-> Eich Ffefrynnau

Craffu360

Craffu360

Croeso i Craffu360, podlediad gwleidyddol Cymraeg newydd fydd yn holi rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru.

Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau.

Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw.

Gwefan: Craffu360

RSS

Chwarae Craffu360

Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru

Yn wyneb a llais cyfarwydd o'r byd gwleidyddol yng Nghymru, daeth Vaughan Roderick i amlygrwydd adeg y refferendwm cyntaf ar ddatganoli yn 1979.

Bu'n gweithio ar rai o raglenni gwleidyddol amlycaf BBC Cymru ers hynny, ac yn cyflwyno rhaglenni megis Sunday Supplement a Dros Ginio yn fwyaf diweddar.

Yn y bennod hon, mae ein gohebydd gwleidyddol ni, Rhys Owen, yn holi'r holwr am ei yrfa ac am flwyddyn hynod gyffrous a diddorol yn hanes gwleidyddiaeth ddiweddar Cymru.

Wed, 18 Dec 2024 12:11:18 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Craffu360

Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan

Yn y bennod yma o Craffu360, mi fydd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn ymuno â ni i drafod ei gyrfa gwleidyddol, ac i edrych ymlaen at y flwyddyn a hanner sydd i ddod cyn etholiad Seneddol 2026.

Thu, 05 Dec 2024 13:41:22 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Craffu360

Ann Davies - Aelod Seneddol Plaid Cymru

Mewn cyfres podlediad newydd, golwg360 sy'n craffu ar waith rhai o ffigurau gwleidyddol amlycaf Cymru.

Yn y bennod gyntaf, ein Gohebydd Gwleidyddol Rhys Owen sy'n ymweld â Chaerfyrddin i gwrdd ag Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru gafodd ei hethol dros yr etholaeth newydd sbon.

Sut all pedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru ddylanwadu ar San Steffan a'i 650 o aelodau? Beth yw ei barn hi am ddyddiau cynnar y Llywodraeth Lafur newydd yn Llundain? Pwy yw ei harwr? Sut mae ei dydd Sul delfrydol yn edrych?

Hyn a llawer mwy ar Craffu360...

Thu, 31 Oct 2024 13:24:49 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch