-> Eich Ffefrynnau

Hanes Mawr Cymru

Hanes Mawr Cymru

Mae hanes Cymru yn llawn pobl ryfeddol a chymeriadau mawr. Dewch ar daith hwyliog i'w cyfarfod!

Pwy oedd Owain Glyndŵr a Merched Beca? Pryd cafodd glo ei ddarganfod? Pam ein bod yn siarad Cymraeg o gwbl? Llinos Mai sy’n ein tywys drwy’r cyfan. Dewch i gyfarfod y dihirod, arwyr a’r bobl gyffredin wnaeth ffurfio cenedl.

The history of Wales is full of amazing stories and big characters! Join Llinos Mai on a fun filled journey to discover the history that formed a nation.

Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Gwefan: Hanes Mawr Cymru

RSS

Chwarae Hanes Mawr Cymru

Y Celtiaid

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.

Yn y bennod hon, mae Llinos yn archwilio popeth roeddech chi eisiau ei wybod am y Celtiaid. Pwy oedden nhw? Ble redden nhw’n byw? Sut oedden nhw'n byw? A pham roedd trwsus mor bwysig iddyn nhw?

Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)

Dylunio: Hefin Dumbrill

Fri, 29 Mar 2024 11:01:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Hanes Mawr Cymru

Betsi Cadwaladr

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.

Yn y bennod gyntaf, mae Llinos yn adrodd hanes Betsi Cadwaladr- a elwir rhai ‘The Welsh Florence Nightingale’. Roedd hi’n gymeriad lliwgar, hynod annibynnol, ac aeth yn groes i ddisgwyliadau cymdeithas y cyfnod. Yn ystod y 19eg ganrif aeth Betsi ar anturiaethau o gwmpas y byd, cyn mynd i weithio fel nyrs yn Rhyfel y Crimea.

Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)

Fri, 29 Mar 2024 11:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Hanes Mawr Cymru

Y Gymraeg

Mae’r iaith Gymraeg wedi wynebu sawl her a chyfnod anodd. Felly sut y gwnaeth hi oroesi? Dewch ar daith drwy'r canrifoedd i ddysgu mwy...

Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Fri, 20 May 2022 14:12:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Hanes Mawr Cymru

Jemima Nicholas

Ym 1797 fe wnaeth Ffrainc ymosod ar Brydain, ond roedd menyw ddewr o Abergwaun yn barod amdanyn nhw. Pe bai ymosodiad Ffrainc wedi bod yn llwyddiannus, fe allai hanes Cymru a Phrydain wedi bod yn wahanol iawn. Cobler oedd Jemima Nicholas, a phan glywodd bod deuddeg milwr o Ffrainc gerllaw fe aeth i’w herio gyda dim byd ond fforch wair...

Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Fri, 20 May 2022 14:08:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Hanes Mawr Cymru

Owain Glyndŵr

Mae hanes Cymru yn llawn arwyr cofiadwy, ac mae’n bosib mai dyma’r mwyaf enwog ohonyn nhw i gyd... Dewch yn ôl 800 mlynedd i gyfarfod Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Ai ef ddylai ennill Arwr-ffactor Hanes Mawr Cymru?!

Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Fri, 20 May 2022 14:06:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Hanes Mawr Cymru

Yr Eisteddfod

Croeso i barti mwyaf y flwyddyn! Mae traddodiad barddol Cymru yn chwedlonol, a phob mis Awst daw miloedd at ei gilydd i gystadlu a chymdeithasu. Ond wyddoch chi fod yr arfer yma’n mynd yn ôl canrifoedd? O Eisteddfodau bach lleol i’r digwyddiadau mawr sy’n gyfarwydd i ni heddiw, dyma hanes sy’n llawn gwisgoedd a chymeriadau lliwgar. Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Fri, 20 May 2022 14:02:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Hanes Mawr Cymru

Merched Beca

Pwy oedd Merched Beca a beth oedd yr helynt mawr? Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bywyd yn galed iawn yng nghefn gwlad Cymru. Roedd ffermwyr yn rhentu eu ffermydd, ac roedd gan y bobl oedd yn berchen y tir ddylanwad mawr ac arian a threthi. Ond pan gafodd tollbyrth eu gosod ar ffyrdd, fe benderfynodd y werin bobl wrthryfela...

Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Fri, 20 May 2022 14:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Hanes Mawr Cymru

Glo, diwydiant a chymunedau

Roedd pyllau glo yn llefydd tywyll a pheryglus a’r gwaith yn galed iawn. Ond fe gafodd y diwydiant effaith enfawr ar Gymru a gweddill y byd. Fe wnaeth cymunedau ffurfio yng nghymoedd y De-ddwyrain a daeth pobl o wahanol rannau o’r byd i fyw a gweithio ym mhorthladdoedd y dinasoedd mawr, ble roedd y glo yn cael ei allforio. Ond er mai pobl gyffredin wnaeth adeiladu’r diwydiant, roedd llawer o’r elw wedi diflannu o’u cymunedau erbyn i oes y pyllau glo ddod i ben.

Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

Fri, 20 May 2022 13:58:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Hanes Mawr Cymru

Croeso i Hanes Mawr Cymru

Llinos Mai sy’n cyflwyno cynulleidfa ifanc i Hanes Mawr Cymru!

Tanysgrifiwch nawr i glywed y gyfres gyfan yn syth.

Fri, 20 May 2022 10:01:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch