Yn bob pennod, mae Joe yn cael sgwrs hamddenol gyda artistiaid, DJiaid, cynhyrchwyr a phobl sy’n rhan o’r byd cerddoriaeth Gymraeg. O enwau newydd i wynebau cyfarwydd. Trafodir popeth o ysbrydoliaeth a gigs i ganeuon newydd a'r daith greadigol. Wedi’i greu fel platfform i ddathlu a rhannu miwsig Cymraeg mewn ffordd onest a chroesawgar, mae’r podlediad yn agored i bawb – boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu’n ddysgwyr brwd.
Gwefan: Sŵntrack gyda Joe

Yn y bennod ‘ma, mae’n chaotic mewn ffordd hyfryd! Mae Ellis Lloyd Jones a Mel Owen yn ymuno i sgwrsio am bopeth o dyfu i fyny’n siarad Cymraeg, i sut maen nhw’n defnyddio’r iaith yn eu bywydau creadigol - boed hynny ar lwyfan, ar-lein neu ar y radio.
Wrth gwrs, mae pethau’n mynd ar drywydd Drag Race UK Season 7, mae ambell gân wych yn cael ei argymell, a digonedd o chwerthin ar hyd y ffordd.
Fri, 07 Nov 2025 06:00:00 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Mae’n bennod arbennig o’r podlediad i ddathlu Calan Gaeaf! Yn ymuno â fi mae Michael Simmons-Dickens, a berfformiodd ar Y Llais, a Cerys, sy’n creu cynnwys dysgu Cymraeg ar TikTok. Mae’r tri ohonom ni i gyd wedi dysgu Cymraeg - felly mae hon yn bennod 100% dysgwyr! Rydyn ni’n siarad am sut wnaethon ni ddechrau dysgu’r iaith, ein hoff bethau am ddiwylliant Cymraeg, ac wrth gwrs… ambell stori arswydus ar gyfer Calan Gaeaf!
It’s a special Halloween episode! Joining me are Michael Simmons-Dickens, who performed on the Welsh version of 'The Voice' (Y Llais), and Cerys, who creates loads of Welsh-learning content on TikTok. All three of us have learned Welsh - so this one’s an all-learners episode! We chat about how we started learning the language, our favourite things about Welsh culture, and of course… a few spooky stories for Halloween!
Fri, 24 Oct 2025 05:00:00 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Er mai hon yw’r drydedd bennod i ddod allan, hon oedd y gyntaf i fi recordio - a gyda neb llai na Endaf! Ni’n sgwrsio am bopeth o’r Royal Welsh i’w amser ar Y Llais, a’r holl brosiectau cyffrous mae o’n gweithio arno nawr. Sgwrs reit onest, chilled ac ysbrydoledig am gerddoriaeth a bod yn artist Cymraeg heddiw.
Even though this is the third episode to come out, it was actually the first one I recorded - and who better to start with than Endaf? We chat about everything from the Royal Welsh to his time on Y Llais, and all the exciting projects he’s working on right now. A proper honest and chilled chat about music, creativity, and being a Welsh artist today.
Thu, 09 Oct 2025 08:00:00 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Yn y bennod hon, mae Joe yn eistedd i lawr gyda Efan, prif ganwr y band Cymraeg sy’n codi’n gyflym, Dadleoli. Maen nhw’n trafod dechreuadau’r band, eu haf llawn gigs gan gynnwys Maes B, a rhyddhau eu sengl ddiweddaraf Casanova. Mae Efan hefyd yn rhannu ei hoff draciau Cymraeg, ei gydweithrediadau breuddwydiol, ac yn rhoi cipolwg ar beth sydd nesaf i Dadleoli.
Fri, 26 Sep 2025 08:00:00 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Croeso i bennod gyntaf Sŵntrack gyda Joe! 🎶 Gyda fi mae Elen o’r Gym Gym yn Abertawe a’r cerddor Iestyn Gwyn Jones (Ble?, Cadog). Ni’n sgwrsio am gigs, gwyliau, a cherddoriaeth Gymraeg.Welcome to the first episode of Sŵntrack with Joe! 🎶 Joining me are Elen from Swansea Uni’s Welsh Society and musician Iestyn Gwyn Jones (Ble?, Cadog). We chat about gigs, festivals, and Welsh music.👉 Gwrandewch / Listen: Amazon, Apple, Spotify & YouTube👉 Dilynwch / Follow: Instagram & TikTok @swntrackpod
Fri, 19 Sep 2025 08:00:00 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Croeso i Sŵntrack gyda Joe - y podlediad sy’n taflu goleuni ar gerddoriaeth Gymraeg heddiw. O’r artistiaid mwyaf i’r rhai sy’n newydd ar y sîn, bydda i’n rhannu’r traciau, y sgwrsiau a’r straeon sy’n siapio sŵn Cymru. Os ti’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu, dyma dy cyfle i ddysgu am y byd cerddorol Cymraeg.
Welcome to Sŵntrack with Joe - the podcast that shines a light on today’s Welsh music scene. From the biggest names to emerging talent, I’m sharing the tracks, chats, and stories that shape the Welsh music scene. Whether you’re fluent or still learning, this is your chance to learn about the Welsh music world.
Mon, 11 Aug 2025 21:13:53 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch