Yn aml, bydd pethau mawr yn dechrau fel hedyn syniad dros beint neu baned. Ond sut mae tyfu’r hedyn?
Yn gyfres hon gan Ymbweru Bro, Catrin Angharad sy’n darganfod sut mae pobol o wahanol fröydd yn taclo’r heriau sy’n codi wrth gynnal ein diwylliant a’n ffordd o fyw.
Gwefan Ymbweru Bro: https://bro.360.cymru/pwnc/bro/
Gwefan: Plannu hedyn
Pan mae busnes sy’n golygu llawer yn lleol yn mynd ar werth, oes ffordd o’i gadw ar agor?
Mae’n drist gweld tafarndai a siopau bach yn cau. Ond mae sawl cymuned wedi ymateb yn gadarnhaol a mynd ati i brynu adeiladau a’u rhedeg fel mentrau cymunedol.
Yn y bennod hon o Plannu Hedyn mae Gwenlli a chymuned Manod angen cyngor am sut i fynd ati i godi arian, dod â’r gymuned ar y daith a pharhau i ddatblygu.
Cawn glywed syniadau gan ddwy dafarn – Menter y Plu yn Llanystumdwy a’r Eagles yn Llanuwchllyn – menter Yr Orsaf ym Mhenygroes a chwmni theatr Frân Wen ym Mangor.
Mon, 25 Nov 2024 11:37:42 +0000
Chwarae LawrlwythwchSut gallwn ni greu gŵyl neu ddigwyddiad lleol sy'n gynaliadwy?
Dyna’r cwestiwn sy’n cael ei holi gan griw Clotas yng Nghribyn, ar drothwy cynnal gŵyl newydd sbon yn y pentre i ddathlu arwr lleol.
Bydd trefnwyr gwyliau bach a mawr yn ymuno â Catrin Angharad i geisio ymateb i’r her – o Ŵyl Cynhaeaf Arall yng Nghaernarfon, Gŵyl y Castell yn Aberystwyth, a Gŵyl Cefni a Gŵyl Gogogoch ar Ynys Môn.
Thu, 14 Nov 2024 09:13:44 +0000
Chwarae Lawrlwythwch