-> Eich Ffefrynnau

Sgwrs?

Sgwrs?

Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl.

Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru

Ariennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Gwefan: Sgwrs?

RSS

Chwarae Sgwrs?

Syndrom y Ffugiwr (Imposter Syndrome)

Mae llawer ohonom yn adnabod y teimlad – y pryder ein bod ni ddim yn ddigon da, y dychymyg ein bod ar fin cael ein darganfod fel ‘ffugiwr’. Ond beth yn union yw syndrom y ffugiwr (imposter syndrome), a pham mae’n effeithio cymaint ar ein hyder a’n hunan-barch?

Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Lois, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, yr actor a chyflwynydd Luke Davies, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod y ffordd mae imposter syndrome yn effeithio ar fyfyrwyr, perfformwyr, a phawb sy’n teimlo’r pwysau i fod yn ‘berffaith’.

Ydyn ni’n rhoi gormod o bwyslais ar berffeithrwydd? Sut gall cyfryngau cymdeithasol waethygu’r teimlad ein bod ni byth yn gwneud digon? A beth allwn ni ei wneud i feithrin hyder a chael gwared â’r llais bach negyddol sy’n dweud nad ydyn ni’n haeddu ein llwyddiannau?

Dyma trafodaeth agored ac ysbrydoledig ar sut i fagu hyder, derbyn ein llwyddiannau, a chreu perthynas iach gyda’n disgwyliadau ein hunain.

Thu, 13 Mar 2025 00:25:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrs?

Meddyliau Ymwthiol

Meddyliwch am y foment honno pan mae meddwl annisgwyl yn taro eich meddwl - rhywbeth rhyfedd, brawychus neu hyd yn oed anghyfforddus. Mae gan bawb feddyliau ymwthiol o bryd i’w gilydd, ond beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n parhau i ddychwelyd ac yn dechrau effeithio ar eich bywyd bob dydd?

Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn archwilio’r byd cymhleth o feddyliau ymwthiol. Mae Grace, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, y cerddor a chyflwynydd Welsh Whisperer, ac Endaf Evans, cwnselydd i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, yn rhannu eu profiadau a’u harbenigedd ar sut mae’r meddyliau hyn yn effeithio ar iechyd meddwl ac ansawdd bywyd.

Pam mae meddyliau ymwthiol yn digwydd? Sut gallan nhw gysylltu â gorbryder ac iselder? A pha effaith mae stigma’n ei gael ar bobl sy’n ei chael hi’n anodd trafod y pwnc? Yn fwyaf pwysig – sut gallwn ni reoli’r meddyliau hyn a dod o hyd i strategaethau i’w ddelio â nhw? Ffeindiwch allan yn y bennod hon, ac ymunwch yn y Sgwrs.

Thu, 13 Mar 2025 00:20:06 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrs?

Hunan Ofal a ‘Burnout’

Mae bywyd prifysgol a gwaith yn gallu bod yn heriol, ac mae’n hawdd anwybyddu ein lles personol wrth i bwysau gynyddu. Ond beth yn union yw burnout, sut gallwn ni ei adnabod, a pham mae hunanofal mor bwysig? 

Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Hedd, myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam, y crewr cynnwys Llio Angharad, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod eu profiadau a’u safbwyntiau ar y pwnc.

Beth yw’r camau syml allwn ni eu cymryd i ofalu am ein hunain? Sut gallwn ni oresgyn y rhwystrau sy’n ein hatal rhag blaenoriaethu hunan ofal? A sut allwn ni symud oddi wrth yr syniad bod hun anofal yn foethusrwydd, yn hytrach na rhywbeth hanfodol i’n hiechyd meddwl?

Thu, 13 Mar 2025 00:15:06 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrs?

Delio Gyda Newid

Gall newid fod yn heriol ac yn llawn ansicrwydd, ond gall hefyd ddod â chyfleoedd newydd a phrofiadau gwerthfawr. Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod sut i ymdopi â newid mewn ffyrdd iach ac adeiladol, gan gynnwys symud i'r brifysgol, addasu i sefyllfaoedd annisgwyl, a darganfod cryfder personol drwy gyfnodau o ansicrwydd.

Mae Carys, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr actores Leah Gaffey a’r cwnselydd Karen Jones yn rhannu eu profiadau a’u hawgrymiadau ar greu rhwydweithiau cefnogaeth, goresgyn yr ofn sy’n gallu dod gyda newid, a dysgu sut i ail-fframio heriau fel cyfleoedd i dyfu. Cawn glywed straeon gonest am y ffordd mae newid wedi effeithio ar eu bywydau, a’r dulliau maen nhw wedi eu defnyddio i addasu, ymdopi, a hyd yn oed ffynnu o ganlyniad.

Thu, 13 Mar 2025 00:10:06 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrs?

Procrastinadu

Ydyn ni i gyd yn euog o brocrastinadu? Mae’n hawdd dweud “Gwna i o’n nes ymlaen,” ond cyn i chi sylweddoli, mae oriau wedi mynd heibio ac mae'r gwaith heb ei wneud.

Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod pam rydym ni’n gohirio tasgau, yr effaith mae hyn yn ei gael ar ein hiechyd meddwl, a sut i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng gorffwys bwriadol a diogi. Ymunwch ag Elliw, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, y cyflwynydd a’r dylanwadwr Molly Palmer, ac y cwnselydd Sara Childs wrth iddyn nhw rannu eu profiadau a’u hawgrymiadau i helpu torri’r cylch.

Os ydych chi’n cael eich hun yn osgoi gwaith, yn sgrolio di-ben-draw neu’n teimlo’n euog am beidio â gwneud digon, mae’r bennod hon yn cynnig syniadau ymarferol i chi ddod yn fwy cynhyrchiol heb leihau'ch lles. Efallai mai'r cam cyntaf yw gwrando!

Thu, 13 Mar 2025 00:05:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrs?

Perthnasau

Y gwir yw bod perthnasau da - gyda theulu, ffrindiau, cariadon, ac eraill - yn gallu gwneud ni’n hapus…ond yn yr un modd, pan mae pethau’n mynd o le mewn perthynas, mae’n gallu cael effaith negyddol iawn ar ein hapusrwydd a’n hiechyd meddwl. Mae cyfnod prifysgol yn gyfnod hynod yn ein bywydau, yn adeg lle mae perthnasau gyda theulu a ffrindiau, hen a newydd, yn newid yn gyson. Yn y bennod hon mae Liam Edwards, sy’n astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’r berfformwraig ac actores, Carys Eleri, yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Endaf Evans o Brifysgol Bangor i drafod y pwnc o berthnasau.

Pwyntiau i’w nodi

Pam cael pennod yn trafod perthnasau? (4:02)

Liam yn trafod magwraeth, tyfu fyny a ffrindiau ac yna’r profiad o fynd i brifysgol (5:45)

Carys Eleri yn trafod ei magwraeth a mynd i brifysgol (14:05)

Endaf yn sôn am y math o bethau mae myfyrwyr yn dod i drafod gyda’r cwnselwyr (21:16)

Liam yn trafod ei berthynas gyda’i deulu a dod allan ac yna Carys yn siarad am ei theulu (24:45)

Liam a Carys yn siarad am ddefnyddio eu profiadau yn eu gwaith creadigol a cherddoriaeth (33:57)

Sylwadau cloi (39:02)

Wed, 08 Nov 2023 00:05:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrs?

Dynion ac Iechyd Meddwl

Yn y bennod hon, mae’r ffocws ar ddynion ifanc a’u hiechyd meddwl a lles emosiynol. Mae cael dynion i siarad a chydnabod problemau yn parhau i fod yn her - er bod arwyddion bod hyn yn newid, fel y clywn ni. Yn siarad am y pwnc gyda Trystan mae’r myfyriwr Osian Iorwerth o Ynys Môn, sy’n astudio ym Mhrifysgol Harper Adams, yr actor Gethin Bickerton a’r cwnselydd o Brifysgol Bangor, Endaf Evans. Mae’n sgwrs bwysig sy’n gweld nhw’n trafod iselder, hunan laddiad, tyfu fyny, rhywioldeb, dod i dderbyn dy hun, cefn gwlad ac amaethyddiaeth a phwysigrwydd siarad a chael cymorth.

Rhybudd cynnwys: hunan laddiad

Pwyntiau i’w nodi
Pam cael pennod wedi’i neilltuo i ddynion? (3:00)
Profiad Osian yn y brifysgol (4:40)
Stori Gethin a’i iechyd meddwl yn ei arddegau, rhywioldeb, cefn gwlad (9:10)
Endaf yn siarad am fyfyrwyr o gefndir cefn gwlad yn benodol (12:10)
Gethin yn siarad am waith y DPJ Foundation (25:50)
Cyngor i unrhyw un sy’n gwrando (31:10)

Tue, 24 Oct 2023 23:05:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrs?

Alcohol

“Ti’n ca’l shaclad heno?” “OMB, o ti mor feddw neithwr!” “Un fach arall?”

Mae yfed alcohol yn rhan o ddiwylliant cymdeithasu’r wlad hon. Ac mae’n ystrydeb bron i feddwl am fywyd myfyriwr - joio gormod ac yfed ar noson allan. Mae’r mwyafrif ohonom yn gweld ein perthynas gydag alcohol yn rhywbeth weddol ysgafn, ac er bod pawb yn gwybod eu bod nhw’n gor-neud hi ar adegau, does dim angen poeni, ychydig o hwyl yw e wedi’r cyfan - ie? Yn y bennod hon mae’r actores Heledd Roberts a’r actores, cyflwynydd ac awdur Ffion Dafis yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs i sgwrsio am eu perthynas cymhleth nhw gydag alcohol. Mae’n sgwrs onest gan adlewyrchu ar gymdeithasu tra yn y brifysgol a’u perthynas efo alcohol heddiw - gwneud pethau dwl dan ddylanwad, am agweddau cymdeithas, am gydnabod fod problem. Am ddweud ‘Na’, ac am fod yn hapusach person o beidio yfed.

Cyflwyniadau (2:00)
Agweddau cymdeithas tuag at alcohol (8:30)
Stori Heledd a’i pherthynas gydag yfed alcohol (11:55)
Sara yn siarad am ei gwaith hi fel cwnselydd gyda myfyrwyr a phroblemau ymwneud ag alcohol (14:40)
Alcohol yn gyffur a stigma’r label ‘alcoholig’ (19:22)
Heledd yn siarad am benderfynu rhoi stop ar yfed a Ffion wedyn yn siarad am wneud cyfnodau sych (28:01)
Ffion yn annog pawb i fod yn ymwybodol o’u patrymau yfed (34:27)
Heledd yn trafod defnyddio alcohol fel masg a Ffion wedyn yn siarad am licio hi ei hun heb alcohol (37:49)

Tue, 10 Oct 2023 23:05:01 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrs?

Hunan-Werth

Mae pob hunan ohonon ni’n cyflwyno ‘ffrynt’ i’r byd weithiau. Rydym ni gyd yn cael diwrnodau lle byddai’n well gennym guddio o’r byd, ond ni’n gorfodi’n hunain i wisgo a gwenu, fel pe bai popeth yn iawn. Y gwirionedd yw nad oes neb wir yn gwybod fel mae rhywun arall yn teimlo ar y tu fewn. A thra ein bod ni’n gallu gweld a gwerthfawrogi eu gwerth, efallai bod nhw’n teimlo’n wahanol iawn amdanyn nhw’u hunain. Yn y bennod hon trafodir hunan-werth a’r cyfnodau tywyll ac anodd sy’n gallu effeithio ar bawb. Yn gwmni i Trystan mae’r gyflwynwraig teledu Mirain Iwerydd, sydd newydd orffen astudio ei gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth; y newyddiadurwraig, cyflwynydd a chomediwraig, Lorna Prichard, a’r cwnselydd, Gareth Davies.

Rhybudd cynnwys: hunan-niweidio

Cyflwyniadau (1:15)
Mirain, hunan-werth a iechyd meddwl yn ei harddegau (6:40)
Stori Lorna a’i phrofiad hi o hunan-werth a iechyd meddwl (11:55)
Gareth yn trafod fel mae diffyg hunan-werth yn gallu effeithio ar bawb (22:40)
Pethe positif yn gallu dod o gyfnodau anodd (30:40)
Effaith y cyfryngau cymdeithasol (32:40)
Cyngor i rai sy’n gwrando (38:20)

Tue, 26 Sep 2023 23:05:01 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrs?

Galar

Mae cylch bywyd yn un sy’n cynnwys marwolaeth ac ar ryw bwynt, mae pob un ohonom yn gorfod wynebu galar a cholled. Mae’n medru bod yn anrhagweladwy, yn annisgwyl, yn anghyfleus, yn unig, yn gymhleth, yn bersonol, yn dywyll, yn boenus. Yn y bennod hon, trafodir colled a’r effaith mae’r broses o alaru yn gallu cael ar ein bywydau. Y fyfyrwraig Nanw Maelor, a’r cerddor Al Lewis sy’n rhannu eu profiadau gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs.

Stori Nanw o golli ei thaid (5:11)
Stori Al o golli ei dad (10:25)
Sara yn siarad am rôl cwnsela mewn galar (16:37)
Al yn trafod colli rhiant yn ifanc (21:50)
Trafod galar a gwybod beth i’w ddweud wrth rywun ar ôl colled (24:22)
Al yn sôn am y ffaith bod galar yn mynd a dod a bod cydnabod galar yn bwysig (28:40)
Cefnogaeth academiadd sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n galaru (31:40)
Nanw ac Al yn trafod defnyddio celf a cherddoriaeth i helpu (32:20)

Tue, 12 Sep 2023 23:05:01 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy