-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

Welcome to the ‘be your own boss’ podcast, the young entrepreneur’s guide to starting a business! Whether you’re thinking about business for the first time, or you have an idea that you want to develop, then this podcast is for you. This 15 part series that will keep you on track and help you think through the challenges that come with starting a business. Big Ideas Wales is part of Business Wales and is part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government. This podcast is available in English and Welsh. Croeso i bodlediad ‘bod yn fos arna ti dy hun’, canllaw yr entrepreneur ifanc i gychwyn busnes! P’unai dy fod di’n meddwl am gychwyn busnes am y tro cyntaf, fod gen ti syniad ti eisiau ei ddatblygu, mae’r podlediad yma i chdi. Bydd y 15 pennod yma yn dy gadw di ar y trywydd iawn ac yn dy helpu di i ddeall a meddwl am yr heriau sy’n codi wrth gychwyn busnes. Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Busnes Cymru ac mae’n cael ei gyllido yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru Mae'r podlediad ar gael yng Ngymraeg a Saesneg.

Gwefan: Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

RSS

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

15: Pennod 15: Datblygu dy fusnes

Unwaith y bydd y busnes ar waith, gallwch chi ddechrau meddwl sut i dyfu'r busnes? Wel, peidiwch â phoeni, bydd y bennod yma yn dweud wrthych sut i fynd ati i wneud hyn.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:50 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

14: Pennod 14: Rheoli dy amser

Mae cychwyn busnes dy hun yn mynd i gymryd lot fawr o amser, felly mae gwneud yn siŵr dy fod di’n rheoli’r amser yna’n effeithiol, yn holl bwysig. Os tisio osgoi teimlo fel bo chdi’n cael dy lethu gan bob dim sy’n mynd ymlaen, mae’n rhaid i chdi ddysgu sut mae rheoli dy amser.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:48 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

13: Pennod 13: Delio â’r gyfraith

Ond rŵan mae rhaid i ni siarad am y gyfraith, am dreth, am yswiriant ac am strwythurau busnes. Dwi’n gwybod nad ydi’r pethau yma’n llenwi rhywun efo cyffro, ond mae nhw’n rhan hanfodol o redeg busnes, felly ffwrdd a ni.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:46 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

12: Pennod 12:Rheoli dy arian

Mi yda ni gyd angen help i reoli pres o dro i dro, a dwi’n mynd i ddangos ffyrdd syml o wneud hyn i chdi, pan ti’n rhedeg dy fusnes dy hun.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:44 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

11: Pennod 11: Gwybod faint i'w godi

Ond rŵan, mae’n bryd i ni gychwyn siarad am brisio, a faint ddylsa chdi godi ar gwsmeriaid. Mae’n rhaid i’r hyn fyddi di’n godi am wasanaeth neu gynnyrch fod yn ddigon, er mwyn creu elw rhesymol, ac yn ddigon i gyfro unrhyw gostau - paid ag anghofio , mae’r amser ti’n weithio angen cael ei ystyried pan ti’n gweithio dy gostau allan hefyd.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:42 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

10: Pennod 10: Sut i gael gafael ar gyllid

Wel, tydi hi ddim yn bosib i bob busnes gychwyn fel hyn, mae na rai angen pres er mwyn medru cychwyn, felly be am i ni siarad chydig am gyllid. Dwi’n gwybod bod meddwl am gyllid, pres, grantiau, benthyciadau a ballu yn medru ymddangos yn scary. Ond plîs paid a phoeni, yn y bennod yma mi fyddai’n sôn am pa gyllid sydd ar gael, sut i gael gafael arno fo a gobeithio tawelu chydig ar dy feddwl di.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:39 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

9: Pennod 9: Sut i gychwyn busnes ar gyllideb fach

Reit ta, mae’n amser trafod sut i gychwyn busnes efo cyllideb fach. Yn groes i’r hyn mae lot o bobol yn feddwl, does dim rhaid i chdi gael lot o bres i gychwyn busnes, i ddweud y gwir, mae’n medru bod yn rhywbeth rhad iawn i’w wneud.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:37 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

8: Pennod 8: Creu cynllun busnes

mae’n bryd i chdi ddechrau meddwl am greu cynllun busnes! Mae hyn yn rhan allweddol o gychwyn busnes, mi fydd y cynllun yn dangos be ydi’r busnes, lle mae o’n mynd a sut mae o’n mynd i gyrraedd yna.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:35 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

7: Pennod 7: Gwneaud yn fawr o genogaeth busnes

Felly, efo hynny i gyd wedi i neud, be am dreulio ychydig o amser yn siarad am pa gefnogaeth busnes sydd ar gael i chdi. Mae ffeindio allan pa gefnogaeth sydd ar gael, a lle i gael hyd iddo fo’n medru bod yn anodd, a dwi’n gwybod y galla hyn godi ofn ar rai pobl, ond paid a poeni, da ni yn, Syniadau Mawr Cymru, isio gwneud bywyd chydig bach yn haws i chdi.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:32 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Big Ideas Wales: Be Your Own Boss Podcast

6: Pennod 6: Mynd ar-lein am lai

Y cam nesa ydi mynd ar-lein, fel arfer, drwy greu gwefan. Felly be am gymryd golwg ar y pethau ti angen ystyried, a pam ei bod hi mor bwysig bod ar-lein.

Wed, 23 Oct 2019 10:11:30 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy