Podlediad sy’n dathlu llwyddiant graddedigion Prifysgol Bangor. Bydd y gyfres yn cynnwys sgyrsiau difyr gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiad o astudio drwy’r Gymraeg, eu llwybr gyrfa ac ym mha ffyrdd y mae’r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd proffesiynol.
Bydd y penodau yn cwmpasu meysydd amrywiol, nid dim ond un maes astudio - felly rhywbeth at ddant pawb! Y thema a fydd yn uno’r cyfan ydy’r cyswllt rhwng y Gymraeg a chyflogadwyedd, ac yn benodol y profiadau ‘byd go-iawn’ sydd yn rhan o hynny. Gobeithio bydd clywed straeon diddorol ein graddedigion yn eich ysbrydoli!
Diolch i Gronfa Bangor am ariannu'r podlediad a diolch i gwmni Y Pod am gynhyrchu.
Gwefan: Bangor Be Wedyn?
Gwyddoniaeth ac ymchwil sy'n cael sylw yn y bennod yma, yn benodol peirianneg electronig a'r gwyddorau amgylcheddol.
Yn y bennod yma, mi nes i siarad efo Dr Daniel Roberts, uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor a Dr Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon i Gyswllt Ffermio.
Roedd hi'n ddiddorol clywed sut mae'r ddau yn defnyddio'r Gymraeg mewn meysydd lle dydy'r Gymraeg efallai ddim mor amlwg.
Be mae'r sgwrs yma'n profi ydi bod Gwyddoniaeth a'r Gymraeg yn gweithio law yn llaw â'i gilydd a hynny mewn ffyrdd cwbl naturiol.
Wed, 18 Jun 2025 11:00:08 +0000
"Does 'na ddim con o astudio drwy'r Gymraeg."
Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn.
Mi ydw i, Huw Gwynn yn siarad hefo dau entrepeneur sydd wedi sefydlu busnesau llwyddiannus eu hunain.
Yn gyntaf, Sioned Young sylfaenydd Mwydro, busnes darlunio digidol a marchnata ac yn ail Tomos Owen, perchennog Swig smwddis.
Wnes i fwynhau clywed amdan sut wnaeth y ddau ddechrau eu busnesau a sut brofiad oedd sefydlu busnes yn Arfon.
Mae nhw'n siarad am bwysigrwydd y Gymraeg iddyn nhw ar lefel personol ond hefyd pwysigrwydd yr iaith i'w busnesau.
Fyswn i'n dweud mai hwn ydy'r unig bodlediad lle mae un o'r gwesteion yn gwerthu smwddis ac yn recordio podlediad yr un pryd – multi-taskio ar ei orau.
Mwynha'r bennod!
Wed, 04 Jun 2025 05:30:07 +0000
"dwi'm yn 'nabod neb sy' 'di difaru astudio pwnc drwy'r Gymraeg"
Croeso i bodlediad cyntaf Bangor Be Wedyn – lle dwi Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi helpu nhw ar hyd y ffordd.
Mi yda ni'n dechrau hefo 'bang' – ges i'r pleser o sgwrsio hefo Liam Evans, uwch-ohebydd BBC a Rhiannon Williams, swyddog hyrwyddo a marchnata S4C, y ddau yn ifanc yn eu gyrfaoedd ond wedi cyflawni llawer yn barod.
Maen nhw'n siarad am bwysigrwydd y Gymraeg yn eu swyddi, sut mae'r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw a pa mor bwysig ydy hi i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd wyt ti'n eu cael.
Wed, 21 May 2025 06:55:07 +0000
Podlediad sy’n dathlu llwyddiant graddedigion Prifysgol Bangor. Bydd y gyfres yn cynnwys sgyrsiau difyr gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiad o astudio drwy’r Gymraeg, eu llwybr gyrfa ac ym mha ffyrdd y mae’r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd proffesiynol.
Bydd y penodau yn cwmpasu meysydd amrywiol, nid dim ond un maes astudio - felly rhywbeth at ddant pawb! Y thema a fydd yn uno’r cyfan ydy’r cyswllt rhwng y Gymraeg a chyflogadwyedd, ac yn benodol y profiadau ‘byd go-iawn’ sydd yn rhan o hynny. Gobeithio bydd clywed straeon diddorol ein graddedigion yn eich ysbrydoli!
Diolch i Gronfa Bangor am ariannu'r podlediad a diolch i gwmni Y Pod am gynhyrchu.
Wed, 14 May 2025 06:50:12 +0000