-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma

Y Busnes Rhedeg

Podlediad rhedeg Cymraeg yn trin a thrafod newyddion rhedeg, hyfforddi a mwy, ynghyd â chyfweliadau gyda rhedwyr Cymreig. Cyflwynir gan Owain Schiavone Welsh language running podcast featuring news, training and interviews. Presented by Owain Schiavone.

Gwefan: Y Busnes Rhedeg 'Ma

RSS

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 1 (cyfres 2) - Dyfed Whiteside-Thomas

Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 - y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da. 

Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio. 

Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan

Wed, 17 Nov 2021 19:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 13 - Adolygiad efo Arwel

Pennod fach wahanol y tro yma, cyfle i ddal fyny a thrafod sawl peth o'r byd rhedeg gydag Arwel Evans o Running Review Cymru. Mae rasio'n dechrau nôl yn raddol felly mae'n gyfle i drafod rhai o'r rasus sydd wedi digwydd yng Nghymru gan gynnwys 10K Nick Beer yn Llandudno a chyfres 5K Athletau Cymru yn Y Rhyl a Phenbre. 

Mae'n gyfle hefyd y gael rhagolwg fach o athletau'r Gemau Olympaidd, y gobeithion Cymreig gyda Jake Hayward, ac ambell uchafbwynt arall o'r amserlen. 

Pennod syml, dim nonsens - rhowch wybod eich barn ac os hoffech chi glywed mwy o'r rhain yn y dyfodol. 

Mon, 26 Jul 2021 17:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 12 - Dr Ioan Rees

Bydd llawer iawn o bobl yn gyfarwydd â Dr Ioan Rees diolch i gyfres deledu boblogaidd Ffit Cymru ar S4C, ond efallai mai llawer llai fydd yn gwybod ei fod hefyd yn athletwr dycnwch llwyddiannus. Mae Ioan yn un o arbenigwyr Ffit Cymru, ac mae'r seicolegydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant y gyfres, a'r rhai sy'n cymryd rhan ynddi yn eu hymdrechion i golli pwysau a byw yn fwy iach. Ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o ymgymryd â phroses debyg ei hun wrth iddo golli 6 stôn dros gwta 9 mis er mwyn cymryd rhan yn ei Ironman cyntaf yn 2009. Ers hynny, mae wedi cwblhau 5 Ironman arall gan ddod a'i amser lawr i 12 awr. 

Mae'r sgwrs gyda Dr Ioan yn amserol iawn wrth i gyfyngiadau Covid lacio ac wrth i ni obeithio gweld rasio'n dychwelyd i Gymru, a'r heriau seicolegol sy'n ein wynebu i gyd gyda hynny. Mae ganddo lawer o gyngor ardderchog i athletwyr ar bob lefel hefyd, ac mae rhywbeth i bawb yn y sgwrs heb os. 

Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl newydd Y Cledrau, 'Hei Be Sy' sydd allan ar label I KA CHING. Ac mae fideo gwych ar gyfer y sengl ar YouTube.  

Tue, 25 May 2021 15:49:14 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 11 (Rhan 2) - Angharad Mair

Ail ran y sgwrs gyda'r gyflwynwraig, ac un o redwyr marathon gorau Cymru erioed, Angharad Mair. Yn y rhan yma o'r sgwrs rydym yn trafod comeback Angharad i redeg ar ôl tua 15 mlynedd i ffwrdd o'r gamp, a'i llwyddiannau anhygoel wedi hynny. Rydym hefyd yn trafod y ffaith ei bod wedi ail-ddechrau eto erbyn hyn ar ôl cyfnod (byrrach) i ffwrdd, a'i chynlluniau a gobeithon ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd cyfle i drafod rhywfaint ar sefyllfa darlledu rasys rhedeg, a'r cyfleoedd sydd i ddarlledwyr. 

Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Adfywio' sef sengl newydd The Gentle Good, allan ar label Bubblewrap Records nawr

Mae'r bennod hefyd yn trafod Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer a Marathon Shepperdine. Dyma ddolenni i ganlyniadau llawn rhain: 

Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer

Marathon a Hanner Marathon Shepperdine

Wed, 28 Apr 2021 16:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 11 (Rhan 1) - Angharad Mair

Y gwestai diweddaraf i ymuno ag Owain Schiavone ar Y Busnes Rhedeg Ma ydy Angharad Mair. Mae Angharad wrth gwrs yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg fel un o gyflwynwyr amlycaf Cymru. Ond ar un pryd, Angharad oedd rhedwraig marathon gorau Cymru hefyd. Mae ei hamser gorau o 2:38:47 dros y pellter ym 1996 yn dal i'w gosod yn y 10 Uchaf o ferched Cymreig erioed, ac fe gafodd y cyfle i redeg ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Athen y flwyddyn ganlynol. Er iddi roi'r gorau i redeg am 15 mlynedd flwyddyn yn dilyn anaf ym 1998, fe ail-gydiodd ynddi fel rhedwr hŷn, a llwyddo i dorri record Ewrop yn y categori oedran V55! Mae hanes Angharad yn un hynod o ddifyr, gymaint felly nes bod digon o ddeunydd i rannu'r bennod yn ddau - bydd yr ail ran yn ymddangos wythnos nesaf. 

Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl Griff Lynch, 'Os Ti'n Teimlo', sydd allan ar label Lwcus T nawr. Mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar

Wed, 21 Apr 2021 17:24:28 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 10 - Andrew Davies

Andrew Davies ydy gwestai diweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma yng nghwmni Owain Schiavone. Mae Andy'n un o redwyr pellter, a rhedwyr marathon yn benodol, gorau Cymru ers sawl blwyddyn bellach ac wedi bod y ddwy bencampwriaeth Gemau'r Gymanwlad ynghyd â Phencampwriaethau Athletau'r Byd unwaith. Mae o hefyd yn gyn bêl-droediwr lle broffesiynol sydd wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru gyda Caersws. Yn Rhagfyr 2019 llwyddodd Andy hefyd i dorri'r record Brydeinig ar gyfer y marathon ar gyfer dynion dros 40 oed - roedd darn ar y blog ynglyn â hyn wrth iddo redeg 2:14:36 yn Valencia

Mae'r sgwrs wedi ei recordio ychydig ddyddiau ar ôl i Andy redeg yn nhreialon marathon Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Siapan fis Gorffennaf felly cawn glywed ei argraffiadau ar y ras unigryw a hynod honno. Mae'n gyfle hefyd i drafod ei hanes fel rhedwr marathon, rhedeg mynydd a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Sgwrs ddifyr efo boi da. 

Cerddoriaeth y bennod yma - '400+' gan Omaloma sydd allan ar yr EP 'Roedd' (Recordiau Cae Gwyn). Mwy am yr EP ar wefan Y Selar

Fri, 02 Apr 2021 07:47:44 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 9 (Rhan 2) - Nia Davies a David Cole

Dyma ail hanner y sgwrs gyda Nia Davies a David Cole, y ddeuawd sy'n gyfrifol am bodlediad triathlon Nawr yw'r Awr. Yn y bennod yma rydyn ni'n trafod rhai o'r heriau rhedeg uchelgeisiol mae David wedi'u taclo dros y misoedd diwethaf, a sut mae Nia yn ymdopi gyda dal ati i hyfforddi yn ystod ei beichiogrwydd.  

Cofiwch chwilio am Nawr yw'r Awr ar eich chwaraewr podlediadau a gwrando nôl ar gymaint â phosib o'r penodau.Mae'r penodau canlynol yn arbennig o berthnasol i'r hyn rydyn ni'n trafod yn y sgwrs yma:

Rhedeg yr Adfent gyda Guto Jones

Llwybr Arfordir Ceredigion

Shanghai Ironman 70.3

Cerddoriaeth y bennod: 'Rhwng Dau' gan Sywel Nyw gyda Casi Wyn (allan ar label Lwcus T)

Wed, 24 Feb 2021 15:13:45 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 9 (Rhan 1) - Nia Davies a David Cole

Ym mhennod ddiweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma mae Owain yn cael cwmni y cwpl o Aberteifi sy'n gyfrifol am bodlediad triathlon Nawr yw'r Awr. Lansiwyd y pod ym mis Mehefin 2020, ac fe wnaethon nhw gyhoedd 25 pennod wythnosol yn y gyfres gyntaf. Maen nhw wedi cyfweld llwyth o athletwyr ac enwogion o'r byd chwaraeon, ynghyd ag arbenigwyr mewn maesydd penodol o fyd y campau. Mae wir yn werth i chi chwilio am Nawr yw'r Awr ar eich chwaraewr podlediadau a gwrando nôl ar gymaint â phosib o'r penodau. 

Roedd cymaint i'w drafod nes bod rhaid rhannu'r bennod yn ddwy ran. Yn y cyntaf, rydan ni'n trafod Nawr yw'r Awr, hanes Nia a Dai fel rhedwyr, a'r gobeithion o weld digwyddiadau mawr triathlon a rhedeg yn dychwelyd yn fuan. 

Rhan 2 i ddilyn yn fuan! 

Cerddoriaeth y bennod: 'Breuddwyd' gan Eädyth (allan ar Recordiau UDISHIDO)

Wed, 17 Feb 2021 21:03:41 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 8 - Math Llwyd

Podlediad cyntaf Y Busnes Rhedeg 'Ma yn 2021, ac mae Owain unwaith eto'n cael cwmni cerddor, sef Math Llwyd sy'n aelod o'r band gwych Y Reu. Mae Math hefyd yn redwr da, ac yn aelod brwd o glwb Harriers Eryri. Yn ystod mis Ionawr, mae o, gweddill aelodau Y Reu, a chwpl o gerddorion eraill yn gwneud her 'High and Dry' er mwyn codi arian at elusen Banc Bwyd Arfon. Y nod ydy codi £1000 at yr elusen trwy redeg 870 o filltiroedd a gallwch eu cefnogi trwy'r safle Just Giving. 

Yn y sgwrs mae Math yn trafod bach ar gerddoriaeth, sut y dechreuodd redeg, Parkrun yn Awstralia, y Rock and Roll Marathon yn Lerpwl ac ambell beth arall. 

Cerddoriaeth y bennod yma ydy Y Reu wrth gwrs, gyda'r diwn 'Mhen i'n Troi' oedd ar yr EP 'Hadyn' a ryddhawyd yn 2015.

Thu, 21 Jan 2021 18:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Busnes Rhedeg

Pennod 7 - Elliw Haf

Ym mhennod ddiweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma mae Owain Schiavone yn cael cwmni rhedwraig Harriers Eryri a Chymru, Elliw Haf. Mae Elliw wedi cael cryn lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y brig (yn llythrennol) trwy gynrhychioli Cymru yn Ras yr Wyddfa ar ddau achlysur. Ym mis Mai, daeth newid ar fyd wrth iddi roi genedigaeth i'w plentyn cyntaf ac yn y sgwrs mae'n trafod sut y llwyddodd i barhau i redeg yn ystod ei beichiogrwydd, ac ail-ddechrau'n fuan ar ôl yr enedigaeth. 

Ar dop y sioe mae Owain yn sôn am ddwy her elusennol sydd ar y gweill gan David Cole a Peter Gillibrand. Dyma'r dolenni os ydych chi eisiau cefnogi'r heriau hynny, a chyfrannu at yr elusennau teimlwng:

David Cole - https://www.justgiving.com/fundraising/MINDAdventCalendarRunningChallenge 

Peter Gillibrand - https://uk.virginmoneygiving.com/PeterGillibrand1 

Tue, 22 Dec 2020 22:36:24 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy