Cangen o wefan seiclo Gymraeg Y Ddwy Olwyn (yddwyolwyn.cymru) gydag ambell sgwrs ddifyr ac ambell erthygl lafar.
Gwefan: Y Ddwy Olwyn
Helo! Gruffudd sy'ma o'r Ddwy Olwyn. Ro'n i eisiau rhannu'r recordiad yma efo chi; recordiad o sgwrs banel gynhaliwyd ar ddydd Iau'r Steddfod ym Mhontypridd. Mi ges i gwmni Lusa Glyn, Steff Rees, a Daniel Williams i drafod pynciau fel seiclo yn Rhondda Cynon Taf, llwybrau a hygyrchedd, llwyddiant Emma Finucane a Josh Tarling, a'r rhwystrau sy'n wynebu pobl wrth ddechrau ymddiddori ym myd y beic. Gan obeithio y gwnewch chi fwynhau gwrando ar y sgwrs!
Diolch o galon i Aled Jones (Y Pod) am ei gymorth wrth ryddhau'r podlediad.
Rhagor:
Sun, 08 Sep 2024 17:00:00 GMT
Chwarae Lawrlwythwch