-> Eich Ffefrynnau

Rhaglen Cymru

Rhaglen Cymru

Andy Bell a’i westeion yn dathlu darlledu Cymraeg a Chymreig. Y bobl, y rhaglenni, y dylanwad. rhaglencymru@hotmail.com

Gwefan: Rhaglen Cymru

RSS

Chwarae Rhaglen Cymru

Y her ddigidol - Rhagflas

Wrth symud ymlaen o'r newyddion am gau Capital Cymru, sut siâp fydd ar y cyfryngau Cymraeg yn gyffredinol?

Ai canari yn y gawell yw Capital?

Rhagflas o'r bennod nesaf

Tue, 21 Jan 2025 23:01:00 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhaglen Cymru

Capital Cymru - Pod Arbennig

Mae Rhaglen Cymru yn mynd ar drywydd y penderfyniad i ddod â rhaglenni Cymraeg Capital Cymru i ben erbyn diwedd mis Chwefror.

Fe fydd un o gadarnleoedd y Gymraeg yn colli gorsaf radio leol ar ôl cwarter canrif o ddarlledu o dan wahanol enwau.

Pam y penderfyniad ‘nawr?

Beth yw'r sgîl-effeithiau?

Ai datganoli darlledu yw'r ateb mewn oes o heriau ariannol a thechnolegol?  

Fe gewch glywed gan gohebydd BBC David Grundy, y "Welsh Whisperer" a Carl Morris o Gymdeithas yr Iaith a chyn-ohebydd y BBC, sydd bellach yn gynghorydd sir, Alun Lenny.

Oes rhywbeth 'da chi ddweud am y sefyllfa?  Yr e-bost yw rhaglencymru@hotmail.com.

Hefyd, mae Andy yn sôn hefyd am fenter newydd radio newydd arfaethedig "Sŵn Cymru" - dyma ei gwefan: https://swn.cymru/cy

Sat, 18 Jan 2025 17:59:00 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhaglen Cymru

Rhagflas o bennod arbennig

Pennod "ar frys" gyntaf Rhaglen Cymru ... ac un hirach nag arfer hefyd!!

Dadansoddi diwedd rhaglenni Cymraeg ar radio masnachol Capital Cymru - dyma ragflas ohoni.

Sut torrwyd y stori: https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cr4r473k931o

Fri, 17 Jan 2025 16:59:00 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhaglen Cymru

Creisis Capital Cymru - Rhagflas

Gyda'r newyddion o ddileu rhaglenni Cymraeg Capital Cymru mae Andy am fynd mhellach na'r ffeithiau moel mewn pennod arbennig ... fe fydd'na un arall wythnos nesaf hefyd.

 

https://www.bbc.com/cymrufyw/erthyglau/cr4r473k931o

Wed, 15 Jan 2025 21:58:15 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhaglen Cymru

Newyddion yn torri a sgwrs Gareth Blainey

Trafod y grefft o sylwebu ar chwaraeon, magwraeth arbennig ym maestrefi Llundain a chyfwelid rhyfedd - dyma rai o bynciau a drafodir yn y sgwrs rhwng Andy Bell a Gareth Blainey

Hefyd, ar ddechreu'r bennod mae AB yn sôn am y newyddion tor-calonnus am ddiwedd rhaglenni Cymraeg Capital.

Darllenwch am yrfa Gareth fan hyn: https://www.bbc.com/cymrufyw/55617928

A pheidiwch âg anghofio ei hunangofiant:  https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781848517547/o-wembley-i-wembley-straeon-sylwebydd

Cerddoriaeth gloi: 'Sporting Occasion' (Thema diwedd darllediad Wimbledon yn y ganrif ddiwethaf!)

Fri, 10 Jan 2025 18:34:54 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhaglen Cymru

Rhagflas Byd y Bêl

Y sylwebydd chwaraeon Gareth Blainey fydd gwestai nesaf Andy Bell. 

Fe gafodd y pâr eu magwraeth drws nesaf i'w gilydd: y naill yng nghysgod tyrau stadiwm Wembley, y llall nid nepell o ysgol fonedd Harrow.

 

Thu, 09 Jan 2025 18:07:00 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhaglen Cymru

Karl Davies

Un, fel Andy Bell, sydd wedi dehongli newyddion o bell ar gyfer cynulleidfa Gymraeg dros y blynyddoedd yw Karl.

Mae ganddo brofiad hir ym maes darlledu fel gweithiwr, gweinyddwr a defnyddiwr.

Ac mae ei amser yn trigo yn Tseina wedi newid ei farn am y cyfryngau mewn sawl ffordd.

Sgwrs ddi-flewyn ar dafod a geir wrth lansio ail flwyddyn y podlediad.

Cerddoriaeth gloi: Cerddoriaeth wedi cwymp y llenni o "Into The Woods".

 

Sat, 04 Jan 2025 18:54:00 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhaglen Cymru

Rhagflas Pennod Gyntaf 2025

Karl Davies yn trafod ei brofiad o fyw yn Tseina a'i farn am gyflwr darlledu cyhoeddus nes adre.

Thu, 02 Jan 2025 19:04:00 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhaglen Cymru

Newyddion Pump o'r newydd

Cyfle arall i glywed stori am sefydlu'r gwasanaeth newyddion Cymraeg dyddiol cyntaf.

(Mae Andy wedi gweithio trwy hud a lledrith digidol i drwsio ansawdd y sain o'r bennod wreiddol)

 

 

Sat, 28 Dec 2024 18:46:00 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhaglen Cymru

Nadolig Llawen

Cân arbennig Ryan Davies 'Nadolig - Pwy a wyr?' yn fframio taith i'r archifau.

Sut Nadolig a gafwyd cyn dyddiau Radio Cymru a S4C?

O 1923 i ganol y 70au mae Andy yn trafod peth o'r hanes.

Ac os am bodlediad arall sy'n dathlu darlledu, ac un rhaglen yn arbennig, rhowch gynnig ar "Goon Pod" lle mae Andy yn westai'n trafod "A Christmas Carol".

https://podcasts.apple.com/au/podcast/goon-pod/id1569929507

 

Wed, 25 Dec 2024 05:57:00 +1000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy