eu llwyddiannau a gwendidau a dipyn bach o hanes y genre is o'r nyrdfyd. Ymestynwch eich slipars, mae'n amser paned i'r clustiau.

Tue, 27 Mar 2018 10:49:46 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Podlediad f8

Pennod 10: "Nid Aur Yw Popeth Retro"

Ar ôl unarddeg mis o ddisgwyl, mae Pod Wyth yn ôl! Allwch chi gredu'r peth? Wedi ei recordio, am y tro cynta erioed, efo'r cyflwynwyr yn yr un ystafell. Ac yn cynnwys sgiliau golygu proffesiynol Daf Prys. Disgwyliwch lot o jingls ffansi. Yn rhifyn #10 (nid rhifyn #11, dim ots be 'dan ni'n ei ddweud yn y bennod): - Yr holl gemau sydd wedi bod yn ein ticlo ni'n ddiweddar. Monster Hunter World! Celeste! Slay the Spire! Battlefield! A trafodaeth ehangach o gemau 'battle royale'. - Yn y newyddion: blwyddyn aruthrol gyntaf y Nintendo Switch, newidiadau ar y ffordd i'r PS4, ac Assassin's Creed yn mynd yn addysgiadol. - Gemau bwrdd! Ein hoff beth. Yn y byd. Clywch ein hargraffiadau o Inis, Kingdomino, a Hanamikoji. Wel, ai nefar. - Be ydi ystyr 'retro'? Daf sy'n trio esbonio, ac Elidir yn saethu tyllau yn ei ddadl. - Yr 'ogia'n trafod y dadlau ynghylch Kingdom Come: Deliverance, Kickstarter, a mudiad Gamergate. Pethau'n mynd bach yn dywyll, bois. Mwynhewch!

Mon, 26 Feb 2018 09:49:08 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Podlediad f8

Merched mewn sci fi, ffantasi a gemau fideo

Sgwrs efo Elan Grug Muse a Miriam Elin Jones ynglyn a sut mae nhw'n gweld tirwedd cynrychiolaeth merched ym mydoedd gemau fideo, sci fi a ffantasi. Daf Prys sy'n sdryglo i ddal i fyny efo rhain.

Wed, 31 May 2017 20:01:12 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch