Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio bob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol. Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL.
Gwefan: 'Di'r helmed yn ffitio?
Yn y chweched bennod o’r podlediad, mi fydd Cynan yn dadansoddi rownd gyntaf o’r drafft NFL 2025. Sut hwyl gafodd Cynan yn rhagdybio? Oes unrhyw ddewisiadau dydi Cynan ddim yn cytuno hefo? Pwy ddiawl wnaeth y Saints bigo tro ma’?
Sat, 10 May 2025 09:57:28 GMT
Yn y bennod hon, mi fydd Cynan yn rhagdybio pwy fydd yn cael eu pigo yn rhan gyntaf y rownd gyntaf rhwng dewis 16 gyda’r Arizona Cardinals, i’r dewis cyntaf gyda’r Tennessee Titans. Fydd Cynan yn bell o’r marc?
Thu, 24 Apr 2025 18:00:00 GMT
Yn y bennod hon, mi fydd Cynan yn rhagdybio pwy fydd yn cael eu pigo yn rhan olaf y rownd gyntaf, rhwng dewis 32 gyda’r Philadelphia Eagles, i ddewis 17 gyda’r Cincinnati Bengals. Bydd Cynan yn bell o’r marc?
Thu, 24 Apr 2025 18:00:00 GMT
Yn y drydydd bennod, 'Da ni'n trafod pwy yw Travis Hunter, prosbect o goleg sydd yn chwarae dwy ffordd a fydd yn gobeithio cael ei ddewis yn y pump uchaf yn y drafft eleni. Byddem yn trafod Jordan Petaia sydd wedi gadael Rygbi Awstralia i ymuno gyda’r NFL. Byddem hefyd yn dadansoddi pob cytundeb newydd sydd wedi eu rhyddhau yn ddiweddar.
Tue, 15 Apr 2025 18:00:00 GMT
Yn yr ail bennod o ‘Di’r helmed yn ffitio', mi fyddai’n trafod transfers yn yr NFL yn enwedig Y Denver Broncos, trafod Justin Fields yn mynd i New York, ateb y cwestiynnau 'ydi Jerry Jones isio ennill Superbowl?' a 'A fydd y 49ers nol yn y Superbowl o fewn y 5 mlynadd nesaf?' - Fydda i hefyd yn esbonio be ydi’r giamocs sy’n digwydd yn ystod yr 'offseason', gan gynnwys Cap Space a'r Drafft. Ac yn olaf, mi fyddai’n dyfalu pa dîm fydd Aaron Rodgers yn chwarae i tymor nesaf!
Sat, 22 Mar 2025 09:00:00 GMT
Wyt ti’n un am American Football? Neu ddim hefo clem ond ffansi dechra’ diddordeb? Tiwnia mewn i ‘Di’r Helmed yn Ffitio’ i gael hynt a helyntion Yncl Cynan a.k.a Cynan Anwyl wrth iddo fo ein rhoi ni ar ben ffordd am beth sy’n mynd ymlaen draw yn yr Unol Daliaethau! 🏈
TIMECODES
Y Superbowl 13:20 - 19:43
Fy Saints bendigedig 19:44 - 27:21
Enillwyr/Collwyr 27:23 - 34:59
LRZ 35:00 - 39:44
Outro 39:45 - 40:20
Tue, 11 Mar 2025 19:00:00 GMT