-> Eich Ffefrynnau

Seiniau Stampus

Seiniau Stampus

Podlediad achlysurol gan olygyddion Cyhoeddiadau'r Stamp i sgwrsio gyda phobl ddifyr a rhoi sylw i gyfrolau newydd.

Gwefan: Seiniau Stampus

RSS

Chwarae Seiniau Stampus

Seiniau Stampus 5: Woof gydag Elgan Rhys, Gethin Evans a Hannah Sams

Rhifyn newydd o'n podlediad achlysurol, y tro hwn i ddathlu lansio Woof gan Elgan Rhys, y drydedd ddrama i ymddangos yng nghyfres Sgriptiau Stampus yn dilyn Croendena gan Mared Llywelyn ac Imrie gan Nia Morais. Esyllt Lewis o Gyhoeddiadau'r Stamp sy'n sgwrsio gydag Elgan, Gethin Evans a Hannah Sams gyda'r trafod yn cynnwys y broses o roi Woof ar lwyfan y Sherman yn Chwefror 2019, sut mae'r ddrama wedi dyddio ers y llwyfaniad hwnnw, pwysigrwydd gweld gwaith llwyfan mewn print, gosod y ddrama hon yng nghyd-destun byd theatr Gymraeg LHDTC+ a digonedd o bethau difyr eraill. Ceir hefyd gyfraniadau byr yn ymateb i'r ddrama gan Lauren Morais, Sion Ifan, Morgan Llewelyn-Jones a Rahim El Habachi.

Mae Woof bellach ar gael i'w archebu o wefan Cyhoeddiadau'r Stamp ac o'ch siopau stampus lleol: https://www.ystamp.cymru/cyhoeddiadau

Rhybudd cynnwys: Ceir cyfeirio at (ond nid disgrifio) profiad personol yn ymwneud gyda thrais rhywiol yn y bennod hon. Dylid cyfeirio at y rhybudd cynnwys penodol yn nhu blaen y gyfrol cyn mynd ati i ddarllen y ddrama ei hun.

Thu, 29 Feb 2024 09:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Seiniau Stampus

Seiniau Stampus 4: Ystlum gydag Elen Ifan a Mari Elen

Podlediad a recordiwyd yn fyw yn siop lyfrau Palas Print, Caernarfon, adeg cyhoeddi Ystlum, pamffled cyntaf Elen Ifan o gerddi, ym mis Tachwedd 2022. Yn holi Elen mae ei ffrind, Mari Elen - ac mae'r sgwrs yn crwydro i gyhoeddi ar instagram, cyfansoddi yn ystod y cyfnod clo, cydweithio gydag artistiaid gweledol a chymaint mwy.

Gyda diolch arbennig i Eirian a Sel o Palas Print, siop lyfrau annibynnol yng nghanol tref caerog Caernarfon yn gwerthu llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru a'r byd.

Thu, 21 Sep 2023 10:51:49 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Seiniau Stampus

Seiniau Stampus 3: Ffosfforws 2 gyda Mari Elen, Buddug Roberts ac Osian Wynn Davies

Podlediad a recordiwyd yn fyw o Lwyfan y Llannerch yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, wrth i ni lansio ail rifyn Ffosfforws, cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau'r Stamp. Sgwrs yn gyntaf rhwng Iestyn a Mari Elen, golygydd gwadd y rhifyn, am y profiad o guradu'r casgliad a rhai uchafbwyntiau personol o blith y cerddi; cyn i Buddug Roberts ac Osian Wynn Davies ymuno gyda'r panel i ddarllen a thrafod eu gwaith. 

Gyda diolch arbennig i Aled Jones o gwmni Y Pod am sicrhau fod y recordiad hwn ar gael i’w ddefnyddio.

Rhybudd cynnwys: Ceir darlleniadau a thrafodaethau yn y rhifyn hwn sy'n cyfeirio at golli plentyn.

Mon, 10 Oct 2022 09:15:45 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Seiniau Stampus

Seiniau Stampus 2: merch y llyn a Stafelloedd Amhenodol o Ŵyl Geiriau Wrecsam

Darlleniadau estynedig o merch y llyn gan Grug Muse, a Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne, dwy o'r cyfrolau sydd ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Recordiwyd gyda chynulleidfa fyw yn Nhŷ Pawb fel rhan o Ŵyl Geiriau Wrecsam ar 23 Ebrill 2022.

Gyda diolch i Dylan Hughes a Gŵyl Geiriau Wrecsam am y gwahoddiad.

Rhybudd cynnwys: Ceir darlleniadau yn y rhifyn hwn o gerddi sy'n trafod galar a thrais, a thrais rhywiol yn erbyn merched yn benodol.

Tue, 21 Jun 2022 11:51:57 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Seiniau Stampus

Seiniau Stampus o'r archif: 24:24 gyda Leusa Llewelyn

Sgwrs o Hydref 2020 wrth i Leusa Llywelyn o Llenyddiaeth Cymru ac Iestyn Tyne & Esyllt Lewis o'r Stamp ddod ynghyd i drafod #Her24Awr ar ddiwedd y prosiect. 

Cyfrannwyr #Her24Awr oedd: Beth Celyn, Dafydd Reeves, Dylan Huw, Eadyth Crawford, Elan Elidyr, Elen Gwenllian Hughes, Esyllt Lewis, Ffion Morgan, Ffion Pritchard, Gareth Evans-Jones, Gwenllian Spink, Gwenno Llwyd Till, Iestyn Tyne, John G. Rowlands, Lauren Connelly, Osian Meilir, Melissa Rodrigues, Rufus Mufasa, Ruth Lloyd Owen, Rhiannon M. Williams, Rhys Aneurin, Sara Louise Wheeler, Sioned Medi Evans, Steffan Dafydd a Tess Wood.

Bob blwyddyn ers 2012 ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth bu Llenyddiaeth Cymru yn herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Yn 2020, cafwyd newid cyfeiriad wrth i Llenyddiaeth Cymru gydweithio â’r Stamp i gynnal rhywbeth ychydig yn wahanol. Dan arweiniad golygyddion Y Stamp, roedd Her 24 x 24 yn dwyn ynghyd 24 artist am 24 awr.

Roedd yr artistiaid yn ffurfio cadwyn greadigol, gan ddechrau am hanner dydd ar 1 Hydref a gorffen am hanner dydd ar yr 2 Hydref. Roedd gan bob artist awr yr un i ymateb i waith yr artist blaenorol mewn unrhyw fodd creadigol, gyda'r gwaith gorffenedig yn cael ei rannu ar y we. Mae'r holl gynnyrch yn dal i fod ar gael draw ar sianel AM Y Stamp: https://amam.cymru/ystampus 

Thu, 20 Jan 2022 20:36:39 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Seiniau Stampus

Seiniau Stampus 1: Ffosfforws 1 gyda Ciarán Eynon

Podlediad arbennig i ddathlu lansio rhifyn cyntaf erioed Ffosfforws, cyfnodolyn newydd Cyhoeddiadau'r Stamp sy'n llwyfan i farddoniaeth o bob math. Mae Grug a Iestyn sgwrsio efo Ciarán am gynnwys y rhifyn, taith Ciarán fel sgwennwr, a sawl peth difyr arall. Mi gawn ni hefyd glywed cerddi newydd sbon sydd wedi eu cyhoeddi yn Ffosfforws gan Sion Tomos Owen, Manon Wynn Davies ac Alaw Tomos.

Rhybudd cynnwys: Ceir cyfeiriadau yn y rhifyn hwn at gerddi sy'n trafod trais a thrais rhywiol yn erbyn merched yn benodol.

Thu, 25 Nov 2021 08:59:33 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch