-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Y Sgarmes Ddigidol

Y Sgarmes Ddigidol

A Welsh language rugby podcast following Wales throughout the 2021 Six Nations Championship.

Gwefan: Y Sgarmes Ddigidol

RSS

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 14: Tor-calon ym Mharis

Er gwaethaf ymdrechion y Cymry ym Mharis, nid oedd y Gamp Lawn i fod eleni i ddynion Wayne Pivac. Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel wrth iddynt drafod un o'r gemau gorau yn hanes Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mon, 22 Mar 2021 10:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 13: Ymlaen at y Gamp Lawn!

Ar ôl 4 buddugoliaeth i'w chofio, mae Cymru 80 munud i ffwrdd o'r Gamp Lawn! Ymunwch â Rhodri Gomer, Elinor Snowsill a Nigel Owens wrth iddynt drafod buddugoliaeth broffesiynol y Cymry yn Rhufain ac edrych ymlaen at noson enfawr o rygbi ym Mharis.

Tue, 16 Mar 2021 15:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 12: Kieran Hardy a'r daith i Rufain

Kieran Hardy sydd yn ymuno â'r Sgarmes Ddigidol yr wythnos hon wrth i Rhodri, Nigel ac Elinor edrych yn ôl dros bythefnos prysur iawn ym myd y bêl hirgron. O ddyfodol Dwayne Peel ac Alun Wyn Jones i'r gêm fawr yn Rhufain, mae'n bodlediad llawn dop!

Wed, 10 Mar 2021 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 11: Gêm Y Goron Driphlyg

Ar ôl cyffro a cheisiau'r rowndiau agoriadol, mae Cymru yn croesawu'r hen elyn i Gaerdydd lle byddai buddugoliaeth yn sicrhau'r Goron Driphlyg a cham arall tuag at y Gamp Lawn! Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel wrth iddynt drafod gobeithion Cymru yn ogystal ag ymddeoliad Dan Carter a phenwythnos arall ym Mhencampwriaeth y PRO14.

Mon, 22 Feb 2021 23:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 10: Yr Alban v Cymru

Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel wrth iddynt edrych yn ôl dros fuddugoliaeth Cymru yn erbyn y Gwyddelod ac edrych ymlaen at gêm fawr y penwythnos yng Nghaeredin. Hefyd ar y pod, mae Rhodri yn sgwrsio â Scott Williams am ei yrfa, gwellhad y Gweilch ac atgyfodiad George North.

Tue, 09 Feb 2021 12:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 9: Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021

Ry' ni yn ôl yn y Sgarmes!! Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel am bodlediad wythnosol wrth i Gymru geisio adennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad! Robin McBryde sy'n ymuno â'r Sgarmes Ddigidol wrth i ni edrych ymlaen at Cymru v Iwerddon.

Tue, 02 Feb 2021 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 8: Cwpan Rygbi'r Byd 2023

Heddiw, gyda 1,000 o ddyddiau i fynd cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2023 yn Ffrainc, fe ddarganfyddodd Cymru pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y twrnament. Shane Williams a Rhys Patchell sydd yn ymuno â Rhodri Gomer i drafod y gystadleuaeth yn ogystal â thrafod cyfergydion yn rygbi.

Mon, 14 Dec 2020 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 7: Cymru v Yr Eidal

Wrth i dîm Wayne Pivac baratoi at gêm olaf cyfres siomedig yr Hydref, Shane Williams, Nathan Brew ac Elinor Snowsill sydd yn ymuno â Rhodri Gomer i drafod yr ymgyrch hyd yn hyn, edrych ymlaen at y gêm yn erbyn yr Eidal ac ystyried pa reolau y dylid newid er mwyn gwella'r gamp.

Tue, 01 Dec 2020 15:45:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 6: Cymru v Lloegr

Wed, 25 Nov 2020 18:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Y Sgarmes Ddigidol

Pennod 5: Cymru v Georgia

Yn dilyn colled arall i Gymru, mae Rhodri Gomer yn mwynhau cwmni Nigel Owens, Shane Williams a chyn-hyfforddwr Georgia, Kevin Morgan. Bydd y tri gŵr doeth yn edrych yn ôl ar beth aeth o le yn erbyn y Gwyddelod ac ymlaen at y gêm yn erbyn Georgia.

Wed, 18 Nov 2020 16:15:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy