Mae Y Pod yn wasanaeth Podlediadau Cymraeg sydd yn hyrwyddo a chefnogi Podlediadau Cymraeg.
Amcan y wasanaeth yw gwneud hi’n hawdd i ddarganfod Podlediadau Cymraeg.
Ydych chi’n cynhyrchu Podlediad Cymraeg?
Cysylltwch os ydych yn cyhoeddi Podlediad trwy gyfrwng y Gymraeg, hoffwn gydweithio i wneud yn siŵr bod eich Podlediad yn cyrraedd cynulleidfa eang.
Mae cyfrifon Y Pod ar wefannau cymdeithasol yn gallu helpu chi i gyrraedd cynulleidfa newydd. Dilynwch ni ar Facebook, Twitter, Instagram a Linkedin.
Os ydych chi’n cynhyrchu Podlediad trwy gyfrwng y Gymraeg ac nid yw’r podlediad ar ein gwefan, cysylltwch i ni gael ychwanegu’ch Podlediad.
Help a Chymorth
Ewch i’r dudalen Help a Chymorth i wybod mwy am sut i gael eich Podlediad ar wefan Y Pod.
Mae ’na wybodaeth am sut i gynhyrchu a chyhoeddi Podlediad yn ein blog.
Datblygiadau
Y nod yw ehangu’r prosiect i fod yn ganolbwynt Podlediadau Cymraeg.
Yr App
Mae App Y Pod ar y gweill.