Panelwyr Dros Ginio yn trafod y diweddara’ o’r byd chwaraeon. The Dros Ginio panellists discuss the latest sport news.
Gwefan: Y Panel Chwaraeon
Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Lauren Salter, Billy McBryde a Geraint Cynan, yn trafod dyfodol y rhanbarthau rygbi yng Nghymru, Cyfres yr Hydref, Stori drasig y chwaraewr criced ifanc 17 mlwydd oed o Awstralia Ben Austin; a chapten criced Awstralia Pat Cummins allan am y prawf cyntaf, a faint o help fydd hynny i obeithion Lloegr yng Nghyfres y Lludw?
Fri, 31 Oct 2025 15:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Catrin Heledd a'r panelwyr Gwennan Harries, Steffan Leonard a Dyfed Cynan sy'n trafod cyfraniad Jess Fishlock i bêl-droed merched yng Nghymru, gem gynta Tom Lockyer yn dilyn ataliad ar y galon, beth sydd angen newid o fewn Undeb Rygbi Cymru er mwyn sicrhau canlyniadau i'r tîm cenedlaethol, llwyddiant Mimi Xu ym Mhencampwriaeth Tenis Agored Wrecsam, medal arian i Ruby Evans ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd a medalau ym myd seiclo i Josh Tarling, Emma Finucane ac Emma Morris ym Mhencampwriaethau Trac y Byd.
Mon, 27 Oct 2025 15:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Catrin Heledd, Mei Emrys a'r gohebydd Dafydd Pritchard yn trafod dyfodol rhanbarthau rygbi Cymru yn dilyn cyhoeddiad ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru; Gobeithion Cymru yng Nghyfres yr Hydref?; Gêm olaf Jess Fishlock i Gymru yn erbyn Awstralia, a'i brawd James sydd wedi'w benodi'n reolwr ar dîm merched Y Bari; A hanes y syrffrwraig Yolanda Hopkins, sydd yn hanner Cymraes, ac wedi cael llwyddiant yn ddiweddar.
Fri, 24 Oct 2025 14:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Gabriella Jukes, Gruff McKee a'r gohebydd Dafydd Pritchard yn trafod ymgyrch Elfyn Evans ym Mhencampwriaeth Rali y Byd; Dewisiadau Steve Tandy, hyfforddwr Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref; Gêm nesaf menywod Cymru yn erbyn Awstralia, a diwedd cyfnod i Jess Fishlock; Ysgaru drwy farathon yn ffenomenon; Y Grand Sumo sydd wedi bod yn Llundain, a'r enillydd Hoshoryu yn cael potel fawr o soy sauce fel gwobr, felly tlysau, neu wobrau, annarferol mewn chwaraeon?
Mon, 20 Oct 2025 14:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Dewi Llwyd a'r panelwyr Hana Medi, Owen Jenkins a Carl Roberts sy'n trafod canlyniad Cymru yn erbyn Gwlad Belg ac ymddangosiad llygoden fawr ar y cae, sylw i'r cyfreithiwr deugain oed o Gaerfaddon nath guro pencampwr y byd a’r Tour de France Tadej Pogacar mewn ras ddringo allt yn ei dref enedigol yn Slofenia, ralio wrth i Elfyn Evans gystadlu yn Rali Canol Ewrop a llwyddiant Beau Graves ym myd y dartiau wrth iddi guro Luke Littler.
Fri, 17 Oct 2025 14:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Anwen Jones, Nic Parry ac Ian Mitchelmore sy'n trafod gem Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Rowniadau rhagbrofol Cwpan y Byd, hynt a helynt Jonny Clayton a Gerwyn Price yng nghystadleuaeth Grand Prix Dartiau'r Byd, hunangofiant Geraint Thomas a'r bwyd ma athletwyr yn ei aberthu, ac enillwyr annisgwyl.
Mon, 13 Oct 2025 14:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch

Ymunwch gyda Alun Thomas a'r panelwyr Lowri Roberts, Dewi Williams a Dafydd Jones sy'n trafod y golled yn erbyn Lloegr, y disgwyliadau o berffeithrwydd sydd gan swyddogion mewn gemau, llwyddiant Jonny Clayton a Gerwyn Price yng nghystadleuaeth Grand Prix Dartiau'r Byd a'r gyfrinach sy'n caniatau i Djokovic barhau i chwarae tennis a fyntau'n 38 mlwydd oed.
Fri, 10 Oct 2025 14:00:00 +0000
Chwarae
Lawrlwythwch