-> Eich Ffefrynnau

Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

Gwefan: Yr Hen Iaith

Mwy o bodlediadau Sioeau Ffeithiol

RSS

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 71 - Ffŵl heb Ffiniau: Yr Anterliwt (rhan 3)

Cewch gyfle yn y bennod hon i gyfarfod â Gwagsaw, Syr Caswir, Ffowcyn Gnuchlyd a rhai o ffyliaid eraill yr anterliwtiau. Wrth graffu ar rôl y ffŵl, nodwn fod ganddo nifer o swyddogaethau mewn anterliwt draddodiadol. Yn gyntaf, mae’n agor y chwarae â’i gastiau doniol a’i eiriau dychanol er mwyn ceisio denu cynulleidfa. Awn ati’n fwy athronyddol i awgrymu y gellid gweld gwaith y ffŵl ar ddechrau anterliwt yn nhermau troi torf afreolus gwylmabsant, marchnad neu ffair yn gynulleidfa sy’n fodlon aros yn eu hunfan a gwylio drama am ddwy neu dair awr. Ond os yw’n gorfodi trefn weithiau, mae’r ffŵl yn chwalu trefn hefyd, gan droi byd y cybydd â’i ben i waered. Wrth ystyried Hanes y Capten Ffactor gan Huw Jones o Langwm, sylwn fod y ffŵl Gwagsaw yn chwalu ffiniau’i stori a’i anterliwt ei hun, a gwelwn hon fel enghraifft o’r modd y gallai’r anterliwtwyr weithio’n greadigol oddi mewn i ffiniau’r traddodiad. * A Fool without Bounds: The Anterliwt (part 3) In this episode you’ll get an opportunity to meet Gwagsaw [‘Frivolous One’], Syr Caswir [‘Sir Harsh Truth’], Ffowcyn Gnuchlyd [‘Fucking Foulke’] and other fools from the anterliwtiau. As we examine the role of the fool, we note that he has many functions in a traditional anterliwt. First of all, he begins the play with his funny capers and his satirical words in order to attract an audience. We go on in a more philosophical vein and suggest that one could view the fool’s job at the start of an anterliwt in terms of turning the unruly crowd at a gwylmabsant, market or fair into an audience willing to stay put and watch a play for two or three hours. But if he compels order at times, the fool also destroys order, turning the miser’s world upside down. While considered ‘The History of Captain Ffactor’ by Huw Jones of Llangwm, we observe how the fool Gwagsaw destroys the boundaries of his own story and his own play, and we see this as an example of how the anterliwt-composers could work creatively within the boundaries of tradition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - G.G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg’, Llên Cymru, cyf. 1, rhifyn 2 (Gorffennaf 1950). - G. G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg [:] II’, Llên Cymru Cyfrol II (Gorffennaf 1953). - Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis (gol.), A guide to Welsh literature c.1700-1800 (Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, 2000). - Jerry Hunter, Llywodraeth y Ffŵl: Gwylmabsant, Anterliwt a Chymundeb y Testun, llyfr sydd yn y wasg ar hyn o bryd (Gwasg Prifysgol Cymru).

Thu, 25 Sep 2025 13:00:26 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 70 - ‘Dynion dawnus yn dilyn chw’ryddiaeth’: Yr Anterliwt (rhan 2)

Canolbwyntiwn yn y bennod hon ar yr actorion a oedd yn perfformio mewn anterliwtiau, gan graffu ar nifer o destunau llenyddol sy’n taflu goleuni ar eu gwaith a’u hunaniaeth. Yn debyg i gwmni drama heddiw, roedd cwmni anterliwt yn y ddeunawfed ganrif yn teithio o le i le ac yn llwyfannu perfformiadau mewn nifer o wahanol gymunedau. Dengys y dystiolaeth mai ‘llanciau’ oedd yr actorion hyn, dynion ifainc a gefnodd ar eu swyddi arferol dros dro er mwyn ‘canlyn anterliwt’. Awgrymwn fod yr anterliwt yn faes ffrwythlon i’r sawl sydd am astudio seiliau materol diwylliant Cymraeg y cyfnod. Awgrymwn ei fod yn faes ffrwythlon ar gyfer dadansoddiadau anthropolegol hefyd. * ‘Talented men following a play’: The Anterliwt (part 2) We concentrate in this episode on the actors who performed in anterliwtiau, examining a number of different literary texts which throw light on their work and their identity. Like a theatre company today, an anterliwt company in the eighteenth century travelled from place to place and staged performances in different communities. The evidence shows that these actors were ‘lads’, young men who left their normal jobs temporarily in order to ‘follow an anterliwt’. We suggest that the anterliwt is a fruitful field for those who want to study the material foundations of Welsh culture in the period. We also suggest that it’s a fruitful field for anthropological interpretations. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Jerry Hunter, ‘Gwerth Oferedd’, Taliesin 50 (Gaeaf 2011). - G.G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg’, Llên Cymru, cyf. 1, rhifyn 2 (Gorffennaf 1950). - G. G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg [:] II’, Llên Cymru Cyfrol II (Gorffennaf 1953). - Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis (gol.), A guide to Welsh literature c.1700-1800 (Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, 2000).

Thu, 11 Sep 2025 10:00:41 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 69 - Maswedd a Moeswers: Yr Anterliwt ( rhan 1)

Dyma’r gyntaf mewn cyfres o benodau sy’n archwilio gwahanol agweddau ar draddodiad yr anterliwt. Mae Jerry Hunter newydd orffen ysgrifennu llyfr am y pwnc ac “yn llosgi am y stwff `ma”, chwedl ei gyd-gyflwynydd, ac erbyn diwedd y bennod hon mae Richard Wyn Jones yntau’n “ysgwyd ei gynffon” gyda chyffro. Awn ati i ddiffinio’r anterliwt yn fras, gan egluro’i bod hi’n ddrama fydryddol gyda cherddoriaeth, canu, dawnsio a chwffio slap-stic yn greiddiol i berfformiadau a oedd yn debygol o barhau am ddwy neu dair awr. Pwysleisiwn fod agweddau traddodiadol iawn ar y testunau anterliwt niferus sydd wedi goroesi yn ogystal â’r straeon gwreiddiol a ddewiswyd gan y beirdd a’u lluniodd. Gan ystyried yr hiwmor masweddus sy’n ganolog i’r rhan fwyaf ohonynt, cyfeiriwn at ymosodiadau’r diwygwyr crefyddol ar yr anterliwt a’r wylmabsant a oedd yn gyd-destun ar gyfer y fath sioe. * * Dirty Jokes and Moral Lessons: The Anterliwt (part 1) This is the first in a series of episodes which examine various aspects of the anterliwt tradition. Jerry Hunter has just finished writing a book about the subject and “is on fire to discuss this stuff”, as his co-presented says, and by the end of this episode Richard Wyn Jones is “shaking his tail” with excitement as well. We provide a basic definition of the anterliwt, explaining that it was a metrical play with music, singing, dancing and slap-stick fighting central to performances which likely lasted for two or three hours. We stress that the numerous anterliwt texts which have survived are characterized by very traditional aspects as well as the original stories chosen by the poets who fashioned them. While considering the bawdy humour which is central to most of them, we refer to the attacks of the religious reformers on the anterliwt and the gwylmabsant festival which provided a context for this kind of show. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. G. Evans, ‘Er Mwyniant i’r Cwmpeini Mwynion’ [:] Sylwadau ar yr Anterliwtiau’, Taliesin 51 (1985), 31-43. - G. G. Evans, Elis y Cowper (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 1995) - A. Cynfael Lake, Huw Jones o Langwm (Caernarfon: Gwasg Pantycleyn, 2009). - Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis (gol.), A guide to Welsh literature c.1700-1800 (Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, 2000), 210-55. - Anterliwtiau Huw Jones o Langwm, wedi’u golygu gan A. Cynfael Lake, ar wefan Prifysgol Abertawe: baledihuwjones.swan.ac.uk.

Thu, 28 Aug 2025 10:16:18 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 68 - Baledi’r Ddeunawfed Ganrif

Cewch gyflwyniad yn y bennod hon i faledi’r ddeunawfed ganrif, un o ffurfiau llenyddol Cymraeg mwyaf poblogaidd y cyfnod. Yn wir, o ystyried y nifer uchel ohonynt sydd wedi goroesi, mae’n bosib dadlau mai’r faled oedd ffurf fwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ar ôl ymgodymu ychydig â’r diffiniad, awgrymwn mai’r cysylltiad rhwng y math hwn o gerdd a’r wasg argraffu yw’r ffordd orau o ddiffinio’r faled. Cerddi i’w canu oedd y baledi hyn, ffaith sy’n codi cwestiynau diddorol am y berthynas rhwng y cyfrwng llafar a phrint. Wrth ystyried cyfansoddiad gan Als Williams, nodwn fod baledwragedd yn ogystal â baledwyr, a bod merched wedi hawlio lle yn y diwydiant cyhoeddi newydd hwn. Edrychwn ar ddwy faled gan Huw Jones o Langwm hefyd, y naill am ddaeargryn Lisbon (1755) a’r llall am ei helyntion ei hun. Cewch glywed ychydig o hanes Richard Wyn Jones yn astudio Jôb yn yr ysgol Sul pan oedd yn hogyn ifanc hefyd. *** The Ballads of the Eighteenth Century In this episode you’ll get an introduction to the ballads of the eighteenth century, one of the most popular Welsh-language literary forms of the period. Indeed, considering the high number of them which have survived, it’s possible to argue that the ballad was the most popular form of the eighteenth century. After wrestling a little with the definition, we suggest that the connection between this kind of poem and the printing press is the best way to define the ballad. These ballads were poems to be sung, a fact which raises interesting questions about the relationship between the oral medium and print. While considering a composition by Als Williams, we note that that there are ballads by women who claimed a place in this new publishing industry. We also look at two ballads by Huw Jones of Llangwm, one about the 1755 Lisbon earthquake and the other about his own problems. You’ll also hear a little about Richard Wyn Jones studying the Book of Job in Sunday school when he was a young lad. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. G. Millward (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1991). - Cathryn Charnell-White (gol.), Beirdd Ceridwen [:] Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (Llandybïe, 2005). - Siwan Roser, Y Ferch ym Myd y Faled [:] Delweddau o’r Ferch ym Maledi’r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 2005). Baledi Huw Jones o Langwm, wedi’u golygu gan A. Cynfael Lake, ar wefan Prifysgol Abertawe: baledihuwjones.swan.ac.uk.

Thu, 14 Aug 2025 10:50:33 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 67 - Ochr Arall y Geiniog

Mae’r penodau diwethaf wedi canolbwyntio ar y Diwygiad Methodistiaidd a’r hyn a enillwyd yn sgil y trawsffurfiad crefyddol, cymdeithasol a llenyddol hwnnw, gan edrych yn benodol ar waith William Williams, Pantycelyn. Edrychwn yn y bennod hon ar yr hyn a gollwyd wrth i Ymneilltuaeth Gymreig wthio rhai agweddau traddodiadol ar ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru i’r cysgodion. Awgrymwn y dylid ystyried llwyddiant yr emyn Methodistaidd ochr yn ochr â hen fathau o ganu crefyddol Cymraeg a nychodd oherwydd y llwyddiant hwnnw, gan gynnwys y canu plygain a’r halsing. I’r perwyl hwnnw, darllenwn ychydig o garol Nadolig hir gan Edward Samuel, bardd o Benmorfa, sir Gaernarfon, a fu farw yn 1748. Caiff yr wylmabsant sylw gennym wedyn, sef math o ŵyl gymunedol leol a oedd yn gyd-destun ar gyfer pob math o arferion gwerin a pherfformiadau diwylliannol, traddodiad yr aeth pregethwyr ymneilltuol ati’n egnïol i’w ladd. * * * The Other Side of the Coin Recent episodes have concentrated on the Methodist Revival and the things which Wales won because of that religious, cultural and literary transformation, looking specifically at the work of the William Williams, Pantycelyn. In this episode we look at that which was lost as Welsh Nonconformism pushed some traditional features of the culture and literature of Wales into the shadows. We suggest that the success of the Methodist hymn should be considered side by side with old types of Welsh religious song which languished because of that success, including the plygain song and the halsing. To that end, we read some of a long Christmas carol by Edward Samuel, a poet from Penmorfa, Caernarfonshire, who died in 1748. The gwylmabsant comes under consideration then, a type of local community festival which was the context for all kinds of folk customs and cultural performances, a tradition which nonconformist preachers attempted energetically to kill. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Geraint Jenkins, Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760 (Caerdydd, 1983). - E. G. (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1991).

Thu, 31 Jul 2025 12:55:16 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 66 - Bardd Diofal?: Williams Pantycelyn (rhan 3)

Rydym ni’n gorffen trafod yr emynydd mawr yn y bennod hon trwy ofyn cwestiwn a fydd o bosib yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o’n dilynwyr, sef a oedd Pantycelyn yn fardd diofal? Dyfynnwn nifer o ysgolheigion o’r ugeinfed ganrif sy’n awgrymu hyn, gan gynnwys Saunders Lewis a ddywedodd nad oedd William Williams yn parchu geiriau o gwbl. Ac wrth ystyried perthynas y bardd â’r iaith Gymraeg awn ni i drafod ei berthynas â’r traddodiad barddol Cymraeg gan bwysleisio y byddai’n well ei gweld ar un olwg fel diffyg perthynas. Nodwn wrth fynd heibio bod barddoniaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif yn amrywiol iawn a bod llawer o wahanol feirdd wrthi yn y cyfnod yn defnyddio’r hen fesurau caeth, er bod Pantycelyn wedi anwybyddu’r gynghanedd yn gyfan gwbl. A yw’n bosib felly dweud mai ef oedd y bardd modern cyntaf yng Nghymru? * A Careless Poet?: Williams Pantycelyn (3) We finish discussing the great hymnist in this episode by asking a question which might come as a surprise to most of our listeners, namely, was Pantycelyn a careless poet? We quote a number of twentieth-century scholars we suggest that, including Saunders Lewis who said that William Williams did not respect words at all. And while considering the poet’s relationship with the Welsh language we discuss his relationship with the Welsh poetic tradition, emphasizing that it is perhaps best to see it as the lack of a relationship. We note in passing that Welsh poetry of the eighteenth century is characterized by a great deal of variety and that many different poets in the period were using the old traditional metres, although Pantycelyn ignored cynghanedd completely. Is it thus possible to say that he was the first modern poet in Wales? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927 [adargraffiad 1991]).

Thu, 17 Jul 2025 10:00:08 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 65 - ‘Pererin Wyf’: Williams Pantycelyn (rhan 2)

Ymdreiddiwn ychydig yn ddyfnach i emynau Pantycelyn yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar un thema. Ar ôl trafod yr emyn poblogaidd sy’n dechrau ‘Pererin wyf mewn anial dir’, nodwn nad dyna oedd yr unig dro na’r tro cyntaf i Williams ddechrau cyfansoddiad gyda’r ddau air hyn. Ar ôl dangos y modd y bu iddo ailgylchu elfennau o’i waith ei hun trwy gydol ei yrfa lenyddol faith, awn ati i ystyried ystyr ac arwyddocâd y ‘pererin’ – fel thema, fel delwedd ac fel persona – yn ngwaith yr emynydd Methodistaidd mawr. Mae hyn yn ein harwain i drafod dylanwad John Bunyan a’i lyfr Taith y Pererin ar waith Pantycelyn ac ar emynyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol. Ac bu’n rhaid crybwyll barn Saunders Lewis am Williams ac am Bunyan wrth fynd heibio hefyd! ** ‘I am a Pilgrim’: Williams Pantycelyn (part 2) We dive a little deeper into Pantycelyn’s hymns in this episode, concentrating on one theme. After discussing the popular hymn beginning ‘Pererin wyf mewn anial dir’ (‘I am a pilgrim in a desert’), we note that that was neither the only time nor the first time that Williams begun a composition with these two words. After demonstrating the fact that he recycled elements of his own work throughout his long literary career, we get down to considering the meaning ans significance of the ‘pilgrim’ – as a theme, as an image and as a persona – in the work of the great Methodist hymnist. This leads us to discuss the influence of John Bunyan and his book Pilgrim’s Progress upon Pantycelyn’s work and upon Welsh hymnology in general. And we had to mention Saunders Lewis’ views on Williams and Bunyan in passing as well! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Derec Llwyd Morgan, Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (1991). - Kathryn Jenkins, ‘Y Llenor o Bantycelyn’, Efrydiau Athronyddol , IV (1992). - Glyn Tegai Hughes, Williams Pantycelyn [Writers of Wales], (1983).

Thu, 03 Jul 2025 10:00:29 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 64 - ‘Williams biau’r Emyn’: Williams Pantycelyn (rhan 1)

Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar Pantycelyn fel dechrau pennod newydd yn hanes barddoniaeth Gymraeg. Dyma fath cwbl newydd o ganu mawl! Craffwn ar un o’i emynau poblogaidd, gan sylwi ar y naws bersonol a’r iaith hygyrch ac awgrymu bod rhywbeth beiddgar yn y modd y defnyddiodd themâu a delweddaeth yr hen ganu serch i drafod cariad at Dduw. Trafodwn y persona a glywir yn llefaru yn y cyfansoddiad ac rydym yn canfod cyfuniad diddorol o’r personol-breifat a’r cymunedol-gyhoeddus yn y gwaith. Awgrymwn fod cyhoeddiadau Pantycelyn yn fodd i werthfawrogi twf y wasg argraffu Gymraeg ac ystyriwn seiliau materol ei yrfa lenyddol. ** ‘The Hymn Belongs to Williams’ In this episode we begin discussing the Welsh Methodist movement’s chief poet, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Although we summarize some of the history of his life (including his conversion), we take more time in stressing the significance of his literary work as we agree with those we see Pantycelyn’s early hymns as the start of new chapter in the history of Welsh-language poetry. Here is a completely new kind of praise poetry! We examine one of his popular hymns, taking note of the personal tone and accessible language and suggesting that there is something daring in the way in which he used themes and imagery from the old love poetry in order to treat love of God. We discuss the persona heard speaking in the composition and we perceive an interesting combination of the personal-private and the communal-public in the work. We suggest that Pantycelyn’s publications provide a way of appreciating the growth of the Welsh printing press and we consider the material foundations of his literary career. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Derec Llwyd Morgan, Williams Pantycelyn (1983).

Thu, 19 Jun 2025 10:05:34 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 63 - Dechrau Cyfnod Newydd: Y Diwygiad Methodistaidd

Croeso i gyfres 3 Yr Hen Iaith! Agorwn y gyfres newydd hon trwy drafod dechreuadau’r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, mudiad a fyddai’n cael effaith anferthol ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Nodwn fod y mudiad crefyddol wedi dod i Gymru ar yr union adeg ag yr oedd yn troi’n fudiad trawsatlantig, gydag un o’r arweinwyr Seisnig, George Whiftield, yn cael ei gofio gan rai fel ‘tad ysbrydol America’ (er ei fod yn ddyn drwg iawn ym marn Jerry Hunter!). Yn arwyddocaol iawn o safbwynt llenyddiaeth, roedd gwedd lythrennog iawn ar Fethodistiaeth Gymreig gynnar; er nad aeth yr un ohonynt i brifysgol, roedd yr arweinwyr cynnar – Hywel (neu Howell) Harris, Daniel Rowland a William Williams Pantycelyn – wedi derbyn addysg safonol iawn. Gwyddom lawer am Howell Harris gan ei fod yn ysgrifennu cymaint – mae agos at 300 o’i ddyddiaduron a llawer o’i lythyrau personol wedi goroesi hefyd. Un o gefnogwyr Cymreig cynnar y diwygiad oedd Griffith Jones, Llandowror – dyn a wnaeth lawer i hyrwyddo llythrennedd trwy sefydlu’i rwydwaith o ysgolion. Wrth drafod trefniadau ymarferol y Methodistiaid cynnar – y seiat a’r sasiwn – awgrymwn fod y rhwydweithiau crefyddol hyn hefyd yn creu cymuned o ddarllenwyr a ‘derbynwyr llenyddiaeth’. The Beginning of a New Period: The Methodist Revival Welcome to series 3 of Yr Hen Iaith! We open this new series by discussion the beginnings of the Methodist Revival in Wales, a movement which would have an immense effect on the Welsh-language literary tradition. We note that the religious movement came to Wales at the exact time when it was beginning a transatlantic movement, with on of its English leaders, George Whitfield, being remembered by some as ‘America’s spiritual father’ (although he was a very bad man in Jerry Hunter’s opinion!). Extremely significant in the context of, there was an extremely literate aspect to early Welsh Methodism; although none of them went to university, the early leaders – Hywel (or Howell) Harris, Daniel Rowland and William Williams Pantycelyn – all received a very solid education. We know a lot about Howell Harris because he wrote so much – nearly 300 of his diaries have survived as well as many of his personal letters. One of the revival’s early Welsh supporters was Griffith Jones, Llandowror – a man who did much to promote literacy with the establishment of his network of schools. While discussing the practical organization of the early Mahdiists – the ‘seiat’ and the ‘sasiwn’ – we suggest that these religious Networks also created a community of readers and ‘receivers of literature’. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Geraint H. Jenkins, Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760 (1983). - Derec Llwyd Morgan, Y Diwygiad Mawr (1981). - Jerry Hunter, Safana

Thu, 12 Jun 2025 10:02:23 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Branwen ferch Llŷr

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, ac awgrymwn ei bod yn bosib ei darllen fel testun radicalaidd sy’n mynd i’r afael â’r wedd honno ar gymdeithas mewn modd beirniadol. Craffwn hefyd ar ymdriniaeth y chwedl â rhyfel a heddwch, gan nodi arwyddocâd y rhyfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r môr i achub Branwen. ** Branwen daughter of Llŷr We have a great time in this episode while discussing ‘The Second Branch of the Mabinogi’, namely the tale of ‘Branwen daughter of Llŷr’. We consider a number of things about this exciting story, asking interesting questions about its relationship with the medieval society to which it belonged. We note that it is in essence a story about a royal marriage, and we suggest that it’s possible to read it as a radical text which addresses this aspect of society in a critical fashion. We also examine the tale’s treatment of war and peace, noting the significance of the apocalyptical war which kills most of the population of Ireland and most of the great army which crossed the sea to save Branwen. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Dyma bennod yng nghyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n trafod y chwedl: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-5-chwedl-branwen - Hefyd, mae penodau am weddill ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ac un sy’n trafod ‘y chwedlau brodorol’ yn gyffredinol: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-3-y-chwedlau-brodorol https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-4-chwedl-pwyll-pendefig-dyfed https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-6-manawydan-a-seiliau-cymdeithas https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-7-trafferthion-teuluol-math - Deunydd astudio CBAC, wedi’i baratoi gan yr Athro Sioned Davies: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/index.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/23cymeriadau3.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/14themau4.html

Thu, 01 May 2025 17:30:26 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy