-> Eich Ffefrynnau

GwyrddNi

GwyrddNi

Wrth i ni sefydlu Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yng Ngwynedd bydd y siarad a'r sgwrsio yn parhau yn y podcast hwn am sut all ein cymunedau ymateb i newid hinsawdd a ffynnu wrth wneud. 馃尡 As we host Community Assemblies on the Climate in Gwynedd we'll extend the conversation and learning in this podcast, focusing on how our communities can respond to climate change and thrive in the process.

Gwefan: GwyrddNi

RSS

Chwarae GwyrddNi

Ysgol Dyffryn Ogwen: Ail-ddosbarthu dillad ysgol

Yn y podlediad yma disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen fydd yn dweud wrthom am gynllun ail dosbarthu Dillad Ysgol Partneriaeth Ogwen, Hwb Ogwen a Dyffryn Gwyrdd.


Diolch o galon i Celyn Rhys, Ela Williams, Elliw Hywel, Gruffudd Llwyd Beech, Matilda Hanson, Math Rhys, Steffan Hughes a Tomos Owen Davies am eu gwaith caled.

Fri, 08 Sep 2023 13:49:50 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GwyrddNi

Ysgol Bodfeurig: Clwb Bwyd Pantri Pesda

Fel rhan o rhaglen addysg GwyrddNi fe gafodd disgyblion Ysgol Bodfeurig y cyfle i ddysgu mwy am Clwb Bwyd Pantri Pesda. Dyma eu podlediad nhw i adael i bawb wybod amdano..

Fri, 08 Sep 2023 13:21:44 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GwyrddNi

Duncan Brown - Newidiadau i fyd natur

Dyma sgwrs a gafwyd yn ystod Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd cyntaf Dyffryn Peris gan yr hanesydd ecolegol a sefydlydd Cymuned Ll锚n Natur, Duncan Brown.  Mae'n trafod y newidiadau mae wedi eu gweld yn lleol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys diflaniad y Rygarug. Gallwch wylio fideo o'r cyflwyniad a chael dolen at sgript o'r cyflwyniad ar Sianel You Tube GwyrddNi. 

Tue, 11 Oct 2022 14:04:20 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GwyrddNi

Si么n Williams: Newidiadau ym myd pysgota

Mae Si么n o Sarn Mellteyrn yn gwneud ei fywoliaeth fel pysgotwr masnachol. Mae ganddo gwch ym Mhorth Colmon a chewyll ar hyd arfordir Ll欧n oddi yno i gyfeiriad Enlli. Gyda dyfodiad y cyfnod clo a Brexit, bu'n datblygu marchnad newydd i'w gynnyrch bwyd m么r yn Llundain. Mae ganddo ddiddordeb a gwybodaeth eang am gynefin y m么r a bu'n cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i fonitro newidiadau morol ac ecolegol. 

Yn y sgwrs yma gyda Si么n yn ystod Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Pen Ll欧n mae'n trafod rhai o'r newidiadau mae wedi eu gweld yn ystod ei gyfnod yn pysgota yn yr ardal, newidiadau oherwydd newid hinsawdd. 

Tue, 27 Sep 2022 08:20:18 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GwyrddNi

Ceri Cunnington: tyfu fyny ym Mro Ffestiniog

Un o danygrisiau ydi Ceri Cunnington yn wreiddiol, ac mae bellach yn arwain Cwmni Bro Ffestiniog, menter gymunedol wedi ei lleoli ym Mlaenau Ffestiniog.

Yn y sgwrs yma a draddodwyd yng Nghynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Bro Ffestiniog mae Ceri yn trafod dylanwad Bro Ffestiniog ar ei fagwraeth a'i fywyd ers hynny, y bobl yno, y llefydd, yr asedau a'r gymuned.

Gallwch ddarllen trawsgrifiad o'r sgwrs yma a dysgu mwy am Cwmni Bro Ffestiniog yma

Tue, 13 Sep 2022 09:30:20 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GwyrddNi

Celebrating the end of round 1

As we come to the end of the first round of Community Assemblies on the Climate in the five areas we're working with, we take a breath and have a chat about what's worked well, what's been challenging and where we go from here! 

On the sofa today are Casia, Grant, Chris and Nina from GwyrddNi, all ready to share their experience and insight so far. 

Don't forget you can also follow GwyrddNi on Twitter, Facebook and Instagram for all the latest information. 

Thu, 28 Jul 2022 12:56:43 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GwyrddNi

Dathlu Diwedd Rownd 1

A ninnau bellach wedi cynnal y Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd cyntaf ym mhob ardal, dyma sgwrs rhwng Casia, Grant, Chris a Nina o GwyrddNi am sut mae hi wedi mynd hyd yma.

Be sydd wedi gweithio? Be sydd wedi rhoi cur pen i ni?! Beth sydd i ddod yn y rownd nesaf o gynulliadau? Agorwch eich clustiau a chewch wybod!

Cofiwch ddilyn GwyrddNi ar Twitter, Facebook ac Instagram hefyd i glywed y newyddion diweddaraf. 

Thu, 28 Jul 2022 12:49:33 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GwyrddNi

Meet and greet, communities, electric cars and community assemblies!

Hi there! We're GwyrddNi, a climate action movement based in Gwynedd and working in Pen Ll欧n, Bro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen and Dyffryn Peris.

In this first episode of our podcast (how exciting!) we'll meet some of the GwyrddNi team, including Lowri Hedd Vaughan, our Community Facilitator in Dyffryn Peris, Dafydd Rhys, GwyrddNi's facilitator in Pen Ll欧n, and Sara Ashton-Thomas, the movement's Education, Engagement and Outreach Officer who's tasked with keeping everyone in line today! Also joining us to share their experiences are Meleri Davies, Chief Officer at Partneriaeth Ogwen, and Phil McGrath, Cyd Ynni's Development Manager.

We'll hear about some of the amazing things already going on in communities across Gwynedd, and will learn more about GwyrddNi's Community Assemblies on the Climate, soon to start in five areas in Gwynedd. To learn more about our Community Assemblies on the Climate - which are taking part in Pen Ll欧n, Bro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen and Dyffryn Peris - and to register visit www.gwyrddni.cymru/en/taking-part.  

Tue, 05 Apr 2022 14:38:42 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae GwyrddNi

Helo helo, cymunedau, ceir trydan a chofrestru!

Helo! GwyrddNi ydan ni, mudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd yn gweithio ym Mhen Ll欧n, Bro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris.

Yn y bennod gyntaf hon o'n podcast cyntaf erioed (cyffro cyffro) cawn gwrdd 芒 rhai o griw GwyrddNi, sef Lowri Hedd Vaughan, ein Hwylusydd yn Nyffryn Peris, Dafydd Rhys, Hwylusydd Pen Ll欧n, ac yn cadw trefn ar bawb mae Sara Ashton-Thomas, Swyddog Addysg, Ymgysylltu ac Allgymorth GwyrddNi. Hefyd yn ymuno yn y sgwrs mae Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen, a Phil McGrath, Rheolwr Datblygu Cyd Ynni. 

Cawn glywed am rai o'r pethau gwych sydd eisoes ar y gweill mewn cymunedau ledled Gwynedd, a chawn glywed am y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd fydd GwyrddNi yn eu cynnal mewn pum ardal yng Ngwynedd dros y misoedd nesaf. I ddysgu mwy am y Cynulliadau Cymunedol (a gaiff eu cynnal ym Mhen Ll欧n, Bro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris) ac i gofrestru i gymryd rhan ewch i www.gwyrddni.cymru. 


Tue, 05 Apr 2022 14:22:02 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch