Mae'r criw yn trafod gêm olaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl iddynt golli 3-0 i Loegr, wrth i arbrawf Iwan i wneud podlediad yn defnyddio 'mond negeseuon llais fethu'n llwyr.
Sgarff Dafydd Iwan, Geraint Løvgreen, ac annwyd Elin.
Mae Hywel yn plygio ei daith Cabarela (sydd wedi gwerthu allan), ac mae Iwan yn plygio ei rhaglen radio ar Spotify - The Internet Radio Tapes.
Bydd Podpeth yn nôl yn fuan...
Tue, 29 Nov 2022 22:12:18 +0000
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler?
Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes).
Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy’r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill.
Sat, 26 Nov 2022 19:30:27 +0000
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock.
Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad.
Tue, 22 Nov 2022 13:52:39 +0000
"'Dyn nhw'n gneud microwave a ffrij? Mewn un?"
Mae syniad diweddara' @SpursMel yn swnio'n eithaf tebyg i syniad sy'n bodoli'n barod. Mae Hywel, Iwan ac Elin yn ymateb.
Tue, 26 Jul 2022 09:07:00 +0000
"Ydi o dal yn syniad fi 'lly?" "... Di o'm yn syniad"
Mae calon @SpursMel yn y lle iawn gyda'i syniad diweddara' - ond mae o'n codi lot o gwestiynau. Mae Iwan, Elin a Hywel yn trio'u gorau i'w hateb.
Tue, 19 Jul 2022 10:32:00 +0000
"Be 'di duck yn criced?" "Dim" "Ia, dyna allan o ddeg ma hwn yn mynd i gael..."
Mae profiad diweddar mewn bar ym Maenceinion wedi rhoi syniad newydd i @SpursMel. Elin, Iwan a Hywel sy'n ymateb.
Tue, 12 Jul 2022 11:31:15 +0000
"Wyt ti'n gwrando ar unrhyw bodcasts?"
"Na."
Mae gan @SpursMel syniad tydi hyd 'noed o'm yn licio. Elin, Iwan a Hywel sy'n gofyn y cwestiwn: Pam?
Tue, 28 Jun 2022 08:00:00 +0000
"S'genno fi'm cwynion am hwn de Mel"
Mae @SpursMel wedi meddwl am syniad newydd (ond yn amlwg heb feddwl am deitl call iddo). Mae adborth Hywel, Elin ac Iwan yn well nag arfer.
Tue, 21 Jun 2022 08:47:26 +0000
"Dw i 'di g'neud tri sgript bach..."
Mae @SpursMel i fyny i'w hen driciau gyda'i Syniadad wythnos yma - ond diolch byth mae o hefyd wedi bod yn brysur yn sgwennu sgriptiau. Mae Hywel, Elin ac Iwan yn trio'u gorau i ddadansoddi.
Tue, 14 Jun 2022 09:00:00 +0000
"Mae 'na botenshal i hwnna fod yn... problematic de"
"Pam?!"
Mae Iwan, Elin a Hywel yn cael deja vu wrth rhoi adborth i @SpursMel am ei syniad diweddara'.
Tue, 07 Jun 2022 09:09:52 +0000
"Be 'di hwn ydi ailwampio un o Syniadads gora fi... Ar y Zip."
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trio gwneud synnwyr o syniad diweddara' @SpursMel.
(Mae'r ysbrydoliaeth - Ar y Zip - yn wreiddiol o bennod 9 o'r Podpeth.)
Tue, 31 May 2022 14:31:00 +0000
"Dw i'm isho byrstio bybl chdi strêt awe... ond sut mae hwn yn wahanol i Gwlad yr Astra Gwyn?"
Mae Iwan, Hywel ac Elin yn ymateb i syniad @SpursMel am sitcom newydd sbon.
Tue, 24 May 2022 09:30:00 +0000
"Wel, ma siŵr fyddan nhw'n monstrosities"
Iwan, Hywel ac Elin sy'n rhoi adborth i syniad diweddaraf @SpursMel.
Tue, 17 May 2022 08:25:37 +0000
Yr awdur teledu a'r cerddor arbennig Rhys Gwynfor sydd yn ymuno am sgwrs i drafod 'Un Nos Ola Leuad', ond tro yma yr addasiad ffilm o 1991 gan Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Pritchard. Nadolig Llawen!
Tue, 21 Dec 2021 07:00:00 +0000
A wnaeth lun o fachgen yn crïo achosi tai i losgi lawr yn yr 80au? Pa gyffes gythryblus wnaeth goths Llandaf rhannu gyda Hywel? Pam bod y brif ddinas mor sbwci? Dyna dan ni’n drafod yn bennod yma o #Odpeth!
Tue, 30 Nov 2021 07:00:00 +0000
Heddiw, mae criw Podpeth yn trafod aliens, hoff takeaways a pwy dylai'r Ddaear danfon fel cynrychiolydd i gyfarfod bywyd arall-fydol.
Tue, 23 Nov 2021 07:24:14 +0000
Yda chi wedi clywed am Bwgan Pant-Y-Wennol? Na ni! Yn y bennod yma o Odpeth, mae'r criw yn trafod Pen Llŷn, pronouns, poltergeists a property developers.
Tue, 16 Nov 2021 10:57:41 +0000
Yn y bennod hon o Odpeth, cawn hanes ddyn (anhysbys) o Sir Benfro sydd wedi cael secs efo ghost. Ond be ddigwyddodd go wir? Iwan, Hywel ac Elin sy'n trafod...
Tue, 09 Nov 2021 07:00:00 +0000
Pwy oedd yr "Hanging Judge" o Wrecsam, a be mae o'n dda mewn tafarn yn Llundain yn 2014? Y teulu Pitts sy'n ymchwilio...
Tue, 02 Nov 2021 07:00:00 +0000
I ddathlu Calan Gaeaf, mae'r podcast mwyaf sbwci yn y byd yn nôl! Yn y bennod yma o Odpeth, dan ni'n gofyn y cwestiwn mawr - "Ydi'r pandemic yn PLANdemic?" Mae'r ateb yn amlwg (na), ond tydi hynna ddim yn stopio Iwan, Hywel, Elin a Miw (y gath) trafod 5G, Bill Gates a Brexiteers. Wythnos nesaf, ysbryd!
Tue, 26 Oct 2021 07:00:00 +0000
Mae antur Cymru yn Euro 2020 (a gyrfa Matt Hancock) wedi dod i ben, wrth i Denmarc guro ni 4-0... Mae Iwan a @SpursMel yn trafod y gêm, a'r stad ar Spurs, sydd bellach 2 fis heb rheolwr ers i Jose Mourinho adael, ac mae Hywel ac Elin yn galw i fewn o Bae Colwyn. Www! Egsotic! (Mae 'na sŵ yno). Croesi bysedd, bydd "Podpêl-droed" yn dychwelyd ar gyfer Cwpan y Byd 2022!
Bydd Podpeth yn nôl yn fuan... 'Run amser wythnos nesaf?
Sat, 26 Jun 2021 19:15:07 +0000
Mae Hywel, Elin a Menai yn ymuno 'fo Iwan a @SpursMel am y drydedd gêm, a'r olaf o gemau'r grŵp. Colli 1-0 yn erbyn Yr Eidal, ond dal drwodd i'r 16 olaf. Hefyd: Gŵyl Download, reflexes anhygoel Mel, ac ydi adar yn bodoli?!
Sun, 20 Jun 2021 18:42:42 +0000
RAMBOOOO! Dyma barn Iwan a @SpursMel am ail gêm Cymru yn Euro 2020, wedi iddynt ennill 2-0 yn erbyn Twrci! Hefyd ar yr agenda: Christian Eriksen, hiliaeth, a'r annhegwch wrth i'r timau mawr chwarae gemau nhw i gyd cartref.
Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod dannedd Ramsey, a "future Wales captain" Ethan Ampadu.
Wed, 16 Jun 2021 19:26:53 +0000
Mae Podpêl-droed yn nôl! Dyma barn Iwan a @SpursMel am gêm gyntaf Cymru yn Euro 2020, 1-1 yn erbyn Y Swistir.
Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod ffasiwn Malcs.
Sat, 12 Jun 2021 16:22:20 +0000
Yn y pennod olaf o'r gyfres, mae Hywel yn chwarae clipiau o John Ogwen a Maureen Rhys yn darllen detholiad o'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mi fydd Un Pod Ola Leuad yn nôl pan mae'r ffilm ar S4C Clic.
Nesaf ar Podpeth, mae Pod Pêl-droed yn atgyfodi ar gyfer Yr Ewros!
Tue, 25 May 2021 18:38:04 +0000
Yr awdur a podledydd Llwyd Owen ydi'r gwestai arbennig yn y bennod gynderfynol o'r gyfres Un Pod Ola Leuad, sydd yn trafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Llwyd yn cyflwyno dau bodlediad ei hun, Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM, ac Ysbeidiau Heulog gyda Leigh Jones - sydd ar gael ym mhob man mae podcasts da ar gael.
Mon, 17 May 2021 16:50:00 +0000
Mae'r bardd talentog a chasglwr llus, Gruffudd Eifion Owen, yn ymuno efo criw Podpeth i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Gruff hefyd yn egluro Pennod 8, o'r diwedd!
Tue, 11 May 2021 17:15:51 +0000
UNOL Super-fan Caryl Bryn sy'n ymuno i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard efo criw Podpeth.
Tue, 04 May 2021 16:55:06 +0000
Yr athrylith o Dŷ Newydd, Miriam Trefor Williams, sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.
Rhybudd - peidiwch a quotio'r podlediad yma yn eich traethodau!
Tue, 27 Apr 2021 16:59:32 +0000
Yr actores a dramodydd Mared Llywelyn sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.
Tue, 20 Apr 2021 17:43:38 +0000
Wedi darllen Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, mae criw Podpeth yn trafod eu hagraffiadau cyntaf o'r nofel.
Tue, 13 Apr 2021 18:00:00 +0000
Croeso i UN POD OLA LEUAD - y gyfres newydd lle fydd Iwan Pitts, Hywel Pitts ac Elin Gruff yn dehongli a dadansoddi'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.
Tue, 06 Apr 2021 20:48:25 +0000
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn nôl ar ôl amser maith i drafod be sydd wedi bod yn digwydd (COVID-19/Coronafeirws, 2020) a be sy'n mynd i fod yn digwydd (clwb llyfrau Podpeth - Un Nos Ola Leuad).
Sun, 04 Oct 2020 13:39:35 +0000
Calan Gaeaf Hapus! Pennod olaf Odpeth? Dim cweit, achos mae yna un arall fory (1af o Dachwedd). Tro yma, y pwnc ydi Melltithion, a'r pennawd ydi "Pwyso a Ffrwydro", ac mae Iwan yn siarad am y ffilm Maleficent am amser maith, felly spoilers i Maleficent??
Thu, 31 Oct 2019 07:30:00 +0000
Gwyrthiau ydi'r pwnc yn y bennod arbennig yma, a'r pennawd yw "What-a-fall!"
Wed, 30 Oct 2019 07:30:00 +0000
"Spider-Lamb" ydi'r pennawd yn y bennod arbennig yma o Odpeth sy'n trafod cryptids.
Tue, 29 Oct 2019 07:30:00 +0000
Blinkin' Aliens! Estron ydi pwnc y bennod yma o Odpeth...
Mon, 28 Oct 2019 07:00:00 +0000
Be ydi'r cysylltiad rhwng "Ecco the Dolphin" a gwrachod? Cewch ddarganfod yn y bennod yma o Odpeth!
Sun, 27 Oct 2019 07:00:00 +0000
Be yn union ydi "Tylwyth Teg"? Wel, pwnc trafod y bennod arbennig yma o Odpeth, wrth gwrs! Hefyd: Nobby.
Sat, 26 Oct 2019 07:00:00 +0000
Ysbrydion ydi pwnc sbwci pennod 2, cyfres 2. Os yda chi wedi gweld ysbryd (person, ci neu drên), gad ni wybod ar Twitter - @podpeth
Fri, 25 Oct 2019 07:00:00 +0000
Gyda Chalan Gaeaf 2019 yn agosáu, mae Iwan, Hywel ac Elin yn cyfri'r dyddiau i lawr drwy ryddhau 9 pennod newydd sbon o Odpeth. Yn y bennod yma - Clust i'r Llawr...
Thu, 24 Oct 2019 07:00:00 +0000
Mae Elidyr Glyn, y flugalist Miriam Trefor, sport expert Jack Peyton ac 8000 mil o bobl eraill yn ymuno ag Iwan, Hywel ac Elin am dro rownd dre ar orymdaith annibyniaeth hanesyddol yng Nghaernarfon.
Sat, 27 Jul 2019 15:40:40 +0000
Hi-di-ho!
Dim Elin wythnos yma yn anffodus, ond mae'r brodyr Pitts yn ol i ddadansoddi'r gair "difyr", ac hefyd i ymosod ar Bolycs Cymraeg.
I wirfoddoli i fod yn westai arbennig, DMiwch ni @Podpeth ar Twitter.
Wed, 06 Mar 2019 10:10:41 +0000
SyniaDad Sbeshal arall gan @SpursMel - tro yma, mae o wedi "dyfeisio" cyfres sy'n gorfodi awduron gorau Cymru i gydweithio efo cerddorion Cymraeg...
Wed, 27 Feb 2019 00:01:00 +0000
Mae'r podlediad gorau o Gaernarfon (os na mae 'na un arall) yn dychwelyd i'r arfer gyda sgwrs hirwyntog a ddibwynt am sgiliau cyflwyno Hywel, gyrfa gyfryngol Elin, Odpethau Iwan, a dyfodol y Podpeth. Bydd na fwy o Class Cymraeg? Bydd na fwy o Odpethau? Bydd na fwy o "PETH!" (y podlediad i blant)? Pryd da ni am gael gwesteion yn nol?! PWY FYDD Y GWESTEION?! Oedd Ross a Rachel ar break?! Dyma'r cwestiynau da ni isio chi ateb - gadawn ni wybod ar Facebook a Twitter (@Podpeth). Wsos nesa - SyniaDad!
Wed, 20 Feb 2019 06:00:00 +0000
Am Dro, Ren Co, Die-arrhea.
(O Podpeth 31 - “Roc a Rol” 15/5/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:59:39 +0000
Haka 'na'n Mental, RoboKop, Does 'Nam Esboniad.
(O Podpeth 32 - “Clwb Tatws Alaw Gin” 22/5/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:59:20 +0000
Brenin Byrgyr, Tigerist, Archnaphobia Mate.
(O Podpeth 33 - “Ansensitif” 29/5/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:58:51 +0000
Hywel yn cyflwyno!
Marty McFine, Robin Whoosh, Brenin y Blods.
(O Podpeth 34 - “Pleidleisio” 5/6/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:58:27 +0000
Hywel yn cyflwyno! Bark Zuckerburg, Like a Cock in a China Shop, He Ate His Words. (O Podpeth 35 - “Plismon Cachu Trwsus” 12/6/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:57:53 +0000
Sgert Cwl, Sheeple, Car Caru Coc Up.
(O Podpeth 36 - “Dai Sgyffaldi” 26/6/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:57:28 +0000
Birdie? Eagle? Camel!, R.I.Pwy?, Jackson Chwilod.
(O Podpeth 38 - “Umami!” 17/7/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:56:53 +0000
Caru T-1000, Ma' 'Na Monster Di Byta Pets Fi!, Ti Ddim Ar Ben Dy Hun.
(O Podpeth 40 - “Ffabouffe” 31/7/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:56:27 +0000
O Weatherfield i Wakefield, Hebog a Neidr yn Ennyn Gwŷdd, Macaque-a-Chick.
(O Podpeth 41 - “Steddfod 2017 28/8/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:55:59 +0000
First Aid Kid, Irma Help Kids With Porn Money, Brace Yourself. (O Podpeth 44 - “Um Bongo Mags” 18/9/2017)
Wed, 13 Feb 2019 17:55:36 +0000
SyniaDad Sbeshal arall gan @SpursMel - tro yma, mae o wedi dyfeisio rhaglen deledu newydd lle mae rheithiwr yn medru ennill drwy ddadlau am elusen gyda seleb.
Wed, 06 Feb 2019 00:15:00 +0000
Boed chi'n gammon snowflake gwep-goch blin, neu yn remoaning Lefty Corbynite sydd isio Pleidlais y Bobl, nid oes osgoi Brexit, a dyma'r Podpeth mwyaf Brexit-y eto.
Piers Morgan, Theresa May, Donald Trump, Boris Johnson, David Cameron, Winston Churchill, Nazis - am y tro olaf erioed, da ni am drafod Brexit.
Gyda @IwanPitts @HywelPitts ac @ElinGruff.
Wed, 30 Jan 2019 00:30:59 +0000
Mae'r wasg (un boi yn Golwg) wedi bod yn slatio gwaith y brodyr Pitts ar y sioe ddychanol Y Da, Y Drwg a'r Diweddara' oedd ar Radio Cymru yn ddiweddar. Mae'r hogiau yn ymateb i'r feirniadaeth deg ag adeiladol mewn ffordd deg ag adeiladol.
Hefyd, mae'r podlediad addysgol i blant - POD! - yn nol! Tro yma mae Elin yn trafod bwyta'n iach gyda Peth a POD.
Wed, 23 Jan 2019 08:45:00 +0000
Wythnos yma, mae Iwan yn cynnig syniad am "spin off" - lle fydd Hywel, Elin ac Iwan yn mynd o amgylch Cymru yn cael bwyd a diod am ddim. I roi flas ar y syniad, mae Iwan yn bwyta grawnwinen wiyrd.
Dyma lun:
Ti'sho grêp? pic.twitter.com/xPfwm6IJyv
— Iwan Pitts (@IwanPitts) January 15, 2019Wed, 16 Jan 2019 09:00:00 +0000
Mae Elin yn nol! A @SpursMel, sydd yn egluro ei SyniaDad gorau eto - "Sgrin". Hefyd, mae Hywel ac Elin wedi bod Ar Y Zip!
Wed, 09 Jan 2019 16:48:34 +0000
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae Elin yn sal - ond mae'r brodyr Pitts yma efo Papa Pitts (@SpursMel) i chwarae "Heddwch Ei Lwch 2018"!
Mae Heddwch Ei Lwch yn SyniaDad am raglen cwis. Mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2018. Mwynhewch!
Wed, 02 Jan 2019 14:27:30 +0000
Iawn latch?
Mae Iwan, Hywel ag Elin yn trafod Diwrnod Westminster. Hefyd: rap battles Y Fari Lwyd, addunedau blwyddyn newydd a traddodiadau eraill Boxing Day Cymreig.
Wed, 26 Dec 2018 11:34:04 +0000
Mai bron yn ddolig! Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod beics, carolau dolig a llwyau cariad (eto). Hefyd, da ni'n hel atgofion am tegannau reslo a doli's babis sy'n cachu.
Wed, 19 Dec 2018 17:11:42 +0000
Mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Writer's Block". Hefyd, mae Santa yn dod heibio'r tŷ.
Wed, 12 Dec 2018 16:55:10 +0000
Dim Elin tro yma, felly mae Iwan ac Hywel yn trio cofio be oedd o fel yn yr hen ddyddiau.
Lovespoons, ysbrydion, enwau randym a gwestai ydi'r pynciau wythnos yma.
Wed, 05 Dec 2018 17:08:01 +0000
Ola chicas!
Dyma pennod newydd o Podpeth!
Mae Hywel, Elin ac Iwan yn cyflwyno hanner awr o fwydro eto.
Clocks, bins, Little Chef a twyllo mewn cwis tafarn!
Gyda pennod gyntaf "POD!" - Podlediad addysgol i blant; gyda Elin, Hywel, "Peth" y creadur diniwed ac effeithiau sain anhygoel.
Wed, 28 Nov 2018 17:22:52 +0000
Elin, Hywel ac Iwan yn cyflwyno Podpeth!
Mae Elin yn dangos sgiliau acenion hi, mae Iwan yn siarad am neud rhaglenni datio i S4C, ac mae Hywel yn ateb y cwestiwn “Pwy di Hywel Pitts?”
Hefyd, yn dod yn fuan - t-shirts a hwdis Podpeth!
Wed, 21 Nov 2018 20:14:35 +0000
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod "Be da chi isio?" ac yn dod i'r canlyniad - Syniadau! Felly, mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Canwr Clwb Y Flwyddyn".
Wed, 14 Nov 2018 14:49:30 +0000
Bang bang!
Mae hi'n fuan ar ol Noson Tan Gwyllt, ac i ddathlu, dyma bennod o Podpeth!
Yn y pennod yma, mae Iwan yn cyfarfod Elaine Summer a Howell Pydew. Mae'r gang yn trafod y presennol, penblwyddi a porn parodies diog. Mae Elin yn wglo, mae rhywun yn trigro Alexa heb drio ac mae dipyn o nostalgia tuag at gemau plant a WWE.
Wed, 07 Nov 2018 22:08:39 +0000
Wwww Sbwci!
Mae hi'n Galan Gaeaf, ac mae Podpeth yn ôl am byth!
Elin, Hywel ac Iwan sy'n cyflwyno Podpeth ar ei newydd wedd - hanner awr o falu awyr heb gynllun na rheswm. Mae Podpeth bellach yn bodlediad Dosbarth Canol, ac yn trafod bod yn Ddosbarth Canol, prynu tai a phowlenni ffrwythau, ac i ddangos pa mor anhygoel ac angenrheidiol ydi iaith, mae'r gang yn trio neud Podpeth heb ddefnyddio geiriau.
Wed, 31 Oct 2018 21:33:53 +0000
Mae Podpeth yn ôl!
Mae Iwan wedi cael gig gwael, ac yn cael rant mor anghyfforddus am y peth ein bod ni'n ei gladdu ar ddiwedd y bennod, ac mae Elin a Hywel wedi prynu tŷ!
Wythnos yma yn Class Cymraeg, mae Elin yn trafod termau pêl-droed.
Hefyd, mae Dad yn trafod y SyniaDad diweddaraf - "Talwn Y Beirdd".
Sun, 01 Apr 2018 20:49:21 +0000
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae Elin wedi creu cwis, ac mae'r brodyr yn mynd ben-ben i weld pwy oedd yn cymryd sylw ar y newyddion yn 2017! Chwaraewch ymlaen adra a thrydarwch eich sgôr i @podpeth! Efallai bydd wobr i'r tîm gyda'r sgôr uchaf.
Hefyd, mae 'na rownd gan Dad (Heddwch ei Lwch 2017) sydd efallai ddim yn cyfri tuag at y sgôr terfynol...
Sun, 07 Jan 2018 17:23:37 +0000
Nadolig Llawen!
Class Cymraeg! SyniaDad! Sion Corn?! Be ydi'r gwahaniaeth rhwng Sleigh, Sled a Sledge?
Hyn a mwy mewn pennod hynod hir Podpeth!
Sun, 24 Dec 2017 19:29:17 +0000
Konnichiwa!
Lle mae'r Podpeth wedi bod?! Be ydi'r gwahaniaeth rhwng cupcake a fairy cake? Be ydi eyebrows yn Gymraeg? Y cwestiynau yma a lot mwy yn cael ei ateb wythnos yma mewn pennod newydd o Podpeth.
Hefyd, mae Dad yn dychwelyd gyda SyniaDad anhygoel arall - "Priodi Pwy?!"
Mon, 18 Dec 2017 18:40:05 +0000
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Mathonwy Llwyd (Y Reu). Mae o'n trafod gitars, Y Reu, yr SRG, bod yn athro, ac hefyd yn ateb eich cwestiynau Twitter. Dilynwch Y Reu ar Twitter @y_reu, hoffwch ar Facebook @yreumusic - neu gwrandewch ar SoundCloud - https://soundcloud.com/y-reu
Wed, 04 Oct 2017 15:33:00 +0000
Wythnos yma, mae Elin yn dysgu'r hogiau am y gwahaniaeth rhwng "ac" ac "ag", mae Hywel yn trio cyfathrebu heb ddefnyddio geiriau ac mae Iwan yn teimlo bod y Podpeth yn cyrraedd low point.
Mathonwy Llwyd o Y Reu sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter.
Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Prawf Sgrin".
Mon, 02 Oct 2017 16:52:28 +0000
Podpeth hir iawn wythnos yma, ond ddim Bonws, felly mae'n iawn yndi? Mae Hywel ac Elin yn mynd ar wyliau ac mae Iwan yn dynwared Tom Jones. Yn Class Cymraeg, 'da ni'n cael fwy o ddiarhebion, ac efallai bod ni'n clywed yr Odpeth gwaethaf erioed - "Irma Help Kids With Porn Money". Sori.
Hefyd, mae gan @SpursMel syniad am ffilm - KGBale.
Mon, 18 Sep 2017 16:18:18 +0000
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Hywel Williams, gwleidydd Plaid Cymru ac Aelod Seneddol dros Arfon.
Mae Hywel yn ateb eich cwestiynau Twitter ac yn trafod Jeremy Corbyn, Jacob Rees-Mogg, Brexit, Boris Johnson a choginio!
Dilynwch Hywel ar Twitter - @HywelPlaidCymru.
Wed, 13 Sep 2017 16:41:37 +0000
Mae Iwan yn ail-ddychmygu y Gruffalo o'r newydd, mae Elin yn dyfal donc yn Class Cymraeg, mae Hywel yn holi Hywel (Williams AS) ac mae @SpursMel yn pitchio SyniaDad newydd - "2050".
Fydd y Bonws gyda sgwrs cyfan efo Hywel Williams allan yn fuan...
Dilynwch ni ar Twitter @podpeth a cysylltwch drwy'r wefan - podpeth.com
Mon, 11 Sep 2017 19:23:40 +0000
Cyfarchion!
Spoiler Alert - mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod Game of Thrones wythnos yma, ac yn ailgreu golygfa yn y Gymraeg.
Mae Elin yn siarad am faint o sgeri ydi Wcw, ac yn dysgu'r hogia am cyplysnodau yn Class Cymraeg, ac mae Hywel wedi bod ar RADIO CYMRU wythnos yma, a di Iwan ddim yn hapus am y peth! Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Sêl Y Sêr".
Mon, 04 Sep 2017 17:16:23 +0000
Shwmae!
Podpeth - Steddfod Sbeshal! Wel, dim o Bodeds, ond wedi ei recordio yng Nghaernarfon wythnosau wedyn. Mae Elin yn dysgu'r hogiau am do bach, mae Iwan yn nôl gyda Odpeth (Hebog a Neidr yn Ennyn Gwŷdd), a chawn glywed cân arbennig Hywel i Tommo o'r Eisteddfod, a pherfformiad stand-up Iwan yn noson Cabarela!
Hefyd, mae Dad yn nôl gyda SyniaDad newydd - "Procar Poeth".
Mon, 28 Aug 2017 18:07:54 +0000
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn sôn am sound system Dan Owen, Jim Dyson, a hunllef gwaethaf atheists, tra mae Hywel yn cael vanilla latte sy'n achosi meigryn.
Mae Elin yn dysgu'r 'ogia am tafodiaeth, a mae Iwan yn cyflwyno Odpeth od iawn - Ti Ddim Ar Ben Dy Hun. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Cadair Cerddorion".
Mon, 31 Jul 2017 20:53:31 +0000
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn cerdded o gwmpas Dolgellau ar y Dydd Sul, lle mae Iestyn Tyne yn bwyta wyau a'r comedïwr Dan Thomas yn trafod The Room. Yn ogystal â hyn, mae Guto Howells, Gerwyn Murray, Gwilym Bowen Rhys a Gruff Jones yn ymddangos, ac mae Iwan yn sôn am be ddigwyddodd pan aeth o am suit fitting.
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lle Mae Wali?".
Mon, 24 Jul 2017 10:20:04 +0000
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod Umami, y blas sydd ddim yn sur, chwerw, hallt neu felys. Hefyd ar yr agenda mae Wacky Races, Elon Musk, mabolgampau ac enwau brenhinol.
Dim gwestai wythnos yma, ond mae 'na Odpeth - Jackson Chwilod (Pollock), ac mae Elin yn dysgu'r hogiau am dybl N ac R a'r goben yn Class Cymraeg.
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "O Bacchus I'r Bar".
Mon, 17 Jul 2017 16:44:16 +0000
Er bod yr hogiau heb gael gwahoddiad i recordio podlediad arbennig yn fyw o Ŵyl Arall, mi wnaethom fynd a'r recordydd sain lawr i Gaernarfon yn ystod yr wyl ar b'nawn Dydd Sadwrn yn yr haul, a dros awr mewn 4 leoliad gwahanol, mi wnaethom lwyddo i recordio... Podpeth! Dim Elin, SyniaDad, Class Cymraeg, Postpeth, Gwestai Arbennig 'na Odpeth wythnos yma, mond Iwan a Hywel yn yfed ac yn mwydro. Mwynhewch!
Sun, 09 Jul 2017 19:11:05 +0000
Mae Grug Muse yn siarad orthography, teganau reslo a gwleidyddiaeth mewn BONWS Podpeth arbennig. Dilynwch Grug ar Twitter (@Elan_Grug) - cyfrol newydd (Ar Ddisberod) allan rwan yn y siop(au).
Mon, 03 Jul 2017 18:42:14 +0000
Rhan 2 o Podpeth 36!
Yn y bennod yma mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod hanes cymeriadau comedi Cymru, Wetherspoons, a chwmnïau Cymraeg! Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau'r gwahaniaeth rhwng gyrru, anfon a danfon yn Class Cymraeg.
Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Y Targed".
Cysylltwch drwy'r wefan (podpeth.com) yn anhysbys, neu'n gyhoeddus drwy Twitter - @Podpeth
Tue, 27 Jun 2017 19:29:48 +0000
Rhan 1 o Podpeth 36!
Yn y bennod yma mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth, y gwahaniaeth rhwng chick pea a runner bean, a pam bod Rupert The Bear yn gwisgo'r trowsus 'na?!
Yn ymuno dros y we o Abertawe yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf mae'r bardd Elan Grug Muse, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter! Mae cyfrol newydd Grug (Ar Ddisberod) ar gael rŵan.
Mae Iwan hefyd yn cyflwyno Odpeth yr wythnos (Sgert Cwl).
Cadwch lygad allan am Ran 2 (Podpeth 36.5) i glywed SyniaDad wythnos yma (Y Targed) a Class Cymraeg!
Mon, 26 Jun 2017 17:45:28 +0000
Gyda senedd grog a dyfodol ansicr, mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod rhyw ar teli, Rastafarianism ac yoga!
Mae Miss Elin yn dysgu'r hogia sut i dreiglo yn gywir yn Class Cymraeg, mae Hywel yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Bark Zuckerberg"), ac mae Iwan yn gofyn y cwestiynau pwysig i gyd fel "pwy fysa'n curo mewn ffeit - Sting ta Rag'N'Bone Man?".
Hefyd, mae Dad (@SpursMel) efo SyniaDad newydd - "Fy Hoff Raeadr".
Mon, 12 Jun 2017 17:25:04 +0000
Wythnos yma, mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod yr etholiad.
Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau'r gwahaniaeth rhwng "cychwyn" a "dechrau", a phryd i ddefnyddio Y neu Yr. Mae Hywel yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Marty McFine"), ac yn lle BONWS, mi fydd y BONWS Odpethau yn mynd ar ei'n sianel YouTube (sydd dal yn llwyth o nymbyrs a llythrennau randym fel UCzl9hDsPh1uhnpZS1Ipd9zQ gan nad oes ddigon o danysgrifwyr).
Hefyd, mae Dad (@SpursMel ar Twitter) efo SyniaDad newydd - "Yr Ods".
Mon, 05 Jun 2017 18:15:53 +0000
Mae Elidyr Glyn (Bwncath, enillydd 1af Tlws Alun "Sbardun" Huws) yn siarad gwleidyddiaeth, cerddoriaeth, Heno a Rownd a Rownd mewn BONWS Podpeth arbennig. Dilynwch Bwncath ar Twitter (@bwncathband).
Wed, 31 May 2017 11:54:33 +0000
Mae Hywel ag Elin yn hungover (eto) ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, ac mae Iwan yn benderfynol o fod yn ddwys drwy son am derfysgaeth.
Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau sut i ddweud os ydi gair yn fenywaidd neu wrywaidd, mae Iwan yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Tigerist"), ac ar ôl i bethau droi yn ddifrifol, mae Hywel yn cytuno i fod yn gyfrifol am Odpeth wythnos nesaf. Elidyr Glyn (Bwncath) sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lleoli'r Llwch".
Mon, 29 May 2017 19:59:55 +0000
Bass, beics, boardgames a Büber (?!) - Elidir Jones (Fideo Wyth, Plant Duw, Y Porthwll, a mwy!) ydi ein gwestai arbennig wythnos yma! Dilynwch Elidir ar Trydar (@ElliotSquash).
Wed, 24 May 2017 20:21:29 +0000
Mae Hywel, Iwan ag Elin yn hungover yn y bennod yma, ac yn siarad am amryw o bethau dibwys a gwirion.
Mae Miss Elin yn dysgu'r hogiau am arddodiaid, mae Iwan yn cyflwyno Odpeth yr wythnos ("Haka Na'n Mental"), ac mae Hywel yn switchio off. Elidir Jones (@ElliotSquash, Fideo Wyth, Plant Duw, Y Porthwll, Griff Y Ci, ayyb) sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Styffylau".
Mon, 22 May 2017 18:09:21 +0000
Wythnos yma, mae'r hyfryd Lisa Angharad yn siarad taboobs, telly a terrorists gydag Iwan, Hywel ag Elin.
Gigs gwaethaf, gwers canu, prudish Mexicans, economics, sex-ed Sweden a llwyth mwy yn cael ei drafod. Mae gan Lisa flog (taboob.co), ac mae hi'n gweithio ar nofel, podcast, ffilm, a Monothigh (the Musical).
Wed, 17 May 2017 19:09:28 +0000
Mae Hywel, Iwan ag Elin yn nôl gyda Podpeth ar ei newydd wedd, gyda jingles a phethau go wir!
Yr Odpeth gyntaf erioed, y Class Cymraeg gyntaf erioed, ac mae Lisa Angharad yn ateb eich cwestiynau Twitter! Hefyd, mae @SpursMel efo syniad newydd - Ffrinj.
*YMWRTHODIAD* - Mae Hywel yn sôn am ei gig "wythnos nesaf", ond yr wythnos wedyn mae'r gig, felly disgwyliwch glywed yr un plyg wythnos nesaf.
Mon, 15 May 2017 18:52:36 +0000
Wythnos yma, i ddathlu 30 o Podpethau, mae Iwan a Hywel yn edrych yn ôl ar eu hoff SyniaDadau mewn Podpeth arbennig!
Mae'r clipiau yn cynnwys:
KaraoCi Cymraeg (Podpeth #14)
Orchestra'r Mor (Podpeth #10)
Helfa'r Drones (Podpeth #12)
Mwydro'r Mascots (Podpeth #20)
Hwyl Y Ffair (Podpeth #25)
Botwm Michael Jackson (Podpeth #8)
Dilynwch Dad ar Twitter - @SpursMel. Wythnos nesaf, mi fydd Podpeth yn ôl ar ei newydd wedd, wedi ei ailwampio a'i rebootio ('da ni efo jingles newydd).
Tue, 02 May 2017 09:20:58 +0000
Ei'n gwestai wythnos yma ydi'r bardd Iestyn Tyne! Mae cyfrol newydd Iestyn - "Addunedau" ar gael rwan, a mae rhifyn gyntaf Y Stamp ar gael rwan hefyd - https://ystamp.cymru/2017/03/25/rhifyn-y-stamp-1/
Wed, 26 Apr 2017 16:44:46 +0000
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn eistedd yn yr ardd i drafod newidiadau mawr fydd yn digwydd i'r Podpeth yn fuan. Mae'r bardd/cerddor Iestyn Tyne yn ymuno a ni i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).
Hefyd, mae @SpursMel efo DAU SyniaDad(au) - "Dadansoddi'r Ser" a "Bwydydd Y Bandiau".
Mon, 24 Apr 2017 16:47:38 +0000
"Reu", "actio", "Duw", Bryn Fôn, syrpreisys a sleepwalking! Mae'r actor a chanwr Iwan Fôn yn ymuno efo Iwan, Hywel ac Elin i drafod hyn a llawer mwy. Dilynwch Iwan ar Twitter (@IwanFon1) am y diweddaraf.
Wed, 05 Apr 2017 16:49:46 +0000
Shwdwti!
Wythnos yma mae WRESTLEMANIA!, ac mae Iwan yn trio egluro'r peth i Hywel ac Elin. Ond, dim reslo ydi popeth, gan fod fwy i'w wneud, gan gynnwys sgwennu jingles, hanner buwch, a sgwrs ddifyr efo Iwan Fôn o Y Reu, Rownd a Rownd(?!) a Tourism Board Carmel, sydd yn ateb eich cwestiynau (@podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Trysor Ta Trash".
Mon, 03 Apr 2017 16:40:44 +0000
Shalom!
Dim gwestai wythnos yma, ond mae'r Podpeth yn un hirach na'r arfer yn yr wythnos lle mae ymosodiad terfysg arall wedi digwydd. Mae Iwan, Hywel ac Elin yn trafod hyn a mwy, gan gynnwys hipster migraines, Zombi 2, gravlax, prancs a mwy! Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Dim Byd O Bwys".
Mon, 27 Mar 2017 17:31:24 +0000
Binky, Bunky, Bonky!
Hulks, haircuts, hiliaeth! Pennod ddadleuol newydd o Podpeth, efo Elin Gruffydd, Hywel Pitts, a'i frawd Iwan. Mae Hywel yn ofn dal salwch Iwan, ac mae Elin yn gwella'r safon iaith yn gyffredinol. Face-blindness, y Quran, tanwydd di-blwm a llawer mwy yn cael ei drafod, a chofiwch gysylltu drwy drydaru (@Podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Graffiti Cymraeg".
Mon, 20 Mar 2017 16:56:42 +0000
Be ddigwyddodd yn 1898 yn Cuba wnaeth ddechrau cyfres o ddigwyddiadau wnaeth arwain at yr ymosodiadau terfysg ar America ar yr 11eg o Fedi, 2001? Mae Vernon Pitts yn "Truther", ac yn ymuno a'i neiaint Iwan a Hywel i dynnu llun fap y byd, egluro'r conspirasi 9/11 o ddechrau i'r diwedd, ac yn datgelu pwy yn union ydi'r "right-wing fascist oligarchs" sydd yn rhedeg y byd mewn podlediad annisgwyl ac annaearol.
Wed, 15 Mar 2017 17:29:32 +0000
Face front, true believer!
Mae Podpeth yma unwaith eto, gydag Elin Gruffydd, Hywel Pitts ac Iwan Pitts yn trafod y pethau pwysig i gyd: Be sy'n waeth, Party Like A Russian gan Robbie Williams, neu Smells Like Teen Spirit gan Take That? Be yn union sydd tu fewn i Creme Egg? Pwy ydi Yncl Vern, a pam bod ni wedi cael o ar y Podpeth? Ia, ein gwestai arbennig wythnos yma ydi ewythr yr hogia, Vern Pitts, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).
Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Llyfrbryfed".
Mon, 13 Mar 2017 17:09:01 +0000
Ahoyhoy!
Technoleg, iaith, carnies, Phil Mitchell ym Mangor, Watergate, a mwy! Mae'r brodyr Iwan a Hywel Pitts yn cyflwyno Podpeth. Wythnos yma, mae Elin Gruffydd yn ymuno a'r hogia, ac yn anffodus dydi hi byth wedi gweld Beauty and the Beast (Spoilers i Beauty and the Beast). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Hwyl Y Ffair".
Dilynwch ni ar Twitter/Facebook ayyb - @Podpeth
Rhybudd - iaith wael a dramgwyddus.
Mon, 06 Mar 2017 17:56:41 +0000
Cyn fflio i Batagonia, mi wnaeth Elan Mererid Rhys siarad efo Iwan a Hywel am Bendith, byw yn Amsterdam, Cân i Gymru, a rock stars yr elusen Gisda. Mae Iwan yn deud pethau tydi o ddim i fod i ddeud, felly anwybyddwch ei eiriau os gwelwch yn dda! Dilynwch Elan ar Twitter - @elanmererid.
Wed, 01 Mar 2017 16:52:25 +0000
#JeSuisIkea
Cathod, gwrachod, Yncl Vern a zombies! Mae Iwan a Hywel Pitts yn nol i falu cachu am awr o'ch amser unwaith eto. Tro yma, mae Elan Mererid Rhys (Plu, Bendith) ar y soffa i drafod caws, ceir ac adar (diolch am eich cwestiynau Twitter - @Podpeth), cyn i'r hogia' plygio pethau (gig Hywel Nos Wener 3/3, podlediad arall Iwan sydd yn y "cloud") am rhy hir. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Incognito".
Mon, 27 Feb 2017 16:40:58 +0000
Shwd wti?!
Mae'r anfarwol Podpeth yn nol, efo Iwan, Hywel ac Elin yn cyflwyno: Munud i Trump, hanner awr i SwperTed (Sbot, Smot ta Smotyn?), Tinder a Jarman, cyn trafod marwolaeth a babis.
Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - Dim Sgam.
Mon, 20 Feb 2017 16:05:48 +0000
Y bardd Elis Dafydd yw ein gwestai arbennig wythnos yma! Dewch i wrando am awr arbennig lle mae Elis yn siarad am porn, Helyntion Jos Y Ficar ac actio fel pry cop, cyn i Iwan anghofio bod o ddim yn cael siarad am Cân i Gymru (wps!). Dilynwch Elis ar Twitter - @elisdafydd.
Wed, 15 Feb 2017 16:49:20 +0000
Iawn babi?
Ma' Podpeth wythnos yma... yma! Y bardd a'r sgolor Elis Dafydd sydd yn ateb eich cwestiynau od Twitter am rom coms, beirdd a'r Cŵin. Mae'r hogiau yn siarad jingles, ac maen nhw efo un i'r segment wythnosol newydd(ish) Munud I Trump. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - Ar Y Traeth.
Cofiwch ddilyn ni ar Facebook/Twitter - Bonws Elis Dafydd ar y ffordd yn fuan.
Mon, 13 Feb 2017 19:03:46 +0000
Bowlen swper!
Mae Podpeth yma, ac wythnos yma does dim gwestai (eto) ond mae Elin Gruffydd yn ymuno a'r brodyr Pitts i drafod gwylanod, y SuperBowl, boi o'r enw Donald, a'r wyddor seinegol. Ydi adar yn bobl? Be ydi American Football? Pa fand roedd athro mathemateg Hywel yn arfer chwarae i*? Hefyd, mae Dad efo syniad Off The Wall.
Cofiwch ddilyn ni ar Twitter (@Podpeth) a/neu hoffwch ni ar Facebook (@Podpeth). Awgrymwch westeion, gofynnwch gwestiynau (#CacA), cwynwch fod y Podpeth rhy fyr neu rhy hir, neu cysylltwch os da chi isio help i sefydlu podlediad eich hunan.
*Gwres Calonnog
Mon, 06 Feb 2017 19:13:02 +0000
Helo gyfeillion!
Mae Podpeth yn nol unwaith eto i ddathlu pen-blwydd @SpursMel! Mae'r Elin Gruffydd yn ymuno unwaith eto i gadw trefn ar yr hogiau wrth iddynt recordio hanner podlediad yn lysh gachu, a'r ail-hanner yn hungover, felly llwyth o egni, wedyn dim egni, a gormod o fwydro am Trump, ffilms M Night Shyamalan, a Sir Fon.
Son am fwydro, mae @SpursMel efo syniad o'r enw Mwydro'r Mascots, sydd yn mynd a ni nol ar y ZipLine.
Os ydi ZipWorld isio noddi y Podpeth, croeso i chi gysylltu ar Twitter (@Podpeth).
Mon, 30 Jan 2017 19:56:33 +0000
Mae ein gwestai arbennig wythnos yma yn Fardd Cenedlaethol Cymru, cyflwynydd Sêr ar HTV Cymru, prif leisydd Treiglad Pherffaith, ac mae o'n cefnogi Spurs. Dewch i wrando ar gyfweliad BONWS lle mae Ifor ap Glyn yn egluro i'r hogia' pethau fel Brexit, Bar Mitzvahs a'r Gynghanedd. Dilynwch Ifor ar Twitter - @iforapglyn
Ymddiheuriadau i:
Asiant Ifor ap Glyn Arfon Wyn Donald Trump Shân Cothi Cliff Richard Pobl Cwm-Y-Glo Pobl Llambed a Tommo
Wed, 25 Jan 2017 18:13:40 +0000
Bore dda!
Hostels, caws-fyrddio, bridio pugs - ia wir, mae Podpeth wythnos yma llawn dop o gynnwys pwysig a clyfar yng nghwmni'r brodyr Iwan a Hywel. Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn sydd ar y soffa yn y parlwr efo panad i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo syniad am raglen - "Dwi'n Meiddio Chdi".
Dwi'n meiddio i chdi wrando! Bonws Ifor ap Glyn ar y ffordd Nos Fercher.
Mon, 23 Jan 2017 19:45:58 +0000
Beth sydd i fyny?
Mae Elin Gruffydd yn cyd-gyflwyno Podpeth, lle 'da ni'n trafod Titanic, Babooshka, # a Nigel Farage. Hefyd, mae @SpursMel efo syniad llawn twists...
Ein gwestai nesaf (wythnos nesaf) fydd Ifor Ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru), felly twitiwch eich cwestiynau atom (@Podpeth). Dim bonws wythnos yma, ond mae peilot SyniaDad - Heddwch Ei Lwch 2016 ar gael i'w wylio ar ein sianel YouTube. Mwy o fideos i ddod yn fuan.
Mon, 16 Jan 2017 14:27:19 +0000
Mae Miriam Elin Jones yn flogwraig a myfyriwr PhD sydd yn astudio Ffuglen Wyddonol yn y Gymraeg. Mae hi hefyd yn 5'4", ac yn un o sylfaenwyr Y Stamp, cylchgrawn llenyddol newydd. Mae Miriam yn rhagweld y dyfodol, trafod cerddoriaeth a ffasiwn, ac yn dysgu'r hogia am hen fenyw fach Cydweli.
Wed, 11 Jan 2017 18:38:31 +0000
Shw'mae!
Tydi Hywel ddim yn ffan o ddynwarediad Iwan o Arnold Schwarzenegger. Hefyd, mae'r hogiau yn trio dipyn o ASMR, ac mae Iwan yn trio plygio ei bodlediad newydd, sydd yn swnio'n hollol anaddawol a rybish.
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Miriam Elin Jones, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), cyn bron dweud "cont"! Mwy o hanes Miriam (a'r Stamp) i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd, a thro yma, mae o am ffilm Nadoligaidd Cymraeg...
Mon, 09 Jan 2017 19:33:57 +0000
Blwyddyn Newydd Dda!
Mae'r flwyddyn Dwy-Fil Dwy-Ar-Bumtheg wedi cyrraedd! Yn cyd-cyflwyno mae Elin Gruffydd (MA). Gwrandewch wrth i ni dehongli 2016, dynwared Prince Charles, a darllen y Daily Mail. Hefyd, mae SpursMel yn cynnig syniad anhygoel arall o'r enw "Heddwch Ei Lwch".
Mon, 02 Jan 2017 20:00:31 +0000
Mae'r hogiau yn gwario awr yn wely Mari Lovgreen efo ei ffrind gorau Ffion, ac yn trafod enwau babis, Awst-25wyr a llyfr newydd Mari (allan Medi 2017). Gwyliwch gyfweliad Mari a Gareth Yr Orangutan ar Facebook Y Lle dros y Nadolig.
Wed, 21 Dec 2016 17:40:34 +0000
Wythnos cyn 'dolig, ac am y chweched wythnos yn olynol, dyma Podpeth arall!
Mae'r hogia yn trafod barfau a rhyfeloedd, ac yn ymddiheuro i Jefferson Montero. Hefyd, mae Mari Løvgreen (a'i ffrind Ffion) yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), ac mae Dad efo syniad am raglen - 'Carreg Filltir'.
Mon, 19 Dec 2016 18:27:52 +0000
Mae'r digrifwr Sarah Breese yn dysgu'r hogia am gomedi, shower thoughts, be bynnag 'di "ball squeezing", a sut i ennill BAFTA. Mi fydd Sarah ar Gwerthu Allan wythnos yma; 21:30 nos Wener ar S4C.
Wed, 14 Dec 2016 21:31:57 +0000
Ein gwestai arbennig trwy hud y rhyngrwyd ydi'r digrifwr Sarah Breese, sy'n ateb eich cwestiynau twitter (@Podpeth). Mae Iwan a Hywel yn trafod terfysgaeth a peanut butter, cyn ceisio am swydd fel cydweithredwyr S4C, ac mae Dad efo SyniaDad am gŵn yn canu.
Mon, 12 Dec 2016 20:04:39 +0000
Mae cyflwynydd Radio Cymru Geraint Iwan yn egluro ysbrydion, reality TV, pobl yn byw yn yr haul, Brexit a ffilms M. Night Shyamalan mewn awren o sgwrs efo'r hogia! Mae Geraint ar Radio Cymru bob Nos Wener rhwng 7 a 10.
Wed, 07 Dec 2016 17:15:03 +0000
"Kevin!"
Ia wir, mae'r Podpeth yn nol eto gyda phennod anlwcus i'r rhai sydd ddim yn cyfri'r Bonwses fel penodau go wir (fel ni). Wythnos yma, mae Geraint Iwan yn ymuno i siarad am junk food a Gerry Adams, ac mae'r hogiau yn siarad am sut fedrwch chi sy'n gwrando noddi'r Podpeth, a sut byswch chi'n elwa. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd am raglen teledu - "Y Llew Gwyn".
Mon, 05 Dec 2016 17:22:33 +0000
Mae enillydd Cân I Gymru 2013, Rhys Gwynfor, yn dweud wrth Iwan a Hywel am Cân i Gymru, mobile butchers, a Johnny Crystal (??). Cynnyrch newydd gan crooner mwyaf cŵl Cymru yn fuan ar ei Soundcloud.
Wed, 30 Nov 2016 17:32:21 +0000
Podpeth ahoy!
Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Rhys Gwynfor, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan ac Hywel yn trafod Fidel Castro, mae Iwan yn son am ei ddyfodol fel podlediwr a stand-up, cyn i Hywel bron iawn datgelu cyfrinach... Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Helfa'r Drons".
Mon, 28 Nov 2016 16:57:16 +0000
Mae'r hwylusydd diwylliant Nici Beech yn siarad efo Iwan a Hywel am deledu, cadw cwningod i fwyta, gigs a gwyliau, a'r llyfr newydd, Cegin.
Wed, 23 Nov 2016 19:14:49 +0000
Wythnos newydd, Podpeth newydd!
Ydi Iwan a Hywel wedi aberthu cynnwys o ansawdd er mwyn cael podlediad mwy cyson? Do.
Ein gwestai arbennig ydi Nici Beech, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan hefyd yn eich annog i droi at drydaru er mwyn ein beirniadu yn gas am bodledu mor wael, wrth i Hywel (sydd yn hanner cysgu) hel atgofion am gael ei "happy slapio" ym Mangor. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Emosiynol".
Mon, 21 Nov 2016 23:07:44 +0000
Mae'r artist Llŷr Alun Jones, a.k.a. Piŵb, wedi troi hen siop COB Records ym Mangor i mewn i ganolfan i'r celfyddydau, ac mae o'n siarad efo Iwan a Hywel am Gogglebox, Prince a Trump.
Wed, 16 Nov 2016 17:18:12 +0000
Mae Hywel ag Iwan nol ar ol amser maith!
Sut mae'r byd wedi newid ers y tro diwethaf i ni glywed Podpeth?
Ein gwestai arbennig ydi'r hogyn o Sling - na, dim John Ogwen, ond yr artist Llŷr Alun Jones! Mi fydd o'n ateb rhai o'ch cwestiynau Twitter (@Podpeth) - mwy o Llŷr i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd.
Mon, 14 Nov 2016 18:59:26 +0000
Ar ôl twrnamaint bythgofiadwy, mae Cymru allan, wedi colli 2-0 i Bortiwgal yn y semis. Ond, mae Iwan a @SpursMel yn bell o fod yn ddigalon (heb law bod Mel isio roi cweir i Cristiano). Mae Hywel yng nghwmni Dan Owen (I Fight Lions), John Sams a Jack Peyton, i drafod y gêm (a Tinder).
Wed, 06 Jul 2016 23:17:53 +0000
Wow! Ymateb i gêm hanesyddol arall i Gymru wrth i ni guro'r Gwlad Belg 3-1 i fynd ymlaen i'r rownd gynderfynol! Mae Iwan a @SpursMel yn breuddwydio am Ffrainc, a mae Hywel yn rhegi'n angerddol efo Dan Owen, Mr a Mrs Jones, a dyn mewn poncho (Gaz Clarke) yn y glaw ar faes ŵyl Ymuno.
Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.Sat, 02 Jul 2016 10:38:18 +0000
Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi'r 1-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon wrth i Gymru symud ymlaen i'r rowndiau gogynderfynol. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn y fanzone yn "Bale Coleman".
Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.
Sat, 25 Jun 2016 22:17:09 +0000
Mae Iwan a @SpursMel yn dathlu'r 3-0 yn erbyn Rwsia wrth i Gymru orffen top y grŵp. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd bellach adra ym Mae Colwyn (neu, Coleman Bale), efo criw o ffrindiau sydd yn cynnwys Jack Peyton, sydd wedi bod yn brysur yn gwario ei bres i gyd ar roi gig mawr ymlaen yng Nghaernarfon (gyda'r gobaith o neud mwy). Dyma linc Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.
Tue, 21 Jun 2016 18:15:02 +0000
Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi ail gêm Cymru yn yr Ewros, yr 1-2 siomedig yn erbyn Lloegr. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd dal yn Bordeaux, efo Rhys Evans a Dan Owen o I Fight Lions.
Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.Thu, 16 Jun 2016 17:45:10 +0000
Gydag Ewro 2016 wedi cychwyn, mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi gêm gyntaf Cymru, y 2-1 hanesyddol yn erbyn Slofacia. Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn Bordeaux efo Rhys Evans o I Fight Lions.
Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.Sun, 12 Jun 2016 12:15:11 +0000
Mae'r nofelydd Llwyd Owen yn y stiwdio 'stafell gefn yn siarad am erotic literature, Papa John's a'i lyfr newydd, Taffia.
Wed, 08 Jun 2016 18:00:00 +0000
Mae un o gyflwynwyr gorau Cymru (top 3!) Dyl Mei yn trafod guilt trips, Gwobrau'r Selar, Duffy a FIFA.
Sun, 05 Jun 2016 15:43:22 +0000
Ma' Iwan a Hywel yn siarad big cats, Uumar a Pacific Drift efo scuba enthusiast Tom Ap Dan.
Wed, 18 May 2016 19:48:49 +0000
Ma' Catrin Mara yn popio fewn i drafod dechrau rumours, ceir a plant yn sgwennu hunangofiannau.
Wed, 27 Apr 2016 20:53:22 +0000
Mae'r awdur eithafol Llwyd Owen yn ymuno a'r 'ogia i ateb eich cwestiyna twitter, ac i siarad am ei nofel newydd 'Taffia'. Ma'r hogia hefyd yn trio dehongli y syniadad diweddaraf - "Ar y Zip". Dilynwch ni ar twitter - @podpeth.
Fri, 01 Apr 2016 23:08:00 +0000
Gwerinos, cathod, Gwobrau'r Selar, ffwtbol, John Lennon, Boi o Blaenau yn mynd i Argos am y tro gyntaf... Awr o fwydro gyda Yws Gwynedd!!! Y "Seren y Funud", "Bryn Fon Newydd", a'r "Justin Timberlake Cymraeg" sydd yn dysgu Iwan a Hywel am Paul Bodin a'r teulu brenhinol. Mae o hefyd yn gwneud rhagfynegiadau anhygoel am y dyfodol...
Thu, 17 Mar 2016 22:10:00 +0000
Mae Hywel ag Iwan nol unwaith eto am awr o fwydro! Wythnos yma, ein gwestai arbennig ydi Dyl Mei - y 3ydd cyflwynydd gorau yng Nghymru! Mi fydd o'n ateb rhai o'ch cwestiynau Twitter (@Podpeth) - mwy o Dyl i ddod yn fuan mewn pennod Bonws (gobeithio!). Hefyd, beth yn y byd ydi "Botwm Michael Jackson"?!? @SpursMel sydd efo'r atebion yn SyniaDad.
Mon, 07 Mar 2016 21:39:00 +0000
Haia iawn? Wythnos yma, mae Tom Ap Dan yn ymuno a'r brodyr Pitts yn y stiwdio i ateb cwestiynau Twitter, ac i amlinellu ei nofel anysgrifenedig o ddechrau i ddiwedd (Spoilers!). Hefyd, mae Hywel yn dangos ei dalent ar y gitâr, mae Iwan yn ateb y cwestiwn "Lle mae'r Bonus Podpeths i gyd 'di mynd?!" ac mae Dad yn egluro Curryoke.
Dilynwch ni ar Twitter i weld fideo o Tom yn jyglo! @PodpethMon, 15 Feb 2016 21:17:00 +0000
Helo! Shw'mae? Iawn?Wythnos yma, mae Catrin Mara yn ymuno a Iwan a Hywel, i ateb eich cwestiynau Twitter! Dilynwch ni yma - @Podpeth
Hefyd, mae Dad efo syniad am lliwio cestyll.Mon, 08 Feb 2016 19:52:00 +0000
Wythnos yma, mae'r hogia yn trafod #DespiteBeingTaughtInWelsh, #OscarsSoWhite a Men's Rights.
Hefyd, mae Yws Gwynedd yn popio fewn i ateb eich cwestiynau ar Twitter (@Podpeth), a mae Dad efo syniad newydd sydd ddim byd debyg i The Voice.Mon, 25 Jan 2016 20:22:00 +0000
Mae'r hogia yn nol yn trafod y rhif 31, y gwestai delfrydol, y New Years Honours List, cymeriadau comedi, Star Wars (spoilers!), a mae Dad yn nol yn roi Cant Y Cant.
@Podpeth ar TwitterWed, 13 Jan 2016 23:39:00 +0000
Mae hi'n flwyddyn newydd, amser i adolygu y flwyddyn oedd 2015...Mae Iwan ac Hywel yn trafod y gorau, y gwaethau, a'r Cymraeg:
Ffilms Albyms Gêm Rhaglen Teledu Podlediad Ffad Digwyddiad Person Felly disgwyliwch digon o fwydro am Donald Trump, Jupiter Ascending, Great British Bake Off, Topknots a Rory McIlroy...Wed, 13 Jan 2016 21:23:00 +0000
Yn yr awr ychwanegol yma, mae Cai "Reu" Gruffydd yn siarad efo ni am dryms, Monster, Xbox One, Segways, Interstellar, Maes B, Cyw a Britain First. Reu.
Tue, 05 Jan 2016 20:36:00 +0000
Christmas Special 3 episodes in?!
Mae Iwan a Hywel yn trafod bob math o bethau Nadoligaidd - Buddhism, Y Tri Sion Corn, America, Xbox One a Strictly Come Dancing efo Cai Gruffydd o Y Reu. A mi fydd @SpursMel yn nol efo syniad gwych arall.Nadolig Llawen!
Wed, 23 Dec 2015 13:50:00 +0000
Yn yr awr ychwanegol yma, cawn glywed hanes Welsh Whisperer wrth iddo drafod cerddoriaeth gwledig, comedi, PRS, Dafydd Iwan, etymoleg y nom de plume Welsh Whisperer a'i fwstash. Unmissable!
Mwy o'r Welsh Whisperer yma - http://welshwhisperer.cymru/Fri, 18 Dec 2015 13:23:00 +0000
Y "difficult second album"!
Mae Hywel ac Iwan Pitts yn gofyn y cwestiynau mawr i gyd: Ydi Rhydian yn robot? Ydi Cymru am ennill cystadleuaeth Euro 2016? Oes mwy o siaradwyr Cymraeg yn mynd i ddechrau podledu? Mae The Welsh Daniel O'Donnell - Welsh Whisperer - yn y stiwdio i ateb eich cwestiynau Twitter (@podpeth), ac i siarad am gigs anodd, parch barf, Hitler a bungee jumpio.Hefyd, cawn glywed gan @SpursMel, sydd efo syniad sydd ddim byd debyg i Can i Gymru.Mon, 14 Dec 2015 23:52:00 +0000
Yn yr awr ychwanegol yma, cawn glywed barn Sion Jones o Maffia Mr Huws am amryw o bethau dadleuol - Time Travel, Refugees, ISIS, robots, Jeremy Corbyn, difaterwch pobl Cymraeg a Ted Hankey.
Tue, 08 Dec 2015 07:21:00 +0000
Mae'r trydedd gyfres wedi cyrraedd!Ar ôl amser maith, mae Hywel ac Iwan Pitts yn nol efo 'gritty reboot' o'r mudiad podlediad Cymraeg, sydd bellach efo cyfrif Twitter a bob dim - @podpeth
The Maffia is in town... Sion "Maffia" Jones, o Maffia Mr Huws. Mae o'n ateb eich cwestiynau, ac yn siarad am ISIS, Syria, time travel, robots, Yr Anhrefn, a Ted Hankey.Hefyd, cawn glywed gan @SpursMel, sydd efo syniad wneith codi Syndod...
Mon, 07 Dec 2015 08:14:00 +0000
Podpeth