-> Eich Ffefrynnau

Pen y Pass

Pen y Pass

Pen y Pass – Trafodaeth hynod anffurfiol am newyddion a digwyddiadau ym myd seiclo yng Nghymru a thu hwnt! Fydda i’n trafod pynciau megis enwogion y World Tour, trafod y dechnoleg a'r ffasiwn newydd sydd yn ymddangos ar y lôn, ac yn sgwrsio gyda Chymry ledled y byd a'u hanturiaethau ar olwynion.

Gwefan: Pen y Pass

RSS

Chwarae Pen y Pass

Pennod 3 - King, Roubaix a'r coblau.

Wythnos yma ar Pen y Pass. Mae Gruff yn ôl fel cyd-gyflwynydd! Sgwrs hefo Eluned King o dîm Lifeplus Wahoo ar ôl iddi orffen ras Paris Roubaix. Clwb Towy Riders ydi ein Clwb yr Wythnos ac fe gawni ein hail ymgeisydd i ddarganfod olwynion mwyaf swnllyd Cymru! Yn ogystal a be sydd wedi bod yn digwydd ar y World Tour yn cynnwys newyddion cyffrous am Tour Prydain y Merched!


📷SWPix.com

Tue, 16 Apr 2024 16:49:53 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Pen y Pass

Pennod 2 - Aero, Ajax, Nice a Egan!

Wythnos yma ar Pen y Pass. Sgwrs hefo Gruffudd ab Owain o flog Y Ddwy Olwyn, Ajax Caerdydd ydi Clwb yr Wythnos ac fe gawni ein hymgeisydd cyntaf i ddarganfod olwynion mwyaf swnllyd Cymru! Yn ogystal o cymryd golwg ar fyd y World Tour wrth ir Clasuron ddechrau poethi!

Thu, 14 Mar 2024 17:10:45 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Pen y Pass

Pen y Pass - Y Cyflwyniad

Croeso i Pen y Pass – y podlediad newydd drwy gyfrwng y Gymraeg am fyd seiclo yng Nghymru a thu hwnt! Yn y bennod gyntaf, mi fydda i'n rhoi cyflwyniad bach am y podlediad yma, yn sôn am be fyddai'n trafod yn y pods sydd i ddod ac yn trafod bach o newyddion o'r peleton proffesiynol.


Wed, 28 Feb 2024 15:13:54 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch