-> Eich Ffefrynnau

Tremolo

Tremolo

Pe baech yn gwybod y gallech gael cyflwr meddygol difrifol ac y gallech gael gwybod, a fyddech chi? Mae byd Harri (18) yn cael ei droi’n ben ei waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o glefyd Alzheimer teuluol cynnar ac mae gan Harri a'i chwaer siawns o 50% o'i etifeddu. Mae Tremolo yn gynhyrchiad Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg. Harri: Gareth Elis Awdur: Lisa Parry Cyfieithydd: Branwen Davies Cyfarwyddwr: Zoë Waterman Cyfansoddwr a thelynor: Eira Lynn Jones Golygu sain a dylunio: Rhys Young

Gwefan: Tremolo

RSS

Chwarae Tremolo

Tremolo

Mae Harri'n gorffen ei arholiadau ac yn barod i ddilyn ei freuddwydion. Yna mae'n cael y newyddion bod ei fam wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer teuluol cynnar, cyflwr y mae ganddo ef a'i chwaer siawns o 50 y cant o'i etifeddu. A ddylai gael prawf i ddarganfod a yw'n ei gael hefyd? Drama emosiynol a phwerus sy'n cynnig cipolwg go iawn i wrandawyr ar y cyflwr meddygol hwn a'i effaith ar berthnasoedd, breuddwydion a mwy.

Yn serennu Gareth Elis, ysgrifennwyd gan Lisa Parry, cyfieithiad Cymraeg gan Branwen Davies, dan gyfarwyddyd Zoë Waterman, cerddoriaeth delyn a gyfansoddwyd ac a chwaraewyd gan Eira Lynn Jones, dylunio sain a golygu gan Rhys Young, cerddoriaeth ychwanegol gan Yws Gwynedd. Recordiwyd Tremolo yn Hoot Studios, Caerdydd.

Cynhyrchiad Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Genynnau Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan rai o’r pynciau mae Tremolo’n eu trafod, mae cymorth a gwybodaeth ar gael gan y Gymdeithas Alzheimer’s a'r Genetic Alliance UK.

Thu, 03 Mar 2022 07:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Tremolo

Darn ar gyfer y delyn bedal a ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Eira Lynn Jones

Dydd Gŵyl Dewi Hapus! Gyda'n dyddiad rhyddhau deuddydd i ffwrdd, rydym am rannu'r darn gwreiddiol o gerddoriaeth delyn, wedi'i ysgrifennu a'i berfformio gan Eira Lynn Jones, sy'n ymddangos yn Tremolo.

TREMOLO gan Lisa Parry. Cynhyrchiad Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg.

Tue, 01 Mar 2022 07:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Tremolo

Cipolwg ar Tremolo [Trailer 2]

TREMOLO, drama sain newydd sbon gan Lisa Parry gyda Gareth Elis yn serennu ac yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol wedi ei hysgrifennu a'i pherfformio gan y delynores Eira Lynn Jones - dyddiad rhyddhau Mawrth 3!

Cynhyrchiad Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg.

Sun, 27 Feb 2022 07:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Tremolo

Cipolwg ar Tremolo [Trailer 1]

TREMOLO, drama sain newydd sbon gan Lisa Parry gyda Gareth Elis yn serennu ac yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol wedi ei hysgrifennu a'i pherfformio gan y delynores Eira Lynn Jones - dyddiad rhyddhau Mawrth 3!

Cynhyrchiad Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg.

Fri, 25 Feb 2022 07:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch