-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Yr Haclediad

Yr Haclediad

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Gwefan: Yr Haclediad

RSS

Chwarae Yr Haclediad

Rhagflast o'r Podcast

Wedi clywed am Yr Haclediad ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn dod yn 2il yng Ngwobrau’r British Podcast Awards? Dim clem be ydy’r sioe random yma? Gwranda ar y nugget aur yma – dyma oreuon o’n sgyrsiau o 2019! Am fwy fel hyn bob mis, sdicia ni yn dy app podlediadau neu cer i haclediad.cymru (https://haclediad.cymru)

Tue, 14 Jul 2020 12:30:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Sean a'i Scheepy Shwetah

Croeso i Haclediad mis Ebrill! Mae Bryn, Sions a Iestyn nôl efo mwy o farn heb ymchwil na gwybodaeth 👉 Tro ma, ni'n cadw llygad ar y Broligarchy trwy Meta Raybans, trafod pa mor sbwci o gywir oedd Her(2012) am emotional affairs efo AIs ac wrth gwrs yn gwylio Ffilmdiddim am ddim :- ydy Sioned yn gywir bo ni wir ddim yn gwbod pa mor dda oedd pethe yn 2003, neu yd The League of Extraordinary Gentlemen wedi defnyddio comic book psychic powers arni hi? Hyn i gyd, a lot lot mwy (Ah-gin-dada unrhyw un?🍭🍬🍫) yn eich hoff podlediad "dwi'n rhoi hwn mlaen yn y cefndir i deterrio burglars trw nos" 😘 Diolch o galon i'n holl wrandawyr a chefnogwyr - os hoffech chi roi ceiniog yn y jar, dyma'r link Ko-fi (https://ko-fi.com/haclediad) ☕

Tue, 29 Apr 2025 08:15:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Con-boocha

'Ble mae'r Haclediad diweddaraf di bod?' da ni'n clywed chi'n holi. Wel, mae rhediad o cursed episodes wedi torri cynhyrchydd, boi sain ac enaid y podlediad - so ddefnyddion ni'r sweet sweet arian sponcon i anfon Iest off ar meditation retreat tra bo Bryn a Sioned yn ffaffian am loose leaf tea neu rw nonsens dosbarth canol arall. Ar bennod yma'r Haclediad - ni'n trafod Teslas, De-Americaneiddio ein bywydau, Drinkfluencers a Signal-gate (gafodd y bennod ei recordio CYN cyhoeddiad manylion y Switch 2😍 so gewch chi glywed ni'n ecseitio am hwna mis nesa 😅) Mae'r Ffilmdiddim yn gampwaith o'r Cate-Blanchet-power-lesbian cinematic universe, ond yn bell o fod yn unrhyw fath arall o gampwaith - wylio'n ni Borderlands fel bo chi ddim yn gorod 😅 Diolch o galon i chi gyd am gefnogi, tanysgrifio a gwrando - tolltwch ddiod i Iest a welwn ni chi mis nesa 🫶😊

Sun, 06 Apr 2025 22:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

The Pope’s Sgwishi Sobrasada Excorcist

Mae criw'r Haclediad nôl gyda cursed episode arall o'ch hoff tech/existential dread/ffilms gwael podcast (yn y Gymraeg!) Mis yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn galaru am Skype, trafod cêrio am bethe a phethe sydd wedi eu neud â gofal, a haunted trailer newydd Alexa plus (pam fod angen brên dy hun? Just gad i big brother Jeff Bezos neud o!) Hefyd gwrandwch allan am coverage byw o #CIG2025 yn trendio ar Bluesky as it happened, a'r criw yn bathu'r term "Booze Miles" am y cysyniad sut mae gwin wastad yn neisiach dramor 💡 Ffilmdiddim y mis ydy'r gampwaith S-Tier The Pope's Excorcist - schloc crefyddol o'r radd flaenaf 👌👌👌 (Hefyd, yn anffodus anghofiodd Russel Crowe i excorcisio meicroffon Iest a felly fe ddiflannodd ei sain o hanner ola'r Sioe - RIP hot takes Iest ar Pope on a Rope 2: the Crowening) Diolch o galon i chi gyd eto am wrando a chefnogi (https://ko-fi.com/haclediad)'r sioe - chi werth y byd 🫶

Sun, 02 Mar 2025 14:45:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Blunder Woman 1984 // "Haclediad is good, but it can be better"

Croeso i flwyddyn newydd gyffrous ym myd yr Haclediad... psych! Na, just blwyddyn arall o ni'n tri yn arwain chi trwy storm💩bywyd modern 😃 Gweledigaeth AI Keir Starmer, y ban Tiktok yn yr UDA helyntion Apple TV Iest - mae hyn i gyd a mwy yn aros amdanoch chi! Ffilmdiddim y mis ydy'r lliwgar Wonder Woman 1984 - ffilm lle mae Pedro Pascal yn sianeli Raul Julia ac yn neud popeth yn well (ond dydy o a Chris Pine methu hydynoed achub hon druan) Diolch o waelod calon i'n holl wrandawyr a chefnogwyr - da chi werth y byd 🫶 Helpwch Iestyn i gadw Bonta Deli i fynd wrth gyfrannu i'r Kofi 👇🙏❤️

Sat, 01 Feb 2025 13:45:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Krampus Campus a’rJacked Santa

🎄Nadolig llawen i chi gyd Hac-ffans! Neidiwch mewn i bennod arbennig llawn feibs hapus positif efo Bryn, Sions a Iestyn wrth i chi yrru adre /cwcio /cuddio mewn cwpwrdd dros Dolig*. 🎅 FfilmDiDdim y mis ydy Red One - sy’n gyrru Sioned mewn i existential creisis am ystyr oesol Jacked Santa. Fydd na chats am A.I. wrth gwrs, ond gan fwyaf fyddwn ni’n siarad am be da ni di joio dros y flwyddyn, ac yn trio edrych mlaen i 2025 Diolch o waelod galon am wrando trwy’r flwyddyn - chi werth y byd 🫶 *ni’n gwybod bod y Nadolig yn gallu bod yn anodd iawn i lot ohonoch chi - gobeithio bod ein mwydro yn cadw cwmni i chi a chofiwch estyn allan, mae'n OK i ofyn❤️

Tue, 24 Dec 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

International Spam of Mystery

🌸YEAH BABY!🌼 Oedden ni’n meddwl bod angen rhaglen all-good-vibes ar bawb y mis yma, felly da ni wedi ditcho’r Ffilmdiddim am Ffilmi’rdim yn lle - dowch nôl i 1997 efo ni (eto?!) i wylio Austin Powers: International Man of Mystery ✌️ Wrth gwrs, mae genno ni sgwrs tech i chi cyn hyna tho, Prosiect Lleisior sy’n creu cofnod o leisiau Cymraeg i bobl sy’n eu colli, gwefan nuts Walzr.com (https://walzr.com/IMG_0001) sy’n ffendio’r holl hen fideos “send to youtube” o 10 mlynedd nôl a chreu timerift nostalgia weird iawn i Milennials - ac wrth gwrs, trafod gwaith sylwebydd tech mwyaf disglair Cymru, Cefin Roberts, ar pam ddylai Cymry Cymraeg deffinetli aros ar Twitter am rhyw reswm. HYN OLL A MWY yn Haclediad #140 - welwn ni chi am y christmas spectacular!

Thu, 28 Nov 2024 18:15:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Penblwydd Morb-us i ni

Mwah ha hahclediad Calan Gaeaf hapus i chi wrandawyr - ydych chi’n barod am hunllef fwyaf rhieni... ffôns yn yr ysgol?!🎃 Yn y bennod yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn taclo heriau ffôns i blant, ein penblwydd yn 14 (so da ni ddigon hen i gael ffôn yn ôl Smartphone Free Schools) a Ffilmdiddim perffaith o addas... ac ardderchog o dwp, Morbius 🦇🧛‍♂️ Mae na 14 mlynedd o’r nonsens yma wedi pasio, diolch o waelod calon i bawb sy’n gwrando a chyfrannu i’r Haclediad - da chi’n sêr 🤩 Os hoffech chi daflu ceiniog draw i bodlediad hyna’r Gymraeg prynwch Ko-fi (https://ko-fi.com/haclediad) i ni 🫶☕

Mon, 28 Oct 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Môr-BADron

Tymor newydd, pennod newydd arrr-dderchog o'r Haclediad i chi... yn llawn môr ladron, language models a trips cyffrous i'r swyddfa bost...?! FfilmDiDdim y mis ydy'r llanast epic 'Cutthroat Island', a diolch enfawr i Matt M a Jamie am eu cyfraniadau ac i Iestyn am lywio'r good ship Haclediad

Sun, 29 Sep 2024 14:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

The Wrong Sexy Trousers

Mae’r haf ar ben, ond gadewch i Iestyn, Bryn a Sioned fynd â chi am un fling gwyliau arall... Mis yma da ni’n cael braw efo Pixel 9 Google, sy’n stwffio tech AI Gemini mewn i bob twll a chornel - a fyddwn ni’n gallu trystio unrhyw lun ffôn byth eto? Byddwch yn barod am Iest Test arall ar ôl trip i drio’r Vision Pro yn y siop Apple; a’r ffilmdiddim y mis ydy’r ‘camp’waith Y2K Entrapment - Abertawe’s finest yn erbyn y lasers coch na, be gei di well? Diolch i Iestyn am gynhyrchu’r sioe, i bob un ohonoch sy’n gwrando, a diolch arbennig i chi sy’n cyfrannu’n fisol 😘

Sat, 31 Aug 2024 14:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy