Aled Jones - Y Pod

Aled Jones ydw i. Cyfarwyddwr, datblygydd, a sylfaenydd Y Pod. Gallwch ddarllen mwy am fy sgiliau a hanes i drwy fy mhroffil LinkedIn.

Wrth i ddatblygiadau nesaf Y Pod dechrau ymddangos, nes i feddwl byddai’n amser da i edrych yn ôl ar linell amser Y Pod trwy rannu stategau a ffigyrau.

2018

Fersiwn cyntaf Y Pod

Y bwriad oedd creu rhestr o bodlediadau Cymraeg oedd yn bodoli, ac yn gyfredol. Roedd nifer o bodlediadau Cymraeg wedi mynd a dod ers i bodlediadau ymddangos yn 2004. (Mae Haclediad dal i fynd ers 2010 – dyma’r podlediad hynaf Cymraeg)

Doedd hi ddim yn bosib darganfod podlediadau trwy iaith ar unrhyw o’r platfformau ac apiau podlediadau.

Roedd y platfformau podlediadau (Apple Podcasts / Google Podcasts / BBC Sounds) yn ffeindio hi’n anodd delio gyda podlediadau gan ieithoedd nad oedd yn cael ei chefnogi gan eu systemau, ac fel siaradwr Cymraeg oedd eisiau gwrando ar bodlediadau yn fy iaith gyntaf, doedd hynny ddim yn dderbyniol.

Ar ôl chwilio ar draws y we nes i ddarganfod 38 podlediad Cymraeg a mynd ati i feddwl am sut i greu rhywbeth oedd yn gallu cyflwyno podlediadau Cymraeg i gynulleidfa ehangach.

Yr amcanion oedd

+ Podlediadau Cymraeg ar gael mewn un lle.

+ Hawdd darganfod podlediadau Cymraeg.

Roedd datblygu syniad Y Pod wedi dechrau.

2019

Camodd Spotify mewn i’r farchnad podlediadau ar ddechrau 2019, ond doedd dal dim modd i chwilio neu darganfod podlediadau trwy iaith ar unrhyw blatfform neu app podlediadau.

Mai – Cyfrifon Cymdeithasol

Ar ôl datblygu’r gwefan am flwyddyn nes y dechrau trafod y prosiect gyda phobol.

Rhestr o 38 podlediad oedd yn bodoli ac roedd y wefan yn cyfeirio pobol i wrando ar blatfformau arall.

Yn Mai 2019 dechreuais gyfrif Twitter ac Instagram ar gyfer Y Pod (daith y cyfrif Facebook yn Tachwedd) i denu sylw at y brosiect. Nes i ddarganfod yn syth bod pobol yn ymateb i negeseuon ac yn hoffi darganfod podlediadau yn y Gymraeg.

Dyma fersiwn o’r gwefan yn Hydref 2019 ar y Wayback Machine.

Roedd mwy a mwy o bobol yn cysylltu i ychwanegu podlediadau i’r gwefan ac roedd yna dwf yn y nifer oedd yn cynhyrchu podlediadau Cymraeg.

2020

Ionawr  – 72 Podlediad Cymraeg

Yn Ionawr 2020 nes i wneud cyflwyniad ar gyfer PodCon Cymru – cynhadledd Podlediadau cyntaf Cymru a oedd wedi trefnu gan Sali Collins o Jomec.

Wrth baratoi’r cyflwyniad nes i synnu bod niferoedd y podlediadau wedi cynyddu o’r 38 gwreiddiol i 72.

70 o bodlediadau Cymraeg - Ionawr 2020

Roedd yn amlwg bod y sylw oedd Y Pod yn rhoi i’r podlediadau wedi rhoi hyder i gynhyrchwyr fynd ati i greu podlediadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd y niferoedd a oedd yn dod at y wefan wedi tyfu yn sylweddol. Ar y pwynt yma nes i sylweddoli bod Y Pod wedi tyfu i fod yn fwy na gwefan, roedd wedi datblygu a thyfu i fod yn wasanaeth Podlediadau Cymraeg.

Mawrth / Ebrill – Alexa: Enable Welsh Language Podcasts

Roedd mis Mawrth ac Ebrill yn bwysig iawn i’r prosiect.

1.         Nes i adael y BBC ar ôl 23 mlynedd i weithio’n llawrydd a seydlu cwmni fy hun – Y Pod Cyf.

2.         Wnaeth y sefyllfa Cofid newid y dirwedd ar gyfer podlediadau.

3.         Lansiwyd y Sgil Alexa cyntaf yn y Gymraeg.

Ar ôl gweithio gyda S4C a Mobilise Cloud ar y sgil Alexa Cymraeg, lansiwyd y sgil Welsh Language Podcasts. Mae nawr yn bosib gwrando ar bodlediadau trwy ddyfais Alexa – a siarad Cymraeg gyda Alexa. Mwy fan hyn.

Alexa: Enable Welsh Language Podcasts

Mai – 90 Podlediad Cymraeg

Roedd y cyfnod clo wedi gweld twf mawr yn y niferoedd a oedd yn cynhyrchu podlediadau trwy gyfrwng y Gymraeg ac erbyn dechrau Mai roedd yna 90 o bodlediadau Cymraeg.

Yn ystod y cyfnod clo roedd nifer o gynhyrchwyr creadigol Cymru wedi troi at bodlediadau fel ffordd i sianeli creadigrwydd a chysylltu a’r gynulleidfa.

Mehefin – 100 Podlediad Cymraeg

British Podcast Awards 2020 – Categori Cymraeg

Ar ôl cael sgwrs gyda Matt Deegan, sydd yn rhan o’r British Podcast Awards, ar ddechrau’r flwyddyn roedd yna gategori Cymraeg yng ngwobrau 2020.

Ar ol cael nifer o enwebiadau wnaeth y beirniaid – fi, Sali Collins a Sian Eleri (Radio Cymru / Radio One) cytuno ar restr fer:

+ Dwy Iaith, Un Ymennydd

+ Haclediad

+ Siarad Secs

Enillwyd y wobr am y podlediad gorau yn yr iaith Gymraeg gan Dwy Iaith, Un Ymennydd.

Y Podlediadau Gorau Yn Yr Iaith Gymraeg 2020

Medi – Clwstwr

Datgelwyd ar ddechrau mis Medi bod Y Pod am fod yn rhan o Clwstwr am 2020 / 21 wrth i’r brosiect ennill cefnogaeth ar gyfer datblygiad nesaf Y Pod.

“Mae Y Pob yn brosiect newyddiaduraeth sain ac yn bodlediad ieithoedd lleiafrifol sydd am greu gwasanaeth sy’n economaidd-gynaliadwy i ieithoedd nas cefnogir gan y prif ddarparwyr podlediadau.

Gyda thros filiwn o bodlediadau yn Apple Podcasts yn unig, mae dod o hyd i newyddion a newyddiaduraeth sain mewn ieithoedd lleiafrifol mewn gwasanaethau podlediad eisoes yn heriol os nad oes modd hidlo’n ôl iaith.

Gan ddefnyddio’r Gymraeg fel astudiaeth achos nod y prosiect yw ei gwneud yn haws canfod newyddiaduraeth sain a newyddion yn y Gymraeg drwy ystod o atebion a chynhyrchion arloesol.”

Mae Y Pod yn falch i fod yn aelod o garfan Clwstwr ar gyfer 2020/21 ac mae ‘na datblygiadau mawr ar y gweill – byddaf yn amlinellu’r datblygiadau yn y blog nesaf.

Tachwedd – 130 Podlediad Cymraeg

Dros 100 o bodlediadau Cymraeg - Y Pod

Beth nesaf?

Mae wedi bod yn flwyddyn cyffroes ar gyfer podlediadau Cymraeg.

Bellach mae ‘na dros 130 o bodlediadau Cymraeg ac mae’r niferoedd sydd yn gwrando wedi tyfu yn sylweddol.

Mae Anchor FM wedi bod yn help i gynhyrchwyr podlediadau Cymraeg gyda nifer fawr o gynhyrchiadau 2020 yn defnyddio’r platfform.

Stategau

Mae stategau cynulleidfa Y Pod yn diddorol iawn.

Mae’r gynulleidfa yn ifanc iawn gyda 37% o ddefnyddwyr o dan 34 oed. Mae diddordeb mawr podlediadau i ddysgwyr yn cael ei adlewyrchu yn data y gynulleidfa.

Erbyn diwedd 2020 mae’r defnyddwyr yn treulio mwy o amser ar wasanaeth Y Pod ac yn gwrando ar bodlediadau yn hytrach na mynd i blatfformau arall i wrando.

Mae 58% o ddefnyddwyr yn defnyddio ffon symudol i ddarganfod podlediadau ar Y Pod.

Mae’r ffigyrau yn hanfodol ar gyfer datblygu fersiwn nesaf o wasanaeth Y Pod.

Dwi’n edrych ‘mlaen at sgwrsio gyda hysbysebwyr yng Nghymru sydd gyda diddordeb mewn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd sydd ddim yn cael ei chyrraedd gan ddarlledwyr traddodiadol.

Gweithdai Podlediadau

Yr wyf wedi cynnal gweithdai a chyflwyno podlediadau Cymraeg i nifer o fudiadau yn y misoedd diwethaf yn cynnwys Cyngor y Celfyddydau, Jomec Cymraeg, Sir Gar Greadigol a’r Coleg Cymraeg.

Mae nifer o gynhyrchwyr wedi cysylltu i gael sgwrs a chyngor am greu podlediadau ac yr wyf yn edrych ‘mlaen at fwy o drafodaethau a chlywed syniadau creadigol.

Darllenwch ein blog am ba Feicroffon sydd yn addas ar gyfer eich podlediad.

Cysylltwch i gael sgwrs i drafod hysbysebu, syniadau, trefnu dosbarth feistr, neu i gael cyngor am recordio ac offer.

Aled

Linkedin: https://www.linkedin.com/in/aledhjones/

Twitter: @4ledj

Datblygu Gwasanaeth Podlediadau Cymraeg