-> Eich Ffefrynnau

GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

"Croeso i bodlediad Dr Hanna Hopwood sy'n rhoi blas ar sut y gall maes coaching eich cefnogi a Gwneud Bywyd yn Haws!'

Gwefan: GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

RSS

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

'Ydw i'n gwneud synnwyr'? | 27

Pa mor aml ydych chi'n dal eich hunan yn dweud y geiriau hyn? Sut maen nhw'n gwneud i chi deimlo? Gwrandewch ar y bennod i ddysgu sut gallwn gadw at deimlad y frawddeg hon, heb dynnu oddi ar ein hunan hyder. A gyda llaw - mi rydych chi - wrth gwrs - yn gwneud synnwyr - ddoe, heddiw a fory. Peidiwch â gadael i hunan-amheuaeth ennill y dydd. Gwrandewch i newid y llais mewnol hwn. 

Wed, 11 Jun 2025 09:30:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

Ein Doethineb Mewnol | 26

Mewn byd ble mae cymaint yn teimlo eu bod ar ras - sut gallwn ni diwno fewn i'n doethineb mewnol i'n helpu darganfod y llwybr sy'n iawn i ni?
Y penodau eraill y cyfeiriir atynt yn y bennod hon ydy Pennod 5: Tymor y Bwa a'r Saeth a Phennod 15: Angen Vs Eisiau. Mwynhewch!

*Cofiwch fod unrhyw wybodaeth sy'n cael ei rannu ar y pod ddim yn gyfystyr â chyngor meddygol, felly os ydych chi'n poeni am rywbeth, ewch i weld eich darprwr meddygol proffesiynnol. Diolch!*

Wed, 21 May 2025 09:30:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

Problem Prysurseb | 25

Ydy prysurdeb yn rheoli eich bywyd? A beth yw’r buddion o adnabod a gweithredu o fewn eich llif egnïol? Dyma ddau o’r pethau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon! 

Wed, 07 May 2025 09:30:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

Pan mae cymharu yn gwasgu 'pause' ar ein datblygiad - a sut i wasgu 'play' eto | 24

Cymharu - p'un ai bod e'n cymharu yr hunan ag eraill neu'n gymharu ni ein hunan gyda fersiwyn ohonom yn y gorffennol - mae e'n gwasgu 'pause' ar datblygiad. Yn y bennod hon, rydyn ni'n archwilio sut mae cymharu yn cymylu'r ffordd ymlaen i ni ac yn oedi penderfyniadau cynhyrchiol, yn ogystgal a beth all gael ei wneud er mwyn shiffto pethau i'r cyfeiriad cywir gyda hyder a rhwyddineb. 

*Mae cofrestru ar gyfer Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws nawr AR AGOR. Llewnodd llefydd y cwrs diwethaf cyn y dyddiad cau am gofrestru, felly, os oes diddordeb gyda ti, derbynia dy le nawr. Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

Wed, 23 Apr 2025 09:36:31 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

*Cyfres Fonws: Y Ffordd Ymlaen* | 23

Yn y bennod hon, mae Hanna'n esbonio sut mae dysgu cofleidio chwilfrydedd a pheidio ag aros am yr 'amser perffaith' wedi Gwneud Bywyd yn Haws iddi hi. Mae hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am 12 modiwl y cwrs ynghyd â'r modiwlau bonws! Gwrandewch i ddysgu mwy!

*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

Mon, 21 Apr 2025 09:30:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

*Blas ar fodiwl 'Hunan Hyder' + 'H' Fframwaith GBYH * | 22

Beth mae cwrs GBYH yn ein ddysgu i ni am hunan hyder? Ym mhennod 5 y gyfres fonws, cawn gyfle i ddysgu ychydig am y modiwl hwn yn ogystal â dod i adnabod yr 'H' ar y fframwaith sy'n sefyll am 'Hawlio'. Mae hwn yn gam pwysig a chyffrous ar y fframwaith sy'n ein helpu i wreiddio'r newid! Ydych chi'n barod i ddysgu am hawlio eich hunaniaeth newydd?

*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

Sun, 20 Apr 2025 09:30:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

*Blas ar Fodel y 3 System Emosiwn + 'Y' Fframwaith GBYH* | 21

Mae pennod 4 y gyfres fonws yn rhoi cipolwg ar fodel y tri system emosiwn sy'n cael ei gyflwyno ar y cwrs. Mae'r bennod hefyd yn ein gwahodd i ystyried beth mae gwir 'ymrwymo' yn ei olygu a sut mae'r cwrs yn ein helpu i gadw at ein ymrwymiadau mewn ffordd gynaladwy.

*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

Sat, 19 Apr 2025 09:30:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

*Blas ar y modiwl 'Plesio Pobl' + 'B' Fframwaith GBYH* | 20

Ym mhennod 3 o'r gyfres fonws, cawn flas ar y modiwl sy'n cyflwyno strategaethau i fynd i'r afael â 'plesio pobl'. Rydym hefyd yn cael ein cyflwyno i'r hyn sydd y tu ôl i'r 'B' ar y fframwaith. Sut mae'r cam hwn yn gwneud bywyd yn haws? Gwrandewch i ddarganfod mwy!


*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

Fri, 18 Apr 2025 09:30:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

*Cyflwyno Fframwaith GBYH: Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws* | 19

Yn ail bennod y gyfres fonws, mae fframwaith unigryw Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws yn cael ei gyflwyno. Heddiw, y cam cyntaf - y 'G' - sydd o dan sylw. Gwrandewch i ddysgu am sut mae'r cwrs hwn yn cyflwyno ffordd wahanol o gyrraedd ein nodau a chynnal ein llwyddiant.
 
*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

Thu, 17 Apr 2025 09:30:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

*Cyfres Fonws: Balans Bywyd* | 18

Croeso i'r gyfres fonws o bodlediad Gwneud Bywyd yn Haws! Cyfres o benodau byrion bob dydd am 6 diwrnod wrth edrych ymlaen at Gwrs Gwneud Bywyd yn Haws: Gwanwyn 2025. Heddiw, rydym yn ail-edrych ar y syniad o 'falans bywyd' a'r teimladau sydd y tu ôl iddo. Sut mae diffinio'r teimlad hwn yn wahanol yn gallu ein helpu? Gwrandewch i ddysgu mwy!

*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*

Wed, 16 Apr 2025 09:30:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy