-> Eich Ffefrynnau

Synnwyr Bwyd Cymru

Synnwyr Bwyd Cymru

Bwyd. Hinsawdd. Newid? Cyfres o bodlediadau sy’n rhoi’r cyfle i ni gnoi cil....
Gyda COP26 yn digwydd yn Glasgow ar hyn o bryd, mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru wedi dod ag amryw o bobl at ei gilydd i gymryd rhan mewn podlediad o’r enw Bwyd, Hinsawdd, Newid? Ymunwch â’r cyflwynydd, Aled Rhys Jones wrth iddo’n tywys ni drwy’r gyfres a fydd yn trafod gwahanol agweddau o system fwyd Cymru a’i effaith ar newid hinsawdd.

Gwefan: Synnwyr Bwyd Cymru

RSS

Chwarae Synnwyr Bwyd Cymru

Bwyd. Hinsawdd. Newid? – Y daith i net sero

Yn yr ail bennod o’r gyfres hon, byddwn yn trafod sut mae ffermwyr a’r gymuned ffermio ehangach yn ymateb i newid hinsawdd – yr heriau a’r cyfleon sy’n deillio o’r daith i net sero.

Yn ymuno â'r cyflwynydd, Aled Rhys Jones mae Glyn Roberts a Beca Glyn – tad a merch sy’n ffermio yn Nylasau Uchaf, fferm denant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd rhwng Ysbyty Ifan a Betws y Coed. Mae Glyn a Beca yn edrych ar ol y fferm ddefaid a chig eidion ac yn gweld eu hunain fel gwarchiediaid y tir. Yn ogystal â bod yn ffermwr prysur, mae Glyn hefyd yn Lywydd ar Undeb Amaethwyr Cymru – rôl y mae wedi ymgymryd â hi ers 2015.

Fri, 05 Nov 2021 11:45:48 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Synnwyr Bwyd Cymru

Bwyd. Hinsawdd. Newid? – Defnydd o dir a chymunedau gwledig

Ym mhennod cyntaf ein cyfres newydd o bodlediadau sy’n edrych ar system fwyd Cymu a’i effaith ar newid hinsawdd, byddwn yn trafod ein defnydd ni o ni o dir yng Nghymru - o ffermio er lles natur i’r iaith Gymraeg; ac o gymunedau cefn gwlad, i dyfu bwyd ein hunain.

Yn ymuno â’r cyflwynydd Aled Rhys Jones, bydd Rhys Evans o’r Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur a Caryl Haf, Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Fri, 29 Oct 2021 14:23:16 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch