Croeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur.
Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
Gwefan: Llwybrau Llanhari - Dathlu'r Aur
Bardd, awdures, golygydd...mae doniau geiriol di-ri gan ein gwestai yr wythnos hon.
A glywsoch chi am ei nofel ‘Sut i Ddofi Corryn?’ Hon oedd nofel gyntaf ein gwestai yn y bennod hon ac fe gipiodd deitl Llyfr y Flwyddyn iddi yn 2024!
Eleni, yn ogystal mae hi wedi rhyddhau pamffled o gerddi, ‘Rhaff’, a golygu cyfrol o gerddi sy’n ein tywys ar hyd Lwybr Arfordir Cymru - Cerddi’r Arfordir.
Mari George yw’r cyn-ddisgybl dawnus sydd yn sgwrsio gydag Eve yn y bennod hon, ac yn ogystal a holi Mari am ei bywyd mae Eve yn mwynhau holi Mari ambell gwestiwn a rhannu ei barn wedi iddi ddarllen ei nofel.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari.
Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Mon, 02 Dec 2024 16:31:55 +0000
Chwarae LawrlwythwchAr ddydd Llun y 5ed o Awst 2024 fe enillodd ein gwestai ni heddiw Goron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a hynny yn ei filltir sgwâr.
Cipiodd ei Gadair gyntaf, Cadair yr Urdd, tra’n ddisgybl yn yr ysgol yn 2016 ac ail Gadair y flwyddyn ganlynol pan ddaeth Eisteddfod yr Urdd i’n bro yn 2017.
Dychwelodd i’r ysgol droeon i gefnogi’r disgyblion presennol a’r haf hwn bu’n mentora’n beirdd ifanc ar gyfer gornest arbennig Talwrn yr Ifanc yn y Babell Lên ym Mharc Ynysangharad.
Heddiw, cawn gyfle i ddod i adnabod y Prifardd Gwynfor Dafydd.
Brooke a Harri, dau sy’n gyn-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail fel Gwynfor, fu’n mwynhau gwers o sgwrsio a hel atgofion.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari.
Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Fri, 22 Nov 2024 07:10:06 +0000
Chwarae LawrlwythwchStacey, Shirley...ond, ein Shelley ni!
Bydd rhai yn ei hadnabod fel Stacey o’r gyfres boblogaidd Pobol y Cwm, bydd eraill wedi’i gweld yn ddiweddar ar lwyfannau Cymru yn y ddrama Shirley Valentine, bydd nifer ohonom yn gwrando arni ar Radio Cymru ar fore Sadwrn...gwestai’r bennod hon yw'r actores, y cyflwynydd, y cynghorydd a’r cynhyrchydd Shelley Rees.
Diolch i Ava a Mali am y sgwrsio a’r holi bywiog, cynnes yn y bennod hon.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari a’r gyfres deledu Pobl y Cwm yn dathlu eu pen-blwydd yn 50. Diolch i Shelley am ein helpu i ddathlu a chofnodi’r dwbl pwysig hwn!
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Thu, 07 Nov 2024 09:25:22 +0000
Chwarae LawrlwythwchEin Mr Urdd a llawer mwy!
Un o wynebau cyfarwydd ddoe a heddiw Llanhari yw gwestai’r bennod hon. Yn wreiddiol o ardal Pen-y-bont, bu’n ddisgybl yma rhwng 1994 a 2001. Am gyfnod, bu’n gweithio i Fenter Iaith Bro Ogwr, cyn dechrau gweithio i Urdd Gobaith Cymru yn 2009 fel Swyddog Datblygu.
Yn 2016 symudodd swyddfa’r Urdd ar gyfer y rhanbarth i Lanhari a bu’n cyd-fyw yn hapus yng nghoridor yr Adran Gymraeg tan y flwyddyn 2021. Bu’n trefnu Eisteddfodau, teithiau, gweithgareddau, gigs a chyfleoedd di-ri i ieuenctid yr ysgol a’r rhanbarth gan feithrin eu cariad at Gymru a’r Gymraeg ac ennill parch disgyblion.
Eve a Lili-Mei sy’n arwain y sgwrsio a’r hel atgofion am daith iaith Jordan ac am y cyfleoedd brofwyd ganddyn nhw yng nghyfnod Jordan gyda’r Urdd.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Mon, 21 Oct 2024 05:55:01 +0000
Chwarae Lawrlwythwch‘I’r Gad!’ Tybed faint ohonoch chi sy’n cofio clywed y gri hon ar hyd coridorau Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o gyn-benaethiaid Ysgol Llanhari, Mr Peter Griffiths.
Ymunodd Mr Griffiths â theulu Llanhari ym 1988 a bu’n bennaeth ar yr ysgol wrth iddi gamu i’r mileniwm. Yn Gymro i’r carn, yn gefnogwr rygbi brwd ac yn addysgwr ysbrydoledig.
Diolch i Elen ac Esmay am yr holi gofalus ac i Mr Griffiths am ymweld â’r ysgol a rhoi o’i amser i rannu ei brofiadau, ei straeon diddorol a’i angerdd dros Lanhari.
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Mon, 07 Oct 2024 05:10:02 +0000
Chwarae LawrlwythwchAi Mrs Rhian Rapsey yw aelod ffyddlonaf Teulu Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o wynebau cyfarwydd swyddfa’r ysgol.
Dechreuodd Mrs Rhian Rapsey yn ddisgybl yn Llanhari ym 1983 ac roedd ymysg y criw cyntaf i sefyll yr arholiadau TGAU ym Ml.11 ym 1988. Wedi cyfnod byr yn y Coleg, dychwelodd i Lanhari ym mis Hydref 1989 ac ymunodd â thîm y swyddfa ac mae hi yma o hyd! Mrs Rapsey - nyrs yr ysgol, ysgrifenyddes y Tîm Arwain, gweinyddwraig o fri a’n ffrind dibynadwy ni oll.
Diolch i Carys a Gwenno am yr holi gofalus ac i Mrs Rapsey am roi o’i hamser i rannu ei phrofiadau a’r straeon diddorol.
Ydych chi’n gyn ddisgybl yn Ysgol Llanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennych chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Fri, 20 Sep 2024 05:40:01 +0000
Chwarae Lawrlwythwch50 mlynedd yn ôl i'r wythnos hon, fe agorwyd y giatiau ac fe ddechreuodd Ysgol Gyfun Llanhari ddarparu addysg Gymraeg i ddisgyblion.
Mr Geraint Rees yw gwestai'r bennod hon. Un o ddisgyblion y criw cyntaf o ddisgyblion i dderbyn eu haddysg ar y safle ac yn yr ysgol newydd ym 1974 yw Geraint a chawn glywed hanes y diwrnod cyntaf a'i atgofion am ei addysg yn yr ysgol cyn iddo ddychwelyd yn athro am gyfnod.
Ydych chi’n gyn ddisgybl yn Ysgol Llanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennych chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
Sat, 07 Sep 2024 08:02:30 +0000
Chwarae LawrlwythwchSgwrs gyda'r Archdderwydd a chyn ddisgybl Ysgol Llanhari, Mererid Hopwood.
Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
Fri, 09 Aug 2024 11:00:05 +0000
Chwarae LawrlwythwchCroeso i bodlediad llwybrau Llanhari, Dathlu’r Aur.
Ydych chi’n cyn disgybl yn Ysgol Lanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennoch chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari.
Thu, 08 Aug 2024 12:06:30 +0000
Chwarae Lawrlwythwch