-> Eich Ffefrynnau

Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

Gwefan: Yr Hen Iaith

RSS

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 2 - Y Llawysgrif Gymraeg gyntaf (sydd wedi goroesi!)

Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, hanes ysgrifennu Cymraeg a natur llawysgrifau: Dechreua’r bennod hon drwy ystyried rhai o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifen Gymraeg sydd wedi goroesi, a nodi bod yr iaith wastad wedi bod yn gyfrwng i drafod dysg o wahanol fathau, gan gynnwys gwyddoniaeth. Trafodwn dechnoleg ysgrifennu’r cyfnod canoloesol, gan bwysleisio bod y llawysgrifau’n bethau prin, bregus a gwerthfawr. Wedyn, rydym ni’n oedi cryn dipyn ynghylch Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif Gymraeg – h.y., yn gyfan gwbl Gymraeg o ran iaith – sydd wedi goroesi. Pwy oedd y mynach a aeth ati i gynllunio a chreu casgliad o farddoniaeth Gymraeg, llawer ohoni’n gysylltiedig â’r bardd Myrddin chwedlonnol a roes ei enw i’r lle, yn ôl y stori? A yw’n bosibl dweud bod Myrddin yn ymryson â’r bardd chwedlonol arall hwnnw, Taliesin, am oruchafiaeth yn y traddodiad llenyddol? A beth am y llawysgrif bwysig honno â gyslltir ag ef, sef Llyfr Taliesin? Pam fod cymaint o’r farddoniaeth Gymraeg hon yn broffwydol, a beth yw dehongliad ‘pobl Pen’mynydd’ yn sir Fôn o’r Mab Darogan? *** The Black Book of Carmarthen, the Book of Taliesin, the history of writing Welsh and the nature of manuscripts: This episode begins by considering some of the earliest examples of Welsh writing which have survived, and noting that the language has always been a medium for discussion various kinds of learning, including science. We discuss medieval writing technology and emphasize that manuscripts are rare, fragile and valuable. Then we take some time with the Black Book of Carmarthen, the earliest surviving Welsh manuscript – that is, the earliest surviving manuscript written entirely in the Welsh language. Who was the monk who planned and created this collection of Welsh poetry, much of it connected to the legendary poet Myrddin for whom the place was supposedly named? Is it possible to say that Myrddin competes with that other legendary poet, Taliesin, for supremacy in the literary tradition? And what about that important manuscript connected with the competitor, the Book of Taliesin? Why is so much of this Welsh poetry prophetic in nature, and how do people from Penymynydd in Anglesey interpret the Mab Darogan or prophesied saviour? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: - Ifor Williams, The Beginnings of Welsh Poetry (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980) - A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfryddin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980) - Marged Haycock (gol. a chyf.), Legendary Poems from the Book of Taliesin (Aberystwyth: Cyhoeddiadau CMCS, 2007) - Patrick Sims-Williams, ‘The uses of writing in early medieval Wales’, yn Huw Pryce (gol.), Literacy in Medieval Celtic Societies (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1998) - Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2002) *** Further Reading: - Ifor Williams, The Beginnings of Welsh Poetry (Cardiff: UWP, 1980) - Meirion Pennar, The Black Book of Carmarthen (Llanerch Press,1989) - Marged Haycock (ed. and trans.), Legendary Poems from the Book of Taliesin (Aberystwyth: CMCS Publications, 2007) - Patrick Sims-Williams, ‘The uses of writing in early medieval Wales’, in Huw Pryce (ed.), Literacy in Medieval Celtic Societies (Cambridge: Cambridge Universit y Press, 1998) - Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff: UWP, 2002)

Thu, 16 Mar 2023 09:18:18 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Pennod 1 - Yn y dechreuad yr oedd... Y Gododdin (wel, efallai...)

Yn y bennod gyntaf hon trafodwn y gerdd (neu’r casgliad o gerddi cysylltiedig) a briodolir i’r bardd Aneirin, gan archwilio dadleuon sy’n cefnogi – ac sy’n herio – y gred gyffredin mai’r farddoniaeth hon yw’r testun llenyddol Cymraeg cynharach sydd wedi goroesi. A yw’n bosib bod gwaith llenyddol am frwydr a ymladdwyd tua’r flwyddyn 600 yn yr Hen Ogledd (sef de’r Alban a gogledd Lloegr) wedi’i gadw mewn llawysgrif Gymraeg o’r 13eg ganrif? Beth mae’r Gododdin yn dweud wrthym am y traddodiad barddol Cymraeg yn gyffredinol? A beth yw tarddiad y gair Cymraeg ‘meddwi’ a beth a wnelo hynny â’r Gododdin? Dyma rai o’r cwestiynau sydd dan sylw. In the beginning there was the Gododdin (well, maybe . . .) In this first episode we discuss the poem (or the collection of connected poems) attributed to the bard Aneirin, examining arguments which support – and which challenge – the common belief that this poetry is the oldest surviving Welsh literary text. Is it possible that a literary work about a battle fought around the year 600 in the ‘Old North’ (that is, southern Scotland and northern England) was preserved in a Welsh manuscript from the 13th century? What does the Gododdin tell us about the Welsh bardic tradition? And what is the origin of the Welsh word meddwi, ‘to get drunk’, and what does that have to do with the Gododdin? These are some of the questions considered. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: https://twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: - Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938 [adargraffiad: 1978]) - A. O. H. Jarman (gol. a chyf.), Aneirin: Y Gododdin [:] Britain’s Oldest Heroic Poem (Llandysul: Gwasg Gomer, 1990), - Kenneth H. Jackson, The Gododdin: The Oldest Scottish Poem (Caeredin: Edinburgh University Press, 1969). - John T. Koch, The Gododdin of Aneirin: Text and Context from Dark-Age North Britain (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997). - Patrick Sims-Williams, ‘Dating the Poems of Aneirin and Taliesin, Zeitschrift für Celtische Philologie 63 (2016), 163-234. Further reading: - A. O. H. Jarman (ed. and trans.), Aneirin: Y Gododdin [:] Britain’s Oldest Heroic Poem (Llandysul: Gomer, 1990), - Kenneth H. Jackson, The Gododdin: The Oldest Scottish Poem (Edinburgh: Edinburgh University Press, 1969). - John T. Koch, The Gododdin of Aneirin: Text and Context from Dark-Age North Britain (Cardiff: University of Wales Press, 1997). - Patrick Sims-Williams, ‘Dating the Poems of Aneirin and Taliesin, Zeitschrift für Celtische Philologie 63 (2016), 163-234.

Thu, 09 Mar 2023 09:30:51 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Hen Iaith

Trêlyr Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: https://twitter.com/YrHenIaith Ac hefyd, os dych chi'n joio gwrando ar y pod, gadewch adolygiad neu sgôr yn eich hoff ap podlediadau.

Tue, 28 Feb 2023 04:45:51 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch