Mae podlediad Mel, Mal a Jal wedi cyrraedd BBC Sounds a’r dair yn dal i siarad am yr hyn sy’ o bwys iddyn nhw.
Gwefan: Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad
Cariad, cael plant, teulu. Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trafod pethau mawr bywyd! A sut mae dylanwad rhieni, magwraeth a theulu yn effeithio ar y math o berson rydym ni'n syrthio mewn cariad â nhw?
Tue, 06 Dec 2022 13:38:00 +0000
Mae’r cyfryngau cymdeithasol ac aps wedi trawsnewid y ffordd mae pobl ifanc yn dod o hyd i gariad. Mae Mel, Mal a Jal wedi cael profiadau cymysg wrth eu defnyddio, gan brofi'r da, y drwg a'r crinj! Ond wrth gwrs mae aps a bywyd go iawn yn bethau gwahanol iawn. Yn enw ymchwil gwyddonol mae Mel yn rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a'n mynd ar dêt drwy ap ‘Thursday’; gwasanaeth sy'n gorfodi pobl i gyfarfod a’i gilydd. Ai dyma’r ffordd ymlaen, neu ai sweipio nôl a blaen yn ddiddiwedd yw ein dyfodol?! Mae gwerth gwrando i glywed stori Hugh Jackman!
Mon, 21 Nov 2022 12:08:00 +0000
Pa ddylanwad mae ardal eich magwraeth yn ei gael arnoch chi? Yn y bennod drawiadol yma cawn straeon o blentyndod a bywyd cynnar Mel, Mal a Jal a’u profiadau wrth dyfu fyny mewn tri rhan gwahanol o Gymru. Mae Melanie yn egluro sut y gwnaeth agweddau ac ymddygiad pobl eraill effeithio ar y ffordd roedd hi’n meddwl am ei hun fel person ifanc, a Mali a Jalisa yn trafod sut mae ardaloedd eu cartrefi nhw wedi newid. Oes gwahaniaeth rhwng magwraeth ddinesig a chefn gwlad? A pam fod disgwyliadau ychwanegol yn cael eu gosod ar bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol? Yn y bennod agored ac emosiynol yma mae Mel, Mal a Jal yn ailymweld â phrofiadau ffurfiannol da a drwg, yn trafod pwysigrwydd cynrychiolaeth weladwy a’n gofyn beth all cymdeithas ei wneud yn well. Yng ngeiriau Mal: “Dychmyga byddom ni’n adnabod ein gilydd yn 8 oed, faint byddai rhannu'r profiadau yma gyda’n gilydd wedi helpu”.
Thu, 10 Nov 2022 12:52:00 +0000
Perthnasau amheus, trais, twyll a mwy. Gadewch i ni fod yn onest, mae'r Mabinogi a chwedlau Cymru ychydig yn drafferthus! Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trio gwneud synnwyr o rai o hen chwedlau Cymru a'n ystyried os oes rhywbeth y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw heddiw. Fyddech chi'n cwblhau deugain o dasgau er mwyn canlyn darpar bartner? Ac ai Kim Kardashian neu Zendaya yw Blodeuwedd ein hoes ni?! Tanysgrifiwch ar BBC Sounds i glywed penodau newydd yn syth.
Wed, 02 Nov 2022 13:30:00 +0000
Pa mor agored ydych chi ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth sy'n cael lle ar y grid, a beth sy'n cael ei gadw ar gyfer ffrindiau agos yn unig? Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn rhannu profiadau a barn am y da, y drwg a'r dryslyd wrth gyhoeddi ar-lein.
Thu, 20 Oct 2022 12:59:00 +0000
Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trafod gwrywdod gwenwynig. Boed mewn bywyd personol neu yrfa, pa effaith mae dod wyneb yn wyneb ac agweddau fel yma wedi'i gael arnyn nhw? Mae'r dair yn rhannu straeon personol a thrawiadol am eu profiadau, a'n ystyried beth allwn ni gyd ei wneud i herio arferion trafferthus. Tanysgrifiwch i glywed pob pennod ar BBC Sounds.
Thu, 13 Oct 2022 09:30:00 +0000
Pa mor bwysig yw uchelgais a gyrfa wrth chwilio am gariad? I Melanie, mae'n hanfodol. Ond dyw Mali a Jalissa ddim mor siwr… Yn y bennod yma mae'r dair yn trafod gwaith, gyrfaoedd, uchelgais, arian a mwy. Beth yw'r gyfrinach pan mae'n dod at berthynas?
Wed, 05 Oct 2022 12:35:00 +0000
Ydych chi'n gyfarwydd â'r gair 'fetishization'? Yn y bennod yma mae Mel, Mal a Jal yn trafod ystyr y term, a'i gysylltiad anghyfforddus gyda hunaniaeth person. Sut mae'n effeithio ar fenywod heddiw, a sut mae wedi gwneud i'r dair deimlo yn eu bywydau nhw? Tanysgrifiwch i Mel, Mal, Jal: Dal i Siarad ar BBC Sounds.
Wed, 28 Sep 2022 11:20:00 +0000
Beth sy’n cael effaith ar y ffordd rydych chi’n meddwl am eich hun a'ch corff? Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu rhoi pwysau arnom ni i geisio edrych ein gorau pob awr o’r dydd. Ond ydi hyn yn newid a phobl ifanc bellach yn chwilio am brofiad ar-lein mwy realistig? Mewn sgwrs agored a hwyliog mae Mel, Mal a Jal yn trafod sut mae eu agwedd nhw at eu cyrff yn newid o hyd, ac effaith y disgwyliadau all gael eu gosod ar bawb. Tanysgrifiwch i glywed penodau newydd o Mel, Mal a Jal: Dal i Siarad ar BBC Sounds.
Wed, 21 Sep 2022 10:30:00 +0000
Mae podlediad Mel, Mal a Jal wedi cyrraedd BBC Sounds ac mae'r ffrindiau yn dal i siarad am y pethau sydd o bwys iddyn nhw. Bydd sgyrsiau hwyliog am bethau hapus a heriol bywyd, gan gynnwys gyrfaoedd, dêtio, hunaniaeth, teulu a mwy. Bydd llwyth o chwerthin ar hyd y ffordd a digonedd o straeon a safbwyntiau difyr am fywydau'r tair.
Tue, 20 Sep 2022 09:11:00 +0000