Gwasanaeth radio ar-lein yw Radio Yes Cymru. Bu ei darllediadau cyntaf yn ystod Eisteddfod Caerdydd 2018. Sefydlwyd hi gan aelodau mudiad Yes Cymru er mwyn hybu annibynaieth i Gymru a thrafodaeth ar annibyniaeth a chenedlaetholdeb Gymreig.
Darlledir rhaglenni ar-lein ac nid ar donfeddi radio. Nid yw'n radio fasnachol.
Sefydlwyd Radio Yes Cymru gan Siôn Jobbins ac aelodau a chefnogwyr eraill o fudiad Yes Cymru gan gynnwys Hedd Gwynfor, Bethan Williams (cydlynydd) a Siôn Lewis (bu'n gyfrifol am greu jingls i'r rhaglenni) a Lowri 'Fron' Jones (trefnydd technegol) bu hefyd yn un o gefnogwyr a chriw technegol Radio Beca. .
Disgrifiad o Wicipedia