Yr ydym yn falch i gyhoeddi’r datblygiadau yr ydym wedi bod yn gweithio arno dros y misoedd diwethaf er mwyn i ddefnyddwyr darganfod podlediadau Cymraeg.
Mae’r datblygiadau yn creu profiad gwell ar gyfer defnyddwyr Y Pod er mwyn darganfod podlediadau Cymraeg newydd a chreu rhestr o ffefrynnau.
Mae’r datblygiadau o ganlyniad i stategau gwasanaeth Y Pod, adborth gan ddefnyddwyr a theithiau defnyddwyr wrth ddefnyddio’r gwasanaeth.
Hafan
Mae’r dudalen gartref wedi datblygu wrth feddwl am ddefnyddwyr ar ddyfeisiadau symudol. Mae 60% o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn defnyddio ffôn neu dabled.
Mae’r hafan newydd yn llwytho’n gyflym ac yn perfformio’n well ar ddyfeisiadau symudol.
Mae elfennau o’r hafan wedi’u hawtomeiddio ac yn llwytho’r podlediadau diweddaraf sydd wedi ei chyhoeddi.
Yr ydym yn y broses o greu ap ar gyfer y gwasanaeth.

Chwaraewr Podlediadau
Mae’r gwasanaeth wedi datblygu chwaraewr podlediadau ein hunain.
Credwn fod y chwaraewr yma wedi gwella profiad ein defnyddwyr ac yn gwneud Y Pod fel y lle i wrando ar bodlediadau Cymraeg.

Darganfod
Yr ydym wedi gwneud hi’n haws i ddarganfod podlediadau Cymraeg trwy greu ardal darganfod ar y gwasanaeth.

Categorïau
Mae 6 categori ar gael i ddefnyddwyr darganfod podlediadau. Crëwyd y categorïau yn ystod ein gwaith gyda Mobilise Cloud a S4C yn datblygu’r sgil Alexa Cymraeg ‘Welsh language podcasts’.
Y categorïau yw
2. Chwaraeon
3. Crefydd
5. Plant
Chwilio
Ychwanegwyd modd i chwilio podlediadau i wneud hi’n haws i ddarganfod ipodlediadau. Mae nawr yn bosib chwilio am bodlediad try chwilio am deitl podlediad, pwnc e.e. pêl-droed, a hefyd enw cyflwynydd podlediad.
Podlediadau diweddaraf
Mae rhestr o’r rhifynnau diweddaraf ar gael ar yr hafan ac ar y dudalen ‘podlediadau diweddaraf’.
Mae’r dudalen yn ffordd o weld y podlediadau diweddaraf sydd ar gael yn y Gymraeg.

Podlediadau i Ddysgwyr
Yr ydym yn falch o greu adnoddau ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mae’r rhestr o ganlyniad i’r niferoedd sydd yn chwilio am bodlediadau ar gyfer dysgwyr ac sy’n dod at y gwasanaeth er mwyn darganfod podlediadau dysgu Cymraeg.

Ffefrynnau
Ychwanegwch eich hoff bodlediadau at eich ffefrynnau!
Mae ‘Eich Ffefrynnau’ yn gwneud hi’n bosib creu restr o’ch hoff podlediadau er mwyn dod yn ôl i wrando trwy Y Pod tro ar ôl tro.

Pob Podlediad
Wrth i ni ychwanegu categorïau at y gwasanaeth yr ydym dal i greu ei fod yn bwysig i ddefnyddwyr gweld rhestr o bob podlediad sydd ar gael yn y Gymraeg. Y Pod yw’r unig le i weld rhestr o bob podlediad Cymraeg.

Radio
Yr ydym wedi gwella’r tudalennau radio ac ychwanegu’r chwaraewr Newydd er mwyn i ddefnyddwyr gwrando ar radio byw trwy Y Pod.

Cylchlythyr
Eisiau derbyn y newyddion diweddaraf am bodlediadau Cymraeg yn eich e-bost?
Tanysgrifiwch i gylchlythyr newydd Y Pod.
Hysbysebu
Mae Y Pod yn wasanaeth sydd ar gael am ddim ond mae’n rhaid i ni wneud ein harian rhywsut. Mae ‘na chyfle i hysbysebu gyda Y Pod.
Os ydych am hysbysebu trwy Y Pod, cysylltwch ag y byddwch yn cefnogi gwasanaeth podlediadau Cymraeg.
