Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.
Gwefan: Sut i Ddarllen
Mae Kayley Roberts yn gwnselydd ac yn llenor sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon.
Yn aelod o Glwb Darllen Llyfrau Lliwgar, soniodd Kayley am y pleser o drafod llyfrau efo criw, Islwyn Ffowc Elis y versatile king, a thrio peidio sbïo ar dy ffôn pam ti’n darllen.
Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Felinheli.
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Sain: Aled Hughes
Rhestr Ddarllen
Mae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.
Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA.
Mwy am Llyfrau Lliwgar fan hyn.
Bydd nofel gyntaf Kayley Roberts, Lladd Arth (Y Lolfa), allan yn haf 2025.
Mon, 17 Feb 2025 00:02:00 GMT
Mae Siôn Tomos Owen yn fardd, artist a chyflwynydd radio a theledu. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth,Pethau Sy’n Digwydd nôl yn haf 2024.
Bu Francesca a Siôn yn sgwrsio am ddarllen pedwar llyfr ar yr un pryd, agweddau snobyddlyd at gomics a chariad at lyfrgelloedd.
Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd.
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Sain: Aled Hughes
Rhestr Ddarllen
Mae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.
Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leolYMA.
Mon, 10 Feb 2025 10:17:24 GMT
Sut i Ddarllen, sgyrsiau onest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo.
Fe fyddwn ni’n trafod pob math o agweddau ar ddarllen, o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd.
Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.
Ymunwch â ni.
Sut i Ddarllen, podlediad newydd, ar gael yn fuan.
Mon, 03 Feb 2025 09:59:12 GMT